Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru sydd â chontract gyda byrddau iechyd.

Fferyllfeydd cymunedol yw'r rhai a geir mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad, er enghraifft ar y stryd fawr, mewn archfarchnadoedd neu mewn meddygfeydd teulu.

Er mai gwasanaethau hanfodol fel dosbarthu presgripsiynau yw prif rôl fferyllfeydd cymunedol o hyd, mae'r rhan fwyaf yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol GIG ychwanegol, gan gynnwys adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau cleifion, atal cenhedlu brys, brechlyn ffliw tymhorol, gwasanaeth anhwylderau cyffredin, a chyflenwi meddyginiaethau brys. Crynhoir y data newydd o ran y  gwasanaethau hyn ar gyfer 2021-22.

Er bod fferyllfeydd cymunedol wedi rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ar waith yn unol â chanllawiau COVID-19 ar wahanol adegau yn ystod 2021-22, ni chredwyd bod y pandemig wedi effeithio ar y gweithdrefnau casglu data.

Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn wedi’u seilio ar ddata Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddir y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Fferyllfeydd

Prin fu'r newid yn nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf.  Roedd yr un nifer o fferyllfeydd (712) ar 31 Mawrth 2022 ag oedd ar 31 Mawrth 2013.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer y fferyllfeydd annibynnol wedi gostwng ychydig, tra bod nifer y fferyllfeydd lluosog/cadwyn wedi cynyddu ychydig.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o fferyllfeydd yn ôl math dros y 10 mlynedd diwethaf. Ychydig iawn sydd wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae bron i draean yn fferyllfeydd annibynnol, a'r gweddill yn rai lluosog neu'n gadwyni fel Boots.

Fferyllfeydd cymunedol yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a blwyddyn ar StatsCymru

Presgripsiynau

Prif ffynhonnell y data ar bresgripsiynau yw’r datganiad blynyddol Presgripsiynau yng Nghymru sy’n cynnwys dadansoddiad manylach o’r eitemau presgripsiwn a’u costau.

Gweinyddwyd 77.5 miliwn o bresgripsiynau mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2021-22. Nid yw hyn yn cynnwys eitemau a roddwyd gan feddygon sy’n cyflenwi ac eitemau a weinyddir yn bersonol sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn a’u cyflenwi gan aelod o’r practis cyffredinol, sydd wedi’u cynnwys yn y data cyflenwi yn y datganiad Presgripsiynau yng Nghymru.

Mae hyn yn gyfartaledd (cymedrig) o tua 110,000 fesul fferyllfa, ac yn gynnydd o 12% ers 2012-13. 

Mae nifer yr eitemau presgripsiwn a weinyddwyd wedi bod ar duedd raddol ar i fyny dros y ddegawd, gan gynyddu 2% ers y llynedd a 12% ers 2012-13.

Image
Siart golofn yn dangos nifer cyfartalog y presgripsiynau a roddwyd ym mhob fferyllfa bob blwyddyn ers 2012-13. Cynyddodd y nifer bob blwyddyn tan 2020-21, pan welwyd lleihad o 860 i bob fferyllfa, neu bron i 1%. Mae'n debygol fod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar hyn, ac yn 2021-22 bu cynnydd o bron 2,300 i bob fferyllfa, neu 2.1%.

Adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau cleifon

Nod y Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Cleifion  yw darparu cefnogaeth i gleifion a ryddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddar drwy sicrhau bod newidiadau a wnaed i'w meddyginiaethau yn cael eu rhoi ar waith yn y gymuned fel y bwriadwyd.

Darparodd 567 (neu 80%) o fferyllfeydd adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau cleifion yn 2021-22. Cynyddodd hynny o 76% o fferyllfeydd yn eu cynnig y llynedd a 65% yn 2012-13.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o Adolygiadau o Feddyginiaethau wrth Ryddhau a gynhaliwyd bob blwyddyn ers 2012-13. Mae'r nifer wedi amrywio yn ystod y cyfnod, gan gynyddu o 7,693 yn 2012-13 i 13,881 yn 2021-22.

(a) Dyma’r nifer o hawliadau a dalwyd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na nifer y DMRs a ddarparwyd.

