Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2024.

Yn 2024, roedd gwariant menter busnes ar ymchwil a datblygu (BERD) yng Nghymru yn £884 miliwn, i fyny 7.2% ar ffigur 2023.

Roedd hyn yn cynrychioli 1.6% o gyfanswm y DU.

Ar gyfer y DU, cynyddodd gwariant busnes ar ymchwil a datblygu gan 4.5%.

Nodiadau

Gall nifer fach o brosiectau unigol sy'n cychwyn ac yn gorffen mewn cyfnod effeithio'n fawr ar lefel gwariant BERD yng Nghymru.

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon ar gyfer y cyhoeddiad hwn yw'r arolwg BERD blynyddol. Mae hyn yn casglu data blynyddol ar fusnesau'r DU sy'n perfformio ymchwil a datblygu. Mewn ystadegau BERD a gyhoeddwyd yn flaenorol, hyd at gyfnod cyfeirio 2020, sefydlwyd bod y cwmpas yn anghyflawn, yn enwedig o ran busnesau bach.

Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sampl newydd ar gyfer 2022, a gynyddodd faint y data a dderbyniwyd gan sicrhau fod ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr ymchwil a datblygu a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn disodli'r rhai o'r dull cynyddu interim a gymerwyd yn 2021 a'u bod yn cael eu hystyried yr amcangyfrifon mwyaf cywir o ymchwil a datblygu busnes yn y DU. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 i 2024 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU. Mae SYG yn gweithio gydag OSR wrth iddynt gynnal asesiad ansawdd o ystadegau BERD. Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar y dulliau newydd a sut mae'r rhain yn diwallu anghenion ein defnyddwyr gyda'r nod o adennill statws Ystadegau Swyddogol Achrededig ar gyfer yr ystadegau hyn. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad SYG.

Canslwyd y cyhoeddiad ystadegol ar wariant gros ymchwil a datblygu: 2023 a'r setiau data StatsCymru a oedd i fod i’w gyhoeddi ar 18 Awst 2025. Roedd hyn oherwydd bo’r prosesau rheolaeth ar ddatgelu data a gafodd eu cymhwyso gan y SYG wedi arwain at beidio cyhoeddi cyfanswm ymchwil a datblygu ar gyfer Cymru. 

O ganlyniad i hyn, nid yw’r setiau data StatsCymru wedi eu diweddaru. Ond mae modd canfod y data ar wefan SYG

Manylion cyswllt

Ystadegau yr economi
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099