Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG, y math o driniaeth a ddarparwyd a’r nifer o ddeintyddion GIG ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Nifer y cleifion a gafodd eu trin yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2018

  • Cafodd 1.7 miliwn o gleifion (55.0% o’r boblogaeth) eu cofnodi fel rhai a gafodd driniaeth yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2018. Cafodd 52% o'r boblogaeth sy'n oedolion eu trin, gostyngiad bychan o’r cyfnod blaenorol; ynghyd â 66.9% o'r boblogaeth sy’n blant, cynydd bychan ychydig o’r cyfnod blaenorol. 

Taliadau cleifion rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018

  • Roedd 45.2% o’r holl CoT ar gyfer oedolion a oedd yn talu.
  • Cyfanswm y taliadau gan gleifion oedd £35.5 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 2.1% o’i gymharu â £34.7 miliwn a dalwyd gan gleifion yn 2016-17.

Gweithgarwch rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018

  • Cafodd cyfanswm o 4.9 miliwn uned o weithgarwch deintyddol eu cynnal yn 2017-18; gostyngiad o 2.7% o’i gymharu â 2016-17. Roedd hyn yn cynrychioli bron i 2.4 miliwn o gyrsiau unigol o driniaeth deintyddol o dan y GIG, gostyngiad o 0.4% o’i gymharu â 2016-17.

Y gweithlu rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018

  • Roedd 1,479 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch o dan y GIG rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Cyfatebai hyn â 4.7 deintydd ar gyfer pob 10,000 o’r boblogaeth, yr un peth â’r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2017 i Fawrth 2018: atodiad tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 86 KB

ODS
Saesneg yn unig
86 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.