Neidio i'r prif gynnwy

Aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy gynllun datgarboneiddio yng Ngorsaf Dân Llandudno gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Yn 2024 i 2025, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy gynllun datgarboneiddio yng Ngorsaf Dân Llandudno gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni. Canolbwyntiodd y prosiect ar ddisodli'r system wresogi nwy bresennol gyda thechnolegau carbon isel i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni. Mae'r prosiect peilot hwn yn rhan o strategaeth ehangach i foderneiddio seilwaith y gwasanaeth tân ledled Gogledd Cymru, gan gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.

Ein cefnogaeth

Darparodd y Gwasanaeth Ynni asesiad technegol manwl a datblygodd strategaeth aml-dechnoleg wedi'i theilwra i anghenion gweithredol yr orsaf. Roedd y gefnogaeth yn cynnwys arolygon safle a dadansoddiad dichonoldeb, gan arwain at nodi technolegau addas fel pympiau gwres o’r aer, gwresogi is-goch, goleuadau LED, a solar ffotofoltäig. Fe wnaethom hefyd gefnogi gyda chanllawiau ar lwybrau caffael a chynllunio cyflenwi yn ogystal â chymorth i sicrhau cyllid drwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus a chefnogaeth barhaus ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol i Raglen Dân Cymru ar gyfer solar ffotofoltäig a storio mewn batris.

Datrysiad technoleg

  • Pwmp Gwres o’r Aer i ddisodli'r system wresogi nwy ar gyfer gwresogi gofod a dŵr poeth domestig.
  • Paneli gwresogi is-goch ar gyfer y gilfan offer i leihau colli gwres pan fydd drysau ar agor.
  • Integreiddio solar ffotofoltäig a storio mewn batri wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Uwchraddio goleuadau LED ar draws y safle.

Buddsoddiad

  • Dyfarnwyd cyllid drwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus, gyda buddsoddiad cyfalaf ychwanegol wedi'i gynllunio ar gyfer gosodiadau adnewyddadwy yn y dyfodol.
  • Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi sicrhau tua £800,000 ar gyfer datgarboneiddio gwres yn ei safle sy'n defnyddio’r mwyaf o ynni yn y Rhyl, gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o Landudno fel glasbrint.

Effaith

  • Gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon o wresogi yng Ngorsaf Dân Llandudno.
  • Llai o gostau ynni gweithredol, gan alluogi ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen.
  • Creu swyddi trwy gyflawni prosiectau seilwaith yn lleol.
  • Cefnogaeth i strategaeth datgarboneiddio hirdymor Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
  • Sefydlu model y gellir ei ehangu ar gyfer datgarboneiddio ystadau'r gwasanaeth tân ledled Cymru.

Rydym yn gweld effaith newid hinsawdd yn uniongyrchol. Rydym yn mynd i achosion o lifogydd a thanau gwyllt o ganlyniad uniongyrchol ac mae'r cyllid hwn wedi ein galluogi i roi atebion ynni cynaliadwy ar waith yn ein gorsafoedd.

Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.