Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau statudol

1. Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn yn weithredol ar unwaith ac yn caniatáu i gyfarfodydd ynghylch gwahardd dysgwr o’r ysgol gael eu cynnal wyneb yn wyneb, o bell neu gyfuniad o’r ddau lle bodlonir amodau penodol. 

Mae’r canllawiau hyn yn ategu canllawiau Llywodraeth Cymru gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, a gyhoeddwyd yn 2019.

Mae’r canllawiau yn berthnasol i bob ysgol a gynhelir, gan gynnwys ysgolion meithrin ac unedau cyfeirio disgyblion, ac i bob dysgwr o’u mewn, gan gynnwys unrhyw ddysgwyr sy’n iau neu’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol. Nid ydynt yn berthnasol i ysgolion annibynnol na cholegau dosbarth chwech gan eu bod nhw yn pennu eu gweithdrefnau gwahardd eu hunain.

Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol (ar gyfer ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion) yn cyfeirio at ‘bresenoldeb’, ‘cyfarfod’ ac ‘ymddangos’ mewn perthynas â chyfarfodydd cyrff llywodraethu gofynnol a gwrandawiadau paneli apelio annibynnol; fodd bynnag, ni chyfeirir at y gofyniad i fod yno ‘yn gorfforol’.

Bydd y dehongliad hwn o’r rheoliadau cyfredol yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac eglurder i ysgolion, rhieni/gofalwyr ac awdurdodau lleol mewn perthynas â gwahardd dysgwr o’r ysgol.  

Mae’r trefniadau a’r gweithdrefnau sy’n gorfod cael eu rhoi ar waith yn dilyn penderfyniad i wahardd dysgwr ar sail disgyblaeth wedi’u disgrifio yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Nid yw’r canllawiau hyn wedi newid.

Daw’r trefniadau i rym ar unwaith a byddant yn berthnasol i bob achos o wahardd o 16 Medi 2020. Mae’r canllawiau yn berthnasol hefyd i:

  • achosion o wahardd dysgwr yn barhaol ac am gyfnod penodol cyn 16 Medi 2020 nad ydynt eto wedi’u hystyried gan bwyllgor disgyblu’r ysgol neu’r awdurdod lleol mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion
  • achosion o wahardd dysgwr yn barhaol cyn 16 Medi 2020 lle mae person perthnasol wedi gwneud cais am adolygiad o benderfyniad pwyllgor disgyblu i beidio â derbyn y dysgwr yn ôl, ond lle nad yw hyn wedi digwydd eto.

2. Cyfarfodydd mynediad o bell

Lle bydd yn ofynnol i bwyllgorau disgyblu, awdurdodau lleol mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion neu baneli apelio annibynnol gyfarfod er mwyn ystyried achos o wahardd, gallant wneud hynny drwy feddalwedd ffôn neu fideogynadledda (‘mynediad o bell’) ond dylent sicrhau bod rhai amodau yn cael eu bodloni.

Dyma’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni:

  • Nid yw’n rhesymol ymarferol cynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb. 
  • Mae’r pwyllgor disgyblu, yr awdurdod lleol yn achos unedau cyfeirio disgyblion neu’r awdurdod perthnasol yn achos panel apelio annibynnol yn fodlon:
    • bod pawb yn cytuno i ddefnyddio cyfleuster mynediad o bell
    • bod gan bawb fynediad at y dechnoleg a fydd yn caniatáu iddynt glywed a siarad drwy gydol y cyfarfod, a gweld a chael eu gweld os defnyddir dolen fideo fyw
    • y bydd pawb yn gallu rhoi eu safbwynt neu gyflawni eu swyddogaeth
    • bod modd cynnal y cyfarfod mewn ffordd deg a thryloyw drwy fynediad o bell.

Cyfrifoldeb y pwyllgor disgyblu (neu’r awdurdod perthnasol yn achos cyfarfod panel apelio annibynnol) yw gofalu bod yr amodau hyn wedi’u bodloni cyn cynnal cyfarfod.

Dylid ystyried diogelwch y platfformau TG sydd i’w defnyddio ar gyfer cyfarfodydd o bell. Dylid darllen telerau ac amodau preifatrwydd y rhain a, lle bo’n bosibl, dylid galluogi unrhyw opsiynau diogelwch. Dylid cyfeirio unrhyw bryderon at y darparydd TG neu ei staff i gael cymorth a chyngor.

Wrth benderfynu a yw’n rhesymol ymarferol cyfarfod wyneb yn wyneb, dylai’r pwyllgor disgyblu neu’r awdurdod perthnasol asesu ffeithiau’r achos, yr amgylchiadau lle gellid disgwyl cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb, anghenion yr unigolion sy’n bwriadu cymryd rhan (i’r graddau posibl), a’r canllawiau diweddaraf o ran iechyd cyhoeddus.

Bydd clercod y pwyllgor disgyblu, yr awdurdod lleol yn achos unedau cyfeirio disgyblion a/neu’r awdurdod perthnasol os yw’r cyfarfod yn banel apelio annibynnol am gadw cofnod archwilio clir, ac felly dylent gynnwys yn y cofnodion y rheswm(rhesymau) pam y penderfynwyd cyfarfod o bell yn hytrach na wyneb yn wyneb.

3. Trefnu cyfarfod mynediad o bell

Dylai’r pwyllgor disgyblu neu’r awdurdod perthnasol esbonio’r dechnoleg y mae’n bwriadu ei defnyddio i bawb a fydd yn cymryd rhan, a dylid sicrhau bod pawb (yn enwedig dysgwyr a’u teuluoedd) yn gwybod nad oes rhaid iddynt gytuno i gyfarfod mynediad o bell os nad ydynt yn hapus â hynny. Er bod yn rhaid i bawb fod wedi cytuno i ddefnyddio cyfleuster mynediad o bell, lle bydd rhiant/gofalwr neu ddysgwr wedi cytuno i gyfarfod gael ei gynnal drwy fynediad o bell, dylai’r cyfranwyr eraill wneud ymdrech resymol i ganiatáu’r dewis hwnnw oni bai bod rheswm clir dros beidio.

Yr un yw’r gofynion o ran pwy y mae’n rhaid ei wahodd i bwyllgor disgyblu neu gyfarfod panel apelio annibynnol. 

Rhaid i bwyllgorau disgyblu, awdurdodau perthnasol ac aelodau paneli gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol ar gydraddoldeb, gan gydnabod y gallai rhai ei chael yn anodd cymryd rhan mewn cyfarfod mynediad o bell (e.e. os oes gan rywun anabledd neu os nad Cymraeg/Saesneg yw ei iaith gyntaf).

Os cynhelir cyfarfod drwy fynediad o bell, dylai’r cadeirydd wneud pob ymdrech i sicrhau bod pawb yn deall y broses ac yn gallu bod yn rhan ohoni, ac i sicrhau bod y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn ffordd deg. Os, unwaith bydd y cyfarfod yn dechrau, nad oes modd parhau mewn ffordd deg (e.e. am nad oes gan unigolyn fynediad i’r cyfarfod), dylai’r pwyllgor disgyblu neu’r panel apelio annibynnol ddod â’r cyfarfod i ben am y tro.

Nid yw defnyddio cyfleuster mynediad o bell yn newid y gofynion gweithdrefnol eraill sy’n berthnasol i bwyllgorau disgyblu neu baneli apelio annibynnol. Caiff rhieni/gofalwyr ddod â ffrind neu gynrychiolydd gyda nhw fel arfer.

Er bod yn rhaid i bwyllgorau disgyblu a phaneli apelio annibynnol ystyried sylwadau ysgrifenedig os oes yna rai, nid yw’r gyfraith yn caniatáu cynnal ‘cyfarfodydd’ papur ysgrifenedig yn unig.

Efallai y bydd yn bosibl i rai unigolion gyfarfod wyneb yn wyneb ac i eraill ymuno â’r cyfarfod drwy fynediad o bell ond, cyn cynnal cyfarfod o’r fath, dylai pwyllgorau disgyblu ac awdurdodau perthnasol sicrhau bod modd bodloni amodau paragraff 2.2. Rhaid i bawb fod â mynediad at dechnoleg a fydd yn caniatáu iddynt glywed eraill a chael eu clywed gan eraill drwy gydol y cyfarfod (a gweld a chael eu gweld drwy gydol y cyfarfod os defnyddir dolen fideo fyw).

