Gwaith ieuenctid yng Nghymru - darparu ar gyfer pobl ifanc: asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar y fframwaith newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i'r strategaeth newydd, ac mae'r targed o filiwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae iaith Gymraeg sy'n ffynnu yn un o'r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd.
Mae rhwymedigaeth statudol arnom hefyd i roi ystyriaeth lawn i effeithiau'n gwaith ar y Gymraeg. Mae hynny'n golygu y dylai unrhyw bolisi Llywodraeth Cymru ystyried sut mae ein polisïau'n effeithio ar yr iaith a'r bobl sy'n ei siarad.
Mae tair thema gydgysylltiedig i strategaeth Cymraeg 2050:
Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Trosglwyddo’r iaith o fewn y teulu.
- Y blynyddoedd cynnar.
- Addysg statudol.
- Addysg ôl-orfodol.
- Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau.
Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Y gweithle.
- Gwasanaethau.
- Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.
Thema 3: Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
- Cymuned a’r economi.
- Diwylliant a’r cyfrynga.
- Cymru a’r byd ehangach.
- Technoleg ddigidol.
- Seilwaith ieithyddol.
- Cynllunio ieithyddol.
- Gwerthuso ac ymchwil.
Mae’r penawdau o dan bob thema yn amlinellu cwmpas gweithgareddau sy’n gallu effeithio ar yr iaith.
Yn gyffredinol, os oes gan eich polisi’r potensial i effeithio ar bobl, bydd yn effeithio mewn rhyw ffordd ar siaradwyr Cymraeg ac felly ar y Gymraeg.
A yw'r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth llywodraeth cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050 miliwn o siaradwyr Cymraeg a'r rhaglen waith gysylltiedig ar gyfer 2021 i 2026
Ydy. Mae gan waith ieuenctid rôl bwysig yn arbennig o safbwynt helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, gyda darpariaeth gwaith ieuenctid yn cynnig cyfleoedd i lawer o bobl ifanc fagu hyder yn yr iaith mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae'r fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yn nodi ein disgwyliadau o ran sut y gall hyn helpu i gefnogi un o brif amcanion Cymraeg 2050 –sicrhau bod llai o bobl ifanc yn colli eu sgiliau Cymraeg wrth symud ymlaen o addysg statudol, a bod mwy ohonynt yn cyrraedd eu hugeiniau canol â meistrolaeth ar yr iaith – gydag adran benodol yn y canllawiau statudol i egluro mwy am ein disgwyliadau yn hyn o beth.
Yn gyfochrog ag un o nodau rhaglen waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26 i ddatblygu rhaglenni i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, mae gwaith ieuenctid yn darparu cyfleoedd a phrofiadau amhrisiadwy i bobl ifanc, beth bynnag fo'u gallu neu eu cefndir o safbwynt y Gymraeg, i ddefnyddio eu Cymraeg gyda'u cyfoedion yn y gymuned ac ar-lein, gan feithrin hyder pobl ifanc i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg.
Ar ben hynny, bydd y canllawiau yn cyfarwyddo Awdurdodau Lleol i ystyried eu strategaethau o ran hyrwyddo'r Gymraeg, gyda'r nod o sicrhau bod gwasanaethau gwaith ieuenctid mewn ardaloedd lleol yn cyd-fynd â'r strategaethau hyn.
Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith (effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol)
Fel y cydnabyddir yn y fframwaith, mae gan waith ieuenctid rôl bwysig wrth ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg gyda chyfoedion, a magu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain. Am y tro cyntaf mewn cyd-destun deddfwriaethol yng Nghymru, mae'r fframwaith yn cyflwyno gofyniad i awdurdodau lleol sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddangos tystiolaeth hefyd o'r ffordd y mae wedi bodloni'r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid – sy'n cynnwys nod i gyflwyno, diogelu a chryfhau gweithgareddau a gyflwynir yn y Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd cymunedol eraill lle bo hynny'n berthnasol. Nod y gofynion hyn yw codi statws gwaith ieuenctid a sicrhau cysondeb yn y ffordd y mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynllunio a'i gyflenwi, gyda’r gofynion hyn yn eu tro yn helpu i gefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith drwy ddiogelu ac ehangu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae disgwyliad bod darpariaeth gwaith ieuenctid yn anelu at gyflwyno, amddiffyn a chryfhau gweithgareddau a gyflwynir yn y Gymraeg a'r Saesneg yn un o'r safonau cenedlaethol a nodir yn y fframwaith. Dylai awdurdodau lleol lunio eu cynnig gwaith ieuenctid o amgylch proffil ieithyddol y gymuned ac anghenion pobl ifanc, tra hefyd yn creu cyfleoedd newydd sy'n annog ymgysylltiad ehangach â gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Dylai ymgysylltu yn aml, yn effeithlon ac ystyrlon gyda pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, gyda threfniadau clir i ddarparu adborth rheolaidd a chyfleoedd iddynt wneud sylwadau ar gynnydd. Rhagwelir y byddai ymgysylltu ag ysgolion a deall anghenion dysgwyr ysgol hefyd fod yn rhan o'r broses gynllunio ehangach, tra'n cydnabod rôl unigryw gwaith ieuenctid a dylai dynnu ar dystiolaeth o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol i sicrhau aliniad.
Bydd cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol hyn yn rhan o'r meini prawf gwerthuso ar gyfer y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid sydd wrth wraidd y fframwaith. Yn ogystal â hyn, bydd cynlluniau'n cael eu gwerthuso i ystyried i ba raddau y mae'r cynnig gwaith ieuenctid yn diwallu anghenion pobl ifanc, sut y bydd anghydraddoldebau o fewn y ddarpariaeth yn cael eu datrys, y camau i'w cymryd yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â gofynion yn y dyfodol ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid, y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir i lywio amcanion y cynllun a sut y mae'r awdurdod lleol wedi gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau gwirfoddol i gynllunio a chyflenwi'r ddarpariaeth. Rydym yn rhagweld y byddai anghenion Cymraeg pobl ifanc yn rhan bwysig o ystyriaeth awdurdodau lleol ym mhob un o'r meysydd hyn, a bydd tystiolaeth a gyflwynir ar hyn yn cael ei hystyried fel rhan o'r gwerthusiad o gynlluniau strategol gwaith ieuenctid.
Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddarparu adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn eu cynllun strategol gwaith ieuenctid, i'w baratoi bob pum mlynedd ac adrodd arnynt bob blwyddyn, gan ddarparu dull i ddwyn awdurdodau lleol i gyfrif am y ffordd maent yn bodloni'r safon hon (a'r safonau eraill a nodir yn y fframwaith).
Bydd y trefniadau atebolrwydd sy'n rhan o'r fframwaith yn darparu mwy o dryloywder ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid ar gyfer pob awdurdod lleol, a bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol i ymateb i'r blaenoriaethau hynny dros gyfnod pum mlynedd cynllun strategol gwaith ieuenctid. Yn ogystal â helpu i sicrhau bod rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, yn deall sut y bydd y ddarpariaeth gwaith ieuenctid hon yn datblygu dros gyfnod cynllun strategol gwaith ieuenctid, bydd y gofynion cynllunio ac atebolrwydd sy'n rhan o'r fframwaith yn helpu i sicrhau dealltwriaeth glir o'r gweithgareddau a ymgymerir i gefnogi’r gwaith o gyflenwi cynlluniau strategol gwaith ieuenctid ochr yn ochr â datblygiadau eraill mewn sectorau eraill, gan gynnwys addysg statudol, chwaraeon a diwylliant, i gefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn fwy cyffredinol.