Adolygiadau o'r Defnydd o Feddyginiaethau (ADF), a Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau (AMR) yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a blwyddyn ar StatsCymru

Mae nifer yr adolygiadau o feddyginiaethau rhyddhau wedi bod ar duedd ar i fyny dros y 10 mlynedd diwethaf ac roedd bron i 13,900 yn 2021-22. Mae hyn yn gyfartaledd o 24 i bob fferyllfa gymunedol sy'n cynnig y gwasanaeth.

Atal cenhedlu brys

Mae fferyllfeydd cymunedol yn gallu darparu cyngor atal cenhedlu brys a chyngor iechyd rhywiol ac roedd ar gael mewn 644 (neu 90%) o fferyllfeydd cymunedol yn ystod 2021-22.

Image
Siart golofn yn dangos darpariaeth atal cenedlu brys mewn fferyllfeydd cymunedol ers 2014-15. Roedd y nifer oddeutu 35,000 bob blwyddyn tan 2020-21 pan syrthiodd i lai na  24,000, ond cynyddodd i bron 32,000 yn 2021-22.

Fferyllfeydd sy'n darparu gwasanaeth atalcenhedlu brys, brechiadau ffliw tymhorol, a'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, yn ôl BILl a blwyddyn ar StatsCymru

Darparwyd atal cenhedlu brys ar bron i 32,000 o achlysuron yn 2021-22. Roedd hyn yn gynnydd o 34% ers 2020-21 (yr effeithiwyd arni gan y pandemig). Fodd bynnag, mae'r duedd hirdymor wedi bod ar i lawr a darparwyd 12% yn llai o ddulliau atal cenhedlu brys yn y flwyddyn ddiweddaraf nag yn 2014-15 (y flwyddyn gyntaf y mae data cymaradwy ar gael ar ei chyfer).

Image
Siart gylch yn dangos y rhesymau dros ofyn am atal cenhedlu brys yn ystod 2021-22. Roedd mwy na hanner (58%) heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, ac thraean (36%) wedi rhoi gwybod bod eu dull atal cenhedlu wedi methu. Roedd y gweddill wedi anghofio cymryd y bilsen, neu wedi nodi rhesymau eraill.

Dywedodd bron i 3 o bob 5 o’r menywod a ofynnodd am atal cenhedlu brys yn ystod 2021-22 nad oedden nhw wedi defnyddio dulliau atal cenhedlu. Dywedodd traean arall bod eu dull atal cenhedlu wedi methu.

Brechlyn ffliw tymhorol

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu brechiad y GIG yn erbyn ffliw tymhorol. Nid yw’r data yn y datganiad hwn ond yn cynnwys unigolion sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol a ariennir gan y GIG ac sy’n ei gael mewn fferyllfa gymunedol. Nid yw'n cynnwys unrhyw unigolyn a oedd yn gymwys ac a gafoddd y brechiad gan feddyg teulu nac unrhyw un sydd wedi talu am frechiad yn breifat yn y fferyllfa.

Roedd y brechlyn ffliw tymhorol ar gael mewn 644 (90%) o fferyllfeydd cymunedol yn ystod 2021-22.

Cafodd ychydig yn llai na 170,000 o frechlynnau ffliw tymhorol eu rhoi mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2021-22 ac fe gafodd bron i 40,000 o bobl y brechlyn am y tro cyntaf. O'r bobl hynny a oedd hefyd wedi cael brechlyn tymhorol yn y flwyddyn flaenorol, ychydig o dan eu hanner (45%) oedd wedi’i gael yn eu practis meddyg teulu yn y flwyddyn flaenorol.

Image
Siart golofn yn dangos nifer y brechlynnau rhag y ffliw (SFV) a roddwyd mewn fferyllfeydd cymunedol, yn ôl rhyw o 2014-15 i 2020-21. Mae'r nifer wedi cynyddu o ychydig dros 11,500 yn 2014-15 i bron i 92,000 yn 2020-21, pan ddaeth y rhai 50-64 oed yn gymwys i gael brechlyn am ddim am y tro cyntaf. (second year of 50-64s).

Cafodd 58% o frechlynnau ffliw tymhorol eu rhoi i fenywod a 42% i ddynion (lle’r oedd eu rhyw wedi’i nodi). Mae'r gyfran hon wedi aros yn gyson ers 2014-15.

