Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar waith deintyddol y GIG a gwblhawyd gan ddeintydd GIG yng Nghymru sydd wedi’i gyflwyno i’w dalu. Mae’n darparu crynodeb o weithgarwch a gwblhawyd yn ystod 2020-21 gan ddeintyddion y GIG. Mae’n cynnwys data ar nifer y cyrsiau triniaeth a gwblhawyd, triniaethau penodol a gyflawnwyd, y gweithlu deintyddol, nifer y cleifion a gafodd driniaeth yn ystod y 24 mis diwethaf, a gweithgarwch orthodontig.

Mae prif ffynhonnell y data yn y datganiad ystadegol hwn yn deillio o ffurflenni gweithgarwch deintyddol a gyflwynwyd i’w talu a’u prosesu gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae data cymaradwy ar gael o’r adeg y cyflwynwyd y contract deintyddol presennol yn 2006.

Effaith COVID-19

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau deintyddol wedi cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 a blwyddyn ariannol lawn 2020-21. Lle mae gostyngiad bach mewn lefelau gweithgarwch yn 2019-20 a gostyngiadau mawr yn 2020-21, mae’n debygol o fod o ganlyniad i’r pandemig.

Er nad oedd practisiau yng Nghymru wedi cau ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig, buont ar Lefel Rhybudd Coch Deintyddol o 23 Mawrth 2020 ac roeddent wedi’u cyfyngu o ran y mathau o driniaethau y gallent eu gwneud yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Mehefin 2020.

Sefydlwyd Canolfannau Deintyddol Brys yn ystod y cyfnod rhybudd coch deintyddol ac ni chofnodwyd data gweithgarwch yn y ffordd arferol. O ganlyniad i hyn, bydd y data a adroddir yn y datganiad ystadegol hwn yn tan-gyfrif y gwir weithgarwch a ddigwyddodd. Ar ben hynny, bydd y cyfyngiadau ar arferion cyn ac ar ôl y cyfnodau clo cenedlaethol yn golygu y bydd y data sy’n cael ei adrodd o ran gweithgarwch, nifer y cleifion, cyllid a thriniaethau yn is na’r disgwyl yn ystod chwarter olaf 2019-20 (Ionawr i Mawrth 2020) a blwyddyn ariannol gyfan 2020-21.

Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adran gwybodaeth allweddol am fethodoleg ac ansawdd.

Prif bwyntiau

  • Yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd dros 1.1 miliwn o oedolion (neu 45.2% o’r boblogaeth oedolion) a thros 370,000 o blant (neu 59.3% o’r boblogaeth plant) eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru.
  • Yn 2020-21, ychydig dros 540,000 o gyrsiau triniaeth a gofnodwyd. Am y tro cyntaf erioed, y band trin mwyaf cyffredin oedd triniaeth frys, a oedd yn cyfrif am ychydig o dan hanner yr holl driniaethau.
  • Yn 2020-21, gostyngodd nifer y cyrsiau triniaeth 76.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn bennaf oherwydd gohirio gweithgareddau deintyddol oherwydd pandemig COVID-19. Roedd y gweithgarwch wedi gostwng ar gyfer pob band triniaeth ac eithrio achosion brys a gynyddodd 0.6%.
  • Arweiniodd effaith y pandemig yn 2020-21 at ostyngiad sydyn yn y triniaethau mwyaf cyffredin, gyda 98.5% yn llai o archwiliadau’n cael eu cynnal ar oedolion a 99.4% yn llai o archwiliadau ar blant nag yn 2019-20.
  • Yn 2020-21, cynhyrchwyd £9.3 miliwn o refeniw o daliadau cleifion, gostyngiad o 73.4% o’i gymharu â £34.9 miliwn yn 2019-20.
  • Yn 2020-21, roedd 1,389 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch GIG yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad o 5.6% (neu 83 yn llai o ddeintyddion) nag yn 2019-20.
  • Yn 2020-21, roedd bron i hanner y deintyddion â gweithgarwch GIG a gofnodwyd yn fenywod.

Cleifion a gafodd driniaeth

Mae ‘cleifion a gafodd driniaeth’ yn cyfrif nifer y cleifion unigol sydd wedi cael triniaeth yn ystod y 24 mis diwethaf; dim ond unwaith y caiff pob claf ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi derbyn sawl cyfnod o ofal dros y cyfnod.

Defnyddir cyfnod o 24 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod cleifion yn cael eu galw’n ôl i gael archwiliadau bob tri mis i 24 mis, yn dibynnu ar statws iechyd y geg yr unigolyn.

Sylwer na fydd cleifion efallai’n cael eu trin yn eu bwrdd iechyd preswyl a bod cleifion orthodontig yn cael eu cynnwys yn y mesur cleifion a welwyd.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dull o gyfrif cleifion a gafodd driniaeth yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Mae canran y boblogaeth sy’n cael eu trin wedi aros yn weddol sefydlog hyd at 2020, gyda gostyngiad amlwg yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 oherwydd effeithiau pandemig COVID-19.

Canran y boblogaeth oedolion a phlant a gafodd driniaeth yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth, 2006 i 2021 (StatsCymru)

Mae Siart 1 yn dangos cyfran yr oedolion a’r plant a gafodd eu trin yng Nghymru ers 2006.

Roedd canran yr oedolion a gafodd driniaeth yng Nghymru yn weddol sefydlog rhwng 2006 a 2020, ond roedd gostyngiad amlwg yn 2021 oherwydd effeithiau’r pandemig. Yn yr un modd, mae canran y plant a gafodd driniaeth yng Nghymru hefyd wedi aros yn weddol sefydlog dros y tymor hir, ond gyda rhywfaint o gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf; fodd bynnag, roedd gostyngiad amlwg yn 2021, wrth i’r pandemig effeithio ar wasanaethau deintyddol.

Yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd dros 1.1 miliwn o oedolion (1,146,918 neu 45.2% o’r boblogaeth oedolion) a thros 370,000 o blant (373,242 neu 59.3% o’r boblogaeth plant) eu trin gan ddeintyddion GIG yng Nghymru. At ei gilydd, cafodd dros 1.5 miliwn o gleifion (1,520,160 neu 48.0% o gyfanswm y boblogaeth) eu trin.

O’i gymharu â’r cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, gostyngodd nifer yr oedolion a gafodd driniaeth 11.6% (neu 149,971 o gleifion) a gostyngodd canran yr oedolion a gafodd driniaeth 6.2 pwynt canran. Roedd nifer y plant a gafodd driniaeth wedi gostwng 13.6% (58,787 o gleifion) ac roedd canran y plant a gafodd driniaeth wedi gostwng 9.3 pwynt canran. At ei gilydd, roedd gostyngiad o 12.1% (208,758 o gleifion) yng nghyfanswm nifer y cleifion a gafodd driniaeth, ac roedd y ganran o’r boblogaeth a gafodd driniaeth wedi gostwng 6.9 pwynt canran.

Gweithgarwch: cyrsiau o driniaeth

Y data gweithgarwch a gyflwynir yma yw cyfanswm y gweithgarwch a gwblhawyd. Mae triniaethau’n cael eu rhannu’n fandiau triniaeth fel Band 1, Band 2, Band 3, a Thriniaethau Brys. Caiff y rhain eu defnyddio i bennu’r ffi a delir gan gleifion.

Edrychwch ar yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau triniaeth.

Image
Cyn pandemig COVID-19, câi ychydig dros 2.3 miliwn o gyrsiau triniaeth eu cwblhau bob blwyddyn gan ddeintyddion GIG Cymru. Yn 2020-21, roedd llawer llai o driniaethau o ganlyniad i’r pandemig, er bod triniaethau brys wedi cynyddu ychydig ac wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed.

Cyrsiau triniaeth yn ôl band triniaeth (StatsCymru)

Sylwch na chafodd gweithgarwch deintyddol ei gofnodi gan Ganolfannau Deintyddol Brys yn y ffordd arferol yn ystod pandemig COVID-19, felly efallai fod y data am 2020-21 yn tan-gyfrif y gweithgarwch deintyddol go iawn.

Cyn pandemig COVID-19, câi ychydig dros 2.3 miliwn o gyrsiau triniaeth eu cwblhau bob blwyddyn gan ddeintyddion GIG Cymru. Roedd y rhan fwyaf o driniaethau’n cael eu categoreiddio fel rhai Band 1, a oedd wedi bod yn cynyddu’n raddol ers 2006-07. Wrth i’r pandemig daro gwasanaethau deintyddol yn 2020-21, cafodd llawer llai o driniaethau eu cofnodi ar gyfer y rhan fwyaf o fandiau triniaeth, er bod triniaethau brys wedi cynyddu ychydig ac ar eu lefel uchaf erioed.

Yn 2020-21, ychydig dros 540,000 (544,755) o gyrsiau triniaeth a gofnodwyd. Am y tro cyntaf erioed, y band mwyaf cyffredin oedd triniaeth frys, a oedd yn cyfrif am ychydig o dan hanner (224,130) yr holl driniaethau. Roedd ychydig llai na 155,000 (154,726) o driniaethau Band 1 hefyd; ychydig llai na 135,000 (134,681) o driniaethau Band 2; ychydig dros 22,000 (22,363) o driniaethau Band 3 a bron i 9,000 (8,595) o driniaethau am ddim.