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol)
Yr oedran targed ar gyfer gwaith ieuenctid fel y nodir yn y fframwaith hwn yw'r bobl ifanc hynny rhwng 11 i 25 oed. Bydd llawer o'r bobl ifanc hynny o oedran ysgol mewn addysg cyfrwng Cymraeg (dangosodd data PLASC a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025 fod 16.6% o'r holl ddisgyblion uwchradd mewn addysg cyfrwng Cymraeg). Bydd pob dysgwr mewn ysgol uwchradd arall yn dysgu Cymraeg. Mae gan waith ieuenctid rôl werthfawr i ategu taith iaith Gymraeg pobl ifanc, waeth faint o Gymraeg a addysgir iddynt yn yr ysgol. Mae'r fframwaith hwn yn darparu fframwaith cynllunio ac atebolrwydd cyson ar gyfer gwaith ieuenctid, a bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth i lywio'r gwaith o osod blaenoriaethau, a bydd yn ofynnol adrodd ar gynnydd yr egwyddorion hynny yn flynyddol. Bydd disgwyl i'r cynlluniau ddangos sut y maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant ar gyfer Gymru – gan gynnwys ein huchelgais am Gymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae tystiolaeth o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn un o'r ffynonellau tystiolaeth y dylid ei ddefnyddio, yn ôl y fframwaith, wrth osod amcanion ar gyfer y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid. Gall ffynonellau tystiolaeth eraill gynnwys tystiolaeth uniongyrchol gan bobl ifanc yn ogystal â data ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y Gymraeg, er mwyn helpu i sicrhau bod y camau a gymerir yn mynd i'r afael ag anghenion y gymuned o bobl ifanc ar draws ardal yr awdurdod lleol.
Mae sicrhau bod gwaith ieuenctid yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc sy'n dal yn yr ysgol ar hyn o bryd i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg yn cael ei ystyried yn sbardun i'w defnydd tymor hwy o'r iaith pan fyddant wedi gadael yr ysgol a symud ymlaen i fod yn oedolion ifanc. Bydd meini prawf gwerthuso ar gyfer y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid yn cynnwys ystyried anghenion pobl ifanc ar draws yr ystod oedran targed lawn ar gyfer gwaith ieuenctid (11 i 25).
Mae'r fframwaith yn nodi bod gan sefydliadau gwirfoddol yn arbennig ran hanfodol yn y gwaith o ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol. Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt cyflenwi darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae camau rhagweithiol wedi'u cymryd i sicrhau bod gan sefydliadau gwirfoddol rôl ystyrlon wrth ddatblygu cynlluniau strategol gwaith ieuenctid yn ogystal â'u gwireddu.
Sut bydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a (neu) andwyol) (er enghraifft, Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol)
Mae'r fframwaith yn darparu trefniadau cynllunio ac atebolrwydd clir ar gyfer gwaith ieuenctid, a dyletswydd am y tro cyntaf yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru i awdurdodau lleol gyflenwi gwaith ieuenctid. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwydd mwy clir o ran sut y mae anghenion pobl ifanc yn cael eu hystyried fel rhan o'r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ehangach hyn. Bydd gofyn i awdurdodau lleol roi trefniadau ar waith i ymgynghori â phobl ifanc yn ogystal â chynnig cyfle iddynt rannu eu barn ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion a osodwyd yn y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid a fydd angen eu darparu yn flynyddol fel rhan o fecanwaith monitro y cynlluniau pum-mlynedd.
