Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar waith deintyddol y GIG a gwblhawyd gan ddeintydd yn y GIG yng Nghymru, sydd wedi'i gyflwyno er mwyn derbyn taliad. Mae data'n cael eu prosesu a'u cyflenwi gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi crynodeb o weithgarwch deintyddol y GIG a gwblhawyd yn ystod 2021-22 gan ddeintyddion y GIG. Mae'n cynnwys data ar nifer y cyrsiau o driniaeth a gwblhawyd, triniaethau penodol a wnaed, y gweithlu deintyddol, nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn y 24 mis diwethaf, a gweithgarwch orthodonteg. Mae diffiniad o’r triniaethau ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Mae data cymaradwy ar gael o'r adeg y cyflwynwyd y contract deintyddol presennol yn 2006.

Effaith COVID-19

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. Mae’r data wedi’i effeithio o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 hyd at  flynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22. Cyflwynwyd y Lefel Rhybudd Deintyddol Coch ar 23 Mawrth 2020 ac roedd hwn yn cyfyngu ar ddeintyddion o ran y mathau o driniaethau y gallent eu gwneud. Ers hynny mae’r mesurau heintio, atal a rheoli wedi’u llacio’n raddol, sydd wedi golygu bod modd cynyddu’r gweithgarwch deintyddol. Fodd bynnag, parhaodd rhai mesurau ymhell i’r flwyddyn 2021-22 ac fe wnaeth ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron ddiwedd 2021 arafu’r broses o lacio’r mesurau heintio, atal a rheoli.  

Yn ogystal, sefydlwyd Canolfannau Deintyddol Brys yn ystod cyfnod y Rhybudd Deintyddol Coch ac ni chofnodwyd data gweithgarwch yn y ffordd arferol. Mae rhai o'r canolfannau hyn yn dal yn weithredol ac, o ganlyniad, bydd peth o’r data yr adroddir amdano yn y datganiad ystadegol hwn ar gyfer 2020-21 a 2021-22 yn dangyfrif bach o'r gwir weithgarwch a ddigwyddodd.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Prif bwyntiau

Mae’r mesurau oherwydd y pandemig COVID-19 a’r mesurau rheoli heintiau a ddefnyddir mewn deintyddfeydd wedi effeithio ar nifer y cleifion a gafodd eu gweld gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru. Yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, cafodd ychydig dros 732,000 o oedolion (neu 28.8% o'r boblogaeth oedolion) a llai na 250,000 o blant (neu 39.4% o'r boblogaeth blant) eu trin gan ddeintyddion y GIG yng Nghymru.

Yn 2021-22, cofnodwyd ychydig o dan 1.1 miliwn o gyrsiau o driniaeth. Mae hwn yn gynnydd o fwy na 92.5% o'r flwyddyn flaenorol, yr effeithiwyd arni’n sylweddol yn sgil y pandemig, ond mae 55.1% yn is na'r flwyddyn cyn y pandemig (2019-20).

Y band triniaeth mwyaf cyffredin oedd Band Triniaeth 1, a oedd i’w gyfrif am ychydig llai na hanner yr holl gyrsiau o driniaeth. Cynyddodd y gweithgarwch ym mhob band triniaeth heblaw triniaethau am ddim, a ostyngodd 19.3%. Mae diffiniad o’r triniaethau ar gael adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg. 

Mae nifer y triniaethau brys wedi cynyddu rhywfaint ers dechrau'r pandemig ac roedd ychydig dros un rhan o bump o’r holl gyrsiau o driniaeth yn 2021-22 yn rhai brys.

Mae nifer y triniaethau orthodontig, radiograffau a 'thriniaethau eraill' i blant wedi dychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ond mae pob un o'r triniaethau clinigol mwyaf cyffredin eraill ar gyfer oedolion a phlant yn parhau i fod yn is nag yr oeddent cyn y pandemig.

Yn 2021-22, cynhyrchwyd £19.0 miliwn o refeniw o daliadau cleifion, a oedd yn fwy na dwbl (104.8%) y refeniw yn 2020-21, ond islaw'r lefel cyn y pandemig sef £34.9m yn 2019-20.

Nid yw’r pandemig wedi cael effaith fawr ar nifer y deintyddion sy'n gwneud gwaith yn y GIG yng Nghymru. Wedi gostyngiad bychan yn 2020-21, cofnodwyd gweithgarwch y GIG ar gyfer 1,420 o ddeintyddion yng Nghymru yn 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 2.2% (neu 31 yn fwy o ddeintyddion) nag yn 2020-21.

Am y tro cyntaf erioed roedd dros hanner y deintyddion y cofnodwyd gweithgarwch y GIG ar eu cyfer yn fenywod yn 2021-22.

Cleifion a gafodd eu trin

‘Mae 'cleifion a gafodd eu trin' yn cyfrif nifer y cleifion unigol sydd wedi cael eu trin yn ystod y 24 mis diwethaf; dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif hyd yn oed os yw wedi cael gofal sawl gwaith yn ystod y cyfnod.  

Defnyddir cyfnod o 24 mis ar gyfer yr ystadegau hyn gan fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal  (NICE) yn argymell bod cleifion yn cael eu galw'n ôl wedi cyfnod o 3 mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg.

Sylwer na fydd cleifion, o bosibl, yn cael eu trin yn y bwrdd iechyd lle maent yn byw, a bod cleifion orthodontig yn cael eu cynnwys yn y mesur cleifion a welwyd.

