Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl adolygiad o raglen COVID hir Cymru, mae’r rhaglen yn helpu i drin a rheoli anghenion pobl sy’n wedi ceisio cymorth gyda’u symptomau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y rhaglen Adferiad, sy’n werth £5m, ei sefydlu i roi diagnosis i’r rheini sy’n dioddef o COVID hir yng Nghymru, gan ddarparu cymorth i’w helpu i adfer.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau adsefydlu integredig ac amlbroffesiwn ar gyfer pobl sydd â COVID hir, gan atgyfeirio pobl i wasanaethau gofal arbenigol pan fo angen hynny.

Bu’r adolygiad o’r rhaglen yn asesu’r wybodaeth a ddarparwyd gan y byrddau iechyd a’r adborth a gafwyd gan bron i 600 o bobl a oedd wedi defnyddio gwasanaethau COVID hir yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person sy’n dioddef o COVID hir yn cael y cymorth a’r gofal priodol sy’n gallu ymateb i’w hanghenion a’u symptomau fel unigolion, yn hytrach na chynnig yr un ymateb i bawb. Hefyd rydyn ni’n ceisio sicrhau bod yr unigolyn yn gallu cael y cymorth mor agos i’w gartref â phosibl. 

Mae’n dda gweld canlyniadau’r adolygiad hwn, sy’n dangos bod pobl yn cael y gofal priodol a’r canlyniadau iechyd gorau posibl.

Rydyn ni’n gwybod bod y cyflwr hwn yn effeithio ar bawb yn wahanol. Drwy ddilyn y model gofal sylfaenol, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod pobl yn cael eu trin gan yr arbenigwyr mwyaf priodol ar gyfer eu symptomau fel unigolion. Does dim angen i bawb sy’n dioddef o COVID hir weld arbenigwr, ac mae’r model hwn yn golygu na fydd rhaid i bobl aros am amser hir i gael triniaeth.

Rydyn ni’n dal i ddysgu am COVID hir a bydd yr adolygiad hwn yn ein helpu i wella’r gwasanaethau sy’n ei drin. Byddwn ni’n parhau i fonitro’r cymorth y mae ei angen, gan addasu wrth inni ddysgu mwy am y cyflwr er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb sydd ag angen cymorth.

Mae pob unigolyn sy’n gofyn am gymorth i ymdopi â COVID hir yn cael asesiad cynhwysfawr o’i symptomau, er mwyn iddo gael ei drin am ei bryderon penodol a chael y cymorth priodol.

Dyma ganlyniadau’r adolygiad o’r rhaglen Adferiad:

  • O’r 2,431 o achosion o bobl â COVID hir a gofnodwyd drwy systemau meddygon teulu yng Nghymru, mae 2,226 wedi defnyddio gwasanaethau Adferiad.
  • Cafodd oddeutu 3.5% o bobl sydd â COVID hir eu hatgyfeirio i wasanaethau gofal eilaidd.
  • Roedd llai na 27% o’r bobl sydd â COVID hir wedi cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd COVID-19.
  • Mae’r ap Adferiad COVID wedi bod yn adnodd digidol effeithiol ar gyfer helpu pobl i reoli eu cyflwr.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o bobl a gymerodd ran yn yr adolygiad eu bod yn teimlo bod eu pryderon wedi cael sylw, a’u bod wedi cael eu helpu i gael y cymorth a’r wybodaeth yr oedd eu hangen arnynt.
  • Roedd dros 70% wedi graddio eu profiad o’r gwasanaeth fel profiad sy’n well na’r cyfartaledd, a byddai dros 87% yn argymell y gwasanaeth i eraill.
  • Roedd y bobl a oedd wedi defnyddio’r gwasanaethau COVID hir, ac a oedd wedi ymateb i werthusiad cleifion cenedlaethol Cedar (Canolfan Ymchwil Technoleg Iechyd), wedi dweud bod eu canlyniadau iechyd wedi gwella a’u bod yn fodlon ar eu profiad.

Mae grŵp COVID hir arbenigol wedi cael ei sefydlu i edrych ar effeithiau’r cyflwr, y triniaethau, a’r dulliau atgyfeirio.