Gwaith ieuenctid yng Nghymru - darparu ar gyfer pobl ifanc: asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant (CRIA) ar y fframwaith newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion polisi
Cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yw’r penderfyniad y mae ei effaith yn cael ei hasesu. Mae'r penderfyniad hwn yn canolbwyntio ar weithredu canllawiau statudol newydd a chyfarwyddydau statudol cysylltiedig a fyddai'n gosod gofynion ar awdurdodau lleol o ran sut y mae gwaith ieuenctid ar gyfer unigolion 11 i 25 oed yn cael ei gynllunio, ei gyflenwi a'i fonitro ledled y wlad. Mae'r fframwaith yn cynnwys safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys y gofyniad i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei gynllunio trwy ymgysylltu â phobl ifanc a bod gwasanaethau hygyrch ar gael yn hwylus iddynt. Mae agweddau eraill ar y fframwaith yn cynnwys gofynion i awdurdodau lleol ddatblygu cynllun strategol gwaith ieuenctid pum mlynedd, adrodd yn flynyddol ar gynnydd, a gweithio ar y cyd â phartneriaid gwirfoddol a phartneriaid eraill i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid lleol cynhwysfawr. Mae'r mesurau hyn yn rhan o newid tuag at ddull mwy strwythuredig ac atebol sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Ymchwil a Data presennol sy'n Llywio'r Polisi
Mae ymgysylltu helaeth, law yn llaw ag ymgynghoriad ffurfiol, wedi'i gynnal i ddatblygu a mireinio'r fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae hyn wedi cynnwys:
- cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gyda chynrychiolwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt i archwilio materion a themâu penodol cyn ymgynghori
- ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Hydref 2024 a mis Ionawr 2025
- gwahodd gweithwyr ieuenctid sydd eisoes â chysylltiadau â phobl ifanc i drafod y cynigion drafft a bwydo'n ôl eu hargraffiadau a meysydd i'w gwella
- ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau ffocws o bobl ifanc
- tasglu o gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid i ystyried y materion a gododd ar draws y gwahanol ddulliau ymgysylltu hyn ac archwilio dulliau sy'n mynd i'r afael â'r materion hynny
Ar draws y gwahanol feysydd hyn, rydym wedi annog y canlynol i gymryd rhan:
Plant a'u cynrychiolwyr
Anogwyd gweithwyr ieuenctid yn benodol i hwyluso trafodaethau gyda phobl ifanc i'w helpu i ddeall y newidiadau arfaethedig a'u cefnogi i rannu eu profiadau a'u barn gyda Llywodraeth Cymru ar ein cynigion a sut y gellid eu cryfhau. Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws gyda phobl ifanc yn hydref 2024 hefyd, i gasglu adborth strwythuredig gan bobl ifanc amrywiol.
Pobl â nodweddiongwarchodedig
Ar draws y gwahanol feysydd a nodir uchod, gwahoddwyd ymatebion gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau sy'n ymwneud â dylunio a chyflenwi gwaith ieuenctid. Roedd hyn hefyd yn cynnwys sefydliadau sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi pobl ifanc â nodweddion gwarchodedig, gan ein helpu i ddeall yn well sut y gellid cryfhau'r fframwaith o ran ei gefnogaeth i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Fe lwyddodd y grwpiau ffocws wedi'u targedu ymgysylltu â 22 o bobl ifanc trwy sesiynau trafod a 19 o bobl ifanc drwy arolwg. Roedd y bobl ifanc hynny a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws rhwng 11 a 21 oed ac yn dod o dair ardal awdurdod lleol gwahanol. Hwyluswyd y drafodaethau hyn gan sefydliadau gydag arbenigedd mewn cyd gynhyrchu â chynhwysiant dinasyddion. Roedd ymatebwyr yr arolwg rhwng 16 a 24 oed ac yn dod o o leiaf 7 ardal awdurdod lleol (dewisodd rhai ymatebwyr beidio â rhannu manylion am ble roedden nhw'n byw). Roedd yr ymatebwyr hyn yn cynnwys pum siaradwr Cymraeg.
