Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi'i gyllidebu i fod yn £405 miliwn, cynnydd o £23.2 miliwn neu 6.1% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 28% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 45% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 28% sy'n weddill.
  • Sir Ddinbych sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 90%, a Chaerffili sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 53%.
  • Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £892.  Mae’n cynnwys £644 o wariant dirprwyedig y disgybl a £248 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.
  • O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Merthyr Tudful sydd â’r mwyaf, £1,202 y disgybl, a Thorfaen sydd â’r lleiaf, £694 y disgybl.

(r) Diwygiedig ar 05 Gorffennaf 2019

Adroddiadau

Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), Ebrill 2018 i Mawrth 2020: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 492 KB

PDF
Saesneg yn unig
492 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.