Mae ystadegau ar ganran y boblogaeth a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG yn 2020-22 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan nad oes disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 gael eu cyhoeddi tan fis Tachwedd 2022. O’r herwydd, dylid eu trin yn ofalus a’u hystyied yn ffigurau dros dro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y dull o gyfrif cleifion yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Mae canran y boblogaeth a gafodd driniaeth wedi aros yn weddol sefydlog hyd at 2020, gyda gostyngiad amlwg yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben fis Mawrth 2021 ac eto yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, oherwydd effeithiau’r pandemig COVID-19.

(a) Oedolion: Nifer y boblogaeth breswyl 18 oed neu hŷn. Plant: Nifer y boblogaeth breswyl rhwng 0 a 17 oed.

Canran y boblogaeth oedolion a phlant a gafodd eu trin yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth, 2006 i 2022 (StatsCymru)

Mae Siart 1 yn dangos cyfran yr oedolion a phlant a gafodd eu trin yng Nghymru ers 2006.

Roedd canran yr oedolion gafodd eu trin yng Nghymru yn sefydlog ar y cyfan rhwng 2006 a 2020, ond roedd cwymp amlwg yn 2021 ac yn 2022, oherwydd effaith y pandemig.

Roedd canran y plant a oedd yn cael eu trin yng Nghymru wedi bod ar gynnydd yn y pum mlynedd cyn y pandemig, ond fe ostyngodd yn sydyn yn 2021 a 2022.

Yn ystod y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, cafodd ychydig mwy na 730,000 o oedolion (neu 28.8% o'r boblogaeth oedolion) ac ychydig llai na 250,000 o blant (neu 39.4% o’r boblogaeth bant) eu trin gan ddeintyddion y GIG.  Drwyddi draw, cafodd 980,201 o gleifion (neu 30.9% o gyfanswm y boblogaeth) eu trin.

O'i gymharu â'r cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, gostyngodd nifer yr oedolion a gafodd eu trin 36.2% (neu 414,713 o gleifion) a bu gostyngiad o 16.3 pwynt canran yn y boblogaeth oedolion a gafodd eu trin.

Gostyngodd nifer y plant a gafodd eu trin 33.6% (125,246 o gleifion) a gostyngodd canran y plant a gafodd eu trin 19.9 pwynt canran.

Drwyddi draw, bu gostyngiad o 35.5% (539,959 o gleifion) yng nghyfanswm y cleifion a gafodd eu trin, a bu gostyngiad o 17.0 pwynt canran yng nghanran y boblogaeth gyfan. Dyma'r gostyngiad mwyaf o ran oedolion a phlant ers dechrau'r gyfres yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2006. 

Gweithgarwch: cyrsiau o driniaeth

Mae'r data gweithgarwch yn y datganiad hwn yn seiliedig ar driniaethau wedi'u cwblhau a gofnodwyd drwy ffurfleni FP17W (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Mae triniaethau wedi'u rhannu’n fandiau triniaeth fel Band 1, Band 2, Band 3, a Thriniaethau Brys, sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl a delir gan gleifion.

Mae rhagor o wybodaeth am weithgarwch cyrsiau o driniaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Cyn y pandemig COVID-19, roedd ychydig dros 2.3 miliwn o gyrsiau triniaeth, yn gyffredinol, yn cael eu cwblhau gan ddeintyddion y GIG bob blwyddyn. Yn 2020-21, roedd llawer llai o gyrsiau triniaeth oherwydd y pandemig, er i driniaethau brys gynyddu i’r nifer uchaf erioed. Bu cynnydd yn nifer y cyrsiau triniaeth yn 2021-22 ond mae'n parhau i fod gryn dipyn yn is na’r hyn ydoedd cyn y pandemig.

Cyrsiau o driniaeth yn ôl band triniaeth (StatsCymru)

Noder na chofnodwyd gweithgarwch deintyddol gan Ganolfannau Deintyddol Brys yn y ffordd arferol yn ystod y pandemig COVID-19. Felly roedd rhywfaint o ddata ar gyfer 2020-21 a 2021-22 yn dangyfrif bach o’r gweithgarwch deintyddol gwirioneddol. 
Yn y deng mlynedd cyn pandemig COVID-19, cafodd rhwng 2.3 a 2.4 miliwn o gyrsiau o driniaeth eu cwblhau bob blwyddyn gan ddeintyddion GIG Cymru. Cafodd mwyafrif y triniaethau eu categoreiddio fel rhai Band 1, ac roedd y rhain wedi bod yn cynyddu'n raddol ers 2010-11. Effeithiwyd ar 2020-21 gan y pandemig a bu gostyngiad mawr yn y triniaethau ar gyfer pob band heblaw am driniaethau brys, a gynyddodd ychydig.

Yn 2021-22, cofnodwyd ychydig dros 1 miliwn o gyrsiau o driniaeth. Triniaethau band 1 oedd y band triniaeth mwyaf cyffredin, gan gyfrif am ychydig o dan hanner (461,494) o bob cwrs o driniaeth. Roedd ychydig dros un rhan o bump o'r holl driniaethau (neu 230,106 o driniaethau) yn rhai brys, y nifer uchaf i’w gofnodi erioed.  Ar y llaw arall roedd nifer y triniaethau am ddim ar ei lefel isaf erioed (6,934 o driniaethau).
O'i gymharu â 2020-21, mae cyfanswm y cyrsiau o driniaeth bron wedi dyblu (cynnydd o 92.5%) ond mae'n dal i fod lawer yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Gostyngodd nifer y triniaethau rhad ac am ddim 19.3%; ond roedd cynnydd ym mhob band triniaeth arall, yn amrywio o gynnydd o 198.3% ar gyfer triniaethau Band 1 i gynnydd o 2.7% mewn triniaethau brys.

