Mae angen i bysgotwyr ac allforwyr wybod am y newidiadau sy'n dod i rym o 8 Ionawr 2026 a bod yn barod ar eu cyfer.
Cynnwys
Newidiadau i dystysgrifau dalfeydd
Bydd angen ichi gofnodi gwybodaeth newydd ar dystysgrifau dalfeydd y Gwasanaeth Allforio Pysgod (FES). Hynny oherwydd rheoliadau'r UE ar bysgota anghyfreithlon, heb ei reoleiddio a heb ei gofnodi (IUU).
Rydym yn cynghori pawb i ddod yn gyfarwydd â'r newidiadau nawr a dechau rhoi'r wybodaeth berthnasol i brynwyr eu bwyd môr Cymreig.
Mae'r newid yn orfodol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n allforio, bydd y newidiadau yn effeithio ar bysgotwyr. Fel arall, efallai na fyddwch yn gallu gwerthu'ch cynnyrch.
Rhaid i allforwyr roi’r wybodaeth ganlynol ar eu tystysgrif dalfeydd er mwyn i'w bwyd môr allu mynd i'r UE:
- dyddiad cychwyn y daith bysgota
- y math o gêr a ddefnyddiwyd
- ardal y ddalfa:
- ym mha barth economaidd neilltuedig (EEZ) y daliwyd y cynnyrch
- a oes gan sefydliad rheoli pysgodfeydd rhanbarthol (RFMO)) fudd ynddo
Diweddariadau diweddaraf
Tachwedd 2025
Ar 20 Tachwedd fe wnaethom:
- diweddaru System Gwasanaeth Allforio Pysgod (FES) i gynnwys y newidiadau mewn prosesu datganiadau, ac
- cyflwyno templed dogfen newydd 'dim triniaeth' i'r rheini sy'n cymryd rhan yn y broses allforio
Hydref 2025
Byddwn yn cyflwyno'r ddogfen 'dim triniaeth' yn fuan. Bydd hyn yn disodli'r ddogfen storio o fis Ionawr. Bydd gan y ddogfen 'dim triniaeth' dempled newydd. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu data mewn ffordd wahanol.
Mae defnyddio’r ddogfen 'dim triniaeth' newydd yn wirfoddol ar hyn o bryd. Ond bydd yn orfodol ar gyfer allforion o'r DU o 10 Ionawr 2026. Ar y pwynt hwnnw, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio dogfennau storio. Rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth berthnasol i’ch prynwr, fel y gellir ei throsglwyddo i’r allforiwr. Os na wnewch, efallai na fyddwch yn gallu gwerthu eich cynnyrch.
Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y ddogfen 'dim triniaeth' ar gael yn y system FES.
Medi 2025: math o gêr ac ardal y ddalfa
Ym mis Medi, bydd y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cyflwyno newidiadau i’r meysydd sy'n ymwneud â math o gêr ac ardal y ddalfa. Mae'r MMO yn gweithio i helpu pysgotwyr, masnachwyr ac allforwyr gyda’r newidiadau hyn. Y nod yw tarfu cyn lleied â phosib ar weithgareddau masnachol.
Gorffennaf 2025: dyddiad cychwyn y trip pysgota
Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd yr MMO y cyntaf o'r newidiadau hyn. Rhaid ichi roi dyddiad cychwyn y daith bysgota yn ogystal â’r data glanio. Rhaid ichi hefyd nodi y dull cludo cyntaf ar ôl dal cynnyrch.
