Gwaith ieuenctid yng Nghymru: cyflawni dros bobl ifanc
Canllawiau statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir a’r cyd-destun
Cyflwyniad
Mae gwaith ieuenctid yn elfen allweddol o’r system addysg yng Nghymru, a gyflenwir gan ystod eang o sefydliadau. Fel gwasanaeth craidd i bobl ifanc, mae gwaith ieuenctid yn rhan o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, ond mae’n defnyddio dull addysgol neilltuol sy’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc fel partneriaid cyfartal yn eu datblygiad eu hunain.
Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â Chyfarwyddydau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2026 (‘y Cyfarwyddydau’). Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn ffurfio’r strategaeth statudol newydd (“y fframwaith”) ar gyfer gwaith ieuenctid – fframwaith ar gyfer cynllunio, darparu a monitro gwaith ieuenctid ar lefel leol ledled Cymru.
Mae’r fframwaith yn amlinellu sut y mae’n rhaid i bob awdurdod lleol, gan weithio gyda sefydliadau gwirfoddol, a phartneriaid sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc yn ardal yr awdurdod lleol (‘partneriaid’), gynllunio a darparu gwasanaeth gwaith ieuenctid neilltuol fel rhan o’r gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach y mae’n eu darparu i bobl ifanc. Mae’r fframwaith hefyd yn rhagnodi safonau cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid.
Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar y gofyniad i awdurdod lleol lunio cynllun strategol gwaith ieuenctid (‘y cynllun strategol’) bob pum mlynedd. Rhaid i bob cynllun strategol amlinellu amcanion yr awdurdod lleol ar gyfer gwaith ieuenctid, a fydd yn sail i’r adroddiad blynyddol ar gynnydd.
Ni all awdurdodau lleol ar eu pennau eu hunain gyflenwi cynnig gwaith ieuenctid lleol cyfoethog ac amrywiol, felly mae dull amlasiantaeth cydweithredol yn hanfodol i gyflawni hyn.
O fewn y ddogfen ganllaw, mae’r defnydd o’r term ‘rhaid’ yn dynodi rhwymedigaeth gyfreithiol, fel y’i nodir yn y Cyfarwyddydau. Mae’r term ‘dylai’ yn nodi bod rhaid ystyried y canllawiau ac y dylid eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Y gynulleidfa
Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau hyn. Wrth wneud trefniadau gyda sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau, rhaid i awdurdod lleol hefyd sicrhau eu bod yn rhoi sylw i’r canllawiau hyn. Bydd y canllawiau o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys pobl ifanc 11 i 25 oed, sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a rhanddeiliaid ehangach sydd â diddordeb mewn gwella canlyniadau i bobl ifanc.
Ein gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru
Fel y’i nodir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn wlad lle:
- mae pobl ifanc yn ffynnu
- mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol
- mae’r rheini sy’n cyflenwi gwaith ieuenctid yn cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer
- mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall
- mae model cynaliadwy ar gyfer cyflenwi gwaith ieuenctid
Nod cyflwyno’r fframwaith hwn yw helpu i gyflawni’r weledigaeth hon drwy amlinellu trefniadau cynllunio, cyflenwi ac atebolrwydd gorfodol ar gyfer darparu gwaith ieuenctid.
Beth yw gwaith ieuenctid
Nododd adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yr angen am ddiffiniad cliriach o ystyr gwasanaethau gwaith ieuenctid o ansawdd da, ac i’r diffiniad hwnnw gael ei berchnogi a’i gymhwyso’n gyson ar draws y sector. Yn yr un modd, daeth adroddiad Estyn, ‘Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru: Gwerth Gwaith Ieuenctid’, i’r casgliad bod:
diffyg eglurder ymhlith darparwyr gwasanaeth a llunwyr polisi ynglŷn â’r derminoleg a ddefnyddir wrth drafod gwasanaethau i gynorthwyo pobl ifanc. Mae’r term ‘gwaith ieuenctid’ yn cael ei ddrysu’n aml â ‘gwaith gyda phobl ifanc’.
Mae’r Cyfarwyddydau, am y tro cyntaf o fewn fframwaith deddfwriaethol Cymreig, yn diffinio gwaith ieuenctid fel:
gwasanaethau a ddarperir o fewn y gwasanaeth cymorth ieuenctid gan ddefnyddio dull addysgol neilltuol sy’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc, ac
(a) sy’n cael eu harwain gan weithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid a gyflogir neu a benodir fel arall (gan gynnwys ar sail wirfoddol) gan awdurdod lleol, partner neu sefydliad gwirfoddol, a
(b) sy’n cael eu cyflenwi gan un neu ragor o’r canlynol—
(i) awdurdod lleol,
(ii) partner, neu
(iii) sefydliad gwirfoddol
Wrth wneud hynny, mae’r diffiniad hwn yn gosod gwaith ieuenctid fel elfen allweddol o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, ond yn y bôn mae’n sicrhau bod ei natur neilltuol yn cael ei deall a’i diogelu’n well.