Mae data ar gyfer Unedau o Weithgarwch Deintyddol ar gael ar StatsCymru.

Taliadau cleifion

Mae taliadau cleifion yn cael eu talu gan gleifion sy'n oedolion ac sy'n gymwys i dalu am driniaeth. Mae'r swm sy'n cael ei godi yn cael ei benderfynu gan y band triniaeth. Nid yw rhai cleifion yn talu am eu triniaeth gan y GIG. Y prif grwpiau o gleifion nad ydynt yn talu yw plant (o dan 18 oed); pobl ifanc 18 oed mewn addysg amser llawn; menywod beichiog a mamau sy’n magu; ac oedolion sydd ar incwm isel neu sy’n cael budd-daliadau penodol.

Yn 2021-22, cynhyrchwyd £19.0 miliwn o refeniw o daliadau cleifion, a oedd yn fwy na dwbl (104.8%) y refeniw yn 2020-21 (£9.3 miliwn). Gweler StatsCymru am ddata pellach am refeniw a gynhyrchir o daliadau cleifion a'r adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth am daliadau cleifion.

Image
O'i gymharu â 2020-21, mae nifer y cyrsiau triniaeth â thâl wedi cynyddu yn 2021-22 - 80.8% i oedolion sy’n talu, 143.8% i blant, a 81.6% i oedolion nad ydynt yn talu. Er hynny, mae'r ffigurau hyn yn parhau i fod yn llawer is na'r hyn oeddent cyn y pandemig.

Cyrsiau o driniaeth â thâl yn yn ôl y math o glaf (StatsCymru)

Mae Siart 3 yn dangos nifer y cyrsiau o driniaeth â thâl a roddwyd i wahanol fathau o gleifion ers 2011-12.

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, cynyddodd nifer y cyrsiau o driniaeth a roddwyd i oedolion sy'n talu bob blwyddyn rhwng 2011-12 a 2018-19, gyda chwymp bychan yn 2019-20, tra bod y nifer a roddwyd i oedolion nad ydynt yn talu wedi bod â thuedd ar i lawr ers 2013-14. Roedd nifer y cyrsiau o driniaeth i blant yn sefydlog, gyda thuedd ychydig ar i fyny ers 2016-17. Bu cwymp mawr ym mhob categori yn 2020-21 ac yna gynnydd yn 2021-22, ac roedd y pandemig wedi effeithio ar y ddwy flwyddyn.  

Yn 2021-22, roedd ychydig dros 520,000 o gyrsiau o driniaeth â thâl ar gyfer oedolion sy’n talu, ychydig llai na 240,000 o driniaethau ar gyfer oedolion nad ydynt yn talu ac ychydig dros 270,000 o driniaethau i blant.

O'i gymharu â 2020-21, mae nifer y cyrsiau o driniaeth â thâl wedi cynyddu ar gyfer pob math o glaf. Roedd cynnydd o 80.8% ar gyfer oedolion sy’n talu, cynnydd o 81.6% i oedolion nad ydynt yn talu, a chynnydd o 143.8% i blant. 

Gweithgarwch: triniaethau deintyddol clinigol

Mae nifer y triniaethau clinigol yn amcangyfrifon yn seiliedig ar flwyddyn ariannol lawn o ddata clinigol ac yn cael eu cyflwyno wrth iddynt gael eu cofnodi yn y ffurflen FP17W (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG). Mae’n bosibl fod nifer bach iawn o driniaethau wedi’u cofnodi'n anghywir, er enghraifft triniaeth gymhleth wedi'i rhoi mewn band is mewn camgymeriad, megis mewnosodiadau yn cael eu cofnodi ym Mand 2. Gan nad oes gwybodaeth ychwanegol ar gael i ddilysu'r data hwn, ni wneir unrhyw addasiadau yn yr amgylchiadau hyn.

Noder bod y ffigurau ar gyfer nifer yr archwiliadau i oedolion a phlant yn 2020-21 wedi cael eu diwygio oherwydd camgymeriad yn y data ffynhonnell. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Image
Y driniaeth glinigol a oedd yn cael ei rhoi fwyaf i oedolion cyn y pandemig oedd archwiliadau, a ostyngodd yn sydyn yn 2020-21. Yn 2021-22 archwiliadau oedd y driniaeth glinigol fwyaf cyffredin ar gyfer oedolion.

a) Yn seiliedig ar y bandiau triniaeth canlynol: Bandiau 1 i 3, Brys.
(b) Gall claf gael mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth.
(r) Data archwiliadau ar gyfer 2020-21 wedi'i ddiwygio o gyhoeddiad blaenorol, gweler yr gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

Triniaethau clinigol i oedolion (StatsCymru)

Mae Siart 4 yn dangos nifer y triniaethau clinigol i oedolion yn ôl math o driniaeth a’r flwyddyn ers 2011-12, ar gyfer y pum triniaeth glinigol fwyaf cyffredin cyn y pandemig. 

