Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Diben yr ymarfer yw nodi rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn sylweddol a nodi camau i oresgyn y rhwystrau. Byddwn yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hir, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.

Bydd yr ymchwil manwl yn:

  • Ystyried maint y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd ei angen i gyflawni dyletswyddau statudol Cymru.
  • Nodi'r posibilrwydd o berchnogaeth gymunedol o fewn prosiectau cynhyrchu adnewyddadwy'r sector preifat a'r rôl ehangach i gymunedau weithio mewn partneriaeth â datblygwyr yng Nghymru.
  • Ystyried sut i gynyddu'r budd i Gymru o ddatblygiadau sy'n eiddo masnachol, lle nad oes perchnogaeth.
  • Ystyried maint y cyfle i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a arweinir gan y cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru.
  • Ystyried sut i gefnogi twf/datblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru
  • Herio'r sefyllfa bresennol ar gyfer cyflawni yng Nghymru a nodi camau blaenoriaeth i gefnogi mwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru

Aelodaeth o'r grŵp

Bydd yr ymchwil manwl yn cynnwys grŵp craidd bach o feddylwyr beirniadol dan arweiniad y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, o'r sector a'r tu allan i roi mewnbwn a her. Bydd y Dirprwy Weinidog yn cadeirio cyfarfodydd, gyda'r ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru. Dewiswyd yr Aelodau ar sail eu harbenigedd a'u profiad unigol; gan na ddylid dirprwyo presenoldeb o'r fath heb gytundeb y Dirprwy Weinidog.

Dr Jenifer Baxter:    Protium Green Solutions
Pete Capener:    Bath and West Community Energy
Dr Mike Colechin:     Cultivate Innovation ac Aelod o'r Bwrdd Cynghori Hyblyg
Dr Jeffrey Hardy:    Coleg Imperial Llundain
Andrew Jeffreys:    Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru
Sarah Jennings:    Cyfoeth Naturiol Cymru
Anthony Kyriakides:    Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Hywel Lloyd:    Sefydliad Materion Cymreig
Dan McCallum:    Awel coop
Sarah Merrick:    Ripple Energy
Guy Newey:    Energy Systems Catapult
Robert Procter:     Ynni Cymunedol Cymru
Dr Nina Skorupska:    Renewable Energy Association
Beth Warnock:    Energy Systems Catapult
Dr Chris Williams:    Clwstwr Diwydiannol De Cymru a Tata Steel
Dr Mike Jenkins:    Llywodraeth Leol
Rhys Wyn Jones:    Renewable UK Cymru

Cefnogir y grŵp gan drafodaethau grŵp â ffocws lle bo angen sy'n cwmpasu pynciau penodol lle mae'r grŵp yn teimlo y byddai arbenigedd a barn ychwanegol yn ychwanegu gwerth. Bydd cwmpas y trafodaethau grŵp â ffocws hyn yn cael eu llunio gan gyfarfodydd cychwynnol y grŵp ymchwil manwl.

Amseru

Bydd yr ymarfer yn dechrau ym mis Hydref gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd (dim mwy na dau yr wythnos) cyn toriad Nadolig y Senedd. Cyhoeddir canlyniadau'r adolygiad mewn Datganiad Gweinidogol cyn toriad y Nadolig. 

Gall y grŵp gyfarfod yn achlysurol yn dilyn y datganiad hwn os nodir camau gweithredu sy'n gofyn am waith tymor hwy.
 

Cyfathrebu

Cynhelir trafodaethau yn y grŵp ar sail Chatham House ac ni fydd unrhyw ohebiaeth am ganlyniad terfynol y trafodaethau oni chytunir yn gyntaf â Llywodraeth Cymru. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl hwn ac yn dosbarthu nodiadau cyfarfodydd i'r grŵp.