Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi dweud diolch wrth ffisiotherapyddion Cymru am eu gwaith caled yn helpu pobl sydd â chyflyrau tymor hir a chyflyrau iechyd cronig lluosog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng Nghynhadledd gyntaf Bwrdd Cymru y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, dywedodd Vaughan Gething:

“Mae gweithwyr ym maes therapi gofal iechyd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae pawb yn gwybod bod ein poblogaeth yn mynd yn hŷn, ac mae’r galw cynyddol a’r pwysau ariannol yn golygu bod angen i’r Gwasanaeth ddod o hyd i ffyrdd gwahanol ac arloesol o ddarparu gofal o safon. 

“Mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn newyddion da wrth gwrs, ond mae hefyd yn golygu bod yna fwy o bobl yng Nghymru sy’n dioddef o gyflyrau tymor hir, llawer ohonynt yn gyflyrau cronig. O ganlyniad, rhaid i’n gwasanaethau allu addasu er mwyn cynnig gofal mwy cymhleth sydd wedi ei gydgysylltu, ac sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolyn.

“Mae gan ffisiotherapyddion y sgiliau angenrheidiol i allu ymateb i’r heriau hyn.  

“Maen nhw’n helpu unigolion i wella sut maen nhw’n symud, drwy ddadwneud effeithiau salwch ac anabledd. Gallan nhw drin cleifion yn uniongyrchol gan helpu i addasu ein ffordd o roi cymorth fel bod cleifion yn gallu bwrw ymlaen â’u bywydau drwy reoli eu cyflyrau yn fwy effeithiol.  

“Amcangyfrifir bod hyd at 30% o holl ymgyngoriadau meddygon teulu yn ymwneud â phroblemau gyda'r cyhyrau a’r esgyrn neu’r sgerbwd. Gall ffisiotherapyddion fod yn bwynt cyswllt cyntaf i sicrhau gofal sylfaenol ar gyfer y cyflyrau hyn.

“Mae yna fanteision i’r claf os yw’n gallu cael asesiad, cyngor a thriniaeth yn yr un lle gan ffisiotherapydd, gan fod y gwasanaethau’n ymateb yn well i’w anghenion. 

“Staff gwych ein Gwasanaeth Iechyd yw ein caffaeliad mwyaf. Gall sgiliau a gwybodaeth unigryw ein ffisiotherapyddion sicrhau canlyniadau o’r safon uchaf i’r cleifion, ac ar ben hynny mae eu gwasanaethau nhw yn helpu i gadw Gwasanaeth Iechyd Cymru ar ei draed.”