Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Prif bwyntiau

Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA wedi'i gyllidebu i fod yn £433 miliwn, cynnydd o £28.0 miliwn neu 6.9% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 28% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 44% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 29% sy'n weddill.

Sir Ddinbych sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 88%, a Chaerffili sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 52%.

Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £951(r).  Mae’n cynnwys £679(r) o wariant dirprwyedig y disgybl a £272 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.

O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Merthyr Tudful sydd â’r mwyaf, £1,208 y disgybl, a Rhondda Cynon Taf sydd â’r lleiaf, £739 y disgybl.

(r) Diwygiedig ar 16 Gorffennaf 2021.

Adroddiadau

Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 664 KB

PDF
Saesneg yn unig
664 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.