Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg

I helpu Llywodraeth Cymru i ddeall y materion sy’n gysylltiedig â gwasanaethau modd 5, comisiynwyd IFF Research ym mis Ebrill 2022 i wneud prosiect ymchwil archwiliadol graddfa fach gyda busnesau a sefydliadau cyrff masnach.

Mae masnach wasanaethau’n cael ei rheoleiddio ar lefel Sefydliad Masnach y Byd (WTO) gan y Cytundeb Cyffredinol ar Fasnach Wasanaethau (GATS). Mae GATS yn diffinio gwasanaeth yn ôl y dull, neu’r ‘modd’, y mae’n cael ei gyflenwi ac yn ôl y defnydd terfynol a wneir o’r gwasanaeth. Fodd bynnag, cydnabyddir yn gynyddol bod agweddau o wasanaethau na ellir eu mesur neu eu llywio’n briodol gan y rheolau masnach cyfredol o dan GATS. Rhoddir yr enw ‘Modd 5’ ar y gwasanaethau hyn am eu bod yn sianel ychwanegol o wasanaethau masnach y tu hwnt i’r pedwar modd uniongyrchol neu draddodiadol o fasnach wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd o dan GATS.

Y diffiniad o wasanaethau modd 5 yw’r gwasanaethau hynny sy’n gynwysedig mewn allforion nwyddau ac mae’r rhai nodweddiadol yn cynnwys gwasanaethau dylunio, peirianneg a meddalwedd sydd wedi eu hymgorffori a’u masnachu yn rhan o gynhyrchion wedi’u gweithgynhyrchu. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwerthu cynnyrch a ddaw gyda chontract gwasanaethu parhaus, gwasanaethau hyfforddi neu offer diagnosis o bell; neu werthu car sy’n cynnwys gwasanaethau llywio neu ddiweddariadau i’r meddalwedd.  

Mae rôl cynhwysiad gwasanaethau modd 5 yn rhan o allforion gweithgynhyrchu wedi cynyddu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar a rhagwelir y bydd yn parhau i dyfu. Ond, nid yw gwasanaethau modd 5 wedi cael eu harchwilio’n ddigonol mewn gwaith ymchwil ac mae bylchau allweddol yn ein dealltwriaeth, yn cynnwys diffyg tystiolaeth benodol i Gymru a data a gasglwyd yn uniongyrchol o fusnesau. Roedd Arolwg Masnach Cymru (TSW) yn cynnwys cwestiwn am wasanaethau modd 5 ym mlynyddoedd 2 a 3 (casglu data 2019 a 2020). Mae’r TSW hefyd yn cynnwys rhestr ailgysylltu, sy’n rhoi manylion busnesau a gytunodd i ymchwilwyr ailgysylltu â nhw at ddibenion ymchwil. Felly, darparodd TSW gyfle i adnabod ac ymgysylltu â busnesau a allai fod yn berthnasol, gan eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil dilynol am fodd 5. Gwahoddwyd sefydliadau corff masnach sy’n cynrychioli sectorau perthnasol yng Nghymru i gymryd rhan hefyd.

Mae’r adroddiad hwn wedi ei seilio ar ganfyddiadau o gyfweliadau ar-lein ansoddol gyda nifer bychan o fusnesau (n:2) a chynrychiolwyr cyrff masnach (n:4). Bwriad yr ymchwil yw rhoi gwybodaeth gychwynnol i Lywodraeth Cymru gan randdeiliaid a fydd yn helpu i hysbysu camau gweithredu a chamau nesaf yn y maes hwn, yn cynnwys darparu cymorth priodol i fusnesau.

Amcanion yr ymchwil oedd archwilio’r canlynol gyda busnesau a sefydliadau cyrff masnach:

  • lefelau’r ymwybyddiaeth am wasanaethau modd 5 a’r iaith a ddefnyddir mewn cysylltiad â gwasanaethau sy’n gynwysedig mewn cynhyrchion wedi’u hallforio
  • profiadau o allforio gwasanaethau yn rhan o nwyddau a allforiwyd
  • unrhyw effeithiau ar fusnesau gan berthynas fasnachu newydd y DU â’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas ag allforio gwasanaethau modd 5

Canfyddiadau

Ymwybyddiaeth isel a dealltwriaeth gyfyngedig o’r term ‘gwasanaethau modd 5’ a’r iaith gysylltiedig

Nid oedd y mwyafrif llethol o bobl a gyfwelwyd wedi clywed y term ‘gwasanaethau modd 5’ pan ofynnwyd iddynt yn gyntaf yn y cyfweliad. Ond, pan roddwyd y diffiniad iddynt, roedd y rhai a gyfwelwyd yn gyfarwydd â’r syniad o ddarpariaeth gwasanaeth wedi ei gynnwys yn rhan o allforio nwyddau. Y prif fath o wasanaethau modd 5 a drafodwyd gan y rhai a gyfwelwyd oedd gwasanaeth y cwsmer a chynnal a chadw, nad oeddent yn eu hystyried yn rhan o’r gwerthiant gwreiddiol, er ei fod efallai’n rhan o warant. Roedd y rhai a gyfwelwyd o gyrff masnach yn tueddu i fod yn fwy ymwybodol o wasanaethau modd 5 ond nid oeddent wedi siarad â’u haelodau amdano. Gellid defnyddio cyrff masnach i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth busnesau o wasanaethau modd 5.

Mae modd 5 yn bwysig a gallai ei bwysigrwydd gynyddu

Er bod y lefelau ymwybyddiaeth yn isel pan gawsent eu holi yn gyntaf mewn cyfweliad, teimlai’r rhai a gyfwelwyd bod gwasanaethau modd 5 yn fath pwysig o fasnach. Esboniodd un busnes hefyd bod gwasanaeth modd 5 yn cynnig mwy o werth iddynt na dim ond sicrhau elw ariannol. Trwy gynnig cymorth parhaus ar ôl gwerthu nwyddau, ystyriwyd gwasanaethau modd 5 yn hanfodol ar gyfer sicrhau arferiad ailadroddus a meithrin ffydd cwsmeriaid yn eu busnes.  

Ystyrir bod allforio nwyddau ac allforio gwasanaethau yn ddau fath gwahanol o fasnachu

Ar sail y busnesau a ymatebodd i’r ymchwil hwn (cyfwelwyd dau a siaradwyd â busnesau eraill yn ystod y cam sgrinio ar gyfer recriwtio), mae’r ddealltwriaeth ymysg busnesau ynglŷn â beth yw gwasanaethau modd 5 yn gyfyngedig. Yn gyffredinol, nid oedd busnesau’n ystyried eu bod yn masnachu gwