Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi (dydd Mawrth 20 Mehefin) fod llinell ffôn genedlaethol newydd yn cael ei lansio heddiw ledled Cymru ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bob oedran. Gall pobl ddefnyddio'r rhif hwn os oes ganddynt bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder am rywun maen nhw'n ei adnabod.

Trwy roi mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, mae’n gallu helpu i gefnogi pobl i reoli argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gall fod yn ddewis gwahanol yn lle mynd i adran frys neu ffonio'r heddlu.

Mae modd cael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio GIG 111 a dewis rhif 2. Bydd galwyr yn cael eu trosglwyddo i aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol.

Mae'n cynnwys asesiad o anghenion a thrafodaeth dros y ffôn i leihau gofid. Lle bo'n briodol, gellir cyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd meddwl, rhoi cyngor hunanofal neu eu cyfeirio at gymorth arall.

Mae'r gwasanaeth wedi cael ei gyflwyno ledled Cymru ers mis Tachwedd y llynedd a hyd yma mae wedi derbyn dros 15,000 o alwadau. Datryswyd problemau’r rhan fwyaf o alwyr drwy roi cyngor ar hunanreolaeth neu drwy eu hatgyfeirio at grwpiau trydydd sector lleol, gyda lleiafrif o alwyr yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal iechyd meddwl brys.

Yr wythnos ddiwethaf, ymwelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, ag Ysbyty Sant Cadog yng Nghaerllion i gwrdd â'r tîm sy'n gweithio ar y gwasanaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd Lynne Neagle:

Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.

Bydd gweithredu'r gwasanaeth '111 pwyso 2' ledled Cymru yn trawsnewid y ffordd y mae'r GIG yn ymateb i faterion iechyd meddwl brys - a gall unrhyw un gael mynediad ato, ar unrhyw adeg, ac o unrhyw ran o Gymru.

Rydym yn gwybod bod angen i bobl siarad â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol weithiau fel y gallant siarad am eu problemau a chael y cymorth cywir p'un a yw hyn yn golygu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl y GIG, gofal sylfaenol, gwasanaethau gwirfoddol lleol neu gyngor ar hunanofal.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau ei gwneud hi'n haws cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o becyn ehangach sy'n cynnwys hunangyfeirio at Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein.

Dywedodd Dr Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Rydym bellach wedi bod yn darparu'r gwasanaeth bob awr o bob dydd yng Ngwent ers mis Mawrth ac mae pobl leol wedi dweud wrthym faint maen nhw wedi gwerthfawrogi gallu codi'r ffôn a siarad ag ymarferydd iechyd meddwl hyfforddedig ar adegau o angen.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth brys ar gyfer problem iechyd meddwl, neu unrhyw un sy'n poeni am ffrind neu aelod o'r teulu, i ffonio 111 (pwyso 2) a siarad â rhywun sydd yno i wrando, i ddeall y sefyllfa, ac i’ch helpu i gael gafael ar yr help a'r gefnogaeth gywir.

Ar ôl cwblhau'r broses o gyflwyno GIG 111 Cymru yn genedlaethol ym mis Mai 2022, cyflwynwyd ymgyrch genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth a helpu cleifion ag anghenion gofal brys i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG yn drawsnewidiad sylweddol i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6 miliwn i gefnogi byrddau iechyd i weithredu'r gwasanaeth hwn a sicrhau darpariaeth 24/7.

Dywedodd Shane Mills, cyfarwyddwr clinigol Uned Gomisiynu Genedlaethol y GIG ac arweinydd cenedlaethol y gwasanaeth '111 pwyso 2':

Pan fydd pobl yn cysylltu ag '111 pwyso 2' i gael cefnogaeth, bydd gweithwyr proffesiynol cydymdeimladol yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi. Bydd gwybodaeth leol y gweithwyr proffesiynol hyn yn caniatáu iddynt ddarparu cefnogaeth i'r person sydd wedi'i deilwra i'w anghenion a'i ardal leol. Mae Byrddau Iechyd yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o galed i sefydlu a darparu'r gwasanaeth hwn mewn dwy flynedd.

Dywedodd Pete Brown, Pennaeth Gwasanaeth GIG 111 Cymru yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy'n cynnal y gwasanaeth 111:

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble i droi am y cyngor gofal iechyd cywir, yn enwedig pan fyddwch chi neu rywun agos atoch yn profi argyfwng iechyd meddwl.

Bydd ffonio 111 a phwyso rhif dau yn symleiddio hynny i gyd ac yn eich cysylltu'n syth ag aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn eich ardal leol.

Mae'r rhif yn rhad ac am ddim i'w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl.

Gobeithio y bydd ffonio 111 am gymorth iechyd meddwl yn helpu pobl i reoli eu hargyfwng cyn iddo waethygu, a fyddai’n golygu bod angen ymyrraeth frys.