Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru sydd â chontract gyda byrddau iechyd. Cyflwynir data newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, sy'n cwmpasu'r cyfnod cyn y pandemig COVID-19 i raddau helaeth.

Fferyllfeydd cymunedol yw'r rhai a geir mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad, er enghraifft, ar y stryd fawr, mewn archfarchnadoedd neu mewn meddygfeydd teulu.

Er mai gwasanaethau hanfodol megis rhoi presgripsiynau yw prif rôl fferyllfeydd cymunedol o hyd, mae'r rhan fwyaf yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol y GIG, gan gynnwys atal cenhedlu brys, brechlyn ffliw tymhorol, adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau, adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau a gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Crynhoir y data ar gyfer y gwasanaethau hyn ar gyfer 2019-20.  

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

1. Fferyllfeydd

Prin fu'r newid yn nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Ar 31 Mawrth 2020, roedd 715 o fferyllfeydd cymunedol o gymharu â 708 ar 31 Mawrth 2011.

Yn 2020, roedd 232 (32%) yn fferyllfeydd annibynnol, gyda'r gweddill yn fferyllfeydd cadwyn/lluosog.

2. Presgripsiynau

Gweinyddwyd 76.8 miliwn o bresgripsiynau mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2019-20.

Mae hyn yn gyfartaledd (cymedrig) o 107,456 fesul fferyllfa, a chynnydd o 18% dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae mwy o ddadansoddi ar bresgripsiynau ar gael yn ein adroddiad ystadegol Presgripsiynau yng Nghymru.

3. Adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau

Darparodd 689 (neu 96%) o fferyllfeydd adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau yn 2019-20. Mae hyn wedi cynyddu o 88% o fferyllfeydd a oedd yn cynnig y gwasanaeth yn 2010-11.

Talwyd dros 180,000 o hawliadau am adolygiad o'r defnydd o feddyginiaethau yn 2019-20. Mae hyn yn gyfartaledd (cymedrig) o 262 fesul fferyllfa gymunedol sy'n cynnig y gwasanaeth.

4. Adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau

Darparodd 518 (neu 72%) o fferyllfeydd adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau yn 2019-20. Mae hyn wedi cynyddu o 41% o fferyllfeydd a oedd yn cynnig y gwasanaeth yn 2011-12 (pan gynigiwyd y gwasanaeth am y tro cyntaf).

Talwyd bron i 11,600 o hawliadau am adolygiad o feddyginiaethau wrth ryddhau yn 2019-20. Mae hyn yn gyfartaledd o 22 y fferyllfa gymunedol sy'n cynnig y gwasanaeth.

5. Atal cenhedlu brys

Darparwyd dulliau atal cenhedlu brys ar 33,269 o achlysuron yn 2019-20. Mae hyn yn unol â'r duedd tymor hir sy'n gymharol sefydlog.

Yn 2019-20, roedd 56% o'r hawliadau hyn gan y rhai nad oeddent wedi defnyddio dulliau atal cenhedlu, ac roedd 22% o'r hawliadau ar gyfer y rhai o dan 20 oed.

6. Brechlyn ffliw tymhorol

Cafodd 64,094 o bobl y brechlyn ffliw tymhorol mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2019-20. Bu cynnydd mawr yn nifer y cleifion sy'n cael y brechlyn ffliw tymhorol mewn fferyllfeydd cymunedol ers ei gynnig am y tro cyntaf yn 2012-13, pan gafodd 1,568 o gleifion y brechlyn ffliw tymhorol.

Yn 2019-20, roedd 27% o'r rhai a gafodd y brechlyn o dan 65 oed ac mewn grwpiau sy'n 'wynebu risg', a chafodd 17% y brechlyn ffliw tymhorol am y tro cyntaf.

Noder bod y data hwn ond yn cynnwys unigolion sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol a ariennir gan y GIG. Nid yw'n cynnwys unrhyw unigolyn sydd wedi talu am frechlyn yn breifat yn y fferyllfa.

7. Gwasanaeth anhwylderau cyffredin

Gwnaed 76,445 o ymgynghoriadau i'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn 2019-20. Mae'r gwasanaeth ar gael mewn 697 (97%) o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru erbyn hyn.

Roedd 30% o'r ymgynghoriadau yn ymwneud â phlant o dan 16 oed. Roedd bron i ddwy ran o dair (64%) o'r holl ymgynghoriadau’n ymwneud â menywod.

Roedd 1,709 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin fwy na dwywaith yn ystod y flwyddyn.

8. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac fel arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn Reoliad llawn Ystadegau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol ddiwthaf yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • cyhoeddi’r datganiad ystadegol mewn fformat html, gyda data mwy agored yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru
  • diweddaru’r adroddiad ansawdd ac adnewyddu’r sylwebaeth yn y datganiad

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol hefyd, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

9. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 177/2020