Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr termau

Arolygiaeth Gofal Cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Fel sy'n berthnasol i'r adroddiad hwn, mae AGC yn gyfrifol am gofrestru ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol rheoleiddiedig o dan y fframwaith rheoleiddiol a sefydlwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

Partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys undebau llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr a Llywodraeth Cymru i wella amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn gyfrifol am reoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol fel y'i diffinnir gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gofal personol

Gofal sy'n ymwneud ag anghenion a thasgau corfforol dyddiol y person sy'n cael gofal. Er enghraifft, cymorth i fwyta ac ymolchi.

Y prosesau meddyliol sy'n gysylltiedig â'r tasgau a'r anghenion hynny. Er enghraifft, cymorth i gofio bod angen bwyta ac ymolchi.

Taliad(au) uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn cyfeirio at symiau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i unigolion, neu eu cynrychiolwyr. Mae taliadau uniongyrchol yn galluogi unigolion i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth neu anghenion cymorth gofalwr di-dâl.

Adran 1: Cefndir

Cyflwyniad

Mae gwasanaeth cymorth cartref yn darparu gofal a chymorth personol i unigolyn yn ei gartref. Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Deddf 2016) yn diffinio gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys gwasanaethau cymorth cartref, ac yn amlinellu'r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r tirlun gofal cymdeithasol wedi newid yn sylweddol ers i Ddeddf 2016 gael ei chyflwyno. Bu cynnydd yn y galw am wasanaethau gofal cartref sydd wedi cyd-daro â mwy o heriau o ran recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae pandemig COVID-19 wedi dwysáu'r pwysau hwn. Mae awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector wedi ceisio hyrwyddo dewis, llais a rheolaeth defnyddwyr gwasanaethau, ac mae gan lawer o awdurdodau lleol adnoddau dynodedig i ddatblygu ‘gwasanaethau micro-ofal’. Nid oes diffiniad y cytunwyd arno o wasanaethau o'r fath, fel y trafodir yn yr adroddiad hwn, ond gellir eu disgrifio'n gyffredinol fel a ganlyn:

Unigolion neu fusnesau bach sy'n darparu gwasanaethau gofal, cymorth neu lesiant. Gall hyn gynnwys gofal personol, seibiant, tasgau domestig, cwmnïaeth ac ati. Gellir talu am wasanaethau micro-ofal ar gyfer yr anghenion gofal yr aseswyd sydd gan unigolyn drwy Daliad Uniongyrchol, drwy arian pobl eu hunain neu gallant gael eu comisiynu gan awdurdod lleol.

Mae'r adroddiad hwn, a'r gwaith a wnaed i'w lunio, yn canolbwyntio ar wasanaethau sy'n darparu gofal personol yr ystyrir eu bod yn esempt rhag gorfod cofrestru fel gwasanaethau gofal cartref.

Pan gafodd Deddf 2016 ei llunio, ni ragwelwyd y graddau y byddai'r gwasanaethau hyn yn tyfu ac yn cael eu hyrwyddo, fel y dangosir yn y rhan fwyaf o adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad awdurdodau lleol. Diben yr esemptiadau yn Neddf 2016 oedd cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer mathau anffurfiol a bach iawn o ddarpariaeth ofal, gan geisio taro cydbwysedd â'r angen i sicrhau fframwaith rheoleiddiol cadarn ar yr un pryd.

Mae partneriaid statudol a chyrff aelodaeth sy'n cynrychioli darparwyr gofal cofrestredig annibynnol wedi mynegi pryderon ynghylch risgiau canfyddedig gwasanaethau gofal anrheoleiddiedig a chred bod gweithwyr gofal yn gadael gwasanaethau cofrestredig er mwyn sefydlu eu hunain fel gwasanaethau micro-ofal.

Ers i Ddeddf 2016 gael ei chyflwyno, bu agenda broffesiynoli gadarn ar waith, gan gynnwys cyflwyno trefniadau cofrestru gorfodol ar gyfer gweithwyr gofal cartref â GCC. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried a yw'r sefyllfa reoleiddiol yn briodol o hyd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol presennol ac a yw'r sector yn ei deall yn llawn.

O ganlyniad, gwnaethom ymgynghori'n helaeth rhwng mis Hydref 2022 a mis Mehefin 2023 i feithrin dealltwriaeth o wasanaethau sy'n darparu gofal personol ond nad ydynt wedi'u cofrestru fel gwasanaethau cymorth cartref.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein prif ganfyddiadau a themâu a'r camau nesaf a argymhellir. Y bwriad yw darparu llwyfan i gynnal trafodaeth bellach â rhanddeiliaid a llywio gwaith i ddatblygu polisi yn y maes hwn.

Llywiwyd ein gwaith gan y cwestiynau cyffredinol canlynol:

  • beth yw manteision a chyfleoedd micro-ofal?
  • beth yw heriau a rhwystrau micro-ofal?
  • beth yw'r ffactorau sy'n sbarduno ac yn cyfyngu ar gynlluniau i sefydlu gwasanaethau micro-ofal?
  • sut mae gwasanaethau micro-ofal yn cael eu hyrwyddo a'u cefnogi ledled Cymru?
  • sut mae ansawdd a diogelwch gwasanaethau micro-ofal yn cael eu monitro ledled Cymru?
  • sut mae awdurdodau lleol yn ystyried egwyddorion gwaith teg ar gyfer gweithwyr micro-ofal?
  • beth yw barn rhanddeiliaid ar y ffyrdd gwahanol y caiff gwasanaethau micro-ofal eu defnyddio gan awdurdodau lleol (neu y gallent gael eu defnyddio ganddynt)?
  • pa risgiau ac ystyriaethau diogelu sy'n gysylltiedig â gwasanaethau micro-ofal a beth sy'n cael ei wneud i liniaru'r rhain?

Y cyd-destun polisi

Mae Gweinidogion Cymru wedi dilyn agenda broffesiynoli gan geisio cofrestru a rheoleiddio mwy o'r gweithlu gofal cymdeithasol a mwy o ddarparwyr gwasanaethau. Gall pobl fod yn hyderus bod gwasanaethau cofrestredig yn cael eu harolygu gan AGC ac y gallant, yn y pen draw, gael eu gorfodi i roi'r gorau i weithredu os yw ansawdd y gofal yn peri digon o bryder. Gall pobl fod yn hyderus hefyd fod gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig wedi cael y lefelau gofynnol o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus a bod yn rhaid iddynt ddilyn Cod Ymarfer Proffesiynol. Roedd amddiffyn y cyhoedd yn sbardun allweddol ar gyfer rhoi blaenoriaeth i gofrestru gweithwyr gofal cartref yng Nghymru yn ystod y broses o basio Deddf 2016.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu mentrau cymdeithasol a modelau cyflawni gwerth cymdeithasol.

Mae Deddf 2014 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo taliadau uniongyrchol, gan roi mwy o ddewis, llais a rheolaeth i bobl.

Y sefyllfa gyfreithiol

Mae Deddf 2016 a'i rheoliadau cysylltiedig yn amlinellu o dan ba amgylchiadau y gall gwasanaethau sy'n darparu gofal personol hawlio esemptiad rhag gorfod cofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref.

Y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chofrestru gwasanaethau micro-ofal, a'u hadrannau perthnasol:

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Atodlen 1.

8 (2) Ond nid yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn gyfystyr â gwasanaeth cymorth cartref - 

(a) os y’i darperir gan unigolyn heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i “employment agency” ac “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)), ac sy’n gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy’n cael y gofal a’r cymorth.

8 (3) Nid yw person sy’n cyflwyno unigolion sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref i unigolion a all ddymuno ei gael ond nad oes ganddo unrhyw rôl barhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a’r cymorth a ddarperir i’w drin fel pe bai’n darparu gwasanaeth cymorth cartref (ni waeth pa un a yw’r cyflwyniad er elw ai peidio).

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Rhan 2, Rheoliad 3.

3 (1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref) -

(a) y ddarpariaeth o gymorth yn unig;

(b) y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg.

Esboniad

Gellir hawlio bod Atodlen 1, is-baragraff 8 (2) yn esemptiad mewn perthynas â phob unigolyn lle gellir dweud bod y gweithiwr micro-ofal yn gweithio'n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal h.y. nid oes terfyn ar nifer y personau y gall gweithiwr ofalu amdanynt os caiff yr amod hwn ei fodloni. Nid oes diffiniad statudol o'r hyn a olygir gan "[yn] gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth".

Mae cynorthwywyr personol, a gyflogir yn uniongyrchol gan y person sy'n cael y gofal, yn gweithio o dan yr esemptiad hwn. Yn ogystal, ceir unigolion sy'n disgrifio eu hunain fel "cynorthwywyr personol hunangyflogedig". Gallai'r unigolion hyn fod yn rhoi gofal i nifer o unigolion gan gyfeirio at yr esemptiad hwn hefyd.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu bod angen i'r gweithiwr gael ei gyflogi gan y person sy'n cael y gofal er mwyn ystyried ei fod yn gweithio'n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal.

Os nad ystyrir bod yr esemptiad uchod o Ddeddf 2016 yn gymwys, caiff gweithiwr roi gofal personol i hyd at bedwar person cyn ei bod yn ofynnol iddo gofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref ag AGC.

Pan fo gweithiwr micro-ofal yn gwneud trefniadau i gyflenwi yn ystod absenoldebau dros dro, mae angen ystyried yn ofalus a yw'r rhain yn gyfystyr â gweithgarwch busnes cyflogi neu ymglymiad parhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a'r cymorth. Os felly, bydd y gweithgarwch y tu allan i'r esemptiadau ym mharagraff 8 (2) (a) ac 8 (3) o Atodlen 1.

Terminoleg

Mae termau allweddol fel gweithiwr/ gwasanaeth micro-ofal, cynorthwyydd personol a chynorthwyydd personol hunangyflogedig yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol heb ddiffiniad safonol na chyfreithiol. Bydd yn bwysig cytuno ar derminoleg a diffiniadau a rennir er mwyn mynd i'r afael â cham nesaf y gwaith.

At ddibenion yr adroddiad hwn, rydym wedi defnyddio'r term gweithiwr/ gwasanaeth micro-ofal bob amser.

