Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a trosolwg

Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu'r holl waharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru rhwng Medi 2019 ac Awst 2020.

Mae'r cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn yn cynnwys camau cynnar y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data a gasglwyd yng Ngwanwyn 2022 yn cynnwys gwaharddiadau yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19 bu ysgolion ar gau am gyfnodau penodol rhwng Medi 2020 a Rhagfyr 2020, caewyd pob ysgol rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2021 gyda dychweliad graddol wedi’i gwblhau erbyn Ebrill 2021. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ynghylch pryd y caewyd ysgolion yn y amserlen cau ysgolion.

Mae'r cau ysgolion wedi golygu bod llai o waharddiadau rhwng Medi 2020 ac Ebrill 2021. Ceir rhagor o wybodaeth yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Rhennir gwaharddiadau yn ôl hyd / math y gwaharddiad, yn 3 chategori (gellir gweld mwy o fanylion yn y Diffiniadau).

  • gwaharddiadau tymor penodol: 5 diwrnod neu lai
  • gwaharddiadau tymor penodol: dros 5 diwrnod
  • gwaharddiadau parhaol

Cofnodir gwaharddiadau fel rhan o'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC) ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol. Felly, eleni, pan gasglwyd y PLASC ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, mae'r data gwaharddiadau yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2019/20.

Mae’r siartiau isod yn dangos cyfradd y gwaharddiadau dros amser, mae’r ardaloedd sydd wedi’u tywyllu yn dangos y blynyddoedd y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnynt.

Image
Cynyddodd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol am 5 diwrnod neu lai o flwyddyn academaidd 2012/13 i’w gwerth uchaf yn 2018/19. Rhwng 2018/19 a 2020/21 mae’r gyfradd wedi gostwng, mae hyn o bosib oherwydd cau ysgolion am rannau o’r blynyddoedd.

Cyfradd gwaharddiadau cyfnod penodol 5 diwrnod neu lai (MS Excel)

Image
Cynyddodd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol am fwy no 5 diwrnod o flwyddyn academaidd 2012/13 i’w gwerth uchaf yn 2018/19. Rhwng 2018/19 a 2020/21 mae’r gyfradd wedi gostwng, mae hyn o bosib oherwydd cau ysgolion am rannau o’r blynyddoedd.

Cyfradd gwaharddiadau cyfnod penodol dros 5 diwrnod (MS Excel)

Image
Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu'n fras o flwyddyn academaidd 2012/13 i’w gwerth uchaf yn 2018/19. Rhwng 2018/19 a 2020/21 mae’r gyfradd wedi gostwng, mae hyn o bosib oherwydd cau ysgolion am rannau o’r blynyddoedd.

Cyfradd gwaharddiadau parhaol (MS Excel)

Pwyntiau allweddol: ysgolion a gynhelir

Mae’n bosibl bod rhywfaint o’r gostyngiad mewn gwaharddiadau yn y categorïau canlynol o ganlyniad i’r nifer sylweddol o ysgolion wedi cau yn ystod blwyddyn ysgol 2020/21.

  • Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi gostwng yn 2020/21 i 0.3 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 0.5 fesul 1000 o ddisgyblion yn 2019/20.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) wedi gostywng yn 2020/21 i 1.1 fesul 1,000 o ddisgyblion.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) wedi gostwng yn 2020/21 i 26.4 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Math o ysgol, 2020/21

Ysgolion arbennig oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau cyfnod penodol o 5 diwrnod neu lai a’r gyfradd uchaf o waharddiadau cyfnod penodol mwy na 5 diwrnod, tra roedd yn isaf yn ysgolion cynradd. Mae hyn yr un peth ag mewn blynyddoedd blaenorol.

Ysgolion uwchradd oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau parhaol.

Hawl i brydau ysgol am ddim (PYD)

Mae’r gyfradd o waharddiadau yn gyson o leiaf 3 gwaith yn uwch ar gyfer y rhai sy’n gymwys am PYD na’r rhai sydd ddim yn gymwys ar gyfer gwaharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai, gwaharddiadau tymor penodol dros 5 diwrnod a gwaharddiadau parhaol dros y cyfnod 2012/13 i 2020/21.