Image
Mae'r siart yn dangos pob rheswm dros gymhwysedd, yn hytrach na nifer y bobl a oedd yn gymwys. Os oedd unigolyn yn bodloni mwy nag un maen prawf, mae pob un o'r rhesymau wedi'i gyfrif yn y siart. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gymwys oherwydd eu hoedran.

(a) Mae'r siart yn dangos pob rheswm dros gymhwysedd, yn hytrach na nifer y bobl a oedd yn gymwys. Os oedd unigolyn yn bodloni mwy nag un maen prawf, mae pob un o'r rhesymau wedi'i gyfrif yn y siart.

Rhwng 2021-22, mae data ar gael ynghylch cymhwysedd y claf am frechlyn ffliw tymhorol, gan gynnwys os ydynt yn gymwys am fwy nag un rheswm. O'r rhai a gafodd y brechlyn yn 2021-22 roedd bron 17,000 yn gymwys mewn mwy nag un categori.

Roedd y mwyafrif helaeth o gleifion yn gymwys oherwydd eu hoedran, gyda mwy na 77,500 yn 50 i 64 oed, a bron 65,000 yn 65 oed a throsodd; tra bod mwy na 13,000 yn gymwys am fod ganddynt glefyd anadlol cronig.

Y gwasanaeth anhwylderau cyffredin

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu cyngor a chymorth i bobl ar reoli mân anhwylderau cyffredin gan gynnwys, lle bo hynny'n briodol, cyflenwi meddyginiaethau ar gyfer trin yr anhwylder hwnnw i'r bobl hynny a fyddai wedi mynd at eu meddyg teulu fel arall am gyngor neu bresgripsiwn.

Yn 2021-22, roedd 707 (99%) o'r 712 fferyllfa gymunedol yng Nghymru yn darparu ymgyngoriadau drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin.

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ers 2017-18 pan gyflwynwyd y gwasanaeth. Er bod y nifer o ymgyngoriadau wedi cynyddu o ychydig o dan 18,000 yn 2017-18 i bron i 75,000 yn 2019-20, dangoswyd cynnydd bach yn unig yn ystod 2020-21, efallai o ganlyniad i'r pandemig. Yn 2021-22 fe wnaeth nifer yr ymgyngoriadau ddyblu bron, i fwy na 143,000.

Fferyllfeydd sy'n darparu gwasanaeth atalcenhedlu brys, brechiadau ffliw tymhorol, a'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, yn ôl BILl a blwyddyn ar StatsCymru

Image
Siart golofn yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin fesul mis yn ystod 2020-21. Mae hyn yn dangos uchafbwynt cynnar ym mis Mehefin 2021, gostyngiad tan y flwyddyn newydd ac yna cynnydd cyson bob mis, i fwy na 19,500 o ymgyngoriadau ym mis Mawrth 2022.

Roedd y galw am ymgyngoriadau’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn wahanol yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn. Cafwyd y nifer fwyaf o ymgyngoriadau rhwng Ionawr a Mawrth, gydag uchafbwynt pellach ym mis Mehefin a Gorffennaf. Yn fras roedd nifer yr ymgyngoriadau yn debyg ym mhob mis arall.

Image
Siart byramid poblogaeth yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn ôl oedran a rhyw yn ystod 2021-22. Mae hyn yn dangos niferoedd uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant, gwrywaidd a benywaidd, gyda niferoedd uwch o ymgyngoriadau ar gyfer menywod yn eu 30au ac eto yn eu 50au.

Roedd crynhoad uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant gwrywaidd a benywaidd, gydag 1 o bob 4 (25%) o ymgyngoriadau yn ymwneud â phlant o dan 16 oed. Cafodd nifer uwch o ymgyngoriadau eu cynnal â chleifion benywaidd nag â chleifion benywaidd, gyda bron ddwy ran o dair (62%) o'r holl ymgyngoriadau yn ymwneud â menywod.   

Mae'r dosbarthiad yn dangos bod nifer tebyg, yn fras, o ymgyngoriadau ar gyfer oedolion gwrywaidd o bob oed rhwng 20 ac 80. Fodd bynnag, mae amrywiaeth ehangach yn nifer yr ymgyngoriadau yn ôl oedran i fenywod sy'n oedolion, gydag uchafbwyntiau i fenywod rhwng 30 a 40 oed a 50 i 60 oed.