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd nifer yr archwiliadau deintyddol ar gleifion sy'n oedolion wedi bod ar i fyny, ac roedd nifer yr archwiliadau a gafodd eu gwneud yn 2019-20, 18.9% yn uwch nag yn 2011-12. Yn yr un modd, roedd nifer y radiograffau hefyd wedi bod ar duedd ar i fyny, gan gynyddu hanner (50.4%) dros yr un cyfnod amser. Roedd nifer y triniaethau digennu a llathru wedi aros yn sefydlog, tra bu ychydig o duedd ar i lawr yn nifer y llenwadau parhaol a’r llenwadau selydd. Yn 2020-21 bu gostyngiadau sydyn ym mhob un o’r triniaethau mwyaf cyffredin o ganlyniad i'r pandemig. 

Gwelwyd effaith y pandemig yn 2021-22 hefyd a chafwyd cynnydd yn y mwyafrif o'r triniaethau mwyaf cyffredin. Cofnodwyd ychydig o dan 624,000 o archwiliadau, a oedd yn fwy na dwbl (cynnydd o 114.4%)  y nifer yn 2020-21, ond bron i ddwy ran o dair yn is na'r lefelau cyn y pandemig (gostyngiad o 59.6%). Roedd cynnydd sylweddol mewn radiograffau (cynnydd o 114.6%), sy’n golygu mai dyma’r ail driniaeth fwyaf cyffredin gydag ychydig o dan 350,000 o driniaethau yn 2021-22. Cynyddodd llenwadau parhaol a llenwadau selydd yn sydyn hefyd (cynnydd o 94.0%). Fodd bynnag, mae'r ffigurau hyn yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Roedd gostyngiad mawr yn nifer y triniaethau digennu a llathru o'i gymharu â 2020-21 (gostyngiad o 69.2%). Mae’r ffigurau ar gyfer y driniaeth hon bellach lawer iawn yn is nag yr oeddent cyn y pandemig (gostyngiad o 99.5%).

Darperir rhestr lawn o driniaethau clinigol yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Image
Y driniaeth glinigol a oedd yn cael ei rhoi fwyaf i blant cyn y pandemig oedd archwiliadau, a ostyngodd yn sydyn yn 2020-21.

(a) Yn seiliedig ar y bandiau triniaeth canlynol: Bandiau 1 i 3, Brys.
(b) Gall claf gael mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth.
(r) Data archwiliadau ar gyfer 2020-21 wedi'i ddiwygio o gyhoeddiad blaenorol, gweler yr gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.       

Triniaethau clinigol i blant (StatsCymru)

Mae Siart 5 yn dangos nifer y cyrsiau o driniaeth i blant ar gyfer y pum triniaeth glinigol fwyaf cyffredin cyn y pandemig, ers 2011-12.
Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd nifer yr archwiliadau i blant wedi bod ar duedd ar i fyny, gan gynyddu 18.2% rhwng 2011-12 a 2019-20. Roedd cynnydd mawr hefyd yn nifer y triniaethau farnais fflworid, sef cynnydd o ychydig dros 17,000 o driniaethau yn 2011-12 i dros 275,000 o driniaethau yn 2019-20. Mae'r cynnydd hwn yn gyson â chanllawiau rhaglen ddeintyddol y GIG, Cynllun Gwên (Iechyd Cyhoeddus Cymru), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n argymell defnyddio fflworid fel trefn arferol i wella iechyd deintyddol plant.

Roedd effaith gychwynnol y pandemig ar wasanaethau deintyddol i blant yn debyg i'r effaith ar wasanaethau i oedolion, gyda gostyngiad sydyn yn y rhan fwyaf o gategorïau triniaeth yn 2020-21.

Yn 2021-22, cofnodwyd dros 255,000 o archwiliadau, sef cynnydd sylweddol o 167.6% o'i gymharu â 2020-21. Ond roedd nifer yr archwiliadau yn parhau dan hanner y lefel a welwyd cyn y pandemig. Cynyddodd pob categori arall o’r triniaethau mwyaf cyffredin yn sylweddol, gyda farnais fflworid yn cynyddu 273.2%, radiograffau yn cynyddu 164.4%, llenwadau parhaol a llenwadau selydd  yn cynyddu 98.0% a thriniaethau eraill yn cynyddu 87.7%. Mae radiograffau a thriniaethau eraill wedi dychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ond mae farnais fflworid a llenwadau parhaol a llenwadau selydd yn parhau i fod yn is nag yr oeddent cyn y pandemig.

Gweithgarwch orthodontig

Mae orthodonteg yn faes deintyddol arbenigol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad y dannedd a'r genau, ac ag atal a thrin annormaleddau yn y datblygiad hwn, felly mae'r rhan fwyaf o gleifion yn blant. Mae rhagor o fanylion am orthodonteg ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Yn gyffredinol fe wnaeth nifer y triniaethau gynyddu rhwng 2011-12 a 2018-19 cyn gostwng yn sydyn yn 2020-21 o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Ers hynny mae nifer y triniaethau wedi cynyddu yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig yn 2021-22.

Nifer y triniaethau a wnaed (Ffurflenni FP17OW a Aseswyd ac a Dderbyniwyd) (StatsCymru)

Roedd ychydig o duedd ar i fyny wedi bod yn nifer y triniaethau orthodontig a gynhaliwyd yn ystod y deng mlynedd cyn y pandemig. Fe wnaeth nifer y triniaethau ostwng i ychydig yn llai na 1,500 o ganlyniad i'r pandemig yn 2019-20. Fodd bynnag, yn 2021-22 cynyddodd gweithgarwch orthodontig yn sydyn, gan godi i ychydig dros 9,400 o driniaethau, sef y lefel yr oedd arni cyn y pandemig.

Y gweithlu

Mae data a gyflwynir yma am y gweithlu deintyddol yn dangos cyfanswm y deintyddion ag unrhyw weithgarwch GIG sydd wedi'i gofnodi rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth. Sylwer mai ffigur cyfrif pennau yw hwn; nid oes data cyfwerth ag amser llawn ar gael.

Sylwer, oherwydd newidiadau yn y system gasglu gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, bod methodoleg newydd wedi'i rhoi ar waith i benderfynu ar drefniadau gwaith (h.y. math o ddeintydd) deintyddion ar gyfer 2018-19 ymlaen. Ni fu effaith ar nifer cyffredinol y deintyddion, ond dylid bod yn ofalus wrth wnweud unrhyw gymhariaeth â’r math o ddeintydd mewn data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2017-18 ac yn gynharach (sydd ar gael ar StatsCymru). Y gobaith yw y bydd system newydd o gasglu data ar gyfer gweithlu deintyddol y GIG yn cael ei sefydlu mewn pryd ar gyfer datganiad ystadegol y flwyddyn nesaf.

Gweler yr adroddiad ansawdd a’r adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Mae ystadegau ar y boblogaeth fesul deintydd a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG yn 2021-22 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan nad oes disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 gael eu cyhoeddi tan fis Tachwedd 2022. O’r herwydd, dylid eu trin yn ofalus a’u hystyried fel ystadegau dros dro. Gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Image
Mae nifer y deintyddion wedi bod yn gostwng ers 2018-19 cyn cynyddu yn 2019-20 a 2020-21. Fodd bynnag, yn 2021-22 cafwyd gostyngiad bach yn nifer y deintyddion.

(a) Perfformwyr â gweithgarwch y GIG a gofnodwyd drwy ffurflenni FP17W.

Deintyddion â gweithgarwch y GIG (StatsCymru)

Cynyddodd nifer y deintyddion â gweithgarwch y GIG ychydig bob blwyddyn ers i ddata cymaradwy ddechrau cael ei gasglu, o 2006-07 tan 2018-19. Cafwyd gostyngiadau bach yn 2019-20 a 2020-21 ond gwelwyd cynnydd yn y nifer yn 2021-22.

Yn 2021-22, roedd 1,420 o ddeintyddion â gweithgarwch y GIG wedi’u cofnodi yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 2.2% yn 2020-21 (neu 31 yn fwy o ddeintyddion).

Mae'r boblogaeth fesul deintydd yn cydberthyn yn agos i nifer y deintyddion. Gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yr ONS ar gyfer 2020, amcangyfrifwyd bod 2,232 o bobl i bob deintydd â gweithgarwch y GIG yng Nghymru. Mae hyn 2.2% yn is (neu 50 yn llai o bobl i bob deintydd) nag yn 2020-21.

Image
Mae canran y deintyddion benywaidd wedi bod yn cynyddu dros amser, gydag ychydig dros hanner (50.4%) y deintyddion yn fenywod yn 2021-22, felly roedd cyfran y deintyddion benywaidd yn uwch na chyfran y deintyddion gwrywaidd ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw.

Deintyddion â gweithgarwch y GIG (StatsCymru)

Yn hanesyddol bu mwy o ddeintyddion gwrywaidd â gweithgarwch y GIG nag o ddeintyddion benywaidd, ond lleihaodd y gwahaniaeth o fod bron yn ddwy ran o dair o ddynion yn 2011-12 i fod yn rhaniad gweddol gyfartal yn 2020-21.  

Yn 2021-22, cododd nifer y deintyddion benywaidd yn uwch na nifer y deintyddion gwrywaidd am y tro cyntaf ers i ddata gael ei gasglu i ddechrau yn 2006-07. Roedd 50.4% o ddeintyddion â  gweithgarwch y GIG yn fenywod, a 49.6% o ddeintyddion yn ddynion.

O'i gymharu â 2020-21, bu cynnydd o 1.3 pwynt canran yng nghyfran deintyddion benywaidd â gweithgarwch y GIG, ac o'i gymharu â 2011-12 roedd cynnydd o 8.4 pwynt canran yng nghyfran y deintyddion benywaidd â gweithgarwch y GIG.

Ymunwyr ac ymadawyr

Mae ymunwr yn cael ei ddiffinio fel deintydd a gofnododd weithgarwch y GIG yn y flwyddyn ddiweddaraf ond nid yn y flwyddyn flaenorol. Mae ymadäwr yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd â gweithgarwch y GIG wedi'i gofnodi yn y flwyddyn flaenorol ond nid yn y flwyddyn ddiweddaraf. Felly, mae oedi o flwyddyn yn y data ar gyfer y rhai sy'n ymadael.  Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am ymunwyr ac ymadawyr.

Image
Rhwng 2011-12 a 2018-19, yn gyffredino, fe wnaeth mwy ymuno â’r GIG nag a ymadawodd ag ef. Ers hynny, mae mwy wedi ymadael nag sydd wedi ymuno, ac yn 2019-20 roedd y bwlch mwyaf a gofnodwyd rhwng ymadawyr ac ymunwyr. Ond lleihaodd y bwlch hwn yn 2020-21.

 Ymadawyr ac ymunwyr â deintyddiaeth y GIG (StatsCymru) https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services/Current-Contract/NumberofdentistswithNHSactivitywholeftorjoined-by-localhealthboard-agegroup-gender-contracttype-dentisttype 

Dros gyfnod y gyfres amser roedd mwy o ymunwyr nag o ymadawyr yn y rhan fwyaf o flynyddoedd; fodd bynnag, yn y ddwy flwyddyn diweddaraf lle mae data ar gyfer y ddau fesur, roedd mwy o bobl wedi ymadael nag a oedd wedi ymuno.  

Yn 2020-21, rhoddodd 132 deintyddion (9.5% o'r holl ddeintyddion yn 2020-21) y gorau i wneud gwaith y GIG, o'i gymharu â 123 o ddeintyddion (8.9% o'r holl ddeintyddion yn 2020-21) a ddechreuodd wneud gwaith y GIG o’r newydd yn 2020-21.

Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2021-22 yn dangos bod 163 o ymunwyr, sef 40 yn fwy nag yn 2020-21.

Y Gymraeg

Mae'n ofynnol i bob deintydd sy'n gwneud deintyddiaeth y GIG yng Nghymru gofrestru ar y Rhestr Perfformwyr Deintyddol sy'n cael ei chynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG. Wrth gofrestru, y deintydd ei hun sy’n cofnodi a yw’n siarad Cymraeg. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu ar hyn o bryd drwy gwestiwn syml 'Ydw/Nac ydw', yn hytrach na’u graddio yn ôl eu lefel rhuglder ac nid yw'n cael ei diweddaru fel arfer trwy gydol cyfnod y deintydd ar y rhestr.

Nid yw’r data hwn, o reidrwydd, yn cynrychioli nifer y deintyddion sy'n ymgynghori yn Gymraeg ar hyn o bryd neu sy'n gallu ymgynghori yn Gymraeg.

Mae ystadegau ar gyfer nifer y deintyddion sy'n siarad Cymraeg am bob 10,000 o siaradwyr Cymraeg (o Gyfrifiad 2011) a nifer y deintyddion Cymraeg eu hiaith am bob 10,000 o'r boblogaeth gyffredinol, yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn yr ONS, ar gael ar StatsCymru.

Image
Fe wnaeth canran y deintyddion sy’n siarad Cymraeg, o’i chymharu â chyfanswm nifer deintyddion, gyrraedd uchafbwynt o 10.7 y cant yn 2020-21. Yn 2021-22, roedd y ganran hon yn 9.2 y cant.

Mae Siart 10 yn dangos canran y deintyddion sy’n siarad Cymraeg o’i chymharu â chyfanswm y deintyddion yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2021-22.

Ar 25 Awst 2022, roedd 131 o ddeintyddion sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, yn ôl y Rhestr Perfformwyr Deintyddol - 17 yn llai nag yn 2020-21.

Mae canran y deintyddion oedd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn 2021-22 (9.2%) yn is na’r ganran o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg. Amcangyfrif Cyfrifiad 2011 (StatsCymru) oedd bod gan 27% o bobl yng Nghymru rywfaint o sgiliau siarad Cymraeg, ac mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru) fel ag yr oedd yn Rhagfyr 2021 yn amcangyfrif bod gan 30% o bobl yng Nghymru rywfaint o sgiliau siarad Cymraeg.

Practisau deintyddol

Image
Map yn dangos deintyddfeydd cyffredinol mewn byrddau iechyd lleol.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am yr ystadegau yn y datganiad hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Effaith COVID-19

Cafodd COVID-19 effaith fawr ar y ffordd y mae gwasanaethau deintyddol wedi bod yn cael eu darparu yng Nghymru, ac mae felly wedi effeithio ar y data sy'n cael ei gasglu. Mae wedi effeithio ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 i flynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.

Er na wnaeth practisau yng Nghymru gau ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig, daeth y Rhybudd Deintyddol Coch i rym ar 23 Mawrth 2020 ac roedd cyfyngiadau ar y mathau o driniaethau y gallent eu gwneud yn ystod y cyfnod o Ebrill 2020 tan ddiwedd Mehefin 2020. Ers hynny mae’r mesurau heintio, atal a rheoli wedi’u llacio’n raddol, sydd wedi golygu bod modd cynyddu’r gweithgarwch deintyddol. Fodd bynnag, parhaodd rhai mesurau ymhell i’r flwyddyn 2021-22 ac fe wnaeth ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron ddiwedd 2021 arafu’r broses adfer ymhellach.

Ystyriwyd bod deintyddiaeth y GIG yn 2021-22 mewn cyfnod o ailosod ac adfer, pan ofynnwyd i dimau deintyddol ganolbwyntio ar flaenoriaethu gofal brys, delio ag anghenion grwpiau agored i niwed, mynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethiau sy'n deillio o gynnig llai o ddarpariaeth ddeintydol, ac ailgyflwyno asesiadau a gofal arferol wrth i'r capasiti agor. Dangosir hyn yn y datganiad ystadegol hwn gan fod cyfran fwy nag arfer o hawliadau Band 2 a chyfran is nag arfer o hawliadau Band 1.

