Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle y gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl a theimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Drwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, y bwriad yw bod gweithwyr ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed fod yn aelodau cofrestredig o'r sector gwaith ieuenctid a chael y cyfle i ennill achrediadau cenedlaethol fel gwobr Dug Caeredin.

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy'r 22 awdurdod lleol bob blwyddyn a hefyd drwy'r sector gwirfoddol. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd gan y sector gwaith ieuenctid statudol yng Nghymru.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a oedd o fewn cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd y ffigurau ar gyfer 2020-21 a 2021-22, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag aelodau cofrestredig, eu heffeithio'n sylweddol wrth i'r pandemig a'r cyfyngiadau oedd ar waith gael effaith ar allgymorth. Dylid ystyried hyn wrth gymharu data diweddar â data blynyddoedd blaenorol.

Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth awdurdodau lleol mewn datganiad blynyddol cyfanredol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 74,188 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol yn 2024-25, i lawr 9% o gymharu â 2023-24 a'r nifer isaf ers y pandemig COVID-19. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw Powys bellach yn cynnwys pobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaethau ym Mhowys ond sy'n byw mewn siroedd eraill.
  • Ym mis Mawrth 2025, roedd 746 o staff rheoli a chyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, cynnydd o 1% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Cyfanswm yr incwm ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn 2024-25 oedd £46.8 miliwn. Cynyddodd cyfanswm yr incwm 6% o gymharu â 2023-24, gyda'r gyllideb graidd yn cynyddu 3% incwm ychwanegol yn cynyddu 7% o gymharu â 2023-24.
  • Cyfanswm y gwariant ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru yn 2024-25 oedd £46.0 miliwn, i fyny 7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Aelodau

Ffigur 1: aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran a rhyw, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart bar yn dangos mai'r grŵp oedran 11 i 13 oed sydd â'r nifer uchaf o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Y grŵp oedran 20 i 25 sydd â'r nifer isaf.

Roedd 74,188 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol yn 2024-25, i lawr 9% o gymharu â 2023-24 a'r nifer isaf ers y pandemig COVID-19. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw Powys bellach yn cynnwys pobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaethau ym Mhowys ond sy'n byw mewn siroedd eraill.

Roedd 50% o'r aelodau cofrestredig yn fenywod a 50% yn ddynion yn 2024-25, yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol.

Ffigur 2: canran yr aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart gylch yn dangos mai pobl ifanc 11 i 13 oed yn cyfrif am y ganran fwyaf o aelodau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn 2024-25, ac yna pobl ifanc 14 i 16 oed.

Ffigur 3: aelodau cofrestredig o ddarpariaeth gwaith ieuenctid fel canran o'r boblogaeth 11 i 19 oed, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart bar yn dangos mai Merthyr Tudful ac Ynys Môn oedd â'r gyfran uchaf o aelodau cofrestredig fel canran o'r boblogaeth 11 a 19 oed yn 2024-25, a Sir Gaerfyrddin oedd â'r gyfran isaf.

Roedd yr aelodau cofrestredig rhwng 11 a 19 oed yn cynrychioli 21% o'r boblogaeth yn y grŵp oedran hwn yn 2024-25, i lawr 2 pwynt canran o gymharu â 2023-24. Roedd y ganran yn amrywio o 6% yn Sir Gaerfyrddin i 43% ym Merthyr Tudful ac Ynys Môn.

Achrediadau aelodau

Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am unigolion sy'n ennill achrediadau drwy ddarpariaeth gwaith ieuenctid gan wahaniaethu rhwng achrediadau a gydnabyddir yn lleol ac achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol. Adroddwyd bod 5,230 o bobl ifanc wedi ennill achrediad cenedlaethol yn 2024-25. Mae hyn yn 7% o'r holl aelodau cofrestredig, i fyny 2 pwynt canran o gymharu â 2023-24.

Adroddwyd bod 8,118 o bobl ifanc wedi ennill achrediad lleol yn 2024-25 (11% o’r aelodau, i lawr 1 pwynt canran o gymharu â 2023-24). Gall person ifanc ennill achrediadau cenedlaethol a lleol.

Ffigur 4: nifer yr aelodau sy'n ennill achrediadau cenedlaethol mewn darpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl lefel neu ddyfarniad a rhyw, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart bar yn dangos mai Lefel 1 oedd yr achrediad a gyflawnwyd fwyaf yn 2024-25, ac yna Gwobr Dug Caeredin a Lefel 3 oedd yr achrediad a gyflawnwyd leiaf. 

