Gan Jack Sargeant, Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru.

Wrth edrych ar wynebau pobl ifanc ledled Cymru heddiw, rwy'n cael fy atgoffa o fy nhaith fy hun. Yr ansicrwydd, y gobaith... ond yn bwysicach na hynny, y potensial sy'n aros i gael ei ddatgloi. Fel rhywun a ddechreuodd ei yrfa fel prentis, rwy'n deall mai dim ond un cyfle sydd ei angen ar rhywun i drawsnewid ei fywyd.
Ym mis Tachwedd 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Gwarant i Bobl Ifanc i sicrhau bod pawb rhwng 16 a 24 oed yn gallu cael gafael yn hawdd ar y cymorth sydd ei angen arnynt naill ai i barhau mewn addysg, dilyn hyfforddiant, dechrau prentisiaeth, dechrau cyflogaeth neu lansio eu busnes eu hunain.
Ein hymrwymiad hirdymor yw rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bobl ifanc Cymru ac mae'r fenter hon yn gonglfaen gweledigaeth ein Prif Weinidog - gwlad lle mae cyfle ar gael i bawb, wedi'i ysgogi gan ein blaenoriaeth o swyddi a thwf gwyrdd. Rwy'n freintiedig, yn enwedig fel cyn-brentis, i allu bod yn rhan o lywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r hyn sy'n bwysig i'n pobl ifanc.
Pan fyddaf yn siarad am bŵer trawsnewidiol sgiliau a hyfforddiant, mae'n dod o brofiad personol ac ers dod yn Weinidog Sgiliau, rwyf wedi gweld, â'm llygaid fy hun, beth all cymorth o safon ei wneud i helpu pobl ifanc i ffynnu yng Nghymru.
Mae'r weledigaeth y tu ôl i'n Gwarant bob amser wedi bod yn un syml ond uchelgeisiol - ac mae'n cyflawni. Mae dros 48,500 o bobl ifanc wedi cael cefnogaeth drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau yn unig. Mae hyn yn cynrychioli bywydau go iawn, dyfodol go iawn yn cael ei lunio. A thrwy'r gwaith hwn rydym yn gwneud cynnydd cadarn tuag at ein carreg filltir genedlaethol o sicrhau bod o leiaf 90% o'r rhai rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae'r data dros dro diweddaraf yn dangos ein bod ar y trywydd iawn - yn 2023, roedd 86.4% o'n pobl ifanc yn ymwneud ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, i fyny o 86.1% yn 2022.
Ni allai amseriad y warant hon fod wedi bod yn fwy tyngedfennol. Mae wedi helpu i amddiffyn ein pobl ifanc rhag ôl-effeithiau'r pandemig Covid a'r argyfwng costau byw parhaus. Mae wedi darparu'r haen ychwanegol hanfodol o gefnogaeth pan oedd ei angen fwyaf.
Felly, gadewch i mi esbonio beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol. Mae porth Cymru'n Gweithio yn darparu arweiniad gyrfaoedd wedi'i bersonoli, tra bod Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu dros 13,000 o bobl ifanc ers 2022.
I'r rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag cyflogaeth, mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi cefnogi bron i 10,000 o bobl ifanc, tra bod ReAct+ wedi darparu grantiau hyfforddiant galwedigaethol i fwy na 700 o unigolion dros 20 oed ers mis Mehefin 2022.
Mae entrepreneuriaeth yn ffynnu drwy Syniadau Mawr Cymru, sydd wedi cyrraedd 250,000 o bobl ifanc ers 2021 ac mae ein grantiau dechrau busnes wedi helpu i lansio 615 o fusnesau newydd ar draws amrywiaeth o feysydd, o ffotograffiaeth ac arlwyo i frandiau dillad a gemwaith.
Mae prentisiaethau yn parhau i fod yn hollbwysig, gyda 56,000 yn dechrau hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon - gan greu effaith barhaol ar draws y cenedlaethau. Roedd Wythnos Prentisiaethau y mis diwethaf [10 i 16 Chwefror] yn pwysleisio llwyddiannau ein rhaglen flaenllaw ledled Cymru ymhellach. Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad yn y dyfodol ac mae cymaint o gyfleoedd cyffrous, fel economi werdd Cymru neu ein sector creadigol ffyniannus, er enghraifft. Rydym wedi neilltuo £144 miliwn yn ein cyllideb ar gyfer 2025 i 2026 i sicrhau y gall busnesau o bob maint gyflogi prentisiaid, gan ddarparu cyfleoedd i filoedd ennill sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Rwy'n gwybod na fyddwn i lle rydw i heddiw heb y math yma o gefnogaeth.
Mae prentisiaethau hefyd yn ffordd wych o agor drysau a chwalu rhwystrau. Mae 59% o'n prentisiaid yn fenywod, gan godi i 67% mewn prentisiaethau uwch. Rydym wedi dyblu cyfranogiad o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol i 10% - rhywbeth rydyn ni bob amser yn ymdrechu i'w wthio ymlaen fwyfwy. Y llynedd, ymunodd 515 o brentisiaid anabl neu ag anawsterau dysgu â'n rhaglenni hefyd.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn nad oes modd dirnad ffigurau moel yn aml, ond maen nhw'n cynrychioli bobl go-iawn, newid go-iawn a chyfleoedd go-iawn.
Cyfle i gyrraedd potensial, rhoi cynnig ar bethau newydd ac yn y pen draw i gyfrannu at gymdeithas ac economi Cymru mewn ffordd gadarnhaol. Dyna pam mae'r warant hon mor bwysig i mi a Llywodraeth Cymru.
Rwyf wedi gweld hyn nid yn unig trwy fy mhrofiadau fy hun, ond drwy glywed gan bobl fel Cody, dyn ifanc yn fy etholaeth sydd wedi codi o wirfoddoli mewn pêl-droed ar lawr gwlad i dynnu lluniau o sêr Cynghrair y Pencampwyr, neu Madison, cyn-brentis barbwr bellach yn hyfforddi dysgwr Twf Swyddi Cymru+, Regan, yn ei rôl fel uwch farbwr.
Mae yna hefyd yr holl lwyddiannau gwych Cymreig rydyn ni wedi bod yn eu gweld mewn gwahanol gystadlaethau sgiliau yn ddiweddar, gan gynnwys WorldSkills UK, ac rwy'n falch iawn y byddwn yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU yn 2025. Mae'r digwyddiad hanesyddol hwn i Gymru yn adeiladu ar lwyddiant diweddar yn Lyon, lle roedd talent ein cenedl yn disgleirio. Mae'r cystadlaethau hyn yn arddangos sgiliau rhyfeddol pobl ifanc ac yn tynnu sylw at werth addysg dechnegol a phrentisiaethau.
Drwy ein Gwarant i Bobl Ifanc, mae Cymru'n parhau i hyrwyddo talent a chyfleoedd, gan roi hwb i botensial a sicrhau lle a dyfodol i bawb. Dyna oedd fy nelfryd pan oeddwn i'n brentis, a dyna'n haddewid ni o hyd heddiw.
Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu Cymru lle gall pawb - waeth beth fo'u cefndir - lunio eu dyfodol llwyddiannus eu hunain.