4. Amserlenni cyfarfodydd pwyllgorau disgyblu

Yr un yw’r amserlenni ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau disgyblu a phaneli apelio annibynnol ag a amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad oedd efallai yn bosibl cadw at y cyfyngiadau amser arferol dros y misoedd diwethaf yn sgil y tarfu oherwydd COVID-19 a risgiau cynnal cyfarfodydd o ran iechyd. Nid yw’r ffaith na chymerwyd y camau angenrheidiol o fewn y cyfnodau penodedig yn rhyddhau pwyllgorau disgyblu, awdurdodau lleol yn achos unedau cyfeirio disgyblion neu awdurdod perthnasol yn achos panel apelio annibynnol o’u dyletswydd i ystyried achosion o wahardd dysgwyr, ac i drefnu a mynd i’r cyfarfodydd mewn perthynas â nhw.  

Dylai pwyllgorau disgyblu, awdurdodau lleol yn achos unedau cyfeirio disgyblion neu’r awdurdod perthnasol os yw’r cyfarfod yn banel apelio annibynnol drefnu i gyfarfodydd na chynhaliwyd gael eu cynnal drwy fynediad o bell os bodlonir yr amodau ar gyfer cyfarfod o’r fath, neu wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ac yn ymarferol gwneud hynny.

5. Cyfarfodydd i ystyried gwahardd yn barhaol a gwahardd am gyfnod penodol lle bydd y dysgwr yn colli mwy na 15 diwrnod ysgol mewn tymor

Os caiff dysgwr ei wahardd yn barhaol neu os caiff ei wahardd am gyfnod penodol sy’n golygu y bydd yn colli mwy na 15 diwrnod ysgol mewn tymor, yna dylai’r pwyllgor disgyblu, neu’r awdurdod lleol yn achos uned cyfeirio disgyblion, geisio cyfarfod naill ai wyneb yn wyneb, neu o bell os bodlonir yr amodau ym mharagraff 2.2, er mwyn trafod derbyn y dysgwr yn ôl i’r ysgol o fewn 15 diwrnod ysgol.

6. Cyfarfodydd i ystyried gwahardd am gyfnod penodol lle bydd y dysgwr yn colli rhwng 6 a 15 diwrnod ysgol mewn tymor

Os caiff dysgwr ei wahardd am gyfnod penodol sy’n golygu y bydd yn colli o leiaf 6 diwrnod ysgol mewn tymor, ond dim mwy na 15 diwrnod ysgol y tymor hwnnw, a bod y rhiant/gofalwr (neu’r dysgwr os yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) yn dewis cyflwyno sylwadau am y gwaharddiad, yna dylai’r pwyllgor disgyblu, neu’r awdurdod lleol yn achos uned cyfeirio disgyblion, gyfarfod wyneb yn wyneb neu o bell os bodlonir yr amodau ym mharagraff 2.2, er mwyn trafod derbyn y dysgwr yn ôl i’r ysgol o fewn 50 diwrnod ysgol.

7. Cyfarfodydd paneli apelio annibynnol i ystyried gwahardd yn barhaol

Rhaid i baneli apelio annibynnol gyfarfod naill ai wyneb yn wyneb, neu o bell os bodlonir yr amodau ym mharagraff 2.2, o fewn 15 diwrnod ysgol i ddyddiad cyflwyno apêl. 

Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad oedd efallai yn bosibl cadw at y cyfyngiadau amser arferol dros y misoedd diwethaf yn sgil y tarfu oherwydd COVID-19 a risgiau cynnal cyfarfodydd o ran iechyd. Dylai’r awdurdodau perthnasol drefnu i gyfarfodydd na chynhaliwyd gael eu cynnal drwy fynediad o bell, os bodlonir yr amodau ar gyfer cyfarfod o’r fath, neu wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ac yn ymarferol gwneud hynny.