Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o gyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu (Y&D) ar draws sectorau marchnad gwahanol gan wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2021.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod cyfanswm o £1.7 biliwn wedi ei wario ar Y&D yn 2021 yng Nghymru (prisiau cyfredol); mae hyn yn gynnydd o £143 miliwn (9.4%) o'i gymharu â 2020.
  • Roedd y cynnydd hwn yn deillio’n bennaf o gynnydd mewn gwaith ymchwil a datblygu ym maes menter busnes, a gynyddodd £101 miliwn (9.6%) dros y flwyddyn.
  • Roedd gwariant Y&D Cymru yn cynrychioli 2.5% o gyfanswm gwariant Y&D y DU.
  • Roedd Y&D menter busnes yn cyfrif am 69.7% o’r cyfanswm Y&D yng Nghymru, gydag addysg uwch yn cyfrif am 27.8%, ac Y&D llywodraeth yn cyfrif am 2.2%.
  • Mewn ardal fach fel Cymru, gall nifer fechan o brosiectau mawr sydd yn cychwyn neu’n gorffen ddylanwadu’n fawr ar lefel gwariant Y&D, sy'n golygu bod y gyfres amser yn gallu bod yn anwadal.

Nodyn

Mae'r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon o ymchwil a datblygu a gyflawnir yn y pedwar sector canlynol:

  • ymchwil a datblygu mentrau busnes (BERD)
  • ymchwil a datblygu addysg uwch (HERD)
  • ymchwil a datblygu llywodraeth, gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi'r DU (GovERD)
  • ymchwil a datblygu sefydliadau di-elw preifat (PNPRD)

Gelwir data ymchwil a datblygu'r sectorau hyn ar y cyd yn wariant mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (GERD).

Mae nifer o welliannau methodolegol ar gyfer BERD a HERD, yn ogystal â diwygiadau rheolaidd i ddata'r arolwg oherwydd dilysu pellach, wedi'u gweithredu ar gyfer y cyfnod o 2018 ymlaen. Nid yw’n bosib cymharu cyfanswm yr Y&D a wnaed yn y DU, ac Y&D a wnaed yn y sectorau busnes ac addysg uwch cyn 2018.

Mae'r ffigyrau hyn yn rhoi'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ymchwil a datblygu ar lefel y DU, ond mae mwy o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon sy'n is na lefel y DU a'r sector sy’n perfformio yr ymchwil a datblygu. Felly, mae cyfanswm ffigurau ymchwil a datblygu ar lefel sector perfformio (Ymchwil a Datblygu) y DU wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol, tra bod gan y ffigurau sy'n weddill ddynodiad ystadegau swyddogol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.