O’i gymharu â 2019-20, gostyngodd cyfanswm nifer y cyrsiau triniaeth bron 1.8 miliwn (neu 76.7%). Cynyddodd nifer y triniaethau brys ychydig, sef 0.6%; fodd bynnag, bu gostyngiad ym mhob band triniaeth arall yn amrywio o ostyngiad o 89.2% o ran triniaethau Band 1 i ostyngiad o 22.2% o ran triniaethau am ddim.

Mae data am Unedau o Weithgarwch Deintyddol ar gael ar StatsCymru.

Taliadau cleifion

Caiff taliadau cleifion eu talu gan gleifion sy’n oedolion ac sy’n gymwys i dalu am driniaeth. Pennir y swm a godir gan y band triniaeth. Nid yw rhai cleifion yn talu am eu triniaeth o dan y GIG. Y prif grwpiau o gleifion nad ydynt yn talu yw plant (dan 18 oed); pobl ifanc 18 oed mewn addysg amser llawn; menywod beichiog a mamau sy’n bwydo o’r fron; oedolion ar incwm isel neu sy’n cael budd-daliadau penodol; a chleifion sy’n cael eu trin yn yr ysbyty (er nad yw triniaethau ar gyfer yr olaf yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn).

Yn 2020-21, cynhyrchwyd £9.3 miliwn o refeniw o daliadau cleifion, gostyngiad o 73.4% o’i gymharu â £34.9 miliwn yn 2019-20. Gweler StatsCymru am ragor o ddata ar refeniw a gynhyrchir o daliadau cleifion.

Edrychwch ar yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am daliadau cleifion.

Image
O’i gymharu â 2019-20, mae nifer y cyrsiau triniaeth y codir tâl amdanynt wedi gostwng 72.5% yn 2020-21 ar gyfer oedolion sy’n talu, 81.0% ar gyfer plant ac 80.4% ar gyfer oedolion nad ydynt yn talu.

Cyrsiau triniaeth y codir tâl amdanynt yn ôl y math o glaf (StatsCymru)

Mae Siart 3 yn dangos nifer y cyrsiau triniaeth y codir tâl amdanynt a roddwyd i wahanol fathau o gleifion ers 2009-10.

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd nifer y cyrsiau triniaeth a roddwyd i oedolion sy’n talu wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2009-10 a 2018-19 gyda gostyngiad bach yn 2019-20, ac mae’r nifer a roddwyd i oedolion nad ydynt yn talu wedi gostwng ers 2014-15. Roedd nifer y cyrsiau triniaeth i blant yn sefydlog, gyda chynnydd bach ers 2016-17.

Effeithiodd y pandemig ar wasanaethau deintyddol yn 2020-21. Rhoddwyd ychydig dros 290,000 (292,434) o driniaethau y codir tâl amdanynt i oedolion sy’n talu, ychydig dros 110,000 (112,988) o driniaethau i blant ac ychydig dros 130,000 (130,738) o driniaethau i oedolion nad ydynt yn talu.

O’i gymharu â 2019-20, mae nifer y cyrsiau triniaeth y codir tâl amdanynt wedi gostwng ar gyfer pob math o gleifion. Roedd gostyngiad o 72.5% o ran oedolion sy'n talu, gostyngiad o 81.0% o ran plant, a gostyngiad o 80.4% o ran oedolion nad oeddent yn talu.

Gweithgarwch deintyddol clinigol

Amcangyfrifon yw nifer y triniaethau clinigol wedi’u seilio ar flwyddyn lawn o ddata clinigol. Yn y blynyddoedd cynnar o gasglu data, defnyddiwyd ffactor pwysoli gyda data triniaethau clinigol fel eu bod yn cyfateb i ddata gweithgarwch. Mae gwybodaeth gefndir ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyflwynir y data triniaethau clinigol fel y cânt eu cofnodi ar y ffurflen FP17W (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Efallai y bydd nifer fach o driniaethau cymhleth wedi’u cofnodi mewn band is, megis mewnosodiadau ym Mand 2. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n debygol bod y driniaeth wedi’i chofnodi yn y band anghywir, ond ni wneir unrhyw addasiadau yn yr amgylchiadau hyn.

Image
Archwiliadau oedd y driniaeth glinigol a gafodd y rhan fwyaf o oedolion cyn y pandemig, ond yn 2020-21 triniaethau ‘eraill’ oedd y rhai mwyaf cyffredin.

