Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2024 i Awst 2025
Data ar bob disgybl mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ar gyfer Medi 2024 i Awst 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gellir rhannu gwaharddiadau yn ôl hyd a math y gwaharddiad. Y 3 categori a ddefnyddir yn ein data yw:
- gwaharddiadau cyfnod penodol (5 diwrnod neu lai)
- gwaharddiadau cyfnod penodol (dros 5 diwrnod)
- gwaharddiadau parhaol
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd atodedig.
Casglwyd y data diweddaraf yng Ngwanwyn 2026 ac mae'n cynnwys gwaharddiadau yn ystod y flwyddyn academaidd 2024 i 2025.
Prif bwyntiau
Yn 2024 i 2025, mae gwaharddiadau cyfnod penodol (5 diwrnod neu lai) wedi cynyddu ers 2023 i 2024 ac wedi cyrraedd y gyfradd uchaf ers 2011 i 2012. Fodd bynnag, mae gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol (dros 5 diwrnod) wedi gostwng dros yr un cyfnod.
- Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi gostwng i 0.8 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 1.0 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2023 i 2024
- Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol o dros 5 diwrnod wedi gostwng i 2.4 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2023 i 2024.
- Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai wedi cynyddu i 75.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 73.2 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2023 i 2024.
- Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol bron 3.9 gwaith yn uwch i'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYD) na'r rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD yn 2024 i 2025. Ar gyfer gwaharddiadau parhaol, mae'r gwerth 5.2 gwaith yn uwch. Mae hyn yn gynnydd rhwng 2023 a 2024 yn y ddau achos.
- Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol bron 4.8 gwaith yn uwch i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) na'r rhai heb ADY yn 2024 i 2025. Ar gyfer gwaharddiadau parhaol, mae'r gwerth 5.3 gwaith yn uwch. Mae hyn yn gynnydd rhwng 2023 a 2024 yn y ddau achos.
Ffigur 1: cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol (5 diwrnod neu lai), 2011 i 2012 ymlaen
Disgrifiad o Ffigur 1: graff llinell sy'n dangos cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol o hyd at 5 diwrnod fesul 1,000 o ddisgyblion. Cynyddodd y gyfradd yn araf o 26.7 gwaharddiad fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2013 i 2014 i 41.0 gwaharddiad fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018 i 2019. Yn ystod pandemig COVID-19 gostyngodd y gyfradd yn bennaf oherwydd bod ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddisgyblion am gyfnodau hir. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar ei chyfer, 2024 i 2025, mae'r gyfradd wedi cynyddu i 75.7 fesul 1,000 o ddisgyblion, y gwerth uchaf a gofnodwyd.
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD).
Ffigur 2: cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol (dros 5 diwrnod), rhwng 2011 a 2012 ymlaen
Disgrifiad o ffigur 2: graff llinell sy'n dangos cyfradd y gwaharddiadau Cyfnod penodol dros 5 diwrnod fesul 1,000 o ddisgyblion. Roedd y gyfradd wedi gostwng o 2.3 gwaharddiad fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011 i 2012 i 1.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018 i 2019, gan ostwng eto yn ystod COVID-19. Yn ystod pandemig COVID-19 gostyngodd y gyfradd yn bennaf oherwydd bod ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddisgyblion am gyfnodau hir. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar ei chyfer, 2024 i 2025, mae'r gyfradd wedi gostwng i 2.4 gwaharddiad fesul 1,000 o ddisgyblion, o'i gymharu â 2.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2023 i 2024.
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD)
Ffigur 3: cyfradd y gwaharddiadau parhaol, 2011 i 2012 ymlaen
Disgrifiad o ffigur 3: graff llinell sy'n dangos cyfradd y gwaharddiadau parhaol fesul 1,000 o ddisgyblion. Cynyddodd y gyfradd yn raddol o 0.2 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011 i 2012 i 0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018 i 2019. Yn ystod pandemig COVID-19 gostyngodd y gyfradd yn bennaf oherwydd bod ysgolion ar gau i'r mwyafrif o ddisgyblion am gyfnodau hir. Yn 2024 i 2025 gostyngodd i 0.8 fesul 1,000 o ddisgyblion.
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD)
