Mae'r ymchwil hon yn archwilio ffactorau sy'n berthnasol i werthuso gwasanaeth mewngymorth i ysgolion y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), gan gynnwys datblygu fframwaith gwerthuso draft.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Nododd cyfweliadau lled-strwythuredig gydag arweinwyr Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMHS ym mhob bwrdd iechyd gyfres o ganfyddiadau.
Roedd y gwasanaethau a ddarperir gan dimau Mewngymorth Ysgolion CAMHS yn amrywio'n fawr ym mhob bwrdd iechyd, yn ogystal â’r ffordd y darparwyd y gwasanaethau hyn.
Rhai o'r prif wahaniaethau a nodwyd oedd a oedd byrddau iechyd yn darparu cymorth uniongyrchol i blant a phobl ifanc, yn ogystal ag athrawon a staff addysg eraill, i fynd i'r afael â'u hanghenion iechyd meddwl a lles.
Roedd yr wybodaeth a gasglwyd gan fyrddau iechyd i werthuso eu gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMHS yn amrywio'n sylweddol. Roedd gwahaniaethau mawr hefyd yn y ffordd yr oedd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu a'i rheoli. Mae'r gwahanol ddulliau hyn yn cyfyngu ar y cyfle i goladu data ar draws byrddau iechyd.
Ystyriwyd bod gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMHS yn hanfodol ar gyfer newid y diwylliant mewn ysgolion i fod yn fwy agored ac i gydnabod pwysigrwydd lles emosiynol a meddyliol. Tynnodd y rhai a gafodd eu cyfweld sylw at bwysigrwydd gwybodaeth ansoddol, a chyfyngiadau mesurau meintiol, i ddal newid diwylliant mewn ysgolion wrth werthuso effaith y gwasanaeth.
Datblygwyd fframwaith gwerthuso drafft sy'n cynnig dangosyddion meintiol ac ansoddol i fesur gweithrediad ac effaith gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMHS. Awgrymir dulliau a ffynonellau posibl i gasglu data ar gyfer y dangosyddion hyn. Bwriedir adeiladu ar y fframwaith gwerthuso drafft hwn a'i fireinio.
Adroddiadau
Gwasanaeth mewngymorth i ysgolion y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed: ystyriaethau gwerthuso , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
