Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen o waith i drwsio miloedd o dyllau ar rai o brif ffyrdd Cymru yn cychwyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rhaglen adnewyddu gwerth £25m, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru, yn ariannu 22 o brosiectau ar draws rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru.

Bydd y gwaith yn gwella dros 100km o'r ffordd ac yn helpu eu gwydnwch yn y dyfodol trwy drwsio ac atal tua 30,000 o dyllau.

Mae hyn yn ychwanegol at y degau o filoedd o dyllau sydd i fod i gael eu trwsio trwy fenter benthyca llywodraeth leol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n galluogi cynghorau i ryddhau £120m o gyllid i gyflymu'r gwaith atgyweirio ar ffyrdd lleol.

Mae'r rhaglen waith, rhai ohonynt eisoes ar y gweill, yn cynnwys dau gynllun pontydd i atgyweirio saith pont, 18 o brosiectau gosod wyneb newydd a dwy raglen droedffordd sy'n cwmpasu 10 lleoliad cymunedol ledled Cymru.

Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:

  • adnewyddu dec Pont yr M4, atgyweirio pum pont rhwng Cyffyrdd 37 a 38
  • rhoi wyneb newydd i'r A470 yng Nghaersws, trwsio, ac atal dros 1000 o dyllau dros 3.4 km
  • gosod wyneb newydd ar Ffordd Osgoi'r Wyddgrug yr A494, trwsio, ac atal dros 1400 o dyllau dros 4.9km

Ers 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £81m ar waith gosod wyneb newydd ar oddeutu 321km o ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru. Ar y cyd â'r gwariant a ragwelir ar gyfer 2025-26, mae hyn yn golygu y bydd £118m wedi'i wario erbyn diwedd tymor y Senedd hon i drwsio dros 500km o ffyrdd sy'n cysylltu ein cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth bwysig i ni.

"Bydd y rhaglen gynhwysfawr o waith sy'n cael ei gyflawni fel rhan o'n buddsoddiad o £25m yn helpu i wella gwydnwch ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn y dyfodol ac yn atal tyllau.

"Rwy'n falch o glywed bod rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau gyda mwy i ddilyn yn y misoedd nesaf. Edrychaf ymlaen i weld canlyniadau’r gwaith.”