Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA wedi'i gyllidebu i fod yn £549 miliwn, cynnydd o £55.6 miliwn neu 11.3% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 28% o gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 42% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 30% sy'n weddill.
  • Wrecsam sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA i ysgolion, sef 82%, a Merthyr Tudful sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 50%.
  • Cyfanswm y gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £1,204.  Mae’n cynnwys £843 o wariant dirprwyedig y disgybl a £361 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.
  • O ran gwariant AAA sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Merthyr Tudful sydd â’r mwyaf, £1,629 y disgybl, a Sir Fynwy sydd â’r lleiaf, £885 y disgybl.

Adroddiadau

Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 429 KB

PDF
Saesneg yn unig
429 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.