Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

Prif bwyntiau

  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £3,343 miliwn, sef cynnydd o 8.0% ar y flwyddyn blaenorol.
  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £7,327, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 8.2% neu £554. 
  • Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £5,998 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £1,328 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog. 
  • Mae £2,737 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion.  Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 74% ac 87% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
  • Mae 81.9% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 1.1 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 441 KB

PDF
Saesneg yn unig
441 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.