Cwmpas

Gall gweithwyr micro-ofal fod yn darparu cymorth yn unig, yn hytrach na chymorth a gofal personol. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar bobl a gwasanaethau sy'n darparu gofal personol. Os mai dim ond cymorth y mae gwasanaeth yn ei roi, nid yw'n cyd-fynd â'r diffiniad o wasanaeth cymorth cartref ac ni chaiff ei reoleiddio o dan Ddeddf 2016. I gael rhagor o wybodaeth am beth yw cymorth a gofal personol, gweler Atodiad 1 yng Nghanllaw Cofrestru AGC.

Telir am y rhan fwyaf o wasanaethau micro-ofal a ddarperir i ddiwallu anghenion a nodir yng nghynlluniau gofal a chymorth awdurdodau lleol drwy daliadau uniongyrchol, a dim ond dau awdurdod lleol sy'n comisiynu gwasanaethau micro-ofal yn uniongyrchol ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn. Nid oes unrhyw fwrdd iechyd yn comisiynu gwasanaethau micro-ofal ar hyn o bryd.

Mae pobl hefyd yn prynu micro-ofal ar sail gwbl breifat. Nid ydym wedi ystyried hunanariannu yn yr adroddiad hwn. Nid yw hyn yn rhan o ddyletswyddau statudol awdurdodau lleol ac ni allwn amcangyfrif maint y farchnad micro-ofal ar gyfer gwasanaethau a gaiff eu hunanariannu. Fodd bynnag, mae gwasanaethau sy'n darparu gofal personol i bobl sy'n ariannu eu gofal eu hunain yn dal i fod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf 2016.

Proses

Gwnaed y gwaith mewn dau gam. Yn ystod cam 1, cwblhaodd y 22 awdurdod lleol arolwg ar eu defnydd o wasanaethau micro-ofal.

Yn ystod cam 2, gwnaethom ymgysylltu ag ystod ehangach o randdeiliaid ac adeiladu ar yr ymatebion i arolwg cam 1 drwy gynnal sgyrsiau dilynol â chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol.

Rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023, gwnaethom siarad â 60 o randdeiliaid mewn 26 o gyfarfodydd. Cafwyd cymysgedd o gyfarfodydd un i un a chyfarfodydd grŵp. Cyfarfodydd ar-lein oedd y rhain yn bennaf ond cynhaliwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb â gweithwyr micro-ofal yn Sir y Fflint, Sir Benfro ac Abertawe.

Yn ystod y ddau gam, clywsom gan yr unigolion a'r grwpiau canlynol er mwyn llywio'r gwaith hwn:

  • dros 50 o weithwyr micro-ofal
  • 2 berson a oedd yn cael cymorth gan wasanaethau micro-ofal a 2 berthynas
  • 3 sefydliad datblygu sy'n cefnogi gweithwyr micro-ofal
  • 5 corff proffesiynol/ sefydliad aelodaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynrychiolwyr undebau llafur
  • y 22 awdurdod lleol, gan gynnwys 11 o arweinwyr taliadau uniongyrchol
  • cynrychiolwyr o'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
  • cynrychiolwyr o Grŵp Cadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

Adran 2: Canfyddiadau

Canfyddiadau o arolwg awdurdodau lleol cam 1

Yn seiliedig ar yr ymatebion, roedd modd inni gael darlun clir o'r graddau y mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda gwasanaethau micro-ofal, yn bwriadu gweithio gyda gwasanaethau micro-ofal yn y dyfodol a'u barn arnynt yn gyffredinol.

Roedd 2 awdurdod lleol yn comisiynu gwasanaethau micro-ofal yn uniongyrchol: Sir y Fflint ac Abertawe. Roedd gwasanaethau micro-ofal yn yr ardaloedd hyn hefyd yn cael eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol.

Mewn 8 awdurdod lleol, roedd gwasanaethau micro-ofal yn cael eu sicrhau gan bobl a oedd yn cael taliadau uniongyrchol ac roedd yr awdurdodau lleol yn awyddus i gynyddu nifer y darparwyr, ond nid oedd unrhyw drefniadau comisiynu uniongyrchol ar waith: Conwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam.

Roedd 5 awdurdod lleol wedi dechrau datblygu eu gwaith gyda gwasanaethau micro-ofal: Bro Morgannwg, Caerdydd, Ceredigion, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf.

Ar adeg yr arolwg, dywedodd 7 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw gynlluniau i ddatblygu eu gwaith gyda gwasanaethau micro-ofal: Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Torfaen ac Ynys Môn.

Yn gyffredinol, ond nid ym mhob achos, roedd yr awdurdodau lleol mwyaf gwledig yng Nghymru yn gweithio'n agosach gyda gwasanaethau micro-ofal nag awdurdodau mewn ardaloedd poblog. Os oedd un awdurdod lleol wedi gwneud llawer o waith i ddatblygu gwasanaethau micro-ofal, gallai gefnogi ei awdurdod lleol cyffiniol, a allai egluro gwasgariad gweithgarwch yn rhannol. Er enghraifft, roedd Sir Benfro yn gweithio'n agos gyda Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Roedd gan yr awdurdodau lleol farn gymysg ar rôl gwsanaethau micro-ofal. Roedd y rhai a oedd eisoes yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau micro-ofal a sefydliadau datblygu yn gadarnhaol am y gwaith roeddent yn ei wneud yn gyffredinol. Hoffai'r awdurdodau lleol hyn weld y cynnig yn tyfu eto ac i'r rhain, roedd darpariaeth micro-ofal yn ffordd o greu mwy o ddewis a rheolaeth, cymorth lleol a sicrhau bod mwy o ofal ar gael mewn ardaloedd gwledig.

