Caiff modurwyr eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr M4 rhwng cyffyrdd 37 a 38 ger y Pîl wrth i waith ffyrdd mawr i sicrhau diogelwch a gwytnwch y draffordd gael ei wneud am 6 mis gan ddechrau ar 9 Mehefin.
Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu 5 pont ar y darn hwn o'r M4 ac mae'n hanfodol i gynnal diogelwch ac atal dirywiad y ffordd.
Bydd y draffordd yn parhau i fod ar agor gyda dwy lôn yn mynd i'r ddau gyfeiriad drwy gydol cyfnod y gwaith. Os bydd angen cau'r ffordd yna bydd hyn yn digwydd dros nos yn unig a bydd arwyddion yn rhoi gwybod am hyn ymlaen llaw. Bydd terfynau cyflymder dros dro hefyd yn cael eu gweithredu i sicrhau diogelwch gyrwyr a gweithwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae trwsio a chynnal ein ffyrdd a'u gwneud yn fwy gwydn yn flaenoriaeth inni. Rwy'n deall y bydd y gwaith yn achosi aflonyddwch a hoffwn ddiolch i fodurwyr am eu hamynedd tra bod y gwaith yn cael ei wneud, ond mae'n bwysig ei fod yn cael ei wneud yn ystod cyfnodau o dywydd sychach a chynhesach er mwyn ei wneud yn effeithiol."
I gael rhagor o fanylion a'r diweddariadau diweddaraf, ewch i wefan Traffig Cymru.