Rhaid i weithiwr ieuenctid feddu ar o leiaf un o’r cymwysterau gweithiwr ieuenctid a nodir yn Rhan 1 Atodlen 1 i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (“Gorchymyn 2016”) neu fel arall fodloni’r gofynion amgen a nodir yn Rhan 2 Atodlen 1. Rhaid i weithiwr cymorth ieuenctid feddu ar o leiaf un o’r cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid a nodir yn Rhan 1 Atodlen 2 i Orchymyn 2016 neu fel arall fodloni’r gofynion amgen a nodir yn Rhan 2 Atodlen 2.
Os yw gwasanaethau yn cael eu ‘harwain gan’ weithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid, disgwylir iddo ddarparu cyngor, arweinyddiaeth ac arweiniad i eraill. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gwasanaeth gwaith ieuenctid o safon uchel yn cael ei ddarparu.
Y cyd-destun deddfwriaethol
Mae’r Cyfarwyddydau, a’r canllawiau hyn, wedi eu gwneud gan ddefnyddio’r pwerau yn adran 123(1), (4)(b) ac (c) a (5)(c) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a’r cynnig gwaith ieuenctid
Safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
Rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu sicrhau gwasanaethau cymorth ieuenctid a chymryd rhan yn y gwaith o ddarparu’r gwasanaethau hynny. Rhaid i ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid gynnwys gweithrediad a rheolaeth strategol gwaith ieuenctid. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt drefniadau priodol ar waith i gyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid a’i rheoli’n strategol. Mae rheolaeth strategol gwaith ieuenctid yn golygu:
- asesu anghenion pobl ifanc yn ardal yr awdurdod lleol
- cadarnhau maint a natur yr adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion blaenoriaeth pobl ifanc
- sicrhau, darparu a chydgysylltu’r gwaith o gyflenwi’r adnoddau sydd eu hangen i ymateb i anghenion blaenoriaeth pobl ifanc
Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod ei gynnig gwaith ieuenctid yn darparu gwaith ieuenctid sy’n cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae’r safonau cenedlaethol hyn yn golygu gwaith ieuenctid:
- sydd wedi’i ffurfio drwy ymgysylltu â phobl ifanc
- sydd â’r nod o gyflwyno, diogelu a chryfhau gweithgareddau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg ac sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen neu ei eisiau ar bobl ifanc yn ei ardal
- sy’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a datblygu mewn lleoliadau addysg a chymunedol gwahanol, gan gynnwys lleoliadau digidol
- sy’n hwyluso cyfleoedd cyffredinol a chyfleoedd wedi’u targedu i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i wella eu llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol
- y gall pobl ifanc gael mynediad hawdd ato
- sy’n cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n cefnogi gwell canlyniadau i bobl ifanc drwy gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, partneriaid a sefydliadau gwirfoddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
Y cynnig gwaith ieuenctid
Fel yr amlinellir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae gwaith ieuenctid yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu sy’n addysgol, yn fynegol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn rymusol. Rhoddir rhagor o fanylion am y dull hwn yn ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ – dogfen a luniwyd gan y sector ac sy’n amlinellu’r egwyddorion allweddol sy’n sail i waith ieuenctid.
Y cynnig gwaith ieuenctid yw amrywiaeth y ddarpariaeth y mae awdurdod lleol wedi penderfynu ei bod yn bodloni’r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid i’r bobl ifanc yn ei ardal. Bydd y cynnig gwaith ieuenctid yn amrywio o un ardal i’r llall, gan ddibynnu ar nodweddion yr ardal. Bydd y cynnig hwn hefyd yn amrywio dros amser gan ymateb i anghenion a diddordebau pobl ifanc, sy’n esblygu.
Wrth ffurfio ei gynnig gwaith ieuenctid, dylai awdurdod lleol ganolbwyntio ar greu cyfleoedd a llwybrau cadarnhaol i bobl ifanc wrth iddynt bontio i fod yn oedolion. Mae hyn yn ceisio symud i ffwrdd oddi wrth y canfyddiad bod gwaith ieuenctid yn wasanaeth sy’n datrys problemau ar ôl iddynt ddigwydd i ganolbwyntio ar greu mannau diogel lle gall pobl ifanc gael cymorth i gyflawni eu potensial.
Cryfhau’r broses o gynllunio a chyflenwi gwaith ieuenctid
Dull partneriaeth
Mae dull cydweithredol yn hanfodol i lwyddiant y fframwaith hwn ac i gyflenwi gwaith ieuenctid yn fwy cyffredinol. Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog arweiniol dynodedig sydd ar lefel addas ac sydd â phrofiad addas i gydgysylltu’r gwaith o ymgysylltu â phobl ifanc yn ei ardal, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill, yn ogystal ag awdurdodau lleol eraill.
Fel arfer, byddai’r swyddog arweiniol dynodedig yn weithiwr presennol yn yr awdurdod lleol sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dull gwaith ieuenctid a phrofiad o ymgysylltu â phartneriaid i gyflawni nodau a rennir. Disgwylir iddo sefydlu strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd cydweithredol lleol a fydd yn sail i wireddu’r fframwaith hwn. Dylai’r strwythurau hyn gael eu datblygu ar y cyd â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid. Dylid rhoi ystyriaeth i fodel cylchdroi cadeirydd i hybu arweinyddiaeth a rennir.