Mynegodd rhai awdurdodau lleol bryderon ynghylch y ffaith nad oedd trefniadau rheoleiddio ar waith na ffyrdd o sicrhau ansawdd gwasanaethau micro-ofal. Awgrymodd rhai y dylid gwneud newidiadau i alluogi neu orfodi gweithwyr micro-ofal i gofrestru â GCC, os nad oedd yn ofynnol i'r gwasanaeth gofrestru ag AGC. Awgrymodd rhai eraill y gellid cyflwyno cofrestriad ar lefel is ag AGC ar gyfer gwasanaethau micro-ofal. Er mwyn rhoi'r awgrymiadau hyn ar waith, byddai angen gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol.

Er mwyn lliniaru a lleihau'r risgiau a oedd yn codi yn eu tyb nhw am nad oedd gwasanaethau a gweithwyr yn cael eu rheoleiddio, mae rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno eu fframweithiau sicrhau ansawdd eu hunain. Mae rhai eraill wedi gweithio gyda sefydliadau datblygu i fabwysiadu eu safonau. Mewn rhai ardaloedd, mae dulliau rhanbarthol wedi cael eu cefnogi gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol.

Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol mewn perthynas â hyfforddiant a gwiriadau, fel geirdaon a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gweithwyr micro-ofal. Mae rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno fframwaith hyfforddiant a mynediad i gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus y maent yn disgwyl i weithwyr micro-ofal yn eu hardal ei gwblhau.

Dywedodd awdurdodau lleol sydd heb ymgysylltu fawr ddim â gwasanaethau micro-ofal ac nad oes ganddynt gynlluniau i'w ddatblygu mai prin oedd y galw am wasanaethau micro-ofal. Roedd gan rai ohonynt bryderon clir ynghylch y ffaith nad oes trefniadau rheoleiddio ar waith a'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn yn eu tyb nhw.

Dangosodd yr arolwg nad oes dealltwriaeth gyffredin o'r fframwaith rheoleiddiol, fel y trafodir yn fanylach isod.

Canfyddiadau o waith ymgysylltu cam 2

Buddiannau gwasanaethau micro-ofal

Roedd bron pob darparwr micro-ofal, sefydliad datblygu ac awdurdod lleol sy'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau micro-ofal wedi rhoi pwyslais cyson ar y buddiannau i bobl sy'n cael ac yn darparu gofal drwy wasanaethau micro-ofal.

Roedd gan 38 o'r 47 a ymatebodd i'r arolwg brofiad blaenorol o weithio ym maes gofal cymdeithasol. O safbwynt buddiannau trefniadau gwasanaethau micro-ofal, y bydd y cyfeiriwyd ato amlaf oedd hyblygrwydd, i'r darparwr a'r person sy'n cael y gofal, a dewis dros batrymau gweithio. Dywedodd llawer o ddarparwyr hefyd y gallent dreulio mwy o amser gydag unigolion nag y gallent pan roeddent yn gweithio i wasanaethau gofal cartref cofrestredig. Roeddent yn cysylltu hyn â mwy o foddhad yn eu swydd.

Pwysleisiodd awdurdodau lleol botensial gweithwyr micro-ofal i greu capasiti newydd mewn system sydd o dan bwysau aruthrol, gan arwain at restrau aros byrrach. Dywedodd awdurdodau lleol a sefydliadau datblygu fod hyblygrwydd a natur leol gwasanaethau micro-ofal yn gryfder, gan fod modd creu pecynnau gofal wedi'u teilwra y byddai'n anodd i'r farchnad fwy traddodiadol eu cynnig.

I bobl sy'n cael gofal, dywedodd un o'r sefydliadau datblygu mai un o fuddiannau gwasanaethau micro-ofal oedd yr elfen o reolaeth sy'n deillio o dalu am wasanaethau drwy daliad uniongyrchol heb fod angen bod yn gyflogwr. Yn eu barn nhw, mae hyn yn apelio at lawer o bobl, yn enwedig pobl hŷn. Ystyriai gweithwyr micro-ofal eu hunain fod ganddynt wybodaeth leol a'u bod yn cynnig dewis ychwanegol, sy'n cyd-fynd yn dda â gweithio mewn ffordd leol a rhoi mwy o lais a rheolaeth i ddefnyddwyr.

Fodd bynnag, cydnabu llawer hefyd fod yr angen am weithwyr micro-ofal wedi cael ei sbarduno'n rhannol gan y pwysau ar y sector gofal cartref sy'n methu ag ateb y galw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yn yr achos hwn, efallai nad dewis ychwanegol fyddai gwasanaethau micro-ofal; efallai mai nhw yw'r unig opsiwn sydd ar gael. Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd i ba raddau y gall micro-ofal fod yn lleihau rhestrau aros yn sylweddol.

