Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud bod gwaharddiad llwyr Cymru ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud yn dod i rym o heddiw ymlaen (17 Hydref), gan greu hanes, a helpu i roi diwedd ar sefyllfa lle mae dioddefaint yn cael ei achosi i bob math o anifeiliaid yn ddiwahân.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

O heddiw ymlaen, bydd defnyddio maglau a thrapiau glud yn anghyfreithlon yng Nghymru. Dyma'r gwaharddiad cyntaf o'i fath yn y DU. Cafodd y mesur hwn ei gynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth gyntaf Cymru ac mae'r gwaharddiad ar faglau yn un o'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Mae maglau, neu atalyddion cebl fel y'u gelwir weithiau, yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i anifeiliaid. Nid ydynt yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, ac maen nhw'n gallu niweidio rhywogaethau na'u bwriedir ar eu cyfer, megis dyfrgwn, cŵn a chathod. Gall anifail sy'n cael ei ddal mewn magl wynebu poen difrifol a dioddefaint ofnadwy. 

Yn yr un modd, mae trapiau glud hefyd yn achosi dioddefaint i'r anifail sydd wedi'i ddal, gan gynnwys y cnofilod y'u bwriadwyd ar eu cyfer ac anifeiliaid eraill fel cathod. Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae'n rhaid difa'r anifail oherwydd ei anafiadau.

Mae digon o ffyrdd eraill ar gael i reoli anifeiliaid ysgylyfaethus, ac er bod yn rhaid rheoli cnofilod pan fo dulliau i'w hatal wedi methu, mae yna ffyrdd llai creulon, wedi'u targedu o wneud hynny.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i les anifeiliaid. Rydyn ni am gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae defnyddio maglau a thrapiau glud yn gwbl anghydnaws â'r hyn rydyn ni am ei gyflawni.

Bydd llawer o anifeiliaid yn cael eu harbed rhag y dioddefaint mwyaf ofnadwy o ganlyniad i'r gwaharddiad hwn. Dw i'n falch mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn  y DU i gyflwyno cam o'r fath.

Nid atal pobl rhag rheoli anifeiliaid ysglyfaethus neu gnofilod yw'r nod wrth wahardd maglau a thrapiau glud. Mae ffyrdd eraill llai creulon o wneud hynny. 

Hoffwn i ddiolch i'n holl bartneriaid sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau'r gwaharddiad hwn, a dw i'n edrych 'mlaen at barhau i sicrhau bod gennym y safonau uchaf un o ran lles anifeiliaid yng Nghymru.

Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru:

Dw i'n croesawu'r ffaith bod y gwaharddiad yma wedi'i gyflwyno yng Nghymru heddiw. Mae'r trapiau hyn yn lladd pob math o anifeiliaid yn ddiwahân,  a thros y blynyddoedd, dw i wedi gweld drosof fy hun fod gwahanol rywogaethau sy' ddim yn cael eu targedu, fel moch daear a chathod, yn cael eu dal mewn maglau ac yn dioddef anafiadau ofnadwy. Ar ôl heddiw, gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn defnyddio magl neu drap glud yng Nghymru wynebu dirwy neu garchar, felly rydyn ni'n cynghori pobl i fod yn ymwybodol o'r gyfraith newydd hon ac i weithredu yn unol â hynny.

Dywedodd Billie-Jade Thomas, uwch-reolwr materion cyhoeddus gyda RSPCA Cymru:

Rydyn ni wir yn croesawu'r gwaharddiad ar faglau a thrapiau glud sy'n dod i rym heddiw.  

Mae gan y ddau y potensial i achosi dioddefaint anfesuradwy i anifeiliaid. Yn rhy aml, mae'n swyddogion wedi delio ag anifeiliaid sydd mewn poen difrifol ac yn dioddef yn ofnadwy oherwydd y dyfeisiau hyn; sy'n greulon, yn anafu popeth yn ddiwahân ac yn gwbl ddiangen.

Bydd bywydau llawer o anifeiliaid yn cael eu hachub, gan gynnwys bywyd gwyllt, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm fel defaid ac ŵyn.