I ddiwallu anghenion pobl ifanc, bydd angen gwaith partneriaeth agos gyda sefydliadau gwirfoddol yn enwedig. Mae’r sefydliadau gwirfoddol hynny y cyfeirir atynt yn aml fel sefydliadau gwirfoddol ‘llawr gwlad’ yn aml mewn sefyllfa unigryw i ddeall anghenion pobl ifanc mewn cymunedau lleol. Gall sefydliadau gwirfoddol arbenigol gyfrannu gwybodaeth am grwpiau sydd ar y cyrion neu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Yn yr un modd, gall sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol helpu i ddatblygu dull cyson ar draws ffiniau awdurdodau lleol a’r gallu i gynyddu’r cymorth a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig ac yn eu galluogi.
Gall fod partneriaethau a rhwydweithiau amlasiantaeth sefydledig yn bodoli eisoes mewn nifer o awdurdodau lleol. Mae’r partneriaethau hyn yn allweddol wrth helpu awdurdodau lleol i wneud y canlynol:
- rhoi sylw i fylchau mewn darpariaeth gwaith ieuenctid
- ymateb i anghenion sy’n dod yn amlwg
- nodi cyfleoedd i ychwanegu gwerth at ddarpariaeth bresennol
- sicrhau bod pobl ifanc yn elwa ar wasanaethau cydgysylltiedig.
Lle nad oes strwythurau yn bodoli eisoes, dylai pob awdurdod lleol sefydlu strwythur llywodraethu ac atebolrwydd lleol i gyflawni hyn.
Rhaid i awdurdod lleol amlinellu yn ei gynllun strategol sut y bydd yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill i gynllunio a chyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid. Rhaid i’r cynllun strategol gynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol i lywio datblygiad y cynllun, yn ogystal â chrynodeb o’r ymatebion a gafwyd.
Cyfranogiad gan bobl ifanc
O dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, mae dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau i hybu a hwyluso cyfranogiad gan blant mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Yn yr un modd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae ‘cynnwys’ yn un o’r pum ffordd o weithio y mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau sydd â’r nod o gyflawni’r nodau llesiant. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth i bwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant ac i sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu. Gall modelau cyfranogiad posibl amrywio’n sylweddol ond dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc yn sail i’r strwythurau a roddir ar waith i fodloni’r gofyniad hwn.
Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Cyfarwyddydau roi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).Mae Erthygl 12 o CCUHP yn nodi bod gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i’w farn gael ei hystyried a’i chymryd o ddifrif. Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid fanteisio ar yr wybodaeth o strwythurau cyfranogiad presennol, yn ogystal ag ystyried y ffordd orau o wella strwythurau cyfranogiad i wella eu dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen a’i eisiau ar bob ifanc. Dylai strwythurau cyfranogiad fod yn seiliedig ar yr egwyddor mai’r plant a’r bobl ifanc eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i fynegi’r blaenoriaethau yn eu barn nhw.
Dylai awdurdodau lleol godi ymwybyddiaeth o lwybrau cyfranogiad fel y gall pobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn unol â’u hawliau, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys sianelau digidol, ac iaith a fformatau hygyrch. Dylid cymryd camau rhagweithiol i gyrraedd ystod eang o bobl ifanc. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc, ni waeth beth yw eu cefndir, eu gallu, neu unrhyw amgylchiadau personol, yn gallu cael eu clywed mewn amgylchedd hygyrch. Dylai hyn gynnwys ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt yn derbyn gwaith ieuenctid ar hyn o bryd ac sydd o bosibl wedi ymddieithrio o leoliadau eraill, gan gynnwys ysgolion.
Dylai ymgysylltu mynych ddigwydd mewn ffordd effeithlon ac ystyrlon, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio’n benodol ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylai trefniadau fod ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn cael adborth rheolaidd ar ganlyniadau eu mewnbwn a chyfle i wneud sylwadau ar gynnydd.
Mae strwythurau cyfranogiad effeithiol yn dibynnu ar sgiliau ac arbenigedd ymarferwyr gwaith ieuenctid, yn ogystal ag ymrwymiad i fuddsoddi yn yr adnoddau sydd eu hangen i alluogi pobl ifanc i gyfrannu’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl bobl ifanc sy’n rhan o strwythurau cyfranogiad yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus.
Dylai cynlluniau strategol gynnwys manylion am y strwythurau cyfranogiad sydd wedi’u defnyddio i lywio datblygiad y cynllun strategol. Dylai cynlluniau strategol hefyd amlinellu sut y bydd pobl ifanc yn cael eu cynnwys drwy gydol cyfnod gweithredu’r cynllun.
