Mae'r gwaharddiad ar fêps untro yn atal pobl rhag cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, cynhyrchion fepio untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen.
Cynnwys
Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy gynhyrchu a gwaredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir.
Trosolwg
O dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”), mae'n drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) gynhyrchion fepio untro i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Dechreuodd y gwaharddiad ar 1 Mehefin 2025. Nid yw busnesau yn cael cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, cynhyrchion fepio untro mwyach. Mae hyn yn cynnwys fêps untro sy'n cynnwys nicotin neu nad ydynt yn cynnwys nicotin.
Bydd gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio yn parhau'n gyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau a'r dogfennau a baratowyd wrth fynd ati i'w datblygu, gweler:
Ar bwy y bydd hyn yn effeithio?
Mae person yn cyflawni'r drosedd o gyflenwi cynnyrch fêpio untro gwaharddedig:
- os yw'n cyflenwi fêp untro;
- os yw’n cynnig cyflenwi fêp untro, neu
- os oes ganddo fêp untro yn ei feddiant er mwyn ei gyflenwi.
Beth ddylai busnesau ei wneud?
Rhaid i fusnesau:
- roi'r gorau i werthu cynhyrchion fepio untro i gwsmeriaid neu fusnesau eraill.
- rhoi'r gorau i brynu cynhyrchion fepio untro oddi wrth gyfanwerthwyr.
Dylai busnesau y bydd dal ganddynt gynhyrchion gwaharddedig siarad â chyflenwyr neu gwmnïau gwaredu ynghylch sut i'w hailgylchu'n ddiogel ac yn gyfreithlon.
Bydd methu ag ailgylchu stociau fêps untro erbyn 1 Mehefin 2025 yn rhoi eich busnes mewn perygl o golledion masnachol a chamau gorfodi cyfreithiol.
Sut i ailgylchu fêps yn ddiogel
Ni cheir rhoi fêps untro yng ngwastraff y cartref a rhaid eu gwaredu'n ddiogel mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Y rheswm dros hynny yw bod risg iddyn nhw, a deunyddiau cymysg, gan gynnwys batris, metel a phlastig, fynd ar dân.
Os ydych yn fanwerthwr, gallwch ddod o hyd i ailgylchwr yma: Cofrestrau cyhoeddus gwastraff trydanol ac electronig (WEEE) [GOV.UK]
Os ydych chi'n defnyddio fêps, gallwch ddod o hyd i'ch man ailgylchu agosaf ar gwefan Recycle Your Electricals (dolen Saesneg yn unig).
Pam wnaethon ni gyflwyno'r gyfraith newydd hon?
Nod y Rheoliadau hyn yw lleihau'r niwed a achosir i'r amgylchedd drwy gynhyrchu a gwaredu fêps untro yn y ffordd anghywir.
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad ehangach i:
- hyrwyddo newid ehangach a mwy cynaliadwy mewn ymddygiad yng nghyswllt defnyddio cynhyrchion untro
- mynd i'r afael â'r diwylliant taflu i ffwrdd
- annog pobl i newid i ddewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio.
Help i fusnesau
Mae Canllawiau Llywodraeth y DU i fusnesau [GOV.UK] ar gael. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cymorth a chyngor
Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch am y gwaharddiad, mae croeso ichi gysylltu â ni:
E-bost: leq@llyw.cymru
Drwy’r post:
Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd Lleol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Adnoddau
Mae gwybodaeth am y gwaharddiad ar gael mewn ieithoedd gwahanol ar ein tudalen Pecyn Cymorth y Cyfryngau.