Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o gyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu (Y&D) ar draws sectorau marchnad gwahanol gan wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2020.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod cyfanswm o £1.5 biliwn wedi ei wario ar Y&D yn 2020 yng Nghymru; mae hyn yn ostyngiad o £41 miliwn (2.6%) o'i gymharu â 2019.
  • Roedd y gostyngiad hwn yn deillio’n bennaf o ostyngiad mewn gwaith ymchwil a datblygu ym maes Addysg Uwch, a ostyngodd £78 miliwn (15.3%) dros y flwyddyn.
  • Roedd gwariant Y&D Cymru yn cynrychioli 2.4% o gyfanswm gwariant Y&D y DU.
  • Roedd Y&D Menter Busnes yn cyfrif am 69.9% o’r cyfanswm Y&D yng Nghymru, gydag addysg uwch yn cyfrif am 28.5%, ac Y&D llywodraeth yn cyfrif am 1.6%.
  • Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer fechan o brosiectau mawr sydd yn cychwyn neu’n gorffen ddylanwadu’n fawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.

Nodiadau

Mae'r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon o ymchwil a datblygu a gyflawnir yn y pedwar sector canlynol:

  • Ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD)
  • Ymchwil a datblygu addysg uwch (HERD)
  • Ymchwil a datblygu llywodraeth, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi'r DU (GovERD)
  • Ymchwil a datblygu sefydliadau di-elw preifat (PNPRD)

Gelwir data ymchwil a datblygu'r sectorau hyn ar y cyd yn wariant mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (GERD).

Mae nifer o welliannau methodolegol ar gyfer BERD a HERD, yn ogystal â diwygiadau rheolaidd i ddata'r arolwg oherwydd dilysu pellach, wedi'u gweithredu ar gyfer y cyfnod o 2018 ymlaen. Nid yw’n bosib cymharu cyfanswm yr Y&D a wnaed yn y DU, ac Y&D a wnaed yn y sectorau busnes ac addysg uwch cyn 2018.

Mae'r ffigyrau hyn yn rhoi'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ymchwil a datblygu ar lefel y DU, ond mae mwy o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon sy'n is na lefel y DU a'r sector sy’n perfformio yr ymchwil a datblygu. Er y bydd y dynodiad Ystadegau Gwladol presennol ar gyfer ffigyrau ymchwil a datblygu am y cyfanswm a lefel y sector sy’n perfformio yn parhau, er mwyn helpu i gyfleu'r ansicrwydd ymhellach, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi gofyn i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) oedi statws yr Ystadegau Gwladol dros dro ar gyfer y dadansoddiadau manwl (gan gynnwys cyfansymiau i Gymru). Cadarnhaodd OSR eu cytundeb i'r dull hwn o weithredu yn eu llythyr a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2022 (Rheoleiddio'r Swyddfa Ystadegau).  Mae hyn tan i'r ailddatblygiad pellach ddigwydd ac mae mwy o sicrwydd ar y dosbarthiad islaw'r lefel yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bydd y setiau data manwl ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.

Adroddiadau

Cyswllt

Joshua Cruickshank

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.