Neidio i'r prif gynnwy

Mae modurwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio yn ystod y misoedd nesaf gan fod cyfres o waith ffordd mawr a chau lonydd yn dechrau ar ddwy ran wahanol o'r M4 yr haf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gwaith ffordd rhwng cyffyrdd 47 a 49 yn digwydd rhwng mis Awst a mis Rhagfyr. Bydd gwyriadau ar waith hefyd rhwng cyffyrdd 24 a 28 ar ochr ddwyreiniol twnelau Bryn-glas ym mis Medi.

Mae'r ddau brosiect yn cynnwys gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau cydnerthedd hirdymor y rhwydwaith ffyrdd ac i osgoi unrhyw waith atgyweirio brys sydd heb ei gynllunio. Bydd y gwaith yn cynnwys ailosod yr arwynebedd sy’n dal dŵr, gosod arwynebedd newydd a gosod uniadau pont newydd ar gyfer nifer o ddeciau pontydd. Mae’r gwaith yn digwydd yn ystod cyfnod yr haf i leihau'r tebygolrwydd o oedi i'r gwaith yn sgil tywydd garw.

Yn ystod y gwaith rhwng cyffyrdd 47 a 49, bydd y cynllun rheoli traffig yn newid er mwyn cynnwys pob cam o'r cynllun, gyda thraffig yn rhedeg mewn gwrthlif, gan ddefnyddio'r llain galed o ddechrau mis Medi tan ganol mis Tachwedd. Bydd terfynau cyflymder is, gorfodol hefyd ar waith i ddiogelu gyrwyr a'r gweithlu sy'n cyflawni’r cynllun.

Er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith rhwng cyffyrdd 24 a 28 mae rhaglen waith dros bedwar penwythnos ac wyth noson wedi'i rhoi ar waith sy'n cynnwys cau cerbytffordd yn llawn, gan osgoi cau'r gerbytffordd tua'r dwyrain a'r gerbytffordd tua’r gorllewin ar yr un pryd. Gallai hyn gael ei leihau i ddau benwythnos ac wyth noson gan ddibynnu ar y tywydd.

Bydd hysbysiad o'r gwaith, gan gynnwys yr amseroedd ar gyfer y trefniadau gwrthlif, yn cael ei gyhoeddi ar wefan Traffig Cymru