Er bod y fframwaith yn darparu trefniadau cynllunio ac atebolrwydd clir ar gyfer gwaith ieuenctid, a dyletswydd am y tro cyntaf yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru i awdurdodau lleol gyflenwi gwaith ieuenctid, codwyd nifer o bryderon yn ystod yr ymgynghoriad ar y fframwaith drafft. Yn eu plith, mynegwyd bod y diffiniad o waith ieuenctid fel y'i nodir yn y fframwaith drafft yn canolbwyntio'n ormodol ar weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac nad oedd y fframwaith drafft yn cydnabod yn ddigonol gyfraniad y sector gwirfoddol at gyflenwi cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol. Nododd rhai ymatebion i'r ymgynghoriad y byddai'r dull a nodir yn y fframwaith drafft yn cael effaith arbennig o niweidiol ar leoliadau cyfrwng Cymraeg. Roedd y camau lliniaru a gymerwyd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn cynnwys diwygio'r diffiniad sy'n rhan o'r fframwaith terfynol, sy'n cydnabod rôl gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig yn y gwaith o ddarparu arweinyddiaeth i eraill sy'n ymwneud â'r gwaith o gyflenwi gwaith ieuenctid, yn ogystal â phwyslais cryf ar bwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol – sydd yn aml mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion penodol pobl ifanc, gan gynnwys cyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pwynt adolygu wedi'i ymgorffori yn y fframwaith terfynol hefyd, lle gellir ystyried effaith y fframwaith - gan gynnwys mewn meysydd lle codwyd pryderon am y fframwaith drafft - a sut y gellir cymryd rhagor o gamau er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r nod polisi i gryfhau'r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a chyflawni model cyflenwi cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Mae gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi gan amrywiaeth eang o sefydliadau ar draws y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir. Mae'r ehangder hwn o sefydliadau sy'n ymwneud â chyflenwi gwaith ieuenctid hefyd yn golygu bod cyllid i gefnogi'r ddarpariaeth yn cael ei dynnu o amrywiaeth eang o ffynonellau, fel y dangosir gan ganfyddiadau adolygiad o gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Sut y byddwch yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a'u bod yn gallu cael mynediad atynt a'u defnyddio mor rhwydd â gwasanaethau Saesneg? Pa dystiolaeth (neu) data y gwnaethoch eu defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau â diddordeb yn y Gymraeg
Pa dystiolaeth arall fyddai'n eich helpu i gynnal asesiad gwell
Er bod gennym rywfaint o wybodaeth am lefel y ddarpariaeth gwaith ieuenctid sydd ar gael ar hyn o bryd drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw hyn yn cwmpasu'r holl ddarpariaeth ac mae iddi ei chyfyngiadau o ran ei chwmpas a pha mor gyfredol ydyw. Byddai gwell tystiolaeth ar lefelau'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn help i adeiladu llinell sylfaen gliriach o'r ddarpariaeth bresennol yn ogystal â'r ffordd y mae hyn yn newid dros amser.
Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael am broffil cyfredol y gweithlu a gallu'r gweithlu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys ffurflenni data blynyddol gan awdurdodau lleol, archwiliad traws-sector o sgiliau a hyfforddiant y gweithlu (a gynhaliwyd yn 2024), a data a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol, ond mae gan bob un ei gyfyngiadau ei hun ac nid ydynt yn darparu darlun cyflawn o sgiliau Cymraeg ar draws y gweithlu gwaith ieuenctid nac o hyder ymarferwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith. Byddai gwell tystiolaeth o hyn, gan gynnwys mesur mwy cyson o'u sgiliau, gwell dadansoddiad o sgiliau Cymraeg ymhlith y rhai sy'n gweithio ar ran sefydliadau gwirfoddol, a diweddariadau rheolaidd i'r data hwn, yn help i fonitro'n barhaus gallu o ran y Gymraeg a chymryd camau i fynd i'r afael â bylchau.
Sut y byddwch yn gwybod a yw eich polisi yn llwyddiant
Yn gyffredinol, bydd llwyddiant yn cael ei fesur drwy sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyflenwi gwaith ieuenctid, bod y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, a bod gwell atebolrwydd yng nghyd-destun adrodd ar y broses o gynllunio gwaith ieuenctid yng nghyd-destun y fframwaith hwn.
Yn fwy penodol yng nghyd-destun y Gymraeg a'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd llwyddiant yn cael ei fesur gan gynnig gwaith ieuenctid cryfach sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hynny'n cael ei fesur drwy werthuso sut y mae amcanion o fewn y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid y bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol eu datblygu ac adrodd arnynt fel rhan o'r fframwaith hwn yn cyfrannu at gryfhau'r cynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg.
