Mae gwasanaeth arbennig gyda Phrif Weinidog Cymru i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE wedi cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd.
Daeth tua 250 o bobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd heno i anrhydeddu a chofio'r rhai a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd. Daeth y seremoni â chyn-filwyr, enwogion a gweinidogion ynghyd i dalu teyrnged i'r aberth a'r cyfraniad a wnaed i sicrhau heddwch yn Ewrop 80 mlynedd yn ôl.
Bu munud o dawelwch i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal cyn y Gwasanaeth Cofio a Diolchgarwch Cenedlaethol ar gyfer Diwrnod VE, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau yn Abaty Westminster.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Roedd yn fraint bod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i gofio dewrder a gwydnwch eithriadol y rhai a frwydrodd dros ein rhyddid.
"Diben yr achlysur hwn yw anrhydeddu pobl gyffredin o Gymru a wnaeth bethau anhygoel. Dim dyddiad arall yn ein llyfrau hanes yn unig yw hwn. Roedd hon yn foment a newidiodd fywydau, ac a newidiodd Gymru a'r byd.
"Wrth i nifer y cyn-filwyr sydd gyda ni o hyd leihau, mae'n dod yn bwysicach byth ein bod yn cadw eu straeon yn fyw a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol."