Tynnodd cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli'r sector gofal cymdeithasol rheoleiddiedig sylw at bryderon a heriau yn bennaf, a amlinellir yn fanylach isod. Un o'r buddiannau prin a nodwyd gan y rhanddeiliaid hyn oedd bod llai o faich gweinyddol ar y gweithiwr neu'r gwasanaeth micro-ofal. Cytunai rhai y gallai gwasanaethau micro-ofal fod yn fuddiol i'r unigolyn sy'n cael y gofal pe bai hyn yn golygu mwy o barhad o safbwynt y gweithiwr, a mwy o ddewis a hyblygrwydd o gymharu â gofal cartref traddodiadol. Fodd bynnag, roeddent o'r farn y dylai fod modd cyflawni llawer o'r buddiannau a amlinellwyd o fewn y sector gofal cartref rheoleiddiedig, drwy fodelau cyflawni fel trefniadau comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar yr ardal leol.

Heriau i redeg gwasanaethau micro-ofal

Yr her a gafodd ei chrybwyll amlaf gan weithwyr micro-ofal oedd rheoli lefel y galw. Mewn ardaloedd lle roedd gwasanaethau micro-ofal wedi ennill eu plwyf a lle roedd cyfeiriadur cyfredol y gallai pobl ei ddefnyddio, roedd gweithwyr yn rheoli mwy o alw nag y gallent ei ateb. Fodd bynnag, mewn ardaloedd heb seilwaith o'r fath, gallai fod yn anodd dod o hyd i waith.

Dywedodd llawer o weithwyr micro-ofal wrthym eu bod wedi cael eu hysgogi i sefydlu gwasanaeth gan ymgyrchoedd recriwtio gan yr awdurdod lleol neu sefydliad datblygu. Mewn ardaloedd lle nad oedd fawr o gymorth ar gael i sefydlu gwasanaethau micro-ofal, roedd yr heriau a nodwyd gan weithwyr micro-ofal o ran sefydlu gwasanaeth a bod yn gynaliadwy yn sylweddol. Mae hyn yn awgrymu bod angen cymorth yr awdurdod lleol, sefydliad datblygu, neu'r ddau yn gweithio gyda'i gilydd, ar wasanaeth micro-ofal er mwyn sefydlu a llwyddo.

Mynegodd gweithwyr micro-ofal eu hunain a rhanddeiliaid eraill bryderon am y cymorth sydd ar gael i weithwyr micro-ofal. Roedd y rhain yn ymwneud â llesiant, am y gall y rôl fod yn un ynysig, a chyflenwi ar gyfer absenoldebau fel salwch a gwyliau. Cyfeiriwyd at ddiffyg tâl gwyliau a thâl salwch galwedigaethol hefyd (sefyllfa a welir ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol).

Cyfeiriodd nifer bach o weithwyr micro-ofal at heriau'n ymwneud â gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mewn rhai achosion, roedd ymddiriedaeth wedi datblygu ac roedd pethau'n gweithio'n dda. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, teimlai gweithwyr micro-ofal nad oeddent yn cael eu trin fel gweithwyr proffesiynol ac mai prin oedd eu cyswllt â'r cydweithwyr hyn, a oedd yn effeithio ar eu gallu i roi'r gofal a'r cymorth cywir.

Dywedwyd bod y gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg busnes, y cymorth sydd ei angen i bennu cyfraddau talu priodol ac, mewn rhai achosion, daliadau hwyr gan awdurdodau lleol yn rhwystrau i dyfu a rhedeg gwasanaeth hwylus.

Dywedwyd bod mynediad at hyfforddiant yn her hefyd. Cyfeiriodd y rhan fwyaf o'r darparwyr micro-ofal y gwnaethom siarad â nhw at amseroedd a lleoliadau anghyfleus hyfforddiant gan awdurdodau lleol fel heriau penodol. Mynegodd llawer ohonynt awydd i gael mwy o hyfforddiant ac mewn rhai achosion, nid oeddent wedi gallu cwblhau prosesau sicrhau ansawdd a fyddai'n eu galluogi i ddarparu gofal personol am nad oeddent wedi cael amser i wneud hynny.

Nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu hyfforddiant i weithwyr micro-ofal na rhoi fframwaith sicrhau ansawdd ar waith. Mae rhai awdurdodau lleol sydd wrthi'n datblygu micro-ofal wedi rhoi fframweithiau sicrhau ansawdd ar waith i geisio lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â darpariaeth ofal anrheoleiddiedig.

Er mwyn sicrhau mwy o gysondeb, dylai mynediad at hyfforddiant a phrosesau sicrhau ansawdd a gofynion mewn perthynas â hynny gael eu hystyried yn ystod cam nesaf y gwaith.

