Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi cael ei basio heddiw (dydd Mawrth 9 Rhagfyr) gan y Senedd, gan roi Cymru ar flaen y gad wrth wella gwasanaethau bysiau yn y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru, gan roi teithwyr yn gyntaf a rhoi mwy o lais i'r sector cyhoeddus ar sut mae gwasanaethau'n gweithredu mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Gan weithio'n agos ag awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, undebau cwmnïau bysiau, a'r cyhoedd, bydd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn defnyddio gwybodaeth leol i ddylunio a chynllunio gwasanaethau sy'n rhoi llais y teithiwr wrth wraidd eu rhwydwaith bysiau lleol.

Nod y Bil yw darparu trafnidiaeth ddibynadwy, ddiogel a fforddiadwy i bob cymuned, gan fynd i'r afael â theimlo’n ynysig a lleihau allyriadau trafnidiaeth, i gynnig un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn i bob teithiwr ledled Cymru.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam mawr tuag at greu Cymru decach, wyrddach a mwy cysylltiedig. Mae'n gosod y sylfeini ar gyfer system drafnidiaeth fodern, integredig gydag amserlenni symlach i ddiwallu anghenion teithwyr heddiw ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Wrth siarad ar ymweliad â'r gyfnewidfa, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

"Bil a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu darparu yma yng Nghymru gan roi pobl a chymunedau yn gyntaf, gyda gwasanaethau cyfunol dibynadwy, fforddiadwy a hawdd eu defnyddio.

"Rwy'n deall bod hwn yn newid mawr i'r diwydiant, a bydd yn cymryd amser i'w weithredu ledled Cymru, ond mae'r newid hwn yn hir ddisgwyliedig, ac rwy'n teimlo'n gyffrous am yr hyn y gallwn ei gyflawni i bobl Cymru drwy weithio ar y cyd."

Bwriedir dechrau cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, cyn Gogledd Cymru yn 2028, De-ddwyrain Cymru yn 2029 a Chanolbarth Cymru yn 2030.