Llunio’r cynllun strategol
Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol lunio cynllun strategol pum mlynedd ar gyfer ei ardal. Prif ddiben y cynllun strategol yw nodi’r amcanion o ran gwaith ieuenctid am y cyfnod hwnnw. Rhaid i’r amcanion fod yn seiliedig ar dystiolaeth o anghenion a chynrychioli’r prif feysydd ffocws ar gyfer datblygu gwaith ieuenctid dros gyfnod y cynllun.
Er y bydd pob cynllun yn wahanol, ar sail y boblogaeth, blaenoriaethau a phartneriaid lleol, rhaid i’r amcanion hyn gynnwys:
- sut y bydd yr awdurdod lleol, gan weithio gyda phartneriaid a sefydliadau gwirfoddol lle bo’n briodol, yn diwallu anghenion blaenoriaeth pobl ifanc yn ardal yr awdurdod lleol
- nodi a oes unrhyw anghydraddoldebau o ran darparu gwaith ieuenctid ac, os felly, sut y rhoddir sylw iddynt
- asesu pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer galwadau yn y dyfodol ar waith ieuenctid yn ystod cyfnod y cynllun
Anghenion blaenoriaeth yw’r rheini yr ystyrir ei bod yn fwyaf hanfodol rhoi sylw iddynt yn ystod cyfnod y cynllun.
I gyflawni hyn, dylai awdurdodau lleol wneud y canlynol:
- cynnwys asesiad o gryfderau’r cynnig gwaith ieuenctid presennol a pha gamau a gymerir i ehangu’r ymyriadau llwyddiannus hyn
- cynnwys asesiad o ble mae bylchau yn y cynnig gwaith ieuenctid presennol, a pha gamau a gymerir yn ystod cyfnod y cynllun i fynd i’r afael â’r bylchau hyn
- nodi unrhyw rwystrau i dderbyn darpariaeth gwaith ieuenctid bresennol yn ardal yr awdurdod lleol a pha gamau a gymerir i helpu i roi sylw i’r rhwystrau hyn yn ystod cyfnod y cynllun
Dylai’r awdurdod lleol gydweithio â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i ddatblygu amcanion y cynllun ar y cyd, gan ganolbwyntio ar gamau i wella canlyniadau i bobl ifanc fel egwyddor arweiniol. Dylai’r cynllun ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio adnoddau i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn yr ardal leol yn y ffordd orau.
Rhaid i’r cynllun strategol amlinellu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gosod yr amcanion. Rhaid i’r cynllun hefyd amlinellu sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i gynllunio a chyflenwi darpariaeth yn ei ardal.
Rhaid i’r cynllun hefyd esbonio sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i gynllunio a chyflenwi darpariaeth ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Gall hyn fod er mwyn datblygu darpariaeth ar gyfer cymunedau buddiant sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau awdurdodau lleol i gyflawni arbedion maint wrth ddarparu gwasanaethau, neu i rannu arferion arloesol. Wrth gynllunio a chyflenwi darpariaeth ar draws ffiniau awdurdodau lleol, dylai awdurdodau lleol fod yn gyson â strwythurau rhanbarthol presennol sy’n canolbwyntio ar bartneriaeth a chydweithrediad, gan gynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
I gydnabod rôl gwaith ieuenctid fel gwasanaeth ataliol, ehangder y cyfleoedd y mae’n eu cynnig i bob person ifanc a’i gysylltiadau eang â meysydd polisi eraill, dylai’r cynllun hefyd amlinellu sut y mae ei amcanion yn cyfrannu at y saith nod llesiant i Gymru fel y’u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n amlinellu ein huchelgeisiau ynghylch:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Datblygu sylfaen dystiolaeth
Rhaid i waith ieuenctid gael ei ffurfio drwy ymgysylltu â phobl ifanc i sicrhau ei fod yn cael ei siapio gan yr hyn sydd ei angen arnynt a’i eisiau ganddynt, a’i deilwra yn unol â hynny. Mae hyn yn cynnwys barn a rennir gan bobl ifanc. Mae hefyd yn manteisio ar allu ymarferwyr i nodi’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl ifanc i ddatblygu mewn modd cyfannol, ond nad yw’r bobl ifanc eu hunain wedi’u nodi neu wedi’u rhagweld o bosibl.
Dylai pob awdurdod lleol gydweithio â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i ddadansoddi tystiolaeth bresennol o’r anghenion, yn ogystal â chasglu tystiolaeth ychwanegol, lle bo angen, i helpu i lywio’r amcanion yn y cynllun strategol.
Gall tystiolaeth bosibl gynnwys:
- tystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifanc
- ymchwil ansoddol ar brofiad bywyd pobl ifanc a sut y gallant brofi gwahaniaethu, gan gynnwys hiliaeth ac anghydraddoldeb o ran rhywedd
- data ar y boblogaeth ac ar fudo, diogelwch cymunedol a chynhwysiant, addysg a sgiliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, tlodi a phrofiad o dlodi, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, llesiant, llesiant diwylliannol, a’r Gymraeg
- data ar gyfranogiad diwylliannol, artistig a chyfranogiad ym maes chwaraeon
- ystadegau’r heddlu a throseddu
- data iechyd y cyhoedd
- data economaidd-gymdeithasol
- data monitro cydraddoldeb wedi’i ddadgyfuno yn ôl yr holl nodweddion gwarchodedig
- tystiolaeth gan sefydliadau sydd â chysylltiadau cryf â grwpiau neu gymunedau penodol, a gwybodaeth o’u hanghenion, fel pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, pobl ifanc anabl a sefydliadau gwrth-hiliol
Wrth ddatblygu sylfaen dystiolaeth, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio tystiolaeth o gynlluniau a fframweithiau eraill, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu.
