Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau hyn yn adlewyrchu darpariaethau yn rhan 4 o Ddeddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/6000 Gwarediadau heb eu hawdurdodi

Codir Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar warediadau trethadwy.

Mae Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT) yn llywodraethu'r hyn sydd i'w drin fel gwarediad trethadwy.

Dylid darllen y canlynol ar y cyd â'n canllawiau ar warediadau trethadwy (DTGT/2010 i DTGT/2020).

Gall gwarediad deunydd fel gwastraff a wnaed ar ôl 1 Ebrill 2018 fod yn agored i Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) p’un ai yw’r gwarediad yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig neu rywle arall.

Mae Rhan 4 o'r DTGT (adrannau 46 i 53) yn sefydlu atebolrwydd am TGT ar gyfer gwarediad a wneir y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig (gwarediad heb ei awdurdodi).

Mae'r atebolrwydd hwn yn codi pan fyddwn ni yn Awdurdod Cyllid Cymru yn fodlon bod yr amod ar gyfer codi treth wedi’i fodloni ac yn rhoi hysbysiad codi treth. Mae’r darpariaethau hyn yn dod ag ystod eang o weithgareddau o fewn cwmpas y TGT, fel:

  • safleoedd gwaredu ar raddfa fawr sy’n cael eu cynnal y tu allan i’r fframwaith rheoleiddio amgylcheddol a gwastraff perthnasol
  • tipio anghyfreithlon lefel is, ad hoc.

Mae'r gyfradd dreth ar wahân ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi, wedi'i hanelu'n bennaf at atal y gwarediadau hyn yn hytrach na chodi refeniw treth. Rydym yn gyfrifol am bennu lefel y gydymffurfiaeth a’r gweithgarwch gorfodi rydym yn ymgymryd ag ef mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi.

DTGT/6010 Yr amod ar gyfer codi treth

Mae’n bosibl y bydd unigolyn yn dod yn atebol am TGT am warediad heb ei awdurdodi naill ai pan fydd:

  • wedi gwneud y gwarediad
  • wedi achosi neu ganiatáu i'r gwarediad gael ei wneud

Fel arfer, mater i ni fydd sefydlu bod unigolyn wedi gwneud, neu wedi achosi/ caniatáu’n fwriadol i'r gwarediad gael ei wneud Neu i'r person hwnnw roi gwybod i ni, eu bod wedi gwneud hynny.

Ond mewn rhai amgylchiadau, fe gymerir bod person wedi achosi/caniatáu'r gwarediad yn fwriadol. Mae hynny pan, ar adeg y gwarediad roedd:

  • unigolyn yn rheoli neu mewn sefyllfa o reoli cerbyd modur neu drelar y cafodd y gwarediad ei wneud ohono, neu
  • unigolyn yn berchennog, yn lesddeiliad, neu’n feddiannydd y tir lle cafodd y gwarediad ei wneud.

Os yw'r uchod wedi'i sefydlu, nid oes angen i ni ddangos bod y person mewn gwirionedd wedi achosi/caniatáu’n fwriadol i'r gwarediad gael ei wneud. Tybir y bydd yr amod ar gyfer codi treth wedi’i fodloni. Oni bai bod y person yn ein bodloni ni (neu'r tribiwnlys) fel arall.

Byddwn yn ystyried nifer o ffactorau o ran a yw person wedi gwyrdroi'r rhagdybiaeth eu bod wedi cwrdd â’r amod codi treth.

Gan gynnwys (ond nid yn hollgynhwysfawr):

  • a wnaeth yr unigolyn ymdrechion rhesymol i atal y gwastraff rhag cael ei ddympio ar eu tir (er enghraifft, gosod ffensys cadarn)
  • a wnaeth yr unigolyn ymdrechion rhesymol i gael gwared ar y gwastraff (er enghraifft, cysylltu â chludwr gwastraff cofrestredig i drefnu ei symud)
  • a wnaeth yr unigolyn cynorthwyo’n weithredol gydag unrhyw gamau gorfodi (posibl) yn erbyn y troseddwyr (er enghraifft, cysylltu â'r heddlu, yr awdurdod lleol neu CNC ynglŷn â’r gwastraff / eu helpu gyda’u hymchwiliadau)
  • nad oedd yr unigolyn yn gwybod am y gwarediad gwastraff, ac na allent yn rhesymol fod wedi gwybod (er enghraifft, o ystyried lle’r oedd gwastraff wedi cael ei ddodi, maint yr ystâd)
  • bod yr unigolyn yn sâl neu’n analluog mewn rhyw ffordd pan wnaed y gwarediad.