Yn ogystal, sefydlwyd Canolfannau Deintyddol Brys yn ystod y cyfnod rhybudd deintyddol coch ac ni chofnodwyd data gweithgarwch yn y ffordd arferol. Cyfeiriwyd unrhyw driniaeth a oedd angen gweithdrefn a oedd yn cynhyrchu aerosol i’r Canolfannau Deintydol Brys. Mae rhai o'r canolfannau hyn yn dal i fod yn weithredol ac o ganlyniad, bydd peth o’r data a adroddir yn y datganiad ystadegol hwn yn dangyfrif o'r gwir weithgarwch a ddigwyddodd.

Cyrsiau o driniaeth

Cyflwynir y data ar y cyrsiau o driniaeth a gwblheir gan ddeintydd yn y GIG i Wasanaethau Deintyddol y GIG i'w talu ar ffurflen FP17W electronig, drwy’r system Compass.

Diffinir cwrs o driniaeth fel:

  • rhoi archwiliad i glaf, asesu iechyd ei geg, a chynllunio unrhyw driniaeth i'w darparu i'r claf o ganlyniad i'r archwiliad a'r asesiad hwnnw
  • darparu unrhyw driniaeth a gynlluniwyd (gan gynnwys unrhyw driniaeth sydd ar y gweill ar adeg heblaw adeg yr archwiliad cychwynnol) ar gyfer y claf hwnnw

Mae triniaethau'n cael eu rhannu'n fandiau triniaeth yn ôl lefel y cymhlethdod fel a ganlyn, sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl sy'n cael ei dalu gan gleifion:

Band 1

Archwiliad a thriniaeth syml (megis archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a digennu a llathru.

Band 2

Yn cynnwys triniaethau canolig (megis llenwi neu dynnu dant, a gwaith ar sianel y gwreiddyn)  yn ogystal â gwaith Band 1.

Band 3

Yn cynnwys triniaethau cymhleth (fel coronau, dannedd gosod, a phontydd, yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2.

Brys

Set benodedig o driniaethau posibl a ddarperir i glaf mewn amgylchiadau lle: y darperir gofal a thriniaeth gyflym oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd ceg y person hwnnw'n debygol o ddirywio'n sylweddol, neu fod y person mewn poen difrifol oherwydd cyflwr y geg;  a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno y mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu.

Am ddim

Ni chodir tâl ar gleifion am y triniaethau hyn ac maent yn cynnwys: atal gwaedu, atgyweirio pont, atgyweirio dannedd gosod, tynnu pwythau, a materion yn ymwneud â phresgripsiwn.

Mae manylion llawn y triniaethau ym mhob un o’r bandiau taliadau i'w gweld ar wefan y GIG.

Gweithgarwch Deintyddol Clinigol

Mae 16 o driniaethau clinigol posibl wedi’u cofnodi. Sylwer y gall claf gael mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth. Dyma’r triniaethau clinigol.

Digennu a llathru

Mae hyn yn cyfeirio at driniaeth beriodontol syml gan gynnwys digennu, llathru, mân gywiriadau i lenwadau a siartio pocedi periodontol.

Farnais fflworid

Paratoad fflworid sy’n cael ei roi ar arwyneb dannedd fel prif fesur ataliol.

Selio rhychau

Lle mae deunydd selio yn cael ei roi ar mewn tyllau a holltau fel prif fesur ataliol.

Radiograff(au) – a elwir yn belydr-x yn aml)

Mae radiograffau deintyddol yn rhoi delwedd o’r dannedd, y geg a/neu’r deintgig sy’n gallu helpu’r deintydd i ganfod problemau sylfaenol, fel pydredd a chlefyd deintiol.

Triniaeth endodontig

Os yw dant wedi pydru neu wedi’i ddifrodi’n ddifrifol (er enghraifft drwy drawma) mae’n bosibl y bydd angen llenwad gwreiddyn i adfer y dant. Mae’r driniaeth hon yn golygu tynnu bywyn sydd wedi’i heintio neu wedi’i ddifrodi o’r dant. Yna caiff sianel y gwreiddyn ei glanhau, ei siapio a’i llenwi â deunydd addas.

Llenwadau parhaol a llenwad selydd

Adfer dant drwy lenwi ceudod i gymryd lle meinwe’r dant. Gellir defnyddio amrywiol sylweddau, gan gynnwys resin cyfansawdd, amalgam neu ionomer gwydr.

Tynnu dannedd

Mae hyn hefyd yn cynnwys llawdriniaeth i dynnu gwreiddyn wedi’i gladdu, dant heb frigo, dant caeth neu ddant sy’n tyfu o dan y deintgig.

Coron(au)

Gorchuddio dant yn llawn, pan nad yw’r hyn sy’n weddill o feinwe’r dant yn ddigonol i allu adfer y dant drwy unrhyw ddull arall. (Mae coronau dur gwrthstaen wedi cael eu heithrio o’r dadansoddiad hwn).

Dannedd gosod

Mae dannedd gosod yn gyfarpar y gellir ei dynnu sy’n cymryd lle rhai o’r dannedd neu’r dannedd i gyd. Gall cwrs o driniaeth gynnwys y canlynol:

  • Dannedd gosod uchaf (acrylig)
  • Dannedd gosod gwaelod (acrylig)
  • Dannedd gosod uchaf (metel)
  • Dannedd gosod gwaelod (metel)

Argaen

Gosod haen o ddeunydd (porslen yn aml) sy’n gorchuddio arwyneb dant sydd wedi’i ddifrodi neu wedi’i afliwio.

Mewnosodiad

Math o adferiad anuniongyrchol (h.y. wedi’i greu yn y labordy).