Fe glywsom bod pobl ifanc eisiau i waith ieuenctid fod yn hygyrch, croesawgar, hyblyg, ac yn wirioneddol gyd-gynllunio. Roeddent yn teimlo bod y diffiniad o waith ieuenctid o fewn y fframwaith drafft yn rhy ffurfiol a phwysleisiodd bwysigrwydd cydnabod natur berthynas, anffurfiol a gwirfoddol gwaith ieuenctid. Fe wnaethant ddisgrifio rhwystrau fel trafnidiaeth, hyder, ymwybyddiaeth, anabledd, ac amseroedd agor anaddas, a nodi delfryd o ddarpariaeth cynnig mannau diogel, gweithgareddau amrywiol, oedolion cefnogol, a chyfleoedd ar gyfer creadigrwydd a chymdeithasu. Roedden nhw'n ffafrio'n gryf cyfranogiad ystyrlon, gan gynnwys gwerthusiad wedi ei arwain gan gymheiriaid ac adborth rheolaidd gydag ymatebion gweladwy yn dilyn y ffurf "dyma dywedoch chi, a dyma rydym ni wedi ei wneud". Fe wnaeth eu mewnbwn lunio'r pwyslais ar gyfathrebu cliriach, safonau cyfranogiad gofynnol, a chydbwyso anghenion cyffredinol ac arbenigol o fewn cynllunio gwaith ieuenctid.
Mae siaradwyr Cymraeg a sefydliadau sy'n rhoi ffocws penodol ar ddarparu gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi darparu ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein cynigion drafft. Gofynnwyd cwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r Gymraeg a sut y gallai'r cynigion gefnogi ein huchelgeisiau ehangach fel y nodir yn y strategaeth Cymraeg 2050. Roedd y tasglu a sefydlwyd i weithio'n fanwl gyda ni ar fireinio ein cynigion yn cynnwys cynrychiolydd o sefydliad gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
At hyn, yn ogystal â'r weledigaeth strategol sydd wedi'i hymwreiddio yn y canllawiau, mae’r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn y fframwaith terfynol yn ffocws ar sicrhau bod gwaith ieuenctid yn hygyrch, yn ymatebol i anghenion amrywiol, ac yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda’r bobl ifanc eu hunain. Mae'r canllawiau arfaethedig hefyd yn adlewyrchu blaenoriaethau trawslywodraethol a fframweithiau polisi presennol sy'n gysylltiedig ag addysg, llesiant, a hawliau plant, gan ddangos bod polisi gwaith ieuenctid yn cysylltu â meysydd polisi ehangach fel nodau addysg ehangach, polisi'r Gymraeg, a phwysigrwydd cyfranogiad ieuenctid.
Effeithiau Cadarnhaol a Negyddol Disgwyliedig ar Wahanol Grwpiau o Blant a Phobl Ifanc
Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob person ifanc rhwng 11 i 25 oed. Mae gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd a hunaniaethau, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), pobl ifanc anabl, y rhai sy'n byw mewn tlodi, pobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, mudwyr, pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, pobl ifanc LHDTC+, a siaradwyr Cymraeg. Weithiau mae gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi fel darpariaeth gyffredinol yn ogystal â thrwy gymorth wedi'i dargedu i grwpiau a allai wynebu rhwystrau ychwanegol neu sy'n fwy bregus.
