Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am fferyllfeydd cymunedol sydd â chontract gyda byrddau iechyd yng Nghymru. Fferyllfeydd cymunedol yw'r rhai a geir yn aml ar y stryd fawr, mewn archfarchnadoedd neu mewn meddygfeydd teulu. 

Er mai dosbarthu presgripsiynau yw eu prif rôl o hyd, maent wedi cynnig ystod o wasanaethau ychwanegol y GIG dros nifer o flynyddoedd, ac ym mis Ebrill 2022 ar ôl diwygio'r contract ehangwyd y swyddogaethau hyn. Creodd y diwygiadau wasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol ar lefel genedlaethol, gan alluogi pob fferyllfa i ddarparu triniaeth ar gyfer mân anhwylderau cyffredin, mynediad at feddyginiaethau rheolaidd mewn argyfwng, brechlynnau blynyddol rhag y ffliw, a rhai mathau o ddulliau atal cenhedlu brys a rheolaidd. Crynhoir y data newydd o ran y gwasanaethau hyn ar gyfer 2022-23.

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn wedi'u seilio ar ddata Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Prif bwyntiau

Yn 2022-23

  • Roedd 708 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, sef 4 (neu 0.6%) yn llai nag ar 31 Mawrth 2022 a 6 (neu 0.8%) yn llai nag ar 31 Mawrth 2014.
  • Cafodd 111,330 o eitemau eu dosbarthu fesul fferyllfa gymunedol ar gyfartaledd, sef cynnydd o 2.3% ers 2021-22 a chynnydd o 11.7% ers 2013-14.
  • Cafodd ychydig dros 14,630 o adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau eu darparu, sef cynnydd o 5.4% ers 2021-22 a dwywaith nifer yr adolygiadau a ddarparwyd yn 2013-14 (cynnydd o 101.8%).
  • Roedd 704 o fferyllfeydd sy'n gymwys i ddarparu'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol sydd newydd ei sefydlu.
  • Roedd bron i 240,000 o ymgyngoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin, sef cynnydd o 73.9% ers 2021-22 a mwy na phum gwaith cymaint (453.9%) â phum mlynedd yn ôl.
  • Cafodd ychydig dros 160,000 o frechlynnau ffliw tymhorol eu rhoi i bobl sy'n gymwys i gael cyllid gan y GIG, sef gostyngiad o 3.6% ers y flwyddyn flaenorol, ond bron i deirgwaith (196.4%) yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
  • Roedd mwy na 81,500 o ymgyngoriadau ar gyfer meddyginiaethau brys, sef cynnydd o 54.6% ers y flwyddyn flaenorol a mwy na phedair gwaith cymaint (357.6%) â phum mlynedd yn ôl.
  • Cafodd ychydig dros 31,000 o ddulliau atal cenhedlu brys eu rhoi, sef gostyngiad o 2.6% ers y flwyddyn flaenorol a gostyngiad o 13.6% ers pum mlynedd yn ôl.

Fferyllfeydd

Ffigur 1: Nifer y fferyllfeydd yn ôl math ar 31 Mawrth bob blwyddyn, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos bod cyfanswm nifer y fferyllfeydd wedi aros yn sefydlog yng Nghymru rhwng 2014 a 2023, gan ostwng ychydig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dros yr un cyfnod, mae nifer y fferyllfeydd annibynnol wedi gostwng, a wrthbwysir gan gynnydd eithaf tebyg yn nifer y fferyllfeydd lluosog (cadwyn).

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Fferyllfeydd cymunedol yn ôl bwrdd iechyd lleol a blwyddyn ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 708 o fferyllfeydd yng Nghymru, sef 4 (neu 0.6%) yn llai nag ar 31 Mawrth 2022 a 6 (neu 0.8%) yn llai nag ar 31 Mawrth 2014.

O'r rhain, roedd 486 yn fferyllfeydd lluosog (cadwyn), sef 0.2% yn fwy nag ar 31 Mawrth 2022 a 5.7% yn fwy nag ar 31 Mawrth 2014. 

Roedd 222 yn fferyllfeydd annibynnol, sef 2.2% yn llai nag ar 31 Mawrth 2022 a 12.6% yn llai nag ar 31 Mawrth 2014.

Eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd

Prif ffynhonnell y data ar bresgripsiynau gofal sylfaenol yw'r datganiad ystadegol Presgripsiynau gofal sylfaenol, sy'n ategu'r datganiad fferylliaeth gymunedol hwn. Mae'r datganiad yn darparu dadansoddiad manwl o'r eitemau a ragnodir gan bob contractwr gofal sylfaenol ac a ddosberthir yn y gymuned. Mae'n cynnwys rhagnodi gwybodaeth gan fferyllwyr sy'n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol a'r rhai sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol.

Dosbarthwyd 78.8 miliwn o bresgripsiynau mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2022-23. Nid yw hyn yn cynnwys eitemau sy'n cael eu dosbarthu gan feddygon dosbarthu nac eitemau sy'n cael eu rhoi'n bersonol a ragnodir ac a roir gan aelod o'r practis cyffredinol.

Ffigur 2: Nifer cyfartalog y presgripsiynau a ddosbarthwyd fesul fferyllfa gymunedol, y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth, 2014 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy'n dangos bod nifer yr eitemau a ddosbarthwyd gan fferyllfeydd cymunedol wedi cynyddu'n gyson dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Yn 2022-23, nifer cyfartalog (cymedrig) yr eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd gan fferyllfeydd cymunedol oedd 111,330. Mae hyn yn gynnydd o 2.3% ers 2021-22 a chynnydd o 11.7% ers 2013-14.

Adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau

Nod y gwasanaeth adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau yw rhoi cymorth i gleifion a ryddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddar drwy sicrhau bod newidiadau a wneir i'w meddyginiaethau’n cael eu gwneud fel y'u bwriadwyd yn y gymuned.

Roedd 703 o fferyllfeydd wedi'u hachredu i ddarparu adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau ar 31 Mawrth 2023, a darparodd 543 neu 77% o fferyllfeydd adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau yn ystod 2022-23. O'i gymharu, darparodd 80% o fferyllfeydd adolygiadau yn 2021-22 a 54% o fferyllfeydd yn 2013-14.

Ffigur 3: Nifer yr adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau fesul blwyddyn ariannol, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos bod nifer yr adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau wedi cynyddu'n sylweddol dros amser, gan fwy na dyblu rhwng 2013-14 a 2022-23. 

[Nodyn 1] Yn seiliedig ar nifer yr hawliadau a dalwyd am gwblhau adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau yn ôl bwrdd iechyd lleol a blwyddyn ar StatsCymru

Yn 2022-23, cynhaliwyd ychydig mwy na 14,630 o adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau mewn fferyllfeydd cymunedol, yn seiliedig ar hawliadau a dalwyd. Mae hyn yn gynnydd o 5.4% ers 2021-22 a chynnydd o 101.8% ers 2013-14.

Gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol (CCPS)

Er bod llawer o fferyllfeydd yn cynnig gwasanaethau clinigol amrywiol ers blynyddoedd lawer, rhoddwyd gwasanaeth clinigol systematig newydd ar waith ledled Cymru ym mis Ebrill 2022. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu'n gyson ledled Cymru, ar draws pedwar gwasanaeth blaenoriaeth i ddechrau: anhwylderau cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys, cyflenwadau meddyginiaethau brys a brechlynnau ffliw tymhorol. 

Gall pob fferyllfa ddarparu CCPS yn amodol ar fodloni safonau penodedig mewn perthynas â safleoedd a hyfforddiant. Rhaid darparu'r pedwar gwasanaeth, neu raid i fferyllfeydd optio allan o'r gwasanaeth yn gyfan gwbl. 

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 704 o fferyllfeydd cymunedol wedi optio mewn i ddarparu CCPS. Yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, gallai nifer y fferyllfeydd a wnaeth hawliadau am wasanaethau CCPS penodol fod yn fwy gan ei bod yn bosibl bod rhai fferyllfeydd wedi cau yn ystod y flwyddyn.

Ffigur 4: Nifer yr ymgyngoriadau a ddarparwyd drwy'r pedwar gwasanaeth blaenoriaeth a gynhwysir yn CCPS, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy'n dangos cynnydd mawr yn nifer yr ymgyngoriadau â’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, y brechlynnau ffliw tymhorol a roddwyd a’r ymgyngoriadau cyflenwadau meddyginiaethau brys, tra bod nifer y dulliau atal cenhedlu brys a ddarparwyd wedi gostwng ychydig dros y gyfres amser.