Unedau pont

Darparu adferiad sefydlog sy’n disodli un neu ragor o ddannedd coll. Sylwer, ar gyfer y rhan fwyaf o driniaethau, y nifer lleiaf o eitemau posibl yw un; fodd bynnag, ar gyfer unedau pont, y nifer lleiaf yw dau.

Atgyfeirio i wasanaethau gorfodol uwch

Pan fydd claf yn cael ei gyfeirio at gontractwr arall ar gyfer gwasanaethau gorfodol uwch.

Archwiliad

Pan gynhelir archwiliad ar gyfer triniaeth. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys siartio’r dannedd, cofnodi’r cyflwr periodontol ac archwilio’r feinwe feddal. Caiff y manylion i gyd eu nodi gyda’r manylion clinigol angenrheidiol eraill ar y cofnod clinigol.

Rhagnodi eitemau gwrthfiotig

Pan roddir presgripsiwn i’r claf am eitemau gwrthfiotig. Dylid cofnodi nifer yr eitemau gwrthfiotig (h.y. nifer y triniaethau gwrthfiotig yn hytrach na nifer y tabledi).

Triniaeth arall

Darparu unrhyw driniaeth lle nad oes eitem set ddata glinigol briodol ar ei chyfer yn rhan 5a. Gellir cofnodi’r eitem hon yn ogystal â data clinigol arall.

Diwygio data triniaeth glinigol

Roedd nifer yr archwiliadau ar gyfer oedolion a phlant yn 2020-21 a gyhoeddwyd yn y datganiad blaenorol yn anghywir ac maent wedi cael eu diwygio yn y datganiad hwn. Mae'r ffigur wedi cael ei ddiwygio o 27,039 i 386,592 o archwiliadau. Mae'r diwygiad yn ganlyniad i gamgymeriad yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Cyn iddynt gael eu diwygio, nid oedd y ffigurau ond yn dangos archwiliadau a ddigwyddodd yn y 12 mis cyn mis Mawrth 2020, yn hytrach na'r 24 mis cyn mis Mawrth 2021. Wrth i wasanaethau deintyddol gael eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig COVID-19, fe ostyngodd nifer yr holl driniaethau clinigol yn sydyn yn ystod 2020-21 ac ni wnaeth archwiliadau dilysu a berfformiwyd gan Lywodraeth Cymru ganfod y camgymeriad yn y data archwiliadau a gyhoeddwyd yn natganiad y llynedd. Ni effeithiwyd ar unrhyw eitemau data eraill gan y gwall hwn, felly ni wnaed unrhyw ddiwygiadau eraill.

Gweithlu'r GIG

Sylwer, oherwydd newidiadau yn y system gasglu yn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, bod methodoleg newydd wedi'i gweithredu ar gyfer penderfynu ar drefniadau gwaith (h.y. math o ddeintydd) deintyddion ar gyfer 2018-19 ymlaen. Mae'r newid mewn methodoleg wedi arwain at ailddosbarthu nifer fawr o ddeintyddion fel darparwr-berfformiwr a gostyngiad yn sgil hynny yn niferoedd y deintyddion cyswllt ar gyfer data 2018-19 a 2019-20, sy’n nodi toriad mawr yn y gyfres amser. Nid yw hyn wedi effeithio ar nifer cyffredinol y deintyddion, ond dylid bod yn ofalus wrth wneud unrhyw gymhariaeth â math o ddeintyddiaeth mewn data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2017-18 ac yn gynharach. Ni waeth am y newid hwn, nid yw'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer deintyddion-ddarparwr yn unig gan nad oes ganddynt weithgarwch y GIG wedi'i gofnodi yn eu herbyn.

Mae proses newydd o gasglu data yn cael ei datblygu ar hyn o bryd a allai gael ei chwblhau mewn pryd ar gyfer cyhoeddiad y flwyddyn nesaf. Mae'n seiliedig ar System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth am weithlu practisau cyffredinol ers 2020. Pan gymerir data o'r offeryn hwn, bydd toriad yn y gyfres amser.

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Mae rhai o’r ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan nad oes disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 gael eu cyhoeddi tan fis Tachwedd 2022. Gan fod yr ystadegau'n seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth o gyfnod amser gwahanol, dylid eu trin yn ofalus a’u hystyried yn rhai dros dro.

Wrth i ddata o Gyfrifiad 2021 ddod ar gael, bydd yr ONS hefyd yn ail-seilio’r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 yng ngwanwyn 2023. Mae hyn yn golygu y bydd ystadegau ar gyfer canran y boblogaeth a dderbyniodd wasanaethau deintyddol y GIG yn y blynyddoedd hyn yn cael eu diwygio yn natganiad ystadegol deintyddol nesaf y GIG. Os bydd y diwygiadau'n arwain at newidiadau mawr i'r data, bydd sylwadau manylach ar y rhain yn y datganiad.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi bod yr holl ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 ar ôl i’r Swyddfa Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cafodd yr ystadegau hyn eu Rheoleiddio’n llawn ddiwethaf Ystadegau ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol yng Nghymru yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Ers adolygiad diwethaf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cynnwys data agored ychwanegol, gyda dadansoddiadau manylach, ar ein gwefan StatsCymru.
  • Diweddaru gwybodaeth allweddol am ansawdd a diweddaru sylwadau drwy’r holl ddatganiad, gan gynnwys cymariaethau data dros amser hirach.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir gwneud hynny drwy anfon neges e-bost i: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dewi Rees
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 204/2022