Pan fydd dyletswyddau statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yn cael eu cyflwyno, disgwylir i hynny greu mynediad mwy cyson a dibynadwy at gymorth i bobl ifanc ledled Cymru. Tynnodd pobl ifanc ac ymarferwyr sylw at bwysigrwydd cydberthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, addysg anffurfiol, ac eglurder ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan waith ieuenctid; mae'r fframwaith newydd yn cryfhau'r elfennau hyn trwy wneud cynllunio strategol ac atebolrwydd yn ofynnol. Mae hyn o fudd i bobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn wynebu darpariaeth anghyson, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd dan anfantais neu ardaloedd sydd wedi'u tanwasanaethu yn y gorffennol. Mae pwyslais y fframwaith ar ymgysylltu gwirfoddol a gweithio ar y cyd â phobl ifanc yn cefnogi eu hawliau cyfranogi ac yn sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei lunio o amgylch eu hanghenion a nodwyd. Mae'r pwyslais ar feysydd megis cyflenwi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a diwylliannol berthnasol yn cryfhau’r cyfleoedd i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg a'r rhai sy'n ceisio cefnogaeth sy’n ddiwylliannol gadarnhaol. Rhagwelir y bydd sector gwaith ieuenctid mwy proffesiynol, gyda chefnogaeth llwybrau sy’n fwy clir a mwy o ymgysylltu â hyfforddiant, yn gwella ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth, tra bod y fframwaith hefyd yn cydnabod bod eraill nad oes ganddynt gymwysterau proffesiynol o bosibl yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol.
Mae gwaith ieuenctid yn cael ei gydnabod fel gwasanaeth pwysig i wella hyder, gwydnwch, a lles pobl ifanc. Gall dulliau cyflenwi cydweithredol a lleol hefyd gynyddu hygyrchedd a lleihau dyblygu, gan gefnogi'n anuniongyrchol gyfleoedd mwy cynaliadwy a chymunedol i bobl ifanc.
Er gwaethaf y bwriadau cadarnhaol hyn, gall sawl risg effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc. Bydd y dyletswyddau statudol cryfach yn gofyn am gapasiti ychwanegol gan awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, a phartneriaid, yn enwedig yn ystod camau cynnar gweithredu. Tra y gallai hyn arwain at lai o fynediad at waith ieuenctid neu darfu dros dro, gan effeithio ar bobl ifanc sy'n dibynnu ar gymorth cyson, ni rhagwelir y bydd yr effaith hwn yn sylweddol. Mae ansicrwydd cyllido yn peri pryder sylweddol, oherwydd gallai capasiti ariannol anwastad ar draws rhanbarthau arwain at welliannau anghyfartal, gyda chynnydd arafach mewn rhai cymunedau. Gall hyn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc sydd eisoes yn wynebu anfantais neu'r rhai mewn ardaloedd gwledig. Efallai y bydd uchelgeisiau i ehangu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyfyngu gan y prinder presennol o ymarferwyr sy'n siarad Cymraeg, gan beri risg y bydd mynediad i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn anghyson. Os oes pwysau ar adnoddau, gall darpariaeth arbenigol neu wedi'i thargedu, er enghraifft ar gyfer pobl ifanc anabl, pobl ifanc LHDTC+, neu rai o gefndiroedd ethnig leiafrifol, ddod yn anoddach i'w chynnal, gan leihau cynhwysiant. Yn gyffredinol, heb fuddsoddiad digonol a heb ddatblygu'r gweithlu, efallai na fydd manteision y fframwaith yn cael eu gwireddu'n gyfartal i bob grŵp o blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod nad yw'r risgiau hyn wedi codi o ganlyniad i gyflwyno'r fframwaith statudol hwn. Mae mynd i'r afael â'r her o gyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid, ac i gyflwyno cynnig gwaith ieuenctid sy'n diwallu anghenion pobl ifanc, yn gofyn am ddull systemig ar draws nifer o ffrydiau gwaith.
Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, mynegwyd pryderon gan gynrychiolwyr rhai sefydliadau gwirfoddol yn benodol y gallai’r fframwaith arwain at sector ‘dwy haen’ yn hytrach na sbarduno cydweithredu rhwng sefydliadau ar draws y sector.
