Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG, y math o driniaeth a ddarparwyd a’r nifer o ddeintyddion GIG ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Prif bwyntiau

Nifer y cleifion a gafodd eu trin yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2019

  • Cafodd 1.7 miliwn o gleifion (55.0% o’r boblogaeth) eu cofnodi fel rhai a gafodd driniaeth yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2019.
  • Cafodd 51.9% o'r boblogaeth sy'n oedolion eu trin, gostyngiad bychan o’r cyfnod blaenorol; ynghyd â 67.7% o'r boblogaeth sy’n blant, cynnydd bychan o’r cyfnod blaenorol.

Taliadau cleifion rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019

  • Roedd 45.6% o’r holl gyrsiau o driniaeth ar gyfer oedolion a oedd yn talu.
  • Cyfanswm y taliadau gan gleifion oedd £36.4 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 2.6% o’i gymharu â £35.5 miliwn a dalwyd gan gleifion yn 2017-18.

Gweithgarwch rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019

  • Roedd tua 2.4 miliwn o gyrsiau unigol o driniaeth deintyddol o dan y GIG, cynnydd o 2.2% o’i gymharu â 2017-18.
  • Cafodd cyfanswm o 4.9 miliwn uned o weithgarwch deintyddol eu cynnal yn 2018-19; ffigur tebyg o’i gymharu â 2017-18.

Y gweithlu rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019

  • Roedd 1,506  o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch o dan y GIG rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
  • Cyfatebai hyn â 4.8 deintydd ar gyfer pob 10,000 o’r boblogaeth, cynnydd bychan ers y flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2018 i Fawrth 2019: atodiad tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 95 KB

ODS
Saesneg yn unig
95 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.