Image
Siart bar yn dangos y nifer o ymgyngoriadau Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn ystod 2021-22 yn ôl anhwylder. Yr anhwylder mwyaf cyffredin oedd clefyd gwair (25,271 neu 18.4%), ac yna llid pilen y llygad (25,271 neu 14.7%).

Yr anhwylder mwyaf cyffredin yr ymgynghorwyd yn ei gylch drwy'r gwasanaeth oedd clefyd y gwair, sef ychydig yn llai nag 1 o bob 5 (18%) o'r holl ymgyngoriadau. Anhwylderau cyffredin eraill oedd llid pilen y llygad (15% o'r holl ymgyngoriadau) a chroen sych/dermatitis (12%).

Cyflenwi meddyginiaethau brys

Mae'r Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys yn galluogi fferyllydd i roi i glaf ei feddyginiaethau rheolaidd, sydd ar gael drwy bresgripsiwn yn unig, mewn sefyllfaoedd brys. Mae sefyllfaoedd brys yn cynnwys y rhai lle gallai cyflenwad y claf fod wedi dod i ben, wedi’i golli, wedi’i ddifrodi, neu fod y claf yn methu â chael presgripsiwn cyn ei fod i fod i gymryd ei ddos nesaf, ac y byddai ym marn y fferyllydd niweidiol i iechyd y claf pe bai’n methu dos o'r feddyginiaeth. 

Yn 2021-22, roedd 662 (neu 93%) o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn darparu cyflenwad o feddyginiaeth frys.

Image
Mae nifer yr eitemau a gyflenwyd drwy’r gwasanaeth cyflenwi meddyginiaethau brys wedi cynyddu bob blwyddyn ers i ddata fod ar gael am y tro cyntaf yn 2016-17. Yn 2021-22, cafodd ychydig dros 84,000 o eitemau eu cyflenwi, sy'n gynnydd o 58% ers y flwyddyn flaenorol.

Mae nifer yr eitemau a gyflenwyd drwy’r gwasanaeth cyflenwi meddyginiaethau brys wedi cynyddu bob blwyddyn ers i ddata fod ar gael am y tro cyntaf yn 2016-17. Yn 2021-22, cafodd ychydig dros 84,000 o eitemau eu cyflenwi, sy'n gynnydd o 58% ers y flwyddyn flaenorol.

Image
Mae'r siart hwn yn dangos yr eitemau mwyaf cyffredin a gyflenwyd drwy'r gwasanaeth cyflenwi meddyginiaeth frys yn ystod 2021-22; Roedd y gofyn fwyaf ar gyfer 'Ventolin 100micrograms/dose Evohaler'.

Y cynnyrch meddyginiaethol mwyaf cyffredin a gafodd ei ragnodi gan fferyllfeydd mewn argyfwng oedd y Ventolin 100microgram/dos evohaler sy'n cynnwys y cynhwysun actif salbwtomol, a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer lleddfu ac atal symptomau asthma.  Ymysg yr eitemau cyffredin eraill a gyflenwyd roedd meddyginiaethau i drin ac atal wlserau stumog, i leihau pwysedd gwaed uchel neu lefelau colesterol, ac i drin iselder.

Sylwer y gall yr un feddyginiaeth ymddangos fwy nag unwaith os yw wedi'i rhagnodi mewn dosau/cyfeintiau gwahanol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cafodd y gwasanaeth Adolygu Defnydd Meddyginiaethau ei atal dros dro ym mis Mawrth 2020 mewn ymateb i’r pandemig COVID. Mae'r gwasanaeth wedi dod i ben yn ddiweddar. Mae data ar gyfer blynyddoedd blaenorol ar gael yn y datganiad ystadegol ar gyfer 2019-2020 ac ar StatsCymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac fel arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, gan gynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Ystadegau. Mae'r ystadegau hyn wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol a chafodd adolygiad llawn ohonynt yn unol a’r Cod Ymarfer ei gynnal ddiwethaf yn 2012.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cyhoeddi’r datganiad ystadegol mewn fformat html, gyda data mwy agored yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru.
  • Diweddaru’r adroddiad ansawdd ac adnewyddu’r sylwebaeth yn y datganiad.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol hefyd, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 208/2022