[Nodyn 1] Dim ond o 2014-15 ymlaen y mae data am ddulliau atal cenhedlu brys ar gael. Dim ond o 2017-18 ymlaen y mae data am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin a'r gwasanaeth cyflenwadau meddyginiaethau brys ar gael.

[Nodyn 2] Ehangwyd y Gwasanaeth Atal Cenhedlu Brys i gynnwys darparu dulliau atal cenhedlu pontio neu QuickStart ac fe'i hailenwyd yn Wasanaeth Atal Cenhedlu ym mis Rhagfyr 2022. Bydd data ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael yn natganiad ystadegol y flwyddyn nesaf.

Fferyllfeydd sy'n darparu atal cenhedlu brys, brechlyn ffliw tymhorol, y gwasanaeth anhwylderau cyffredin a chyflenwadau meddyginiaethau brys, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r flwyddyn ar StatsCymru

Nifer yr ymgynghoriadau a ddarparwyd drwy’r pedwar gwasanaeth blaenoriaeth sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol (CCPS), fesul blwyddyn ar StatsCymru

Darperir dadansoddiad ar gyfer pob un o'r pedwar gwasanaeth blaenoriaeth yn yr adrannau canlynol.

Y gwasanaeth anhwylderau cyffredin (CAS)

Mae fferyllfeydd cymunedol yn darparu cyngor a chymorth i bobl ar reoli mân anhwylderau cyffredin, gan gynnwys, lle y bo'n briodol, cyflenwi meddyginiaethau ar gyfer trin yr anhwylder hwnnw i'r bobl hynny a fyddai wedi mynd at eu meddyg teulu am gyngor neu bresgripsiwn fel arall.

Darparodd 706 neu 99.7% o fferyllfeydd cymunedol ymgyngoriadau drwy CAS yn 2022-23, yn seiliedig ar hawliadau a dalwyd.

Cynhaliwyd bron i 240,000 o ymgyngoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin yn 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 73.9% ers 2021-22 a mwy na phedair gwaith (neu 453.9%) cymaint o ymgyngoriadau â phum mlynedd yn ôl.

Defnyddiodd dros 190,000 o bobl wahanol y gwasanaeth yn ystod 2022-23. Cafodd y mwyafrif helaeth (82.0%) un ymgynghoriad yn y flwyddyn, ond cafodd 16.4% ddau neu dri ymgynghoriad a chafodd 1.6% bedwar neu ragor o ymgyngoriadau.

Ffigur 5: Ymgyngoriadau CAS yn ôl anhwylder, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy'n dangos bod nifer yr ymgyngoriadau ar gyfer pob un o'r 26 o anhwylderau a gynhwysir yn CAS wedi amrywio o ychydig dros 40,000 ar gyfer llid yr amrannau i 17 ar gyfer colig, yn 2022-23.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Roedd dros hanner (54.0%) o'r holl ymgyngoriadau ar gyfer pedwar anhwylder (llid yr amrannau (16.8%), clefyd y gwair (14.3%), llwnc tost/dolur gwddf a thonsilitis (12.6%), a chroen sych/dermatitis (10.3%). 

Roedd nifer yr ymgyngoriadau yn fwy yn 2022-23 nag yn 2021-22 ar gyfer pob anhwylder. Roedd y cynnydd canrannol mwyaf ar gyfer dolur gwddf/tonsilitis a welodd fwy na saith gwaith cymaint (725.0%) o ymgyngoriadau – brech yr ieir ar gyfer plant o dan 14 oed (230.1%) a chasewin (116.1%) welodd y cynnydd mwyaf wedyn.

Ffigur 6: Nifer yr ymgyngoriadau CAS fesul mis, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy'n dangos bod nifer yr ymgyngoriadau CAS wedi amrywio fesul mis, gan amrywio o ychydig llai na 26,000 o ymgyngoriadau ym mis Mawrth i ychydig dros 15,000 ym mis Medi.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Roedd y galw am ymgyngoriadau CAS yn amrywio gyda natur dymhorol yr anhwylderau mwyaf cyffredin ac o bosibl ymwybyddiaeth gynyddol o'r gwasanaeth. 

Cyrhaeddodd nifer yr ymgyngoriadau uchafbwynt ym mis olaf y flwyddyn ariannol (Mawrth 2023, lle cynhaliwyd dros 7,300 o ymgyngoriadau ar gyfer llid yr amrannau a thros 2,500 o ymgyngoriadau ar gyfer croen sych/dermatitis, mwy nag mewn unrhyw fis arall, yn ogystal â thros 3,800 o ymgyngoriadau ar gyfer dolur gwddf/tonsilitis, yr ail fwyaf o unrhyw fis). 

