Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn falch o wahodd grwpiau cymunedol a sefydliadau i anfon ceisiadau fel rhan o gylch cyntaf grantiau Cymru o Blaid Affrica yn 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae oddeutu £150,000 ar gael yn y cylch hwn. Rydym yn chwilio am geisiadau sydd â’r nod o gynnal prosiectau rhwng Affrica a Chymru sydd o fudd i’r ddwy ochr. Y themâu fydd Iechyd, Addysg Gydol Oes, Bywoliaeth Gynaliadwy, a’r Amgylchedd a’r Newid yn yr Hinsawdd.

Yn dilyn llwyddiant rownd 2018/2019, pan ariannwyd 29 o brosiectau, mae Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau ar gyfer cylch 2019/20. Y prif grantiau rhwng £5000 a £15,000 sydd dan sylw yn y cylch hwn, a fydd yn cael ei lansio ar 4 Mawrth. Y dyddiad cau yw 28 Ebrill.

Bydd cyfle hefyd i wneud cais am grantiau bach o £500 i £5,000 yn ystod yr hydref.

Wrth gyhoeddi’r cyllid ar gyfer eleni, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

“Mae ein rhaglen grantiau Cymru o Blaid Affrica yn trawsnewid bywydau degau o filoedd o bobl ar y cyfandir hardd ac amrywiol hwn bob blwyddyn. Rwy’n annog grwpiau cymunedol a sefydliadau i wneud cais am gyfran o’r arian ac i weithio gyda ni.

“Rwy’n falch ein bod, drwy brosiectau fel hyn, yn gallu parhau i feithrin perthynas rhwng Cymru ac Affrica. Rydym nid yn unig yn gwella bywydau yn Affrica, ond yn rhoi budd i Gymru hefyd drwy alluogi gwirfoddolwyr i gyfnewid sgiliau a chael profiadau fydd yn newid eu bywydau.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae’r Cyngor yn falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal y cynllun Cymru o Blaid Affrica.
Mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl drwy roi arian grant i brosiectau sy’n gwella iechyd, addysg a’r amgylchedd.

"Yn 2018/19, dyfarnwyd arian i ystod eang o brosiectau blaengar sy’n gwneud gwahaniaeth o bwys yn Affrica ac yng Nghymru. Ry’n ni’n edrych ymlaen at dderbyn rhagor o geisiadau ar gyfer 2019/20.”

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun grantiau Cymru o Blaid Affrica gan Lywodraeth Cymru ar gael ar wefan CGGC.