- Cynlluniau Cyfiawnder Ieuenctid.
- Tystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r gwaith o gynllunio a chyflenwi Fframwaith NYTH drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
- Tystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r gwaith o gynllunio a chyflenwi’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.
- Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
- Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol.
- Cynlluniau llesiant lleol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cymeradwyo’r cynllun strategol
Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â’i ddyletswydd statudol i ymgynghori o dan adran 125 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, roi trefniadau effeithiol ar waith i ymgynghori â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid, yn ogystal â phobl ifanc eu hunain, ynghylch cynnwys y cynllun strategol. Dylai trefniadau hefyd gael eu rhoi ar waith i alluogi’r rhanddeiliaid hyn i graffu ar y cynllun strategol cyn iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.
Rhaid i’r cynllun strategol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer cymeradwyaeth heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn y flwyddyn cyn y bydd y cynllun yn cael ei weithredu.
Bydd y meini prawf canlynol yn rhan o’r broses o werthuso’r cynlluniau:
- i ba raddau y mae’r cynnig gwaith ieuenctid yn gyson â’r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
- i ba raddau y bydd y cynnig gwaith ieuenctid yn diwallu anghenion blaenoriaeth pobl ifanc yn ardal yr awdurdod lleol
- i ba raddau y rhoddir sylw i’r anghydraddoldebau a nodwyd yn y ddarpariaeth
- i ba raddau y bydd camau yn cael eu cymryd yn ystod cyfnod y cynllun i roi sylw i’r galwadau ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn y dyfodol
- ansawdd ac ehangder y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lywio amcanion y cynllun
- i ba raddau y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio â sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i gynllunio a chyflenwi darpariaeth
Dylai awdurdodau lleol ystyried sefydlu trefniadau ar gyfer gwerthuso’r cynlluniau gan gymheiriaid fel rhan o’u trefniadau ehangach i sicrhau gwelliant parhaus.
Gall Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun strategol fel y’i cyflwynwyd, gofyn bod y cynllun yn cael ei addasu, cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu wrthod y cynllun. Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod y cynllun yn cael ei addasu neu’n gwrthod y cynllun, rhaid i awdurdod lleol ei ddiwygio a’i ailgyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth.
Rhaid anfon copi o’r cynllun strategol a gymeradwywyd at bwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol i gefnogi trefniadau atebolrwydd ehangach.
Rhaid i’r cynllun strategol a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol hefyd ystyried sut y bydd y cynllun strategol yn cael ei drosglwyddo i bobl ifanc mewn ffordd effeithiol i gefnogi eu cyfranogiad a’u grymuso i ddwyn partneriaid i gyfrif wrth ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid yn unol ag Erthygl 12 o CCUHP. Awgrymir bod model ‘dywedoch chi, gwnaethom ni’ yn ddull defnyddiol i sicrhau y gwneir cysylltiad clir rhwng barn pobl ifanc, sut y mae’r farn honno wedi llywio penderfyniadau a sut y gall pobl ifanc ddwyn y rheini a wnaeth y penderfyniadau i gyfrif.
Gall cynllun strategol a gymeradwywyd gael ei ddiwygio yn ystod ei gyfnod pum mlynedd o ganlyniad i angen a aseswyd. Ystyr angen a aseswyd yw angen nas rhagwelwyd ar adeg cyflwyno’r cynllun a gall gynnwys mater sy’n dod yn amlwg a achoswyd gan ddigwyddiad arwyddocaol neu duedd a brofwyd gan bobl ifanc. Dylai awdurdod lleol drafod yr angen i ddiwygio ei gynllun strategol gyda Llywodraeth Cymru ar y cyfle cyntaf. Rhaid i gynllun strategol diwygiedig hefyd gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer cymeradwyaeth. Gall Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gofyn ei fod yn cael ei addasu, ei gymeradwyo gydag addasiadau neu ei wrthod, fel y nodir uchod.
Adrodd ar gynnydd
Rhaid i awdurdod lleol roi trefniadau ar waith i fonitro cynnydd mewn perthynas â’r amcanion a nodwyd yn y cynllun strategol. Rhaid i hyn gynnwys ymgynghori â phobl ifanc yn ei ardal o leiaf unwaith bob blwyddyn ariannol ynghylch i ba raddau y maent yn credu bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei amcanion ac yn diwallu eu hanghenion.
Ar ôl ymgynghori fel y nodir uchod, rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi adroddiad o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol ar ôl cyhoeddi’r cynllun, er mwyn esbonio’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r amcanion yn ei gynllun.