Roedd yr ail nifer uchaf o ymgyngoriadau ym mis Rhagfyr 2022, lle cafwyd dros 10,000 o ymgyngoriadau ar gyfer dolur gwddf/tonsilitis, sy'n cyfateb i draean (33.4%) o'r holl ymgyngoriadau ar gyfer yr anhwylder hwn. 

Yn yr un modd, roedd y trydydd nifer uchaf o ymgyngoriadau ym mis Mehefin 2022, lle cafwyd dros 10,800 o ymgyngoriadau ar gyfer clefyd y gwair, sy'n cyfateb i bron i draean (31.6%) o'r holl ymgyngoriadau ar gyfer yr anhwylder hwn.

Ffigur 7: Dosbarthiad yr ymgyngoriadau CAS yn ôl oedran a rhyw, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart byramid poblogaeth sy'n dangos crynodiad uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant, gydag uchafbwyntiau eraill ar gyfer oedolion tua 35 oed a 55 oed. Roedd mwyafrif yr ymgyngoriadau ar gyfer oedolion yn ymwneud â menywod, tra'r oedd dosbarthiad mwy cyfartal o ymgyngoriadau ar gyfer plant gwrywaidd a benywaidd.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Yn 2022-23, roedd crynodiad uchel o ymgyngoriadau ar gyfer plant gwrywaidd a benywaidd, gyda bron i un o bob pedwar (27.3%) o ymgyngoriadau yn ymwneud â phlant o dan 16 oed. 

Ar y cyfan, roedd nifer uwch o ymgyngoriadau yn ymwneud â chleifion benywaidd na chleifion gwrywaidd, gyda bron i ddwy ran o dair (62.2%) o'r holl ymgyngoriadau yn ymwneud â menywod.

Roedd ychydig o amrywiaeth yn nosbarthiad oedran yr ymgyngoriadau hynny ar gyfer dynion sy'n oedolion. Fodd bynnag, roedd llawer mwy o amrywiaeth yn y dosbarthiad oedran ar gyfer menywod sy'n oedolion, gydag uchafbwyntiau ar gyfer menywod rhwng 30 a 40 oed, a rhwng 50 a 60 oed.

Brechlyn ffliw tymhorol (SFV)

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu brechlyn y GIG yn erbyn ffliw tymhorol. Nid yw'r ystadegau yn y datganiad hwn ond yn cynnwys y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol a ariennir gan y GIG, ac a gafodd y brechlyn mewn fferyllfa gymunedol. Nid yw'n cynnwys unrhyw un a oedd yn gymwys ac a gafodd y brechlyn mewn practis cyffredinol nac unrhyw un a dalodd am frechlyn yn breifat mewn fferyllfa.

Darparodd 673 neu 95.1% o fferyllfeydd cymunedol frechlynnau ffliw tymhorol yn ystod 2022-23, yn seiliedig ar hawliadau a dalwyd.

Rhoddwyd ychydig dros 160,000 o frechlynnau ffliw tymhorol i bobl sy'n gymwys i gael cyllid gan y GIG. Roedd hyn yn ostyngiad o 3.6% ers y flwyddyn flaenorol, ond bron i deirgwaith (196.4%) yn uwch na phum mlynedd yn ôl.

Cafodd dros 25,000 o bobl y brechlyn am y tro cyntaf. 

O'r bobl hynny a oedd hefyd wedi cael brechlyn tymhorol yn y flwyddyn flaenorol, traean (33.8%) oedd wedi'i gael yn eu practis meddyg teulu yn y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 8: Nifer yr SFVs yn ôl rhyw'r derbynnydd, 2014-15 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos cynnydd mawr yn nifer y brechlynnau a roddwyd i ddynion a menywod rhwng 2014-15 a 2021-22, wedi'i ddilyn gan ostyngiad bach i'r ddau grŵp yn 2022-23. 

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Yn 2022-23, lle nodwyd rhyw'r derbynnydd, rhoddwyd 57.8% o frechlynnau ffliw tymhorol i fenywod a 42.2% i ddynion. Mae'r canrannau hyn wedi aros yn gyson ers 2014-15, sef y flwyddyn gyntaf y dechreuwyd casglu'r data.