Triniaethau clinigol ar gyfer oedolion (MS Excel)

Mae Siart 4 yn dangos nifer y triniaethau clinigol ar gyfer oedolion yn ôl y math o driniaeth a’r flwyddyn ers 2010-11, am y pum prif driniaeth glinigol cyn y pandemig. 

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd nifer yr archwiliadau deintyddol a wnaed ar gleifion sy’n oedolion wedi bod ar gynnydd, gyda 44.2% yn fwy o archwiliadau yn 2019-20 nag yn 2010-11. Yn yr un modd, roedd nifer y radiograffau hefyd wedi bod ar gynnydd, gan gynyddu dros ddwy ran o dair (67.6%) dros y gyfres amser. Roedd nifer y triniaethau digennu a llathru wedi aros yn sefydlog, er bod rhywfaint o ostyngiad wedi bod yn nifer y llenwadau parhaol a’r gwaith adnewyddu selyddion. 

Arweiniodd effaith y pandemig yn 2020-21 at ostyngiadau sydyn o ran y triniaethau mwyaf cyffredin. Cofnodwyd ychydig llai na 25,000 o archwiliadau, a oedd 98.5% yn is nag yn 2019-20. Cafwyd gostyngiadau mawr tebyg o ran digennu a llathru (98.3%), llenwadau parhaol ac adfer selyddion (68.8%) a radiograffau (63.8%). Y categori mwyaf cyffredin o gyrsiau triniaeth oedd triniaethau ‘eraill’, gydag ychydig dros 165,000 o driniaethau, ond roedd hyn hefyd 38.3% yn is nag yn 2019-20.

Darperir rhestr lawn o driniaethau clinigol yn yr wybodaeth allweddol am fethodoleg ac ansawdd.

Image
Archwiliadau oedd y driniaeth glinigol a gafodd y rhan fwyaf o blant cyn y pandemig, ond yn 2020-21 triniaethau ‘farnais fflworid’ oedd y rhai mwyaf cyffredin.

Triniaethau clinigol ar gyfer oedolion (MS Excel)

Mae Siart 5 yn dangos nifer y cyrsiau o driniaethau ar gyfer plant yn ôl mathau penodol o driniaeth a’r flwyddyn ers 2010-11, am y pum prif driniaeth glinigol cyn y pandemig.

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd nifer yr archwiliadau deintyddol a wnaed ar gleifion sy’n blant wedi bod ar gynnydd, gan gynyddu 37.2% rhwng 2010-11 a 2020-21. Roedd cynnydd mawr hefyd yn nifer y triniaethau farnais fflworid a gyflawnwyd, gan gynyddu o ychydig llai na 6,000 o driniaethau yn 2010-11 i dros 275,000 o driniaethau yn 2019-20. Mae’r cynnydd hwn yn gyson â’r canllawiau yn rhaglen ddeintyddol y GIG a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cynllun Gwên (Iechyd Cyhoeddus Cymru), sy’n argymell defnyddio fflworid fel mater o drefn i wella iechyd deintyddol plant.

O’r holl driniaethau a ddarparwyd i blant yn 2019-20, roedd 95.7% yn cynnwys archwiliadau, roedd 46.4% yn cynnwys farnais fflworid, roedd 15.5% yn cynnwys llenwadau parhaol ac adnewyddu selyddion ac roedd 7.6% yn cynnwys radiograffau.

Mae effaith y pandemig ar wasanaethau deintyddol i blant wedi bod yn debyg i’r effaith ar oedolion. Yn 2020-21, cofnodwyd llai na 3,500 o archwiliadau, gostyngiad o 99.4% o’i gymharu â 2019-20. Roedd pob categori triniaeth arall wedi gostwng yn sylweddol, gyda farneisiau fflworid yn gostwng 78.2%, llenwadau parhaol ac adnewyddu selyddion yn gostwng 74.9%, radiograffau yn gostwng 63.2% a thriniaethau eraill yn gostwng 47.6%.

Gweithgarwch orthodontig

Mae orthodonteg yn faes deintyddol arbenigol sy’n ymwneud â thwf a datblygiad y dannedd a’r genau ac atal a thrin annormaleddau’r datblygiad hwn. O’r herwydd, plant yw’r rhan fwyaf o gleifion. Mae rhagor o fanylion am orthodonteg ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Roedd nifer y triniaethau a gynhaliwyd wedi bod yn weddol sefydlog cyn y pandemig, ond roedd hyn wedi disgyn yn sylweddol yn 2020-21.

Nifer y triniaethau a gynhaliwyd (Aseswyd ac a Dderbyniwyd FP17OWs) (MS Excel)

Roedd nifer y triniaethau orthodontig a gynhaliwyd yn sefydlog yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gydag oddeutu 9,500 o driniaethau’n cael eu gwneud ym mhob blwyddyn rhwng 2015-16 a 2019-20. Yn 2020-21, gostyngodd nifer y triniaethau 84.4% i ychydig o dan 1,500 o driniaethau.

