Canllaw ar y gyfraith o 18 Rhagfyr 2026 sy'n gwahardd weips gwlyb sy'n cynnwys plastig gan gynnwys eithriadau a gorfodaeth.
Cynnwys
Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy waredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir.
Trosolwg
O 18 Rhagfyr 2026 ymlaen bydd Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 (ar legislation.gov.uk) yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) weips gwlyb sy'n cynnwys plastig i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys:
- weips babanod
- weips wyneb a thynnu colur
- masgiau wyneb cosmetig
- papur toiled llaith
- weips diheintio dwylo
- weips hylendid personol a diarogli
- weips glanhau cartref, gan gynnwys weips neu badiau mop gwlyb
Mae'r gwaharddiad yn berthnasol i werthiannau ar-lein a wyneb yn wyneb.
Cynhyrchion heb eu cynnwys yn y gwaharddiad
Nid yw'r cynhyrchion hyn yn cael eu gwahardd:
- Weips gwlyb y gellir eu hailddefnyddio – mae'r rhain wedi'u cynllunio i'w defnyddio'n ddiogel sawl gwaith.
- Weips gwlyb di-blastig – bydd gan rai cynhyrchion eiriad fel "di-blastig".
Bydd angen i fusnesau wirio gwybodaeth am gynhyrchion.
Esemptiadau o'r gwaharddiad
Gall pobl ag anghenion iechyd penodol ddibynnu ar weips gwlyb o safon feddygol sy'n cynnwys plastig. Nid yw weips gwlyb sydd wedi'u cynllunio neu eu cynhyrchu i'w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol wedi'u cynnwys yn y gwaharddiadau.
Cyflenwi busnes-i-fusnes
Mae'r gwaharddiad yn berthnasol i gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig i ddefnyddwyr. Nid yw'n effeithio ar fasnach busnes-i-fusnes
Mae hyn yn golygu y gall sefydliadau fel cartrefi gofal a chartrefi nyrsio barhau i gael weips gwlyb sy'n cynnwys plastig gan eu cyfanwerthwyr neu gyflenwyr.
Beth ddylai busnesau ei wneud cyn 18 Rhagfyr 2026
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn y DU eisoes wedi dechrau symud i weips gwlyb di-blastig.
I'r rhai nad ydyn nhw, bydd angen iddyn nhw wirio a yw unrhyw gynhyrchion weips gwlyb maen nhw'n eu gwerthu'n cynnwys plastig a newid naill ai i gynhyrchion eraill y gellir eu hailddefnyddio neu gynhyrchion di-blastig.
Bydd angen i fusnesau hefyd wneud yn siŵr bod eu staff yn deall y newidiadau a'r esemptiadau ar gyfer weips meddygol. Bydd gweithredu'n gynnar yn helpu i osgoi dryswch a'r risg o dorri'r gyfraith.
Stoc dros ben
Dylai busnesau sydd â stoc weips gwlyb sy'n cynnwys plastig dros ben siarad â'u cyflenwr, eu awdurdod lleol neu gymdeithas fasnach am sut i waredu arnyn nhw'n briodol.
Os na ellir cyflenwi weips gwlyb yn ôl y gyfraith ac mae angen eu gwaredu, busnesau sy'n gyfrifol am y costau gwaredu. Ni ddylid rhoi weips gwlyb mewn biniau ailgylchu.
Gwaharddiadau yn rhannau eraill y DU
Mae gwledydd eraill y DU yn cyflwyno gwaharddiadau tebyg ar wahanol ddyddiadau. Sef:
- Gogledd Iwerddon – 18 Mai 2027
- Lloegr – 19 Mai 2027
- Yr Alban – 11 Awst 2027
Cymorth i fusnesau
Am ragor o gymorth neu gyngor busnes, cysylltwch â:
Ffôn: 03000 603 000
E-bost: cymorthbusnes@llyw.cymru
Neu ewch i wefan Busnes Cymru
Oriau agor Llinell Gymorth Busnes Cymru ar gyfer galwadau yw 10am – 4pm, ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Cysylltu â ni
Cymorth a Chyngor
Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni yn:
