Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru sydd â chontract gyda byrddau iechyd. Cyflwynir data newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, sy'n cwmpasu'r cyfnod cyn y pandemig COVID-19 i raddau helaeth.

Fferyllfeydd cymunedol yw'r rhai a geir mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad, er enghraifft, ar y stryd fawr, mewn archfarchnadoedd neu mewn meddygfeydd teulu.

Er mai gwasanaethau hanfodol megis rhoi presgripsiynau yw prif rôl fferyllfeydd cymunedol o hyd, mae'r rhan fwyaf yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol y GIG, gan gynnwys atal cenhedlu brys, brechlyn ffliw tymhorol, adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau, adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau a gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Crynhoir y data ar gyfer y gwasanaethau hyn ar gyfer 2019-20.  

Bydd y pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yn 2020-21, gan gynnwys yr angen i fferyllfeydd cymunedol gyflwyno gweithdrefnau rheoli heintiau, cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol, ac effaith staff fferyllol yn hunanynysu.

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi'i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Fferyllfeydd

Prin fu'r newid yn nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Ar 31 Mawrth 2021, roedd 712 o fferyllfeydd cymunedol o gymharu â 708 ar 31 Mawrth 2011.

Ar 31 Mawrth 2021, roedd 231 (32%) yn fferyllfeydd annibynnol, gyda'r gweddill yn fferyllfeydd cadwyn/lluosog.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o fferyllfeydd yn ôl math dros y 10 mlynedd diwethaf. Ychydig iawn sydd wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae bron i draean yn fferyllfeydd annibynnol, a'r gweddill yn rai lluosog neu'n gadwyni fel Boots.

Presgripsiynau

Mae prif ffynhonnell y data ar bresgripsiynau yn y datganiad blynyddol Presgripsiynau yng Nghymru.

Gweinyddwyd 76.8 miliwn o bresgripsiynau mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2020-21. Nid yw hyn yn cynnwys eitemau a roddwyd gan feddygon sy’n cyflenwi ac eitemau a weinyddir yn bersonol sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn a’u cyflenwi gan aelod o’r practis, sydd wedi’u cynnwys yn y data cyflenwi yn y datganiad Presgripsiynau yng Nghymru.

Mae hyn yn gyfartaledd (cymedrig) o 106,956 fesul fferyllfa, a chynnydd o 16% ers 2010-11.

Image
Siart golofn yn dangos nifer cyfartalog y presgripsiynau a roddwyd ym mhob fferyllfa bob blwyddyn ers 2010-11. Cynyddodd y nifer bob blwyddyn tan 2020-21, pan welwyd lleihad o 860 i bob fferyllfa, neu bron i 1%.

Mae mwy o ddadansoddi ar bresgripsiynau ar gael yn ein datganiad ystadegol Presgripsiynau yng Nghymru.

Adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau

Darparodd 544 (neu 76%) o fferyllfeydd adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau yn 2020-21. Mae hyn wedi cynyddu o 41% o fferyllfeydd a oedd yn cynnig y gwasanaeth yn 2011-12 (pan gynigiwyd y gwasanaeth am y tro cyntaf).

Talwyd mwy na 12,300 o hawliadau am adolygiad o feddyginiaethau wrth ryddhau yn 2020-21. Mae hyn yn gyfartaledd o 23 y fferyllfa gymunedol sy'n cynnig y gwasanaeth.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o Adolygiadau o Feddyginiaethau wrth Ryddhau a gynhaliwyd bob blwyddyn ers 2011-12. Mae'r nifer wedi amrywio yn ystod y cyfnod, gan gynyddu o 1,883 yn 2011-12 pan ddechreuodd y gwasanaeth, i 12,342 yn 2020-21.

Atal cenhedlu brys

Darparwyd dulliau atal cenhedlu brys ar 23,917 o achlysuron yn 2020-21. Mae hyn i lawr 32% ers 2019-20 ac yn debygol o fod o ganlyniad i’r pandemig. Tan y llynedd, roedd niferoedd yn dangos tuedd tymor hir a oedd yn gymharol sefydlog.