Y gweithlu

Mae data’r gweithlu deintyddol a gyflwynir yma yn dangos cyfanswm nifer y deintyddion a gofnododd unrhyw weithgarwch GIG 1 Ebrill a 31 Mawrth. Sylwer mai cyfrif pennau yw hwn; nid oes data cyfwerth ag amser llawn ar gael.

Sylwer, oherwydd newidiadau i system gasglu Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, rhoddwyd methodoleg newydd ar waith i bennu trefniadau gweithio deintyddion (h.y. math o ddeintydd) o 2018-19 ymlaen. Nid yw hyn wedi effeithio ar nifer cyffredinol y deintyddion ond dylid bod yn ofalus wrth gymharu â’r math o ddeintydd mewn data a gyhoeddwyd yn flaenorol am 2017-18 ac yn gynharach (ar gael ar StatsCymru).

Edrychwch ar yr adroddiad ansawdd a’r adran gwybodaeth allweddol am fethodoleg ac ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Image
Mae nifer y deintyddion wedi cynyddu’n gyson rhwng 2006-07 a 2018-19, ond mae wedi bod yn gostwng ers hynny.

Deintyddion â gweithgarwch GIG (StatsCymru)

Mae nifer y deintyddion sydd â gweithgarwch GIG wedi cynyddu ychydig bob blwyddyn rhwng 2006-07 a 2018-19, gyda gostyngiad bach wedi hynny yn 2019-20. Gostyngodd y nifer yn 2020-21; bydd y pandemig hefyd yn effeithio ar hyn wrth i lai o driniaethau deintyddol GIG gael eu cynnal. Mae’r boblogaeth fesul deintydd sydd â gweithgarwch GIG yn y flwyddyn wedi bod yn gostwng yn unol â’r nifer cynyddol o ddeintyddion, ond mae wedi cynyddu yn y ddwy flynedd diwethaf wrth i nifer y deintyddion ostwng.

Yn 2020-21, roedd 1,389 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch GIG yng Nghymru. Mae hyn 5.6% yn llai nag yn 2019-20 (neu 83 yn llai o ddeintyddion). Gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2020, amcangyfrifwyd bod 2,282 o bobl i bob deintydd gyda gweithgarwch GIG yng Nghymru. Mae hyn 6.5% yn uwch (neu 140 yn fwy o bobl fesul deintydd) nag yn 2019-20.

Image
Mae canran y deintyddion sy’n fenywod wedi bod yn cynyddu dros amser, gydag ychydig llai na hanner (49.2%) o ddeintyddion yn fenywod yn 2020-21.

Deintyddion â gweithgarwch GIG (StatsCymru)

Yn hanesyddol, mae mwy o ddeintyddion gwrywaidd wedi gwneud gweithgarwch GIG na deintyddion benywaidd, ond mae’r gwahaniaeth wedi lleihau dros amser o bron i ddwy ran o dair o ddynion yn 2006-07 i nifer sydd bron â bod yn gyfartal yn 2020-21.

Yn 2020-21, roedd 49.2% o ddeintyddion â gweithgarwch GIG yn fenywod, y ganran uchaf ers casglu’r data am y tro cyntaf yn 2006-07. O ganlyniad, yr oedd 50.8% o ddeintyddion yn ddynion, y ganran isaf hyd yma.

O’i gymharu â 2019-20, roedd cynnydd o 1.5 pwynt canran yng nghyfran y deintyddion benywaidd â gweithgarwch GIG, ac o’i gymharu â 2006-07 roedd cynnydd o 12.4 pwynt canran yng nghyfran y deintyddion benywaidd â gweithgarwch GIG.

Unigolion sy’n ymuno ac yn gadael

Image
Yn gyffredinol, roedd mwy o bobl yn ymuno nag yn gadael dros amser, a 2019-20 oedd â’r bwlch mwyaf rhwng y rhai a oedd yn gadael a’r rhai oedd yn ymuno.

Deintyddion y GIG sy’n ymuno ac wedi gadael (MS Excel)

Mae Siart 9 yn crynhoi nifer y deintyddion sy’n ymuno ac yn gadael dros amser.

Mae deintydd sydd wedi ymuno wedi cofnodi gweithgarwch GIG yn y flwyddyn ddiweddaraf ond nid yn y flwyddyn flaenorol. Mae deintydd sydd wedi gadael wedi cofnodi gweithgarwch GIG yn y flwyddyn flaenorol ond nid yn y flwyddyn ddiweddaraf. Felly, mae oedi o flwyddyn yn y data ar gyfer deintyddion sydd wedi gadael. Trowch at yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth am y rheini sy’n ymuno ac yn gadael.