Pryderon ynghylch gwasanaethau micro-ofal

Mynegodd rhanddeiliaid safbwyntiau cymysg ar wasanaethau micro-ofal a oedd yn cynnwys buddiannau sylweddol ynghyd â rhybuddion ynghylch y risgiau posibl. Fodd bynnag, nid oedd pawb yn rhannu'r safbwyntiau hyn. Clywsom bryderon sylweddol fod diffyg trefniadau rheoleiddio yn arwain at risgiau posibl o ran diogelwch, diogelu, hyfforddiant a chymorth. Mynegwyd pryder y gallai gweithwyr cofrestredig symud i wasanaethau anrheoleiddiedig o ganlyniad i bryderon am gymhwysedd neu ymddygiad. Ni chyflwynwyd unrhyw enghreifftiau go iawn.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn poeni y gallai micro-ofal ansefydlogi'r sector gofal cartref sy'n fregus iawn yn barod. Gallai awdurdodau lleol ddechrau defnyddio gwasanaethau micro-ofal pe byddai modd iddynt gael gafael arnynt yn gyflym ac am gost is, ond gallai hyn danseilio gofal cartref rheoleiddiedig (dangosodd arolwg cam 1 ystod eang o gyfraddau talu am wasanaethau micro-ofal, nid yw'n rhatach bob amser). Yn eu barn nhw, gallai sector cymorth cartref sydd â'r holl adnoddau gofynnol ddarparu llawer o'r buddiannau y cyfeiriwyd atynt yn nhermau gwasanaethau micro-ofal, fel hyblygrwydd a darpariaeth hyperleol. Roedd pryder bod gweithwyr gofal cartref yn cael hyfforddiant gan ddarparwr cofrestredig ac yna'n gadael neu'n lleihau eu horiau er mwyn sefydlu eu hunain fel micro-ofalwyr. O ystyried problemau recriwtio a chost hyfforddiant, roedd hwn yn bryder mawr. Ni allwn gadarnhau maint y broblem hon.

Roedd llawer o'r pryderon a godwyd hefyd yn ymwneud â Chynorthwywyr Personol ac nid oedd gwahaniaeth clir bob amser rhwng gweithwyr micro-ofal a Chynorthwywyr Personol. Mae'n ymddangos bod y termau Cynorthwyydd Personol hunangyflogedig a gweithiwr micro-ofal yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol, ac nid yw'r naill na'r llall yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan yr unigolyn sy'n cael y gofal. Nid yw'r rhain yn dermau proffesiynol gwarchodedig ac mae angen esbonio'r derminoleg.

Trafodaethau â chynrychiolwyr diogelu

Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu â chynrychiolydd o'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a grŵp Cadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol hefyd fel rhan o'r gwaith hwn i weld a oedd ganddynt unrhyw bryderon penodol o ran diogelu.

Roedd gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol bryderon am y ffaith nad oedd trefniadau rheoleiddio ar waith a'r goblygiadau o ran diogelu, ond nid oedd unrhyw bryderon diogelu penodol wedi cael eu codi gydag ef.

Teimlai'r cynrychiolwyr y gwnaethom siarad â nhw o grŵp Cadeiryddion y Byrddau Diogelu Rhanbarthol eu bod wedi lliniaru'r risgiau drwy gyflwyno trefniadau llywodraethu ychwanegol.

Rôl y Byrddau Iechyd

Nid oes unrhyw fwrdd iechyd yn comisiynu gwasanaethau micro-ofal o dan drefniadau Gofal Iechyd Parhaus. Y rheswm a roddwyd dros hyn oedd cymhlethdod anghenion yr unigolion y mae angen gofal arnynt. Mae'r ffaith bod darpariaeth micro-ofal mor lleol ei natur yn golygu bod ei chomisiynu ar raddfa fawr yn aneffeithiol o safbwynt y bwrdd iechyd, sy'n aml yn gorfod archebu mewn blociau â darparwyr. Codwyd pryderon hefyd am y ffaith nad oedd trefniadau rheoleiddio ar waith a phwy fyddai'n gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau.

Barn pobl sy'n cael gofal a chymorth drwy wasanaethau micro-ofal

Gwnaethom siarad â dau berthynas a dau berson sy'n cael gofal a chymorth yn uniongyrchol drwy wasanaethau micro-ofal. Roedd pob un ohonynt yn fodlon iawn ar y cymorth roeddent hwy a'u perthnasau yn ei gael, gan gynnwys cymorth cymdeithasol ac emosiynol.

Yn achos y ddau berson y gwnaethom siarad yn uniongyrchol â nhw, y rhesymau a roddwyd dros ddefnyddio gwasanaethau micro-ofal oedd mai dyma'r unig opsiwn a oedd ar gael iddynt. Mewn un achos, daeth gofal cartref cofrestredig ar gael wedyn ond arhosodd yr unigolyn gyda'r gweithiwr micro-ofal am eu bod wedi ffurfio cydberthynas dda ac roedd amseroedd y galwadau'n fwy cyfleus iddo. Roedd y person hwn hefyd wedi profi oedi cyn cael ei ryddhau o'r ysbyty a byddai'r oedi wedi bod yn hwy pe byddai wedi aros am ofal cartref. Prif bryder yr unigolion a'u perthnasau oedd sut y gallent gael gofal a chymorth parhaus os nad oedd y gweithiwr micro-ofal ar gael mwyach.