Image
Siart golofn yn dangos darpariaeth atal cenedlu brys mewn fferyllfeydd cymunedol ers 2014-15. Roedd y nifer oddeutu 35,000 bob blwyddyn tan 2020-21 pan syrthiodd i lai na  24,000.
Image
Siart gylch yn dangos y rhesymau dros ofyn am atal cenhedlu brys yn ystod 2020-21. Roedd mwy na hanner (53%) heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, ac ychydig dros draean (36%) wedi rhoi gwybod bod eu dull atal cenhedlu wedi methu. Roedd y gweddill wedi anghofio cymryd y bilsen, neu wedi nodi rhesymau eraill.

Doedd mwy na hanner (53%) y menywod a ofynnodd am ddulliau atal cenhedlu brys yn ystod 2020-21 ddim wedi defnyddio unrhyw ddull atal cenhedlu. Rhoddodd 36% arall wybod bod eu dull atal cenhedlu wedi methu.

Image
Siart yn dangos y ddarpariaeth atal cenhedlu brys yn ôl oedran (os yw'n hysbys) yn ystod 2020-21. Rhoddwyd atal cenhedlu brys i fwy o unigolion 21 oed nag unrhyw oedran arall, ac roedd 1 o bob 5 (21%) o dan 20.

Nodyn: Mae’r niferoedd hyn yn ymwneud â’r dulliau atal cenhedlu brys a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn, ac nid pan wneir yr hawliadau am daliad; ni chofnodwyd oedran ar gyfer bron i 40% o’r achosion yn 2020-21; mae hyn yn anghyffredin ac felly’n debygol o fod o ganlyniad i’r pandemig.

Lle cofnodwyd oedran:

  • rhoddwyd dull atal cenhedlu brys i fwy o unigolion 21 oed (1,019 neu 6.9%) nag unrhyw oedran arall; yn y ddwy flynedd ddiwethaf, unigolion 20 oed oedd y nifer mwyaf
  • roedd 21% o dan 20 oed
  • roedd 71% o’r menywod a gafodd ddull atal cenhedlu brys rhwng 16 a 30 oed

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn StatsCymru.

Brechlyn ffliw tymhorol

Noder bod y data hwn ond yn cynnwys unigolion sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol a ariennir gan y GIG. Nid yw'n cynnwys unrhyw unigolyn sydd wedi talu am frechlyn yn breifat yn y fferyllfa.

Rhoddwyd 91,960 o frechlynnau ffliw tymhorol mewn fferyllfeydd cymunedol. O'r rhai sy'n derbyn y brechlyn:

  • roedd bron i hanner (49%) yn 65 oed neu hŷn
  • roedd bron i 1 o bob 5 (18%) yn ieuengach na 65 oed ac mewn grwpiau y mae risg iddynt
  • roedd 13% arall yn 50-64 oed (yn gymwys am y tro cyntaf yn 2020-21).
  • roedd 13% arall yn ofalwyr fel staff cartrefi nyrsio, ymatebwyr cyntaf cymunedol, a gofalwyr gwirfoddol ac anffurfiol.
  • cafodd bron i 30,000 (32%) y brechlyn am y tro cyntaf
  • roedd benywod yn bron i 60% o’r cyfanswm
  • roedd ychydig o dan hanner (48%) y rhai a oedd wedi cael y brechlyn yn flaenorol wedi cael y brechlyn yn eu meddygfa, a’r un nifer wedi’i gael mewn fferyllfa cymunedol; roedd y gweddill wedi cael eu brechu mewn lleoliadau eraill gan gynnwys yn eu cartref eu hunain neu yn y gweithle

Talwyd 93,044 o hawliadau am daliad am ddarpariaeth brechlyn ffliw tymhorol  yn 2020-21 (mae’r rhain yn cynnwys rhai taliadau am frechlynnau a roddwyd yn y flwyddyn flaenorol)

Image
Siart golofn yn dangos nifer y brechlynnau rhag y ffliw (SFV) a roddwyd mewn fferyllfeydd cymunedol, yn ôl rhyw o 2014-15 i 2020-21. Mae'r nifer wedi cynyddu o ychydig dros 11,500 yn 2014-15 i bron i 92,000 yn 2020-21, pan ddaeth y rhai 50-64 oed yn gymwys i gael brechlyn am ddim am y tro cyntaf.
Image
Dwy siart gylch, un i wrywod ac un i fenywod, yn dangos y canran sy'n manteisio arnynt yn ôl cymhwysedd. Y gwahaniaeth mawr oedd y nifer o ofalwyr. Roedd 18% o fenywod yn ofalwyr, o'i gymharu â 6% o wrywod.