Dros y cyfnod amser, roedd mwy wedi ymuno na gadael yn y rhan fwyaf o flynyddoedd; fodd bynnag, yn y flwyddyn ddiweddaraf lle mae data ar gyfer y ddau fesur, roedd llawer mwy wedi gadael nag ymuno.

Yn 2019-20, roedd 206 o ddeintyddion (14.0% o’r holl ddeintyddion yn 2019-20) wedi rhoi’r gorau i wneud gwaith y GIG, o’i gymharu â 130 o ddeintyddion (8.8% o’r holl ddeintyddion yn 2019-20) a oedd newydd ddechrau gwneud gwaith y GIG yn 2019-20. Dyma’r bwlch mwyaf erioed.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2020-21 yn dangos bod 123 o bobl wedi ymuno, 7 yn llai nag yn 2019-20.

Y Gymraeg

Mae’n rhaid i bob deintydd sy’n ymgymryd â gwaith deintyddol y GIG yng Nghymru gael ei gofrestru ar y Rhestr Perfformwyr Deintyddol. Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG sy’n cynnal y rhestr hon. Wrth gofrestru, mae deintydd yn hunan-ddatgan a yw’n gallu siarad Cymraeg. Cesglir yr wybodaeth hon ar hyn o bryd drwy gyfrwng cwestiwn syml ‘Ydw/Nac ydw’, yn hytrach na graddio lefel eu rhuglder ac nid yw fel arfer yn cael ei diweddaru dros gyfnod y deintydd ar y rhestr.

Efallai nad yw’r data hyn o reidrwydd yn cynrychioli nifer y deintyddion sy’n ymgynghori yn Gymraeg ar hyn o bryd neu sy’n gallu ymgynghori yn Gymraeg.

Image
Mae nifer y deintyddion sy’n siarad Cymraeg am bob 10,000 o siaradwyr Cymraeg ar ei uchaf yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae’r nifer am bob 10,000 o’r boblogaeth gyffredinol ar ei uchaf yng Nghwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr.

Deintyddion Cymraeg eu Hiaith (MS Excel)

Mae Siart 10 yn dangos nifer y deintyddion sy’n siarad Cymraeg fesul 10,000 o bobl sy’n siarad Cymraeg (o Gyfrifiad 2011) a nifer y deintyddion sy’n siarad Cymraeg fesul 10,000 o’r boblogaeth gyffredinol yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2020.

Ar 14 Gorffennaf 2021, roedd 148 o ddeintyddion Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, yn ôl y Rhestr Perfformwyr Deintyddol.

Mae hyn yn cyfateb i 2.6 o ddeintyddion Cymraeg eu hiaith am bob 10,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a 0.5 am bob 10,000 o bobl yng Nghymru.

Mae hyn yn amrywio rhwng ardaloedd byrddau iechyd. Cwm Taf Morgannwg sydd â’r nifer uchaf o ddeintyddion sy’n siarad Cymraeg am bob 10,000 o siaradwyr Cymraeg sef 6.8, ac Aneurin Bevan sydd â’r gyfran isaf sef 1.1. Hefyd, mae gan Gwm Taf Morgannwg y nifer uchaf o ddeintyddion sy’n siarad Cymraeg am bob 10,000 o bobl sef 0.7, gyda’r un nifer ym Betsi Cadwaladr; ac Aneurin Bevan sydd â’r isaf ar 0.1.

Practisiau deintyddol

Image
Map 1: Practisau deintyddol cyffredinol fesul bwrdd iechyd lleol ar 28 Mai 2021

Gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am yr ystadegau yn y datganiad hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Effaith COVID-19

Cafodd COVID-19 effaith sylweddol ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol yn cael eu darparu yng Nghymru ac felly mae’n effeithio ar y data sy’n cael ei gasglu.

Er nad oedd practisiau yng Nghymru wedi cau yn ystod y pandemig, roeddent wedi’u cyfyngu o ran y mathau o driniaethau y gallent eu gwneud yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Mehefin 2020. Arweiniodd hyn at sefydlu Canolfannau Deintyddol Brys (UDC) yn ystod y cyfnod rhybudd coch i ddeintyddion ac nid oedd gweithgarwch y canolfannau hyn yn cael eu hadrodd ar FP17W i Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn y ffordd arferol. Cyfeiriwyd unrhyw driniaeth a oedd angen gweithdrefn sy'n cynhyrchu aerosol at UDC. Ni chafodd ffyrdd newydd o weithio, fel defnyddio ymgynghoriadau o bell, eu cofnodi chwaith. O ganlyniad i hyn, bydd y data a adroddir yn y datganiad ystadegol hwn yn tan-gyfrif y gwir weithgarwch a ddigwyddodd.