Mae'r fframwaith yn cyflwyno dull cynllunio ac atebolrwydd newydd ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith ieuenctid. Er bod angen cydnabod y bydd darpariaeth adnoddau yn ystyriaeth allweddol wrth osod amcanion o fewn Cynlluniau Strategol Gwaith Ieuenctid, mae'n bwysig nodi nad yw heriau mewn perthynas â chyllido darpariaeth gwaith ieuenctid o ganlyniad i gyflwyno'r fframwaith hwn. Bydd y fframwaith yn darparu dull cyson o gynllunio ac atebolrwydd gwaith ieuenctid, gyda'r nod o adeiladu cysylltiad clir rhwng anghenion pobl ifanc a chamau i'w cymryd gan awdurdodau lleol – gyda'u partneriaid – i fynd i'r afael â'r anghenion hynny. Bydd hyn yn helpu i adeiladu gwell dealltwriaeth o effaith gwaith ieuenctid, a fydd yn ei dro yn helpu i ddiogelu a sicrhau adnoddau ar gyfer gwaith ieuenctid.
Gwaith Cyfranogi gyda Phlant a Phobl Ifanc
Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau cyfranogi yn cynnwys plant a phobl ifanc i lywio datblygiad y fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Anogwyd gweithwyr ieuenctid â chysylltiadau sefydledig i gynnal trafodaethau gyda phobl ifanc, gan eu helpu i ddeall y cynigion a'u cefnogi i rannu eu barn yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Bu hyn yn gymorth i sicrhau bod profiadau bywyd a blaenoriaethau pobl ifanc yn dylanwadu ar ddyluniad y fframwaith, a bod y sgyrsiau hyn wedi’u cynnal yng nghyd-destun eu prosesau ymgysylltu presennol â darpariaeth gwaith ieuenctid.
Cynhaliwyd gwaith ymgysylltu wedi'i dargedu hefyd ar ffurf grwpiau ffocws strwythuredig a gynhaliwyd ar ddiwedd 2024. Aeth y sesiynau hyn ati i gasglu mewnwelediadau manwl gan bobl ifanc o wahanol gefndiroedd, gan alluogi swyddogion i archwilio sut y gallai cynigion effeithio ar grwpiau amrywiol a nodi meysydd lle gellid cryfhau'r drafft.
Yn ogystal, bu grŵp gorchwyl a gorffen, yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid, ar y cyd â swyddogion, yn ystyried y materion a godwyd trwy’r prosesau ymgynghori ac ymgysylltu. Roedd gan lawer o'r cynrychiolwyr hyn gysylltiad agos â phobl ifanc ac aethant ati i rannu eu safbwyntiau, gan helpu i fireinio atebion a sicrhau bod y polisi yn adlewyrchu anghenion a dyheadau'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith
| Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn | Yn Gwella (X) | Yn Herio (X) | Esboniad |
|---|---|---|---|
| Erthygl 2: Peidio â gwahaniaethu | X | X | Er bod y fframwaith yn anelu at wella cynhwysiant a lleihau rhwystrau i bobl ifanc ymylol, roedd ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi y gallai dyletswyddau statudol cryfach ac ansicrwydd ariannu greu capasiti anwastad ar draws rhanbarthau, gan effeithio ar ddarpariaeth arbenigol neu wedi'i dargedu ar gyfer grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, fel y nodir uchod – nid yw'r fframwaith yn cyflwyno unrhyw newidiadau uniongyrchol o ran cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid, ond yn hytrach yn darparu dull cyson a thryloyw mewn perthynas â gwaith ieuenctid. |
| Erthygl 3: Buddiannau gorau'r plentyn | X | Mae dylunio gwasanaeth yn cael ei arwain gan anghenion, yn seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar les pobl ifanc. Bydd cyfranogiad gweithredol pobl ifanc yn y gwaith o ddylunio a chyflawni'r ddarpariaeth (drwy ddatblygu cynlluniau strategol lleol) yn cefnogi Erthygl 3. | |
| Erthygl 6: Bywyd, goroesi a datblygiad | X | Mae gwaith ieuenctid yn cefnogi datblygiad diogel, perthnasoedd dibynadwy, a lleihau risg. Bydd y fframwaith statudol yn atgyfnerthu'r gwaith o ddylunio a chyflawni gwaith ieuenctid yng Nghymru. | |