Mae’r rhaniad canrannol yn ôl cymhwysedd yn dangos bod 18% o’r benywod yn ofalwyr, o’i gymharu â 6% o wrywod. Mae’r niferoedd hyn yn ymwneud â brechlynnau ffliw tymhorol a roddir yn ystod y flwyddyn, ac nid pan wneir yr hawliadau am daliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn StatsCymru.

Gwasanaeth anhwylderau cyffredin

Gwnaed 74,624 o ymgyngoriadau i'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn 2020-21, sy’n gynnydd bychan o’i gymharu â 2019-20. Mae'r gwasanaeth ar gael mewn 698 (98%) o’r 712 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru erbyn hyn.

Nid yw’r holl ymgyngoriadau’n cynnwys mwy o fanylion, fel oedran, anhwylder etc.

Defnyddiodd 2,109 o bobl y gwasanaeth anhwylderau cyffredin fwy na dwywaith yn ystod 2020-21; defnyddiodd un person y gwasanaeth 13 o weithiau, a defnyddiodd 5 o bobl y gwasanaeth fwy na 10 o weithiau.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ers 2017-18 pan gyflwynwyd y gwasanaeth. Er bod y nifer o ymgyngoriadau wedi cynyddu o ychydig o dan 18,000 yn 2017-18 i bron i 75,000 yn 2019-20, dangoswyd cynnydd bach yn unig yn ystod 2020-21, efallai o ganlyniad i'r pandemig.
Image
Siart golofn yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin fesul mis yn ystod 2020-21. Mae hyn yn dangos brig ym mis Mehefin 2020 cyn lleihau tan fis Chwefror 2021, gyda chynnydd arall ym mis Mawrth 2021.

Cyrhaeddodd nifer ymgyngoriadau’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin bron i 9,000 ym mis Mehefin 2020, gan leihau wedyn i bum neu chwe mil y mis cyn cynyddu eto ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Image
Siart byramid poblogaeth yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn ôl oedran a rhyw yn ystod 2020-21. Mae hyn yn dangos niferoedd uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant, gwrywaidd a benywaidd, gyda niferoedd uwch o ymgyngoriadau ar gyfer menywod yn eu 30au ac eto yn eu 50au.

Roedd mwy nag 1 o bob 5 (22%) o ymgyngoriadau CAS yn ymwneud â phlant o dan 16 oed. Roedd bron i ddau draean (63%) o’r holl ymgyngoriadau yn ymwneud â benywod.      

Mae’r pyramid poblogaeth yn dangos niferoedd uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant, yn wrywod a benywod. Er bod y niferoedd yn gymharol gyson ar gyfer oedolion gwrywaidd tan eu 70au hwyr, mae nifer cynyddol o ymgyngoriadau ar gyfer menywod yn eu 30au ac eto yn eu 50au.

Image
Siart bar yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn ystod 2020-21 yn ôl anhwylder. Yr anhwylder mwyaf cyffredin oedd clefyd gwair (13,566 neu 20%), ac yna llid pilen y llygad (9,061 neu 13%).

Mae tua 1 o bob 5 (20%) o ymgyngoriadau CAS yn ymwneud â chlefyd gwair, yna llid pilen y llygad (13%), edeulyngyr (12%) a chroen sych / dermatitis (10%).

Gwasanaeth adolygu’r defnydd o feddyginiaethau

Atalwyd gwasanaeth adolygu’r defnydd o feddyginiaethau (MUR) ym mis Mawrth 2020 mewn ymateb i’r pandemig COVID. Mae’r gwasanaeth wedi’i atal o hyd. Yn unol â hynny ni chynhaliwyd unrhyw ymgyngoriadau gwasanaeth adolygu’r defnydd o feddyginiaethau yn 2020-21. Mae data ar gyfer blynyddoedd blaenorol ar gael yn y datganiad ystadegol ar gyfer 2019-2020 ac ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac fel arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn Reoliad llawn Ystadegau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol ddiwthaf yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2012.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • cyhoeddi’r datganiad ystadegol mewn fformat html, gyda data mwy agored yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru
  • diweddaru’r adroddiad ansawdd ac adnewyddu’r sylwebaeth yn y datganiad

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol hefyd, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 331/2020