Fel rhan o’r cynllun adfer, cafodd targedau Unedau Gweithgarwch Deintyddol (UDA) eu hatal ar gyfer 2020-21. Mae’r cyfnod segur gorfodol rhwng triniaethau, y mesurau cadw pellter cymdeithasol, gorfod gwisgo mwy o gyfarpar diogelu personol ac absenoldebau staff wedi effeithio ar weithgareddau hefyd.

O fis Awst 2021 ymlaen, gosodwyd gwasanaethau deintyddol yng nghyfnod Ambr y broses o lacio’r cyfyngiadau ac mae deintyddion yn gweld ac yn trin mwy o’u cleifion, gan gynnwys darparu llenwadau, er bod llai o gleifion yn cael eu trin. Rhaid iddynt lynu wrth y Weithdrefn Weithredu Safonol (SOP) a gallant roi mesurau ar waith i ailgyflwyno gweithdrefnau sy’n cynhyrchu aerosolau yn ddiogel.

Cyrsiau o driniaeth

Caiff data am Gyrsiau o Driniaeth a wneir gan ddeintydd GIG eu cyflwyno i Wasanaethau Deintyddol y GIG i’w talu ar ffurflen FP17W electronig, drwy system Compass.

Diffinnir cwrs o driniaeth fel a ganlyn:

  • archwiliad o glaf, asesiad o'i iechyd geneuol, a chynllunio unrhyw driniaeth sydd i'w darparu i'r claf hwnnw o ganlyniad i'r archwiliad a'r asesiad hwnnw
  • darparu unrhyw driniaeth a gynlluniwyd (gan gynnwys unrhyw driniaeth a gynlluniwyd ar adeg heblaw adeg yr archwiliad cychwynnol) i'r claf hwnnw

Mae triniaethau’n cael eu rhannu’n fandiau triniaeth, yn ôl y lefelau cymhlethdod canlynol, sy’n cael eu defnyddio i bennu’r ffi a delir gan gleifion.

Band 1

Mae’n cynnwys archwiliad a thriniaeth syml (fel archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a digennu a llathru).

Band 2

Mae’n cynnwys triniaethau canolig (fel llenwadau, tynnu dannedd, a gwaith sianel y gwreiddyn) yn ogystal â gwaith Band 1.

Band 3

Mae’n cynnwys triniaethau cymhleth (fel gosod coron, dannedd gosod a phontydd) yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2

Urgent

Set benodol o driniaethau posibl a ddarperir i glaf mewn amgylchiadau lle: darperir gofal a thriniaeth brydlon oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd y geg y person hwnnw yn debygol o waethygu'n sylweddol, neu fod y person mewn poen difrifol oherwydd ei gyflwr geneuol; a darperir gofal a thriniaeth dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno.

Free

Ni chodir tâl ar y claf am y rhain ac maent yn cynnwys: atal gwaedu, atgyweirio pontydd, trwsio dannedd gosod, tynnu pwythau a materion sy’n ymwneud â phresgripsiynau.

Ceir manylion llawn y triniaethau ym mhob band codi tâl ar wefan y GIG.

Gweithgarwch Deintyddol Clinigol

Cofnodwyd un ar bymtheg o driniaethau clinigol posibl. Sylwch y gall claf gael mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth.

Digennu a llathru

Mae hyn yn cyfeirio at driniaeth periodontol syml gan gynnwys digennu, llathru, mân gywiriadau i llenwadau a siartio pocedi periodontol.

Farnais fflworid

Paratoad fflworid sy’n cael ei roi ar arwynebau dannedd fel prif fesur ataliol.

Selio tyllau yn y geg

Lle mae deunydd selio yn cael ei roi ar y dyllau a holltau fel prif fesur ataliol.

Radiograff (pelydr-x yn fwyaf cyffredin)

Mae radiograffau deintyddol yn rhoi delwedd o’r dannedd, y geg a/neu’r deintgig sy’n gallu helpu’r deintydd i ganfod problemau sylfaenol, fel pydredd a chlefyd y deintgig.

Triniaeth endodontig

Lle mae dant wedi pydru neu wedi’i ddifrodi’n ddifrifol (er enghraifft drwy drawma). Efallai y bydd angen llenwi gwreiddyn i adfer y dant. Mae’r driniaeth hon yn golygu tynnu bywyn sydd wedi’i heintio neu wedi’i ddifrodi o’r dant. Yna caiff sianel y gwreiddyn ei glanhau, ei siapio a’i llenwi â deunydd addas.