Ffigur 9: Nifer yr SFVs yn ôl cymhwysedd, 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far sy'n dangos y rhoddwyd y mwyafrif helaeth o'r brechlynnau oherwydd bod y claf wedi bodloni'r meini prawf oedran ar gyfer brechlynnau a ariennir gan y GIG, yn 2022-23. 

[Nodyn 1]: Mae'n cynnwys pob rheswm dros gymhwysedd, yn hytrach na nifer y bobl a oedd yn gymwys. Os oedd unigolyn yn bodloni mwy nag un maen prawf, mae pob un o'r rhesymau wedi'i gyfrif yn y siart.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

O'r rhai a gafodd y brechlyn mewn fferyllfeydd cymunedol yn 2022-23, roedd mwy na 15,000 yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer mwy nag un categori. 

Roedd 45.2% o'r derbynwyr yn gymwys i gael brechlyn a ariennir gan y GIG oherwydd eu bod yn 65 oed neu'n hŷn; 41.3% oherwydd eu bod rhwng 50 a 64 oed; a 7.3% oherwydd bod ganddynt glefyd anadlol cronig.

Y gwasanaeth cyflenwadau meddyginiaethau brys (EMS)

Mae'r gwasanaeth EMS yn galluogi fferyllydd i gyflenwi meddyginiaethau rheolaidd, sydd ar gael drwy bresgripsiwn yn unig, i gleifion mewn sefyllfaoedd brys. Mae sefyllfaoedd brys yn cynnwys y rhai lle gallai cyflenwad y claf fod wedi dod i ben, wedi’i golli neu wedi’i ddifrodi, neu fod y claf yn methu â chael presgripsiwn cyn ei fod i fod i gymryd ei ddos nesaf, ac y byddai ym marn y fferyllydd yn niweidiol i iechyd y claf pe bai’n methu dos o'r feddyginiaeth.

Roedd 701 neu 99.0% o fferyllfeydd cymunedol yn darparu eitemau drwy'r gwasanaeth EMS yn 2022-23, yn seiliedig ar hawliadau a dalwyd.

Cynhaliwyd dros 81,500 o ymgyngoriadau ar gyfer meddyginiaethau brys yn ystod 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 54.6% ers y flwyddyn flaenorol a mwy na 4.5 gwaith (neu 357.6%) yn uwch na phum mlynedd yn ôl.

Ffigur 10: Rhesymau dros ofyn am EMS, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart far sy'n dangos bod nifer y ceisiadau am EMS yn amrywio o bron i 37,000 o geisiadau lle na archebwyd eitemau mewn pryd, i bron i 5,000 o geisiadau gan gleifion a oedd yn methu â chasglu eitemau o'u fferyllfa arferol. 

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Roedd dros ychydig yn llai na hanner y ceisiadau (neu 44.8%) ar gyfer meddyginiaethau brys am nad oedd y claf wedi archebu eitemau gan ei feddyg teulu mewn pryd, tra'r oedd ychydig dros chwarter (28.7%) o'r ceisiadau am nad oedd yr eitemau ar gael i'w casglu o'r practis cyffredinol.

Cafodd bron i 9,000 (11.0%) o geisiadau eu gwneud gan bobl a oedd wedi mynd ar wyliau heb eu meddyginiaeth, ac roedd bron i 8,000 (9.7%) gan gleifion a oedd wedi rhoi eu meddyginiaeth o'r neilltu yn rhywle. Roedd bron i 5,000 (neu 5.8%) o geisiadau oherwydd bod y claf yn methu â chasglu'r feddyginiaeth o'i fferyllfa arferol.

Ffigur 11: Beth fyddai'r claf wedi'i wneud pe na bai’r feddyginiaeth frys wedi'i darparu, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far sy'n dangos y byddai'r mwyafrif helaeth o'r cleifion wedi gwneud heb feddyginiaeth pe na bai meddyginiaethau brys wedi'u darparu, tra byddai llawer wedi cysylltu â'u meddyg teulu neu'r gwasanaethau y tu allan i oriau. 

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Pe na bai'r cyflenwad o feddyginiaeth frys wedi'i roi, byddai mwy na 44,000 o gleifion (neu 54.0%) wedi gwneud heb eu meddyginiaeth, tra byddai bron i 36,000 (neu 43.9%) wedi cysylltu â'u meddyg teulu neu'r gwasanaeth y tu allan i oriau. 