Nifer yr achrediadau Lefel 1 oedd 1,559 yn 2024-25, i fyny o 991 yn 2023-24.

Cafodd 1,452 o Wobrau Dug Caeredin eu hachredu drwy'r sector gwaith ieuenctid statudol yn 2024-25, tebyg i 2023-24. Mae cynllun Gwobr Dug Caeredin hefyd yn cael ei gynnig drwy'r sector gwirfoddol, ac mewn rhai ysgolion a cholegau.

Roedd yr holl achrediadau cenedlaethol a gyflawnwyd yn uwch yn 2024-25 nag yn 2023-24. 

Roedd menywod yn cyfrif am 52% o'r achrediadau cenedlaethol a enillwyd yn 2024-25 ac roedd dynion yn cyfrif am 48% ohonynt.

Ffigur 5: canran yr aelodau sy'n ennill achrediadau lleol o fewn darpariaeth gwaith ieuenctid yn ôl oedran, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart bar yn dangos mai'r grŵp oedran â’r gyfran uchaf o aelodau yn ennill achrediad lleol oedd y grŵp 17 i 19 ac yna’r grŵp 14 i 16.   

Yn 2024-25, enillodd 11% o'r holl aelodau achrediad lleol. Roedd y ganran uchaf ymhlith y rhai 17 a 19 oed (13%) a'r ganran isaf ymhlith rhai 20 a 25 oed (8%). Cyfanswm yr achrediadau lleol a enillwyd oedd 8,118 yn 2024-25, i lawr o 9,815 yn 2023-24.

Lleoliadau a phrosiectau

Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am y lleoliadau a'r prosiectau ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid a oedd yn cael eu cynnal ledled Cymru. Gall prosiectau gwaith ieuenctid gael eu cyflawni gan yr awdurdod lleol yn unig, neu mewn partneriaeth â chyrff statudol neu wirfoddol eraill.

Ffigur 6: nifer cyfartalog yr aelodau fesul lleoliad gwaith ieuenctid, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart bar sy'n dangos bod nifer cyfartalog yr aelodau fesul lleoliad yn amrywio rhwng gwahanol fathau o leoliad gyda'r nifer uchaf o aelodau gan dimau datgysylltiedig neu allgymorth.

Mae timau datgysylltiedig neu allgymorth fel arfer yn cael eu comisiynu yn hytrach na'u rheoli'n uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.

Timau datgysylltiedig neu allgymorth oedd â'r nifer cyfartalog uchaf o aelodau fesul lleoliad yn 2024-25, sef 477 o aelodau cofrestredig fesul lleoliad, i fyny o 383 yn 2023-24. Gwasanaethau ieuenctid symudol oedd â'r nifer isaf, gyda chyfartaledd o 113 o aelodau cofrestredig fesul lleoliad, i lawr o 160 yn 2023-24. 

Tabl 1: aelodau cofrestredig sy'n mynychu prosiectau mewn gwahanol leoliadau, 2024-25
Math o leoliadNifer y lleoliadauNifer yr aelodau sy'n mynychu
Clwb ieuenctid32456,098
Mewn ysgol neu goleg29647,706
Tîm datgysylltiedig neu allgymorth9042,922
Canolfan ieuenctid9433,675
Siop wybodaeth357,920
Gwasanaeth ieuenctid symudol384,310
Cyfanswm877192,631

Mae Tabl 1 yn dangos bod clybiau ieuenctid â'r nifer uchaf o aelodau yn mynychu prosiectau, ac yna lleoliadau ysgol neu goleg. Roedd y lleoliadau hyn yn cyfrif am 54% o'r holl aelodau a fynychodd brosiectau. 

Bydd rhywfaint o aelodaeth yn gorgyffwrdd, gydag aelodau'n gallu rhyngweithio â phob un o'r gwahanol leoliadau, ac er enghraifft gyda mwy nag un clwb neu ganolfan ieuenctid.

Ffigur 7: nifer y prosiectau gwaith ieuenctid, yn ôl math o ddarpariaeth, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart bar yn dangos bod nifer y gwahanol fathau o brosiectau a ddarparwyd yn amrywio o 30 o brosiectau ar gyfer rhieni ifanc i 1,264 o brosiectau iechyd a llesiant.

