Bydd cae 3G newydd ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd yn gwella hyfforddiant i fenywod a merched ledled Cymru.
Bydd merched a menywod sy'n chwarae pêl-droed yng Nghymru yn elwa ar gyfleusterau wedi'u huwchraddio ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd, yn dilyn buddsoddiad o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru yng nghyfleuster Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).
Bydd y cyllid yn darparu cae 3G newydd ac yn gwella seilwaith hyfforddi yn y ganolfan bêl-droed genedlaethol.
Bydd y safle yn gartref i Raglen Ranbarthol Merched yr FAW ar gyfer chwaraewyr rhwng 12 a 17 oed, gan hefyd gefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan ar lawr gwlad ar draws Casnewydd a thu hwnt.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o becyn ariannu ehangach gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2025-26 i wella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru, a chyfanswm buddsoddiad o £60 miliwn dros dymor y llywodraeth. Daw hyn wrth i'r diddordeb mewn pêl-droed menywod a merched barhau i dyfu.
Ymwelodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant, â'r lleoliad ddydd Mercher a chyfarfod â staff hyfforddi, gan gynnwys rheolwr tîm cenedlaethol Cymru, Rhian Wilkinson, yn ogystal â chwaraewyr ifanc.
Mae Maizie Carrington, 13 oed, o Bontypridd, yn rhan o Raglen Ranbarthol y Merched. Siaradodd am yr hyn y bydd y cyfleusterau gwell yn ei olygu i'w hyfforddiant a'i gyrfa:
Byddai cael mynediad at gyfleusterau fel y rhain yn hwb enfawr i mi a chwaraewyr fel fi. Pan ddechreuais i, roeddwn i jyst yn cicio'r bêl o gwmpas ar iard yr ysgol - wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n hyfforddi gyda'r FAW.
“Mae gwell cyfleusterau yn golygu mwy o amser ar y cae a'r cyfle i barhau i wthio tuag at fy nodau. Dw i eisiau parhau i wella pob sesiwn, ac mae cael lle fel hwn yn gwneud hynny'n llawer haws.”
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant:
Mae'r cyfleusterau newydd hyn yn anfon neges glir i bob merch yng Nghymru sy'n caru pêl-droed - mae lle i chi yn y gêm hon. Trwy adeiladu ar lwyddiant ein tîm cenedlaethol yn cyrraedd UEFA Women's Euros 2025 yr haf diwethaf a thrwy fuddsoddi ym Mharc y Ddraig, rydym yn sicrhau nad yw talent byth yn cael ei ddal yn ôl gan ddiffyg cyfle. Mae Cymru wedi ymrwymo i roi cyfle i bob merch a menyw ifanc gyflawni eu potensial ar y cae.”
Dywedodd Bethan Woolley, Arweinydd Strategol Pêl-droed Menywod a Merched yn yr FAW:
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru am eu buddsoddiad ym Mharc y Ddraig, a fydd yn waddol pwysig ar gyfer Ewros y Menywod 2025 a bydd yn gatalydd ar gyfer twf yng ngêm y Menywod a'r Merched yn y dyfodol.
“Ar lawr gwlad, bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i adeiladu a thyfu nifer y menywod a merched sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed, ac ar lefel elitaidd, bydd y safle yn gartref i'n Rhaglen Ranbarthol Merched FAW U12-17.
“Mae Casnewydd yn ddinas sy'n tyfu'n gyflym, a bydd y cyfleusterau gwell hyn yn adnodd pwysig, gan ddod â manteision pellgyrhaeddol i'r gymuned.”
