Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £2,657 miliwn, sef cynnydd o 3.5% ar y flwyddyn blaenorol.
- Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £5,857, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 3.2% neu £181. Mae hyn yn gynnydd mewn termau real o 1.2% a'r cynnydd termau real cyntaf fesul disgybl ers 2010-11.
- Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £4,914 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £943 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog.
- Mae £2,229 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion. Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 77% ac 90% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
- Mae 83.9% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 0.3 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau
Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2019 i Mawrth 2020 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 608 KB
PDF
Saesneg yn unig
608 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan StatsCymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.