Yn y canllaw hwn
2. Templedi fframwaith caffael
Gall ein fframwaith caffael helpu cyrff y sector cyhoeddus i benodi cymorth arbenigol ar gyfer prosiectau ynni a sero net.
Gall sefydliadau gael cymorth yn ôl y gofyn yn uniongyrchol o dan ddwy lot:
Lot 1: Y Gwasanaeth Ynni
Mae'r lot hon yn darparu cymorth ar gyfer:
- cynhyrchu ynni adnewyddadwy,
- lleihau carbon,
- arbedion ariannol,
- capasiti ac arbenigedd sefydliadol,
- arloesi
- cymorth technegol
Lot 2: Adroddiadau Sero Net
Mae'r lot hon yn darparu cymorth ar gyfer:
- ôl troed carbon sefydliadol
- Adroddiadau Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru
- gwella prosesau ôl troed carbon
- modelu a rhagfynegi allyriadau
Mae dogfennau templed yn ôl y gofyn ar gael ar gais.
E-bostiwch enquiries@energyservice.wales i ofyn am y templedi neu i wirio pa lot sy'n addas i'ch sefydliad.
Mae'r dogfennau templed yn cyd-fynd â chontract fframwaith y Gwasanaeth Ynni.