Byddwn ni'n ystyried amgylchiadau llawn gwarediadau a’r dystiolaeth sydd ar gael wrth benderfynu a ydym yn fodlon bod y rhagdybiaeth wedi’i gwyrdroi mewn unrhyw achos unigol.

DTGT/6020 Y drefn ar gyfer sefydlu atebolrwydd am TGT

Fel arfer, mae 2 gam ar gyfer sefydlu atebolrwydd am TGT am warediadau heb eu hawdurdodi:

  1. Hysbysiad Rhagarweiniol.
  2. Hysbysiad codi treth.

Ond, mewn rhai achosion, gallwn roi hysbysiad codi treth heb fod wedi rhoi hysbysiad rhagarweiniol. Os byddwn yn rhoi hysbysiad codi treth, p'un ai ei fod wedi’i ragflaenu gan hysbysiad rhagarweiniol ai peidio, mae'r atebolrwydd am TGT wedi'i sefydlu fel y nodir yn yr hysbysiad hwnnw.

Hysbysiad rhagarweiniol

Gallwn roi hysbysiad rhagarweiniol i unigolyn lle mae'n ymddangos bod:

  • un neu ragor o warediadau heb eu hawdurdodi wedi’u gwneud a
  • bod yr unigolyn yn cwrdd â'r amod ar gyfer codi treth.

Rhaid i'r hysbysiad rhagarweiniol wneud y canlynol:

  • nodi’r tir lle mae’n ymddangos fod y gwarediad trethadwy wedi’i wneud
  • disgrifio amgylchiadau'r gwarediad a natur y deunydd a waredwyd cyn belled ag y bo modd
  • nodi pryd gwnaed y gwarediad neu sut rydym wedi amcangyfrif pryd y cafodd ei wneud
  • esbonio pam ein bod yn teimlo bod yr unigolyn yn cwrdd â'r amodau codi treth
  • datgan swm y dreth arfaethedig sy'n ddyledus a sut rydym wedi ei gyfrifo
  • datgan y gallwn, ar ôl 45 diwrnod (gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl rhoi'r hysbysiad), roi hysbysiad codi treth, ond y gall yr unigolyn:
    • ofyn am ymestyn y cyfnod hwn, neu
    • wneud unrhyw sylwadau ysgrifenedig cyn i’r hysbysiad codi treth gael ei gyhoeddi

Gall hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â naill ai:

  • mwy nag un gwarediad trethadwy; neu
  • nifer heb ei gadarnhau o warediadau

Gellir ei roi hyd at 4 blynedd ar ôl i ni ddod yn ymwybodol o unrhyw un o'r gwarediadau trethadwy y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad. Ond mewn rhai amgylchiadau mae gennym hyd at 20 mlynedd i roi hysbysiad.

Hysbysiad codi treth yn dilyn hysbysiad rhagarweiniol

Pan fo hysbysiad rhagarweiniol wedi’i roi, ar ôl 45 diwrnod (neu ddyddiad cau arall os fyddwn yn cytuno i ymestyn y dyddiad cau ), mae'n rhaid i ni naill ai:

  • gyhoeddi hysbysiad codi treth, neu
  • hysbysu'r person nad ydym yn bwriadu rhoi hysbysiad codi treth, am y gwarediadau a nodwyd yn yr hysbysiad rhagarweiniol

Gallwn roi hysbysiad codi treth dim ond pan fyddwn yn fodlon bod:

  • gwarediad heb ei awdurdodi wedi’i wneud, a
  • bod yr unigolyn yn cwrdd â'r amod ar gyfer codi treth

Rhaid i ni ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd gan yr unigolyn ar ôl iddynt dderbyn yr hysbysiad rhagarweiniol wrth benderfynu a ddylem roi hysbysiad codi treth.

Rhaid i'r hysbysiad codi treth wneud y canlynol:

  • rhoi manylion y gwarediadau trethadwy
  • esbonio pam rydym yn fodlon bod y person yn cwrdd â'r amodau codi treth
  • nodi faint o dreth sy'n ddyledus a sut mae'r swm hwnnw wedi'i gyfrifo
  • hysbysu’r unigolyn o’u hawl i ofyn am adolygiad neu apelio'r penderfyniad

Hysbysiad codi treth heb hysbysiad rhagarweiniol

Efallai y byddwn yn rhoi hysbysiad codi treth heb fod wedi rhoi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf lle:

  • mae wedi’i fodloni bod gwarediad heb ei awdurdodi wedi’i wneud, a
  • bod yr unigolyn yn cwrdd â’r amod ar gyfer codi treth; ac
  • rydym yn credu ei bod yn debygol y bydd treth yn cael ei cholli os byddwn yn rhoi hysbysiad rhagarweiniol

Pan fyddwn yn rhoi hysbysiad codi treth heb roi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf, rhaid i ni roi ein rhesymau dros wneud hynny.

