Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ganfyddiadau adolygiad o’r dystiolaeth ynghylch ail gartrefi. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar yr effeithiau a’r ymyriadau o ran ail gartrefi.

Mae’r adroddiad hon yn darparu crynodeb o adolygiad o lenyddiaeth o brosiect ymchwil mwy ynghylch ail gartrefi. Mae’n ymchwilio i dystiolaeth ynghylch effeithiau ail gartrefi, ac ymyriadau polisi posibl mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.

Caiff yr adroddiad ymchwil llawn ei gyhoeddi’n ddiweddarach, a bydd yn cynnwys canfyddiadau gwaith ymchwilio uniongyrchol a gynhaliwyd ymhlith rhanddeiliaid y mae eu gwaith yn ymwneud ag ail gartrefi. Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys swyddogion cynllunio a thai awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, grwpiau ymgyrchu, asiantau eiddo, cymdeithasau tai ac academyddion.

Gan fod y crynodeb hwn yn cael ei gyhoeddi cyn i’r prosiect ymchwil gael ei gwblhau, efallai y bydd casgliadau’r adroddiad terfynol yn wahanol.

Cyswllt

Hannah Browne Gott

Rhif ffôn: 0300 062 8016

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.