Dealltwriaeth wahanol o'r fframwaith rheoleiddiol mewn perthynas ag esemptiadau

Y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg drwy'r gwaith ymgysylltu hwn oedd diffyg eglurder ynghylch pa esemptiad rhag cael eich ystyried yn wasanaeth cymorth cartref sy'n gymwys ac o dan ba amgylchiadau, a dryswch ynghylch statws cyflogaeth gweithwyr micro-ofal.

Dywedodd pob un heblaw 1 o'r darparwyr micro-ofal a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn hunangyflogedig (45) a dywedodd un eu bod yn ficro-fenter.

Dywedodd y mwyafrif o'r darparwyr eu bod yn ymwybodol o'r esemptiad ynghylch darparu gofal personol i hyd at 4 unigolyn.

Dim ond un gweithiwr micro-ofal a ddywedodd wrthym ei fod yn darparu gofal personol i fwy na phedwar person. Fodd bynnag, ni allwn fod yn hyderus bod y nifer cymharol fach o ymatebwyr yn gynrychioliadol o wasanaethau micro-ofal ledled Cymru. Fel y gwyddom o'r arolwg awdurdodau lleol, mae nifer y gwasanaethau micro-ofal yn cynyddu. Mae angen esbonio ac ystyried y sefyllfa reoleiddiol felly.

Roedd y rhanddeiliaid o'r ddau sefydliad datblygu y gwnaethom siarad â nhw yn credu lle bo gweithwyr micro-ofal yn gweithio ar eu pen eu hunain, eu bod yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â chynorthwywyr personol (ac mae llawer ohonynt yn galw eu hunain yn gynorthwywyr personol hunangyflogedig). Yr arweiniad y maent yn ei roi i weithwyr micro-ofal yw y gall unigolyn sy'n gweithio'n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal roi gofal personol i fwy na phedwar person a bod yn esempt.

Mae'r sefydliadau datblygu ar ddeall os yw micro-ofalwyr yn gweithio mewn partneriaeth, yn cyflogi eraill neu'n gwmni cyfyngedig, eu bod yn esempt o dan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, Rhan 2, Rheoliad 3 (1) (b). O dan yr amgylchiadau hyn, maent yn deall y gallant ond ddarparu gofal i hyd at 4 person cyn bod angen iddynt gofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref.

Mae'r canfyddiad hwn mai dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y gall gweithwyr micro-ofal weithio gydag eraill yn creu rhwystrau i gydnerthedd yn y gofal a ddarperir. Gwyliau a threfniadau cyflenwi yw rhai o'r agweddau mwyaf heriol a godwyd gan ddarparwyr am fod llawer yn meddwl y byddant yn ddarostyngedig i drefniadau rheoleiddio os byddant yn trefnu staff cyflenwi, ond na fyddent yn ddarostyngedig iddynt fel arall. Ochr yn ochr â hyn, roedd arweinwyr taliadau uniongyrchol ac eraill yn gwybod bod gweithwyr micro-ofal yn creu trefniadau anffurfiol, er enghraifft drwy grwpiau WhatsApp, i sicrhau darpariaeth gyflenwi yn ystod absenoldebau. Roedd awdurdodau lleol yn annog ac yn cefnogi'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol i ffurfioli a chofnodi darpariaeth gyflenwi fel rhan o drefniadau cynllunio wrth gefn yn eu cynlluniau statudol.

Roedd barn awdurdodau lleol ar y fframwaith rheoleiddiol ynghylch esemptiadau yn gymysg. Nododd rhai awdurdodau lleol nad ydynt yn cymhwyso'r esemptiad ynghylch darparu gofal personol i hyd at bedwar person. Yn lle hynny, mae gwasanaethau micro-ofal yn esempt rhag gorfod cofrestru fel asiantaeth gofal cartref os yw unigolion yn gweithio'n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal a'r cymorth. Mae eraill o'r farn bod p'un a gaiff gwasanaethau micro-ofal eu hesemptio rhag cofrestru yn dibynnu'n gyfan gwbl ar nifer y bobl sy'n cael gofal personol.

Lle bo cyfyngiad ar ddarparu gofal i fwy na 4 person, awgrymodd rhai awdurdodau lleol y byddai newid hyn i reol sy'n seiliedig ar oriau yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac yn fwy priodol i amgylchiadau gwahanol, gan fod y lefelau o gymorth sydd eu hangen ar bobl yn amrywio'n sylweddol.

Nid yw llawer o awdurdodau lleol yn cydnabod y term "hunangyflogedig" mewn perthynas â chynorthwywyr personol, gan gyfyngu rôl cynorthwywyr personol i'r rhai a gaiff eu cyflogi'n uniongyrchol gan y person sy'n cael taliadau uniongyrchol.

I grynhoi, clywsom ddwy farn wahanol ynghylch a yw gwasanaeth micro-ofal yn esempt rhag gorfod cofrestru. Mae hyn naill ai'n seiliedig ar nifer y bobl sy'n cael gofal personol neu a yw'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny'n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal a'r cymorth. Ymddengys o'n trafodaethau fod sefydliadau yn cymhwyso un o'r profion hyn, er mai'r sefyllfa gyfreithiol yw y gallai'r naill neu'r llall fod yn gymwys o bosibl. Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, nid oes diffiniad ar gael o "[yn] gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth".