Yn yr un modd â’r cynllun strategol, dylai’r awdurdod lleol ystyried sut y caiff yr adroddiad cynnydd hwn ei drosglwyddo i bobl ifanc.
Egwyddorion trawsbynciol
Cefnogi ymarferwyr
Dylai awdurdod lleol ystyried anghenion datblygu'r gweithlu wrth osod amcanion ei gynllun strategol. Dylai hyn gynnwys datblygiad parhaus ymarferwyr presennol yn ogystal â ffyrdd o gefnogi'r genhedlaeth o weithwyr ieuenctid y dyfodol, gan dynnu ar y traddodiad sefydledig o 'ddatblygu eich staff eich hun' a welir yn aml ar draws y sector gwaith ieuenctid.
Gallai hyn gynnwys ffocws ar ddatblygu sgiliau arbenigol, eu gallu a'u hyder i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â’u gallu i arwain a rheoli. Gall gynnwys sicrhau bod ymarferwyr yn parhau i ddeall profiadau bywyd pobl ifanc a'u hanghenion sy'n esblygu'n barhaus.
Gwirfoddolwyr
Mae gan wirfoddolwyr rôl ganolog yn y gwaith o lunio a gwireddu'r cynnig gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried gwirfoddolwyr fel adnodd am ddim. Dylai awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid sicrhau eu bod yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli sy'n gyfoes ac yn berthnasol, a chymryd camau i gydnabod yn llawn werth gwirfoddoli ac anghenion gwirfoddolwyr.
Mae llwyddiant yn dibynnu ar wirfoddoli sy'n ddiogel, yn gefnogol ac yn gynhwysol a'i fod yn cael ei gydnabod felly. Mae hyn yn golygu cyfleoedd gwirfoddoli sy'n adlewyrchu'n well amrywiaeth cymdeithas, diwylliant ac iaith Cymru, ac sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. I gael cyngor a chymorth, dylai awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid gysylltu â'u Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y ddarpariaeth gwaith ieuenctid
Mae gan waith ieuenctid rôl bwysig yn lleihau anghydraddoldebau trwy greu mannau diogel lle gall pobl ifanc ddysgu a thyfu a chael eu grymuso i gyflawni eu potensial. Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, rhaid i awdurdod lleol roi sylw dyledus i'r angen i ddileu neu leihau rhwystrau i ymgysylltu a chyfranogi, gan gynnwys y rhai a brofir gan bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig.
Mae gwaith ieuenctid yn grymuso pobl ifanc trwy ddatblygu eu dealltwriaeth o'u hawliau a hawliau eraill. Mae ganddo rôl bwerus wrth herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol. Felly, mae'n offeryn hanfodol sy’n cyfrannu at nodau ac uchelgeisiau amrywiaeth o bolisïau trawsbynciol gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a Chynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru.
Wrth gynllunio darpariaeth gwaith ieuenctid, dylai pawb sy'n cymryd rhan ystyried effaith croestoriadedd ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc a chymryd camau i nodi, deall a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Diogelu
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol clir i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl, yn bennaf o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo llesiant, atal anghenion rhag cynyddu, ac amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth, niwed neu esgeulustod. Mae'n nodi dyletswyddau cyffredinol hefyd ynghylch asesu, diwallu anghenion, atal, a gweithio mewn partneriaeth.
Mae gan unigolion a gyflogir gan yr awdurdod lleol ddyletswydd sefydliadol i roi gwybod am unrhyw amheuaeth o gam-drin a (neu) o esgeuluso plant ac oedolion mewn perygl a dylid eu cefnogi i gael mynediad at hyfforddiant a chyngor ar ddiogelu i gefnogi'r ddyletswydd hon. Yn ogystal, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y gofyniad am systemau diogelu cadarn yn cael ei gynnwys mewn manylebau comisiynu. Dylai awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod pobl sy'n gweithio mewn capasiti gwirfoddol yn deall prosesau diogelu'r awdurdod lleol a bod gwirfoddolwyr yn cael goruchwyliaeth a chefnogaeth i sicrhau eu bod yn cyflawni camau diogelu.
O dan Ran 7 o Ddeddf 2014, rhaid i awdurdodau lleol adrodd ac ymchwilio i bryderon am oedolion a phlant mewn perygl (adrannau 126, 128 a 130) fel y nodir yng nghanllawiau Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl.
Mae dyletswyddau diogelu plant yn cael eu hatgyfnerthu gan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Plant 2004, y mae rhannau ohonynt yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru.
Er nad oes unrhyw ofynion statudol ar sefydliadau gwirfoddol a phreifat i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl, mae’r Cod Ymarfer Diogelu yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer sut y dylid cyflawni dyletswyddau diogelu, gan bwysleisio bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb a bod yn rhaid i bob sefydliad gael trefniadau priodol ar waith.
Mae'r Cod yn nodi'r elfennau o system ddiogelu gadarn sy'n cynnwys cefnogi a hyfforddi'r gweithlu, nodi person diogelu arweiniol yn y sefydliad ac yn cynnwys gwiriadau DBS.