Llenwadau parhaol a gwaith adfer selyddion

Adfer dant drwy lenwi ceudod yn lle meinwe’r dant. Gellir defnyddio amrywiol sylweddau, gan gynnwys resin cyfansawdd, amalgam neu ionomer gwydr.

Tynnu dannedd

Mae hyn hefyd yn cynnwys llawdriniaeth i dynnu gwreiddyn wedi’i gladdu, dant sydd heb dorri trwodd, dant yr effeithiwyd arno neu ddant sy’n tyfu o dan y deintgig.

Coron

Darparu dant llawn, ar yr amod nad yw meinwe’r dant sy’n weddill yn ddigonol i adfer y dant drwy ddulliau eraill. (Mae coronau dur gwrthstaen wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad hwn).

Dannedd gosod

Mae dannedd gosod yn gyfarpar y gellir ei dynnu sy’n cymryd lle rhai o’r dannedd neu’r dannedd i gyd. Gall cwrs o driniaeth gynnwys y canlynol:

  • Dannedd gosod uchaf (acrylig)
  • Dannedd gosod gwaelod (acrylig)
  • Dannedd gosod uchaf (metel)
  • Dannedd gosod gwaelod (metel)

Argaen

Gosod haen o ddeunydd (porslen yn aml) sy’n gorchuddio arwyneb dant sydd wedi’i ddifrodi neu wedi’i afliwio.

Mewnosodiad

Math o adferiad anuniongyrchol (h.y. wedi’i greu yn y labordy).

Unedau pont

Darparu adferiad sefydlog sy’n disodli un neu ragor o ddannedd coll. Sylwch, ar gyfer y rhan fwyaf o driniaethau, y nifer lleiaf o eitemau posibl yw un, fodd bynnag, ar gyfer unedau pont, y nifer lleiaf yw dau.

Atgyfeirio i wasanaethau gorfodol uwch

Pan fydd claf yn cael ei gyfeirio at gontractwr arall ar gyfer gwasanaethau gorfodol uwch.

Archwiliad

Pan gynhelir archwiliad ar gyfer triniaeth. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys siartio’r dannedd, cofnodi’r cyflwr periodontol ac archwilio’r feinwe feddal. Caiff y manylion i gyd eu nodi gyda’r manylion clinigol angenrheidiol eraill ar y cofnod clinigol.

Rhagnodi eitemau gwrthfiotig

Pan roddir presgripsiwn i’r claf am eitemau gwrthfiotig. Dylid cofnodi nifer yr eitemau gwrthfiotig (h.y. nifer y triniaethau gwrthfiotig yn hytrach na nifer y tabledi).

Triniaeth arall

Darparu unrhyw driniaeth lle nad oes eitem set ddata glinigol briodol ar ei chyfer yn rhan 5a. Gellir cofnodi’r eitem hon yn ogystal â data clinigol arall.

Gweithlu’r GIG

Sylwer, oherwydd newidiadau i system gasglu Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, mae methodoleg newydd wedi’i rhoi ar waith i bennu trefniadau gweithio deintyddion (h.y. y math o ddeintydd) o 2018-19 ymlaen. Mae’r newid yn y fethodoleg wedi golygu bod nifer fawr o ddeintyddion wedi’u hail-ddosbarthu’n ddarparwr-gyflawnydd gan arwain at ostyngiad yn nifer y deintyddion cyswllt yn nata 2018-19 a 2019-20, gan ddynodi toriad mawr yn y cyfresi amser. Nid yw hyn wedi effeithio ar nifer cyffredinol y deintyddion ond dylid bod yn ofalus wrth gymharu â’r math o ddeintydd mewn data a gyhoeddwyd yn flaenorol am 2017-18 ac yn gynharach. Beth bynnag fo’r newid hwn, nid yw’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer deintyddion ‘Darparwyr-yn-unig’ gan nad oes ganddynt weithgarwch GIG wedi’i gofnodi.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi bod yr holl ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 ar ôl i’r Swyddfa Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cafodd yr ystadegau hyn eu Rheoleiddio’n llawn ddiwethaf Ystadegau ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol yng Nghymru yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Ers adolygiad diwethaf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • cynnwys data agored ychwanegol, gyda dadansoddiadau manylach, ar ein gwefan StatsCymru
  • gwybodaeth allweddol wedi’i diweddaru am ansawdd a sylwadau wedi’u diweddaru drwy gydol y broses ryddhau, gan gynnwys cymariaethau data hirach

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Medi 2022 (dros dro)

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 302/2021