Anghenion addysgol arbennig (AAA)

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy oedd a’r gyfradd uchaf o waharddiadau allan o ddisgyblion gydag AAA ym mhob blwyddyn a phob math o waharddiad.

Cefndir ethnig

Nid oes gennym ddata ar gyfer cefndir ethnig yr holl ddisgyblion. Mae'n well gan rai disgyblion beidio â darparu'r wybodaeth, ac i rai ni chafwyd y wybodaeth. Ar gyfer disgyblion mae gennym wybodaeth ar gyfer:

  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Du Caribïaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Indiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig “Gwyn” sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) isaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Asiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol uchaf
  • disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol isaf
Image
Dros yr holl waharddiadau, Disgyblion â Datganiadau AAA neu Ddarpariaeth AAA oedd â'r gyfradd uchaf o waharddiadau, ac yna Disgyblion sy'n Gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim. Roedd gan y ddau grŵp gyfradd uwch o waharddiadau na’r gyfradd ar gyfer pob disgybl.

Cyfradd yr holl waharddiadau fesul nodweddion disgybl (MS Excel)

Rhesymau ar gyfer gwaharddiadau

Image
Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros bob gwaharddiad yn 2020/21 oedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’ gydag 22.4% o'r holl waharddiadau. Y rheswm mwyaf cyffredin nesaf yw ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl gydag 20.0% o'r holl waharddiadau.

Canran yr holl hydoedd gwahardd yn ôl rheswm gwahardd (MS Excel)

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros bob gwaharddiad yn 2020/21 oedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’ gydag ychydig dan chwarter yr holl waharddiadau.

Gan edrych ar hyd gwaharddiadau:

  • 'ymddygiad aflonyddgar parhaus’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai gyda 22.9% o’r holl waharddiadau o’r un fath
  • ‘ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol dros 5 diwrnod gyda 25.4% o’r holl waharddiadau o’r un fath
  • ‘ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau parhaol gyda 34.4% o’r holl waharddiadau o’r un fath

Diffiniadau

Mathau o waharddiadau a diffiniadau eraill

Gwaharddiad parhaol

Yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd ac mae ei enw’n cael ei ddileu o gofrestr yr ysgol. Byddai disgybl o’r fath wedyn yn cael ei addysgu mewn ysgol arall neu drwy ddarpariaeth o ryw fath arall.

Gwaharddiad cyfnod

Penodol yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd o ysgol ond sy’n aros ar gofrestr yr ysgol honno oherwydd y disgwylir iddo ddychwelyd ar ôl i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.

Symudiad wedi’i reoli

Trefniant lle mae rhieni disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn cytuno ag ysgolion ac awdurdodau lleol ei bod er budd pennaf eu plentyn gael ei dynnu o gofrestr yr ysgol bresennol a’i symud i sefydliad addysgol arall.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gellir gweld rhagor o fnaylion yn yr adroddiad ansawdd ar gyfer y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn Gorffennaf 2010 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • ychwanegu at, a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi
  • cynhyrchwyd y datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol
  • darparu mwy o ddata ar StatsCymru
  • wedi ychwanegu dadansoddiad manylach o gefndir ethnig

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Prydlondeb a Prydlondeb, Hygyrchedd a Eglurder, a Chymhariaeth. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy'n ymwneud ag ansawdd data 2021, ac yn disgrifio'r offeryn rheoli ansawdd a gymhwysir i'r maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • yr Adran Polisi Addysg yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau arall yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau llywodraethol eraill
  • Estyn
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • dyraniad adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a'r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi addysg yng Nghymru gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • Estyn yn ystod arolygiadau ysgol
  • parth addysg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • cynorthwyo gydag ymchwil i mewn i gyrhaeddiad addysgol

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Ynghyd â’r datganiad mae Thaenlen Dogfen Agored a thablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cymaroldeb

Lloegr: School attendance and Absence (GOV.UK)

Yr Alban: School exclusion statistics (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon: Pupil suspensions and expulsions (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 213/2022