Byddai ychydig dros 1,000 (neu 1.2%) o gleifion wedi ymweld ag adran achosion brys.

Ffigur 12: Yr eitemau a gyflenwyd amlaf drwy'r gwasanaeth EMS, 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far sy'n dangos bod y deg eitem a gyflenwyd amlaf drwy'r gwasanaeth EMS wedi amrywio o ychydig dros 3,500 o Amlodipine (5mg, 28 o dabledi) i ychydig yn llai na 1,900 o Ramipril (2.5mg, 28 o gapsiwlau) yn ystod 2022-23. 

[Nodyn 1] Cofnodir eitemau gyda'u cryfder a'u cyfaint, felly mae'n bosibl y cofnodir yr un enw meddyginiaeth sawl gwaith mewn gwahanol gryfderau a chyfeintiau.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Cafodd ychydig dros 131,000 o eitemau eu rhagnodi drwy'r gwasanaeth EMS. Arweiniodd bron i hanner (45.5%) yr ymgyngoriadau at gyflenwi 1 eitem; arweiniodd ychydig dros chwarter (26.8%) at gyflenwi 2 neu 3 eitem; ac arweiniodd ychydig dros chwarter (27.7%) at gyflenwi 4 eitem neu ragor.

Roedd 2.7% o'r holl eitemau a ragnodwyd ar gyfer Amlopidine (5mg, 28 o dabledi). Defnyddir y feddyginiaeth hon yn fwyaf cyffredin i drin pwysedd gwaed uchel a dyma'r feddyginiaeth a gyflenwir amlaf gan fferyllfeydd mewn argyfwng. 

Ymhlith yr eitemau brys eraill a gyflenwyd yn aml roedd Omeprazole (20mg, 28 o gapsiwlau) a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin i drin adlif asid; a Ventolin (100mg, 200 o ddosau) sy'n cynnwys y cynhwysyn actif salbutamol ac a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer lleddfu ac atal symptomau asthma.

Ymhlith yr eitemau eraill a gyflenwyd amlaf roedd meddyginiaethau i drin ac atal wlserau stumog, meddyginiaethau i leihau lefelau colesterol, a meddyginiaethau i drin iselder.

Dulliau atal cenhedlu brys

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu dulliau atal cenhedlu brys a chyngor iechyd rhywiol.

Darparodd 685 neu 96.8% o fferyllfeydd cymunedol ddulliau atal cenhedlu brys yn 2022-23, yn seiliedig ar hawliadau a dalwyd.

Darparwyd dulliau atal cenhedlu brys ar ychydig mwy na 31,000 o achlysuron yn 2022-23. Mae hyn yn ostyngiad o 2.6% ers y flwyddyn flaenorol a gostyngiad o 13.6% ers pum mlynedd yn ôl.

Ffigur 13: Rheswm dros ofyn am ddulliau atal cenhedlu brys, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart gylch sy'n dangos y rhoddwyd y mwyafrif helaeth o'r dulliau atal cenhedlu brys oherwydd na ddefnyddiwyd dulliau atal cenhedlu. Dilynwyd hyn gan fethiant yn y dull atal cenhedlu a ddefnyddiwyd a'r derbynnydd yn methu dos o'r bilsen atal cenhedlu ddyddiol, yn ystod 2022-23.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

Yn 2022-23, nododd tri o bob pump (60.5%) o dderbynwyr dulliau atal cenhedlu brys nad oeddent wedi defnyddio dull atal cenhedlu. Nid yw hyn wedi newid rhyw lawer ers y flwyddyn flaenorol. 

Dywedodd chwarter (24.6%) fod eu dull atal cenhedlu wedi methu, sef 8.9 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Dywedodd un o bob wyth (12.3%) eu bod wedi methu dos o'r bilsen atal cenhedlu ddyddiol, sef cynnydd o 5.5 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Darperir y data gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Fferylliaeth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (yr Awdurdod) wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (y Cod).

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio'r Awdurdod. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Ystadegau.

Mae’r ystadegau hyn wedi’u dynodi’n Ystadegau Gwladol a chawsant eu  hadolygu'n llawn ddiwethaf yn erbyn y Cod yn 2012. 

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • ‌Cyhoeddi’r datganiad ystadegol mewn fformat html, gyda data mwy agored yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan StatsCymru

Diweddaru’r adroddiad ansawdd ac adnewyddu’r sylwebaeth yn y datganiad.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, ac sy'n gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 110/2023