Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gynnal cynllun gwasanaeth o fudd economaidd cyhoeddus (SPEI) o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw gwasanaeth o fudd economaidd cyhoeddus?

Gwasanaethau hanfodol a ddarperir i'r cyhoedd yw gwasanaethau o fudd economaidd cyhoeddus (SPEI). Maent yn wasanaethau na fyddent, heb gymorth cymhorthdal, yn cael eu cyflenwi mewn ffordd briodol neu na fyddent efallai’n cael eu cyflenwi o gwbl gan y farchnad. Mae enghreifftiau o SPEI yn cynnwys gwasanaethau post a thai cymdeithasol.

Sut i ddarparu cymhorthdal SPEI

Rhaid i awdurdod cyhoeddus gadw at reolau penodol wrth roi cymhorthdal SPEI. Mae'r rhain yn cynnwys gweithredu yn unol â’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod y cymhorthdal:

  • wedi’i gyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaeth
  • yn dryloyw
  • yn cael ei adolygu'n rheolaidd
  • wedi’i gofnodi yn y gronfa ddata rheoli cymorthdaliadau

Cymorth SPEI

Mae Cymorth SPEI (SPEIA) yn gweithredu mewn ffordd debyg i Gymorth Ariannol Lleiaf. Gall awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau â gwerth isel hyd at £725,000. Gellir gwneud hyn heb angen dilyn y mwyafrif o'r gofynion rheoli cymorthdaliadau.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorthdaliadau SPEI a SPEIA ar gael ym mhenodau 6 a 7 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.