Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith gosod wyneb newydd ar yr A483 ger Wrecsam ond yn cael ei wneud dros nos, a hynny er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad gwreiddiol Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru oedd cynnal gwrthlif 24 awr y dydd, o’r wythnos nesaf ymlaen, rhwng Cyffordd 5 (Ffordd yr Wyddgrug) a Chyffordd 6 (Gresffordd). Bydd ffyrdd ymuno gerllaw hefyd yn cael eu cau dros gyfnod o 6 i 8 wythnos er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i gynnal gwaith gosod wyneb newydd y mae gwir angen ei wneud er mwyn diogelu cyflwr y ffordd yn yr hirdymor. Ar ôl ystyried pryderon y gymuned leol a’r awdurdod lleol, fodd bynnag, mae Ysgrifennydd yr Economi wedi penderfynu y byddai’r gwaith yn tarfu ormod ar ddefnyddwyr y ffordd ac y dylid pennu ateb tymor canolig a fydd yn tarfu llai ar yrwyr. 


Y bwriad yn awr yw gwneud gwaith gosod wyneb newydd dros nos, saith diwrnod yr wythnos, a fydd yn diogelu cyflwr y ffordd yn y tymor canolig ac a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i’r traffig lifo’n arferol yn ystod y dydd. Dylai’r trigolion lleol fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd y gwaith ar y ffordd a hefyd y gwaith gwyro’n cynyddu’r lefelau sŵn arferol. Bydd y trigolion y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn cael eu hysbysu a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael cyn lleied â phosibl o effeithio arnynt. 

Dywedodd Ken Skates:

“Nid yw cau ffyrdd am gyfnodau hir ac yn ystod adegau prysur y dydd byth yn ddelfrydol i’r economi. Yn aml, fodd bynnag, dyma’r unig opsiwn ar gyfer cyflawni’r seilwaith o safon sydd ei angen arnom a’r seilwaith yr ydym yn ei ddisgwyl.”

“Y tro hwn, fodd bynnag, ar ôl ystyried y ffaith y gallai cau’r ffordd hon yn llwyr yn ystod oriau gwaith gael effaith andwyol iawn ar y cymunedau lleol a’r economi rwy wedi penderfynu cyflawni mwy o welliannau tymor canolig i’r ffordd. 

“Mae cyfyngiadau ynghlwm wrth waith nos ac nid yw’n ddidrafferth o bell ffordd. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, dyma’r ateb gorau ar gyfer cyflawni’r gwelliannau angenrheidiol i’r ffordd tra’n galluogi’i defnyddwyr i barhau â’u teithiau arferol.”

Bydd dros £17 miliwn yn cael ei wario ar oddeutu 43 o gynlluniau gosod wyneb newydd ar draws Cymru y mae gwir angen eu cynnal erbyn mis Ebrill fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod wyneb newydd ar draffyrdd a chefnffyrdd. Bydd dros £10 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei fuddsoddi mewn 36 o gynlluniau yn y Gogledd a’r Canolbarth.

Bydd rhybuddion ymlaen llaw ynghylch cau ffyrdd a gwaith dargyfeirio a bydd manylion/diweddariadau ynghylch y cynllun ar gael ar y wefan www.traffig-cymru.com (dolen allanol).