Prosiectau sy'n cefnogi ac yn galluogi'r Gymraeg oedd yr ail fwyaf cyffredin gyda 1,066, ac yna prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar 1,018.

Mae prosiectau iechyd a lles wedi cynyddu o 1,082 yn 2023-24 ac mae prosiectau un-i-un wedi gostwng o 2,223 yn 2023-24.

Caiff prosiectau eu cofnodi sawl gwaith os ydynt yn berthnasol i fwy nag un categori. Er enghraifft, gellid cofnodi'r un prosiect o dan y celfyddydau a drama, diwylliant Cymreig a phreswyl.

Ffigur 8: canran y prosiectau gwaith ieuenctid a gyflwynir yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol, 2024-25 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart bar sy'n dangos bod canran y prosiectau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio yn ôl awdurdod lleol, o 2% yn Sir Benfro i 100% yng Ngwynedd.

[Nodyn 1] Doedd Sir Ddinbych ddim yn gallu darparu'r data yma.

O'r holl brosiectau a gyflawnwyd, cafodd 38% eu cyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2024-25, dim newid o 2023-24.

Cyflawnwyd dros 90% o brosiectau yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngwynedd, Conwy, Powys a Sir Ynys Môn. 

Cyflawnwyd llai na 5% o brosiectau yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn Wrecsam, Caerffili, Sir Fynwy a Sir Benfro.

Staff

Ffigur 9: nifer y staff gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart bar yn dangos mai staff cyflawni gwaith ieuenctid a gyllidir yn allanol yw'r gyfran uchaf o staff gwaith ieuenctid, ac yna staff cyflawni gwaith ieuenctid rheng flaen.

Ym mis Mawrth 2025, roedd 746 o staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru (ac eithrio staff gwirfoddol). Roedd y swyddi cyflawni cyfwerth ag amser llawn yn cynnwys 10% o staff rheoli a 90% o staff gwaith ieuenctid rheng flaen (sy'n cwmpasu staff craidd a staff a gyllidir yn allanol). 

O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cynnydd o 1% yn nifer y staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. Cynyddodd nifer y staff cyflenwi a ariennir yn allanol 3%, gostyngodd staff cyflenwi rheng flaen craidd 5% a chynyddodd staff rheoli 7%. 

Yn ogystal, roedd 7 o staff cyflawni gwaith ieuenctid gwirfoddol cyfwerth ag amser llawn, a 61 o staff gweinyddol a staff eraill cyfwerth ag amser llawn, gan roi cyfanswm o 814 o staff gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ym mis Mawrth 2025.

Ffigur 10: canran y staff cyflawni gwaith ieuenctid yn ôl cymhwyster Cyd-bwyllgor Negodi (JNC), 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 10: mae'r siart yn dangos bod canran y staff cyflawni gwaith ieuenctid â chymhwyster JNC hyd at lefel 2 o leiaf yn 2024-25 yn amrywio o 67% yn Abertawe i 100% yn Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy. 

Yn 2024-25, roedd 90% o'r holl staff cyflawni gwaith ieuenctid (cyfwerth ag amser llawn) yn meddu ar gymwysterau proffesiynol JNC hyd at lefel 2 o leiaf, i fyny o 88% yn 2023-24. O'r rhai sydd heb gymhwyster JNC hyd at lefel 2 neu uwch, roedd 52% mewn hyfforddiant (69% yn 2023-24).         

Cymarebau staff

Roedd y gymhareb o staff rheoli cyfwerth ag amser llawn i staff cyflawni gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn eraill yng Nghymru yn 2024-25 oddeutu 1:10.

Y gymhareb o aelodau cofrestredig 11 i 25 oed i staff cyflenwi gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio staff gwirfoddol a rheoli) oedd 110 o bobl ifanc fesul gweithiwr yn 2024-25. Ar gyfer aelodau rhwng 11 a 19 oed, y gymhareb oedd 107:1.