Y Gymraeg a gwaith ieuenctid
Un o brif amcanion Cymraeg 2050, strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yw sicrhau bod llai o bobl ifanc yn colli eu sgiliau Cymraeg wrth symud ymlaen o addysg statudol, a bod mwy ohonynt yn cyrraedd eu hugeiniau canol â meistrolaeth ar yr iaith.
Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu gan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 sy'n anelu at sicrhau, erbyn 2050, bod pob disgybl yn ddefnyddwyr annibynnol a hyderus o'r Gymraeg, o leiaf, erbyn iddynt gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol.
Mae gwaith ieuenctid yn wahanol i addysg ffurfiol. Fodd bynnag, mae ehangder y cyfleoedd a'r profiadau y mae'n eu cynnig, yn golygu bod gan waith ieuenctid rôl hanfodol i’w chwarae o ran galluogi pob person ifanc, beth bynnag fo'i allu neu ei gefndir o safbwynt y Gymraeg, i ddefnyddio ei Gymraeg gyda'i gyfoedion yn y gymuned ac ar-lein. Mae hyn yn helpu i feithrin hyder pobl ifanc i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg. Mae'r Gymraeg hefyd yn hanfodol i ddatblygu llais, dylanwad a lle person ifanc mewn cymdeithas a'i helpu i gyflawni ei botensial yn llawn.
Mae cefnogi ac ehangu cymuned o ymarferwyr sy'n hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg fel rhan o'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn rhan allweddol o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, a dylai awdurdod lleol weithio i ymwreiddio hyn yn amcanion y cynllun strategol.
Wrth ddatblygu ei gynnig gwaith ieuenctid, dylai awdurdod lleol ystyried proffil ieithyddol y boblogaeth yn ogystal ag anghenion a diddordebau pobl ifanc mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Dylent hefyd ystyried creu cyfleoedd newydd i'r rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn ymwneud â gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fel ffordd o annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio a mwynhau'r iaith a'i chynnig diwylliannol.
Dylid archwilio cyfleoedd i alinio'r amcanion yn y cynllun strategol â'r rhai mewn cynlluniau perthnasol eraill, er enghraifft Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol (Deilliant 5).
Gwaith ieuenctid digidol
Mae'r defnydd o dechnoleg ddigidol yn ganolog i'r ffordd y mae pobl ifanc yn byw eu bywydau, a gall ddarparu cymuned ychwanegol i bobl ifanc gysylltu â'u cyfoedion. O fewn gwaith ieuenctid, gallai hyn gynnwys:
- helpu pobl ifanc i ddeall sut i lywio eu bywydau ar-lein mewn ffordd ddiogel sy’n dangos parch
- defnyddio technoleg i gysylltu pobl ifanc â'u cyfoedion a chreu cynnwys
- defnyddio technoleg i alluogi pobl ifanc i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas
- darparu gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi i bobl ifanc
- helpu pobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr, cyfnewid gwybodaeth o’r fath, a meddwl yn feirniadol am gynnwys ar-lein
- prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau digidol
Dylai awdurdod lleol ystyried sut y gall technoleg ddigidol gyfoethogi ei gynnig gwaith ieuenctid, gan ystyried ar yr un pryd unrhyw annhegwch o ran mynediad digidol a sut y gellir lleihau rhwystrau o'r fath.
Dylai awdurdod lleol ystyried sut y gall weithio gyda phartneriaid i gefnogi a datblygu sgiliau a chapasiti’r gweithlu i gyflenwi darpariaeth effeithiol sy'n gwneud defnydd llawn o'r cyfleoedd a gynigir gan dechnoleg.
Gwaith chwarae a gwaith ieuenctid
Fel y nodwyd mewn mannau eraill yn y fframwaith hwn, mae cydweithio rhwng awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried cyfleoedd i gydweithio wrth gynllunio a chyflenwi gwaith chwarae a gwaith ieuenctid. Mae'r ddau sector yn rhannu pwyslais ar gyfranogiad, ymarfer perthynol a chyflenwi yn y gymuned. Pan fyddant wedi'u halinio, gall y ddau sector hyn wella effaith ei gilydd a gwella profiadau a deilliannau. Gall arwain at ddatblygu perthnasoedd o ymddiriedaeth tymor hwy gydag unigolion wrth iddynt bontio rhwng plentyndod, llencyndod a byd oedolion ifanc.
Wrth ddatblygu eu cynllun strategol gwaith ieuenctid, dylai awdurdodau lleol dynnu ar waith mewn perthynas â'r gofynion a nodir yn 'Cymru: Gwlad Lle mae Cyfle i Chwarae' a'r wybodaeth a gynhwysir mewn Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Gwaith ieuenctid rhyngwladol
Mae gwaith ieuenctid yn darparu llwyfan unigryw i bobl ifanc fyfyrio ar brofiadau personol, deall safbwyntiau eraill yn well ac archwilio'r hyn sy'n eu huno nhw â'u cyfoedion. Mae'r profiadau a gynigir gan waith ieuenctid rhyngwladol yn arbennig o werthfawr wrth ddatblygu hunanhyder ac annibyniaeth pobl ifanc a sefydlu cysylltiadau a rhwydweithiau â phobl ifanc eraill ledled y byd.
Dylai awdurdod lleol, sy'n gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid, ystyried sut y gall gwaith ieuenctid rhyngwladol ategu ei gynnig gwaith ieuenctid, gan fynd i'r afael â rhwystrau sy’n atal cyfranogiad ar yr un pryd.
Arloesi
Dylai awdurdod lleol weithio gyda sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid i nodi arferion gorau, rhannu ei ganfyddiadau ag eraill, dysgu o astudiaethau academaidd a gwerthusiadau a gynhaliwyd gan eraill yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn ystyried sut y gall y rhain i gyd lywio a gwella'r cynnig gwaith ieuenctid i bobl ifanc. Fel y’i nodir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, mae'n hanfodol bod sefydliadau gwaith ieuenctid hefyd yn cael eu cefnogi i ddatblygu a gweithredu mentrau arloesol a chydweithredol gydag ystod eang o bartneriaid, er mwyn sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall bob amser.
Gall arloesi helpu i nodi gwahanol ffyrdd o weithio, rhannu syniadau i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol a meithrin ei chynaliadwyedd, cefnogi trawsnewid, a sbarduno’r gwaith o greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc. Dylai awdurdod lleol sicrhau bod arloesi yn rhan annatod o’r broses o ddatblygu, cyflenwi a monitro'r cynllun strategol yn ogystal â gwireddu ei gynnig gwaith ieuenctid.
Geirfa
Partneriaid
Person neu gorff, ac eithrio sefydliad gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau i bobl ifanc yn ardal yr awdurdod lleol.
Cyfleoedd wedi'u targedu
Cyfleoedd wedi'u targedu yw darpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gan gynnwys timau allgymorth yn y gymdogaeth a thimau allgymorth gwaith stryd, gwasanaethau cyngor ac arweiniad i bobl ifanc, timau cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau iechyd rhywiol a chymorth digartrefedd.
Cyfleoedd cyffredinol
Mae cyfleoedd cyffredinol, neu fynediad agored, yn ddarpariaeth gwaith ieuenctid sy'n agored i bob person ifanc ei mynychu'n wirfoddol. Gall gynnwys amrywiaeth o weithgareddau hamdden, diwylliannol, chwaraeon a chyfoethogi, yn aml o amgylch canolfannau ieuenctid, ac sy'n cael eu darparu'n gyffredinol mewn partneriaeth â chymunedau lleol.
Sefydliad gwirfoddol
Mae sefydliadau gwirfoddol yn gyrff (ac eithrio cyrff sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) y mae eu gweithgareddau yn cael eu cyflawni nid er elw ac sydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i ardal gyfan yr awdurdod lleol neu unrhyw ran ohoni.
Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol – y rhai sy'n arbenigo mewn gwaith ieuenctid – yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwaith ieuenctid fel rhan o gylch gwaith ehangach.
Gwirfoddolwr
Person y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni nid er elw ac sydd o fudd uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ardal gyfan yr awdurdod lleol neu unrhyw ran ohoni. Mae gwirfoddoli yn weithgaredd sy'n cael ei wneud yn rhydd, trwy ddewis, sy'n cael ei wneud er budd i'r cyhoedd neu'r gymuned, ac nid yw'n cael ei wneud er budd ariannol.
Person Ifanc
Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, mae person ifanc yn berson sydd wedi troi’n 11 oed, ond nad yw’n 26 oed. Mae pobl ifanc yn golygu’r un peth â phersonau ifanc lle bynnag y defnyddir y term hwnnw yn y canllawiau hyn.
Gwasanaethau cymorth ieuenctid
Gwasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo pobl ifanc yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i chwarae rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant, manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, a chwarae rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.
Gweithiwr cymorth ieuenctid
Person sy'n perthyn i'r categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Gwaith ieuenctid
Gwasanaethau a ddarperir o fewn y gwasanaeth cymorth ieuenctid gan ddefnyddio dull addysgol neilltuol, sy'n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc
(a) sy'n cael ei arwain gan weithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid a gyflogir neu sy'n ymwneud fel arall (gan gynnwys ar sail wirfoddol) ag awdurdod lleol, partner neu sefydliad gwirfoddol a
(b) a gyflwynir gan un neu ragor o'r canlynol —
(i) awdurdod lleol,
(ii) partner
(iii) mudiad gwirfoddol
Y cynnig gwaith ieuenctid
Darparu gwaith ieuenctid a bennir gan awdurdod lleol i fodloni'r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid i bobl ifanc yn ei ardal.
Cynllun strategol gwaith ieuenctid
Cynllun sy'n nodi sut y bydd gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi a'i ddatblygu mewn ardal awdurdod lleol dros gyfnod o bum mlynedd.
Gweithiwr ieuenctid
Person sy'n perthyn i'r categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