| Erthygl 12: Hawl i wrandawiad | X | Mae llais ieuenctid wedi'i ymwreiddio drwyddi draw - pobl ifanc sy'n llunio'r gwaith dylunio, y gwaith gwerthuso, a'r gwaith o osod blaenoriaethau. Mae’r fframwaith statudol yn gosod anghenion o rhan strwythurau ffurfiol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc. Mae'r fframwaith statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dylunio a chyflenwi gwaith ieuenctid. Gellid cryfhau hyn trwy alinio dyletswyddau cyfranogiad yn benodol â Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc i sicrhau bod cyfranogiad pobl ifanc yn gyson ac o ansawdd uchel. | |
| Erthygl 13: Rhyddid mynegiant | X | Mae gwaith ieuenctid yn darparu amgylcheddau diogel a chyfleoedd ar gyfer hunanfynegiant. O ran y fframwaith statudol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi’r gwaith ieuenctid, gan annog rhyddid mynegiant ar y mater hwn. | |
| Erthygl 15: Rhyddid i ymgysylltu | X | Mae gwaith ieuenctid yn cynnig mannau diogel ac yn annog cyfranogiad mewn grwpiau a bywyd cymunedol. Bydd y cynnig gwaith ieuenctid, a gyflwynir drwy'r fframwaith statudol newydd, yn cael ei deilwra i'r hyn y mae pobl ifanc ei angen ac yn ei ddymuno yn eu hardal. Bydd cynlluniau strategol, a gyflwynir drwy'r fframwaith statudol, yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant i Gymru, gan gynnwys y nod o Gymru o gymunedau cydlynus. | |
| Erthygl 17: Mynediad at wybodaeth | X | Mae gweithwyr ieuenctid yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth ddarparu arweiniad i gefnogi dewisiadau gwybodus ynghylch iechyd, hawliau, addysg a llesiant, yn ogystal â chyfeirio pobl ifanc at ffynonellau gwybodaeth eraill, yn unol â’u hanghenion a’u blaenoriaethau. | |
| Erthygl 24: Iechyd a llesiant | X | Mae gwaith ieuenctid yn hyrwyddo lles meddyliol, dewisiadau iach, a chymorth ataliol. Bydd cynlluniau strategol, a gyflwynir drwy'r fframwaith statudol, yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant i Gymru, gan gynnwys y nod o Gymru iachach. | |
| Erthygl 28/29: Addysg a datblygu | X | Mae gwaith ieuenctid yn cryfhau sgiliau, yn cefnogi ymgysylltu addysgol, ac yn hyrwyddo datblygiad cyfannol. Hefyd, mae’r fframwaith yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith ieuenctid fel elfen allweddol o’r system addysg yng Nghymru. | |
| Erthygl 30: Hawliau lleiafrifol a diwylliannol/ieithyddol | X | Gall gwaith ieuenctid fod o fudd i bobl ifanc o amrywiaeth o wahanol grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys y rhai nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf. Mae gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac yn cefnogi’r nodau a amlinellir yn Cymraeg 2050. Bydd cynlluniau strategol, a gyflwynir drwy'r fframwaith statudol, yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant i Gymru, gan gynnwys y nod o Gymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Bydd rhaid i awdurdodau lleol ddadansoddi tystiolaeth yn ymwneud ag anghenion pobl ifanc yn ogystal â data’r boblogaeth, a allai gynnwys data ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal ag anghenion ieithyddol pobl ifanc. | |
| Erthygl 31: Hamdden, chwarae a chyfranogiad diwylliannol | X | Mae gwaith ieuenctid yn helpu i sicrhau mynediad at brofiadau celfyddydol, chwaraeon, hamdden a diwylliannol i bobl ifanc. | |
| Erthygl 36: Dylid amddiffyn plant rhag unrhyw weithgareddau a allai niweidio eu datblygiad | X | Mae gwaith ieuenctid, trwy ddull sy'n seiliedig ar hawliau a ffocws ar ddatblygiad holistaidd, yn cynnig cymorth hygyrch, ymatebol a chyfleoedd cadarnhaol sy'n lleihau risg, cryfhau lles, a sicrhau bod pobl ifanc yn profi mannau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddiogelu a meithrin eu twf. | |
| Erthygl 42: Gwybod am hawliau | X | Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i "gael mynediad at eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus.” |
Yn seiliedig ar y dystiolaeth yn yr Asesiad Effaith Integredig, mae'r cynnig yn annhebygol o greu unrhyw effeithiau negyddol penodol ar hawliau dinasyddion yr UE, AEE neu'r Swistir o dan 18 oed.
Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid wedi'u dylunio i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob person ifanc rhwng 11 i 25 oed, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd mudol, sy'n ceisio lloches neu leiafrifol, sy'n cael eu cydnabod yn benodol fel grwpiau a allai brofi gwahaniaethu neu rwystrau i gyfranogiad. Mae'r canllawiau'n tynnu sylw at y ffaith bod grwpiau o'r fath yn aml yn wynebu risgiau cymhleth a gallant brofi canlyniadau gwaeth o ran iechyd meddwl neu lai o gyfleoedd oherwydd allgáu, ac y dylai gwaith ieuenctid fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn trwy ddarpariaeth wedi'i theilwra, sy'n seiliedig ar hawliau a chynigion ieuenctid lleol hygyrch. Oherwydd y gall plant a phobl ifanc yr UE sy'n byw yng Nghymru rannu nodweddion tebyg, o ran bod yn fwy agored i niwed, mae pwyslais y fframwaith ar gynhwysiant, peidio â gwahaniaethu, mannau diogel, ymatebolrwydd diwylliannol, a chyfranogiad yn helpu i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu cefnogi yn unol â'r CCUHP. Nid oes unrhyw elfennau o'r cynnig yn cyflwyno amodau sy'n gysylltiedig â phreswyliad nac yn cyfyngu ar fynediad at waith ieuenctid yn seiliedig ar genedligrwydd, ac felly mae'r fframwaith yn cyd-fynd â hawliau pobl ifanc yr UE, AEE a'r Swistir hyd at 18 oed, yn hytrach na'u herio.
Cyngor Gweinidogol a Phenderfyniad y Gweinidog
Bydd y dadansoddiad o'r effeithiau yn llywio cyngor gweinidogol trwy dynnu sylw at y ffaith bod y fframwaith statudol yn darparu manteision sylweddol i bobl ifanc, megis gwell cysondeb, ymarfer cryfach sy'n seiliedig ar hawliau, gwell cyfranogiad, a chanlyniadau gwell o ran llesiant, gan fynd ati ar yr un pryd i nodi risgiau gweithredu realistig sy'n ymwneud â chapasiti’r gweithlu, pwysau ariannu, a straen ar y‑sector gwirfoddol. Bydd y canfyddiadau hyn yn cefnogi cyngor cytbwys sy'n pwysleisio gwerth strategol cyflwyno'r ddyletswydd a'r angen am gamau lliniaru risg, gan gynnwys y risgiau parhaus yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid, gan gynnwys buddsoddiad parhaus, dysgu proffesiynol cryfach, cefnogaeth i gyflenwi drwy gyfrwng y Gymraeg, a disgwyliadau cymesur ar gyfer awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Bydd hyn yn sicrhau bod gweinidogion yn derbyn asesiad llawn a gonest o'r canlyniadau disgwyliedig ynghyd â'r camau sy'n ofynnol i sicrhau bod y fframwaith yn deg a bod modd ei gyflawni, gan adlewyrchu'r dystiolaeth o gyfyngiadau o ran capasiti ac ansicrwydd cyllido a godwyd trwy ymgynghori a dadansoddiadau o'r effaith.
Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
Gofynnwyd yn benodol i sefydliadau gwaith ieuenctid gasglu barn pobl ifanc ar y fframwaith drafft drwy ddefnyddio eu cysylltiadau o ymddiriedaeth presennol i hwyluso trafodaethau, gan helpu pobl ifanc i ddeall y cynigion a'u cefnogi i rannu eu profiadau, eu blaenoriaethau a'u hawgrymiadau gyda Llywodraeth Cymru. Wrth i'r fframwaith symud tuag at gael ei gwblhau, byddwn yn adeiladu ar yr un sianeli hyn trwy gyfathrebu'r canlyniad terfynol yn ôl i bobl ifanc trwy sefydliadau gwaith ieuenctid, strwythurau cyfranogi lleol a grwpiau ffocws, gan sicrhau bod yr adborth yn eu cyrraedd mewn ffyrdd sy'n teimlo'n gyfarwydd ac yn hygyrch. Yn ogystal, byddwn yn drafftio cyfathrebiadau pwrpasol, sy'n briodol i'w hoedran i ddangos yn glir sut y mae eu cyfraniadau wedi llywio’r fframwaith terfynol ac er mwyn sicrhau bod pob person ifanc, waeth a ydynt yn ymgysylltu'n uniongyrchol ai peidio, yn gallu deall y penderfyniadau'n hawdd a’u goblygiadau iddynt – gan gynnwys fersiwn pobl ifanc o’r fframwaith derfynol.
Monitro ac Adolygu
Bydd y CRIA yn cael ei fonitro a'i adolygu yn unol â'r trefniadau monitro ehangach a nodir ar gyfer y fframwaith statudol. Bydd effaith gyffredinol y fframwaith statudol ar waith ieuenctid yn cael ei hadolygu drwy fecanweithiau statudol sy'n ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynhyrchu cynllun gwaith ieuenctid strategol pum mlynedd, ynghyd ag adroddiadau cynnydd blynyddol a strwythurau atebolrwydd sy'n gysylltiedig ag arolygiadau, sydd gyda'i gilydd yn darparu sylfaen dystiolaeth barhaus ar gyfer asesu y gwaith cyflenwi a’r canlyniadau. Bydd y cynlluniau cyntaf yn cychwyn ym mis Ebrill 2027 ac yn para tan fis Mawrth 2032. Bydd yr un cylchoedd hyn yn darparu'r sylfaen ar gyfer adolygu'r CRIA - fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu, byddwn yn ailymweld â'r CRIA cyhoeddedig, yn diweddaru'r asesiad yng ngoleuni tystiolaeth sy’n dod i’r fei, ac yn integreiddio’r canfyddiadau i unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r fframwaith.
Yn seiliedig ar y dadansoddiad cyfredol, nid oes angen gwneud diwygiadau ar unwaith i'r polisi ei hun; fodd bynnag, mae'r IIA ehangach yn nodi risgiau allweddol o ran gweithredu, yn enwedig o ran capasiti’r gweithlu, ansicrwydd ynghylch cyllido, ac amrywioldeb ar draws awdurdodau lleol, a allai olygu bod angen gwneud addasiadau i weithredu yn hytrach nag i sylwedd y fframwaith. Felly, gall y broses adolygu nodi bod angen cefnogaeth gryfach ar awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, bod angen datblygu'r gweithlu i raddau mwy helaeth (gan gynnwys y capasiti cyfrwng Cymraeg), neu fod angen canllawiau mwy clir er mwyn helpu i sicrhau cyflenwi tecach. Byddai unrhyw ddiwygiadau o'r fath yn canolbwyntio ar gymorth i weithredu, nid ar newid y fframwaith statudol craidd, gan sicrhau bod y polisi yn parhau i gynnal a gwella hawliau plant ac y gellir ei gyflawni yn yr un modd. Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys pwynt adolygu, lle bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru asesu i ba raddau y mae'r amcanion arfaethedig ar gyfer y fframwaith hwn wedi'u cyflawni ac a oes angen mabwysiadu dulliau eraill.