Adran 3: Casgliadau a'r camau nesaf

Prif Ganfyddiadau

Mae dryswch ynghylch esemptiadau rhag cofrestru

Mae'r amgylchiadau lle gellir darparu gofal personol heb orfod cofrestru fel gwasanaeth cymorth cartref yn cael eu dehongli'n wahanol ar draws y sector ac mae angen eu hegluro.

Mae angen mynd i'r afael â'r ffaith nad oes dealltwriaeth gyffredin o dermau allweddol, yn enwedig y canlynol:

  • gweithiwr micro-ofal, cynorthwyydd personol, cynorthwyydd personol hunangyflogedig
  • yn gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n cael y gofal a'r cymorth

Mae trefnu darpariaeth gyflenwi a chyflogi gweithwyr eraill yn faes pwysig arall y mae angen ei ystyried yn nhermau unrhyw oblygiadau posibl ar gyfer gofynion cofrestru.

Mae angen ystyried priodoldeb y rheoliadau a'r esemptiadau presennol

O ystyried y newidiadau i'r tirlun gofal cymdeithasol a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn ers cyflwyno Deddf 2016, dylid ystyried priodoldeb y sefyllfa bresennol.

Mae anghysondeb ymhlith awdurdodau lleol ledled Cymru ynghylch sicrhau ansawdd a goruchwylio gwasanaethau micro-ofal

Nid oes gofyniad statudol i awdurdodau lleol fonitro gwasanaethau micro-ofal os nad ydynt yn eu comisiynu'n uniongyrchol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi datblygu systemau i gymryd rhan mewn ymarferion sicrhau ansawdd. Dylid ystyried a oes angen cael fframwaith cenedlaethol cytûn.

Roedd llawer o randdeiliaid, gan gynnwys rhai gweithwyr micro-ofal eu hunain, wedi mynegi pryderon am risg a diogelu am nad oedd gwasanaethau micro-ofal yn cael eu rheoleiddio. Roedd yr awdurdodau lleol hynny sydd â rhyw fath o drefniant sicrhau ansawdd ar waith yn teimlo'n hyderus bod diogelu yn cael ei reoli'n briodol ac yn unol â gwasanaethau rheoleiddiedig.

Mae safbwyntiau sylfaenol wahanol ynghylch datblygiad micro-ofal yng Nghymru

Amlinellir ystod o gymhlethdodau a heriau yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, clywsom hefyd am y ddarpariaeth hyblyg (i'r unigolion sy'n cael y gofal a'r darparwyr), leol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd wedi'i theilwra i'r unigolyn y gellir ei chyflwyno drwy ficro-ofal. Yn yr un modd, clywsom fod y ddarpariaeth hon ar gael drwy ofal cartref lleol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mynegodd sefydliadau darparwyr eu pryderon fod y gofyniad i weithwyr gofal cartref gofrestru yn amharu ar y gallu i recriwtio a chadw staff ac nid ydynt o'r farn bod y sefyllfa bresennol o ran micro-ofal yn deg.

Y camau nesaf

Mae gennym ddealltwriaeth well o wasanaethau micro-ofal yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaith ymgysylltu helaeth rydym wedi'i wneud, yn ogystal â meysydd y mae angen eu hystyried a gweithio arnynt ymhellach.

Mae'r tirlun gofal cymdeithasol wedi newid yn aruthrol yn ystod y saith mlynedd ers i Ddeddf 2016 gael ei phasio. Mae'r sector gofal cartref yn arbennig o fregus ac rydym wedi clywed pryderon y gallai cynnydd yn nifer y gwasanaethau sy'n esempt rhag trefniadau rheoleiddio ansefydlogi hyn ymhellach. Nid oes gennym dystiolaeth ddigamsyniol i ategu'r pryderon hyn ond rhaid eu hystyried yn ofalus yn ystod unrhyw waith polisi yn y dyfodol.

Yn yr un modd, mae gwasanaethau micro-ofal wedi cael eu cyflwyno fel opsiwn sy'n rhoi mwy o ddewis i bobl, gan ddarparu gwasanaethau lle nad oes gan ofal cartref cofrestredig gapasiti i wneud hynny neu lle bo hynny'n aneconomaidd.

Mae sicrhau y gall pawb sy'n gymwys yng Nghymru gael darpariaeth gofal cymdeithasol sy'n ddiogel ac o ansawdd uchel yn hollbwysig. Ar sail ein gwaith ymgysylltu, mae'n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru lunio polisi ac egwyddorion arfer da ar weithio gyda gwasanaethau micro-ofal.

Byddwn yn llunio'r polisi hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol ac mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector gan ddilyn y camau canlynol:

Cam 1: casglu gwybodaeth

Dyma'r gwaith rydym wedi'i wneud hyd yma. Mae hyn yn cynnwys ymarfer ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i sefydlu sefyllfa micro-ofal yng Nghymru, sydd wedi arwain at gyhoeddi'r adroddiad hwn.

Cam 2: llunio polisi drafft

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gyfres o weithdai i fyfyrio ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn a helpu i lunio polisi drafft.

Cam 3: ymgysylltu ar y cynigion

Ar ôl i ni lunio polisi drafft, byddwn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer y camau nesaf ac yn ceisio ymgysylltu eto â rhanddeiliaid.