Amcangyfrifon o gyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu ar draws sectorau marchnad gwahanol gan wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwariant ymchwil a datblygu
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Amcangyfrifwyd bod cyfanswm o £744 miliwn wedi ei wario ar Y&D yn 2017 yng Nghymru; mae hyn yn gynnydd o £33 miliwn (5%) o'i gymharu â 2016.
- Mae hyn yn cynrychioli 2.1% o gyfanswm gwariant Y&D y DU, a 1.2% o gyfanswm Gwerth Ychwanegol Crynswth yng Nghymru.
- Roed menter busnes Y&D yn cyfrif am 61.4% o’r cyfanswm yng Nghymru, gyda addysg uwch yn cyfrif am 36.2%, a’r llywodraeth yn cyfrif am y 2.2%, a Phreifat Heb Elw yn cyfrif am lai na 1.0%.
- Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer bach o brosiectau mawr yn cychwyn neu’n gorffen gael ddylanwad mawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.
Nodyn
Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh. Bydd tablau StatsWales yn dilyn o fewn 48 awr.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.