Cyllid

Mae data cyllid ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn Abertawe wedi cynnwys cyllid ar gyfer eu Darpariaeth Hwb Cymorth Cynnar, sy'n darparu cymorth ieuenctid ond nid gwaith ieuenctid. O 2024-25, dim ond cyllid ar gyfer eu gwasanaeth ieuenctid y mae Abertawe wedi cynnwys. Mae ffigurau ar gyfer 2023-24 hefyd wedi'u hadolygu. Mae'r incwm yn Abertawe wedi'i adolygu i lawr o £3.1m yn 2023-24 i £0.9m ac mae gwariant wedi'i adolygu i lawr o £2.9m yn 2023-24 i £0.7m. Nid yw data ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi'i adolygu, felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer Abertawe a Chymru â blynyddoedd cynharach.

Incwm

Cyfanswm yr incwm ar gyfer gwaith ieuenctid yn 2024-25 oedd £46.8 miliwn, i fyny 6% o gymharu â 2023-24. Roedd cyfanswm yr incwm yn amrywio ar draws awdurdodau lleol. Gwelodd 17 awdurdod lleol gynnydd o gymharu â'r llynedd ac adroddodd 5 ostyngiad. 

Cyfanswm y cyllidebau gwaith ieuenctid craidd yn 2024-25 oedd £18.9 miliwn, i fyny 3% o gymharu â 2023-24. Roedd y cyfraniad y cyllidebau gwaith ieuenctid craidd i gyfanswm yr incwm ar gyfer gwaith ieuenctid ar draws Cymru yn amrywio rhwng awdurdodau, o 13% yng Nghasnewydd i 64% yn Sir Ynys Môn.

Ffigur 11: cyllideb graidd y gwasanaeth ieuenctid ac incwm ychwanegol yn ôl awdurdod lleol, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart bar pentwr sy'n dangos cyfanswm yr incwm ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid wedi'i rannu rhwng cyllideb graidd y gwasanaeth ieuenctid ac incwm ychwanegol. Caerdydd oedd â'r cyfanswm incwm uchaf (£3.9m) ac Abertawe oedd â'r cyfanswm isaf (£0.9m).

Yn ogystal â’r gyllideb graidd ar gyfer gwaith Ieuenctid, roedd cyfanswm y gyllideb ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn 2024-25 yn cynnwys incwm o £27.9 miliwn o ffynonellau eraill. Daeth y rhan fwyaf o’r cyllid hwn o 'ffynonellau cenedlaethol' (£23.9 miliwn neu 86%). O fewn hynny, darparwyd £3.1 miliwn gan Teuluoedd yn Gyntaf a daeth £10.0 miliwn o Grant Cymorth y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Ffigur 12: ffynhonnell incwm ychwanegol fel canran o gyfanswm yr incwm ychwanegol, 2024-25

Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart gylch yn dangos bod ffynonellau cenedlaethol yn cyfrif am 86% o'r incwm ychwanegol yn 2024-25. Cyfrannodd adrannau awdurdodau lleol 9%.

Gwariant

Cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru yn 2024-25 oedd £46.0 miliwn, i fyny 7% o gymharu â 2023-24. Roedd gwariant yn amrywio o £0.8 miliwn yn Abertawe i £3.9 miliwn yng Nghaerdydd.

Roedd y rhan fwyaf o'r gwariant ar weithwyr, sef 75% o'r holl wariant. Roedd gweddill y gwariant yn cynnwys 9% ar adnoddau a 5% ar lety.

Roedd 2% arall o'r gwariant yn gymorth grant o gyllidebau’r sector gwaith ieuenctid statudol i'r sector gwirfoddol. Yn cynnwys cyfraniadau o gyllideb ehangach yr awdurdodau lleol, darparodd awdurdodau lleol oddeutu £1.0 miliwn mewn cymorth grant i wasanaethau ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn.

Gwariant y pen o'r boblogaeth

Yn 2024-25, cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid fesul person 11 i 25 oed oedd £82, i fyny 6% o gymharu â 2023-24. Y gyllideb gwaith ieuenctid craidd fesul person 11 i 25 oed oedd £33 yn 2024-25, i fyny 3% o gymharu â 2023-24. 

Gellir gweld y manylion llawn yn Nhabl 4 yn y tablau data a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Cesglir data fel rhan o ddarpariaeth statudol y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru trwy arolwg a gynhelir bob blwyddyn ymhlith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod yr haf. Cafwyd ffurflenni llawn gan bob un o'r 22 awdurdod lleol ym mhob un o'r pedair blynedd diwethaf. Mae rhifynnau blaenorol o'r datganiad hwn wedi cynnwys materion gyda chyflawnrwydd data ac felly yn gyffredinol mae angen gwneud cymariaethau rhwng blynyddoedd yn ofalus.

Cesglir gwybodaeth trwy daenlenni Microsoft Excel. Mae copïau o'r ffurflen casglu data gwaith ieuenctid presennol a'r canllawiau ar gael.

Mae'r taenlenni yn caniatáu i ymatebwyr ddilysu eu data eu hunain cyn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Gofynnir i awdurdodau lleol ddarparu sylwadau esboniadol lle mae newidiadau mawr wedi digwydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y data a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru eisoes o ansawdd uchel. Mae enghreifftiau o wiriadau dilysu o fewn y ffurflenni yn cynnwys newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, croeswirio gyda thablau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod data'n gyson yn rhesymegol, er enghraifft cymharu aelodaeth gofrestredig yn erbyn amcangyfrifon poblogaeth.

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn data, mae'n mynd trwy wiriadau dilysu a gwirio pellach, er enghraifft, gwiriadau synnwyr cyffredin, gwiriadau cysondeb rhifyddeg, croeswiriadau yn erbyn y data ar gyfer y flwyddyn flaenorol a gwiriadau goddefgarwch. Dilynir gwallau dilysu gydag awdurdodau lleol i geisio datrysu, yn y nifer fach o achosion rydym yn methu â chael ateb o fewn amserlen resymol, efallai y byddwn yn defnyddio cyfrifiant os yw'n briodol i ddatrys y gwall.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a gyhoeddwyd ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar ddiwrnod cyhoeddi.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru.

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) ac egwyddorion ansawdd ansawdd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae ansawdd y data a gesglir drwy arolwg statudol y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn parhau i ddatblygu, gan ein bod yn ganolog yn gwella'r canllawiau a'r diffiniadau a ddefnyddir yn yr arolwg, ac mae awdurdodau lleol sy'n darparu darpariaeth gwaith ieuenctid yn parhau i fireinio eu systemau a'u data rheoli, er mwyn sicrhau bod yr holl ddata a gesglir ar gyfer yr archwiliad yn gadarn, yn gyson, yn gyfredol ac yn gywir. Mae materion ansawdd data hysbys yn cael eu hamlygu gan adran isod.

Aelodaeth

O arolwg 2010-11 ymlaen, gofynnwyd i awdurdodau lleol gynnwys pobl ifanc a gofrestrwyd ar y system Reach fel rhai gweithredol yn ystod y flwyddyn yn unig (h.y. y rhai y gwyddid enw, cyfeiriad a dyddiad geni iddynt.) Reach yw'r term a ddefnyddir i fesur nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid o'r boblogaeth ieuenctid o fewn ardal ddynodedig/awdurdod lleol. Mewn blynyddoedd blaenorol, efallai bod rhai awdurdodau lleol hefyd wedi cynnwys aelodau dienw. O ystyried hyn, a gwelliannau i systemau cofnodi rhai awdurdodau, nid yw'n briodol cymharu'r data hwn ar sail debyg am yr un peth â blynyddoedd cynharach.

Achrediadau

Roedd arolwg 2010-11, am y tro cyntaf, yn gwahaniaethu rhwng pobl ifanc a oedd wedi derbyn achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn lleol.

Achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol yw'r rhai a gwblheir yn llwyddiannus o dan raglenni a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n cael eu hasesu a'u gwirio, er enghraifft: Dug Caeredin (DofE), BELA; Agored Cymru/OCN; ASDAN; Datblygiad Cymdeithasol Personol (PSD).

Dyfarniadau a gydnabyddir yn lleol yw'r rhai a gwblhawyd yn llwyddiannus nad ydynt yn rhan o'r rhaglen genedlaethol ac sy'n cael eu hasesu'n lleol, er enghraifft: modiwlau unigol DofE neu PSD; Gwobrau'r Maer; Ardystiad mewnol; Y Brifysgol Plant/Ieuenctid a Gwobr John Muir.

Sylwer y gall unigolyn dderbyn achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn lleol ac felly nid yw'r data o 2010-11 ymlaen yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, sef cyfrif pawb ag unrhyw achrediad.

Cyn 2012-13 casglwyd gwybodaeth am achrediadau gan grŵp oedran eang. Ar gyfer arolwg 2012-13 ymlaen mae achrediadau lleol yn parhau i gael eu casglu ar y sail hon, ond mae achrediadau cenedlaethol bellach yn cael eu casglu yn ôl lefel neu ddyfarniad.

Prosiectau

Cyn 2010-11 credir bod dehongliadau anghyson wedi bod wrth gofnodi prosiectau gan awdurdodau lleol, lle gallai rhai awdurdodau fod wedi cyfrif un prosiect o fewn nifer o fathau o brosiectau, tra bod eraill wedi cyfyngu i gynnwys pob prosiect yn un neu ddau fath o brosiect. O arolwg 2010-11, mae lleoliad neu leoliad prosiectau (clwb ieuenctid ayyb) wedi'i wahanu o'r math o ddarpariaeth (cynllun gwyliau, iaith Gymraeg). Unwaith eto, mae'r newid hwn yn y dull casglu yn golygu na ddylid gwneud cymhariaeth uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. 

Sylwch nad cyfanswm y prosiectau yw cyfanswm y lleoliadau, gan y gallai fod sawl prosiect yn rhedeg ym mhob lleoliad. Yn yr un modd, ni ellir crynhoi'r math o wybodaeth prosiect i roi cyfanswm nifer o brosiectau, gan y gellir cyfrif yr un prosiect sawl gwaith. 

O 2013-14, casglwyd gwybodaeth am gyfrwng cyflwyno prosiectau (er mai dim ond yn y datganiad o 2014-15) lle mae awdurdodau lleol yn nodi prosiectau a ddarperir yn bennaf neu'n gyfan gwbl (70% neu uwch) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweithlu

O arolwg 2010-11 ymlaen, eglurwyd bod y diffiniad o "staff rheoli" yn rhai sydd â llai na 10 y cant o gyswllt wyneb yn wyneb â phobl ifanc. Roedd newid hefyd yn y diffiniad o "staff darparu gwaith ieuenctid - staff craidd a darparu gwaith ieuenctid - allanol" i "staff rheng flaen gwaith ieuenctid - staff craidd a gwaith ieuenctid - wedi'u hariannu'n allanol". Mae hyn wedi effeithio ar gymhariaeth data gyda blynyddoedd cynharach.

Cyllid

Defnyddiwyd gwell diffiniadau a phrosesau dilysu i gasglu gwybodaeth am gyllid ar gyfer 2010-11 ymlaen, gan arwain at rywfaint o anghytuno rhwng y data hwnnw a data cyllid ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Mae diffiniadau gwell a phrosesau dilysu wedi'u cymhwyso i gasglu gwybodaeth ariannol ar gyfer 2010-11 ymlaen, gan arwain at rywfaint o anghysondeb rhwng y data hwnnw a data cyllid ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Mae data cyllid ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn Abertawe wedi cynnwys cyllid ar gyfer eu Darpariaeth Hwb Cymorth Cynnar, sy'n darparu cymorth ieuenctid ond nid gwaith ieuenctid. O 2024-25, dim ond cyllid ar gyfer eu gwasanaeth ieuenctid y mae Abertawe wedi cynnwys. Mae ffigurau ar gyfer 2023-24 hefyd wedi'u hadolygu. Mae'r incwm yn Abertawe wedi'i adolygu i lawr o £3.1m yn 2023-24 i £0.9m ac mae gwariant wedi'i adolygu i lawr o £2.9m yn 2023-24 i £0.7m. Nid yw data ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi'i adolygu, felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu data ar gyfer Abertawe a Chymru â blynyddoedd cynharach.

Gwerth

Cynhyrchir y datganiad hwn yn flynyddol gyda'r ystadegau a ddefnyddir o fewn Llywodraeth Cymru, gan lywodraeth leol ac ymarferwyr i fonitro tueddiadau mewn staff aelodaeth, cyllid a gwaith ieuenctid yng Nghymru. Lansiwyd Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn haf 2019 ac mae'n nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, teimlo'n ddiogel, eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Y bwriad yw drwy gyfleoedd addysgol anffurfiol ac anffurfiol a phrofiadau mae gweithwyr ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Cynhyrchodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei adroddiad terfynol ar gyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru ym mis Medi 2021.

Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenniBydd tablau mwy manwl yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru, hefyd yn cyd-fynd ag ef, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Geraint Turner
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 96/2025