Gellir rhoi hysbysiad codi treth heb hysbysiad rhagarweiniol am hyd at 4 blynedd ar ôl i ni ddod yn ymwybodol o unrhyw un o'r gwarediadau trethadwy y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad. Ond mewn rhai amgylchiadau mae gennym hyd at 20 mlynedd i roi hysbysiad.

DTGT/6030 Swm y dreth a thalu’r dreth

Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau

Byddwn yn adolygu'r holl wybodaeth am warediad. Gan gynnwys asesu:

  • y math o ddeunydd a waredwyd
  • y dull o waredu, er enghraifft, llosgi

Rydyn yn defnyddio hyn ar gyfer dewis y dull cyfrifo rydym yn credu sy'n briodol ar gyfer pennu pwysau trethadwy'r deunydd sydd wedi’i waredu.

Pan fydd cofnodion cywir a dibynadwy wedi’u cadw, gellir defnyddio'r rhain i bennu pwysau neu gyfaint y deunydd sydd wedi’i waredu.

Os nad oes cofnodion ar gael, byddwn yn defnyddio dulliau cyfrifo eraill, gan gynnwys ond heb fod wedi’u cyfyngu i:

  • bwysau llwyth mwyaf y cerbyd neu gyfaint mwyaf y sgip a ddefnyddiwyd i wneud y gwarediad, a nifer yr ymweliadau a wnaeth y cerbyd â'r safle lle gwnaed y gwarediad
  • mesuriadau ar y safle, gan gynnwys defnyddio geometreg safonol i fesur dimensiynau’r gwarediad
  • mesur 1 uned a lluosi hyn â chyfanswm yr unedau ar gyfer gwarediad wedi'i stacio neu ei storio
  • arolygon o'r awyr megis LIDAR (Light Detection and Ranging) a thechnolegau eraill

Wrth ddefnyddio dull cyfrifo gwahanol i gofnodion, byddwn yn rhoi Cod Gwastraff Ewropeaidd (neu fwy nag un cod pan fyddwn yn nodi mwy nag un math o ddeunydd) i warediad. Yna byddwn yn defnyddio ffactor trosi gwastraff cyfatebol i drosi cyfaint y deunydd yn dunelli.

Byddwn yn cynnwys pob cyfansoddyn y gwarediad ac ni fyddwn yn disgowntio unrhyw gynhwysion, megis pwysau dŵr.

Mae'r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi’n berthnasol, heb wahaniaethu, i'r holl ddeunydd sydd wedi’i waredu. Hyd yn oed pe byddai’r deunydd hwnnw’n ddarostyngedig i'r gyfradd safonol neu'r gyfradd is ar safle tirlenwi awdurdodedig.

Nid yw esemptiadau a rhyddhadau ar gyfer tirlenwi awdurdodedig yn berthnasol i warediadau heb eu hawdurdodi.

Cyfrifo swm y dreth

Wrth gyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus ar warediad heb awdurdod, byddwn yn lluosi'r pwysau trethadwy â chyfradd dreth gwarediadau heb eu hawdurdodi.

Talu’r dreth

Pan fyddwn yn rhoi hysbysiad codi treth, mae'r unigolyn y mae wedi’i gyfeirio ato’n atebol am dalu swm y TGT a nodir ynddo o fewn 30 diwrnod. Gan ddechrau gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Atebolrwydd Ar Y Cyd ac Unigol

Os bydd hysbysiadau codi treth yn cael eu rhoi i fwy nag un unigolyn am yr un gwarediad heb ei awdurdodi, yna mae’r trethdalwyr hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth a godir.

Mae hyn yn golygu bod mod gorfodi swm cyfan y dreth yn erbyn unrhyw un y codir y dreth arnynt.

Os bydd rhan o'r dreth yn cael ei thalu, gallwn fynd ar ôl unrhyw un y codwyd y dreth arnynt am y swm sydd heb ei dalu. Bydd cosbau talu hwyr yn berthnasol i bob unigolyn a anfonwyd hysbysiad codi treth atynt os nad yw'r dreth a godir yn cael ei thalu'n llawn, 30 diwrnod ar ôl y dyddiad ar hysbysiad codi treth. Mae'r llog dyddiol yn parhau i gael ei ychwanegu at unrhyw swm treth sydd heb ei dalu.

Anghytuno â’n penderfyniad

Os bydd unrhyw drethdalwyr yn anghytuno gyda'n penderfyniad i godi'r dreth, mae ganddynt yr opsiwn i ofyn am adolygiad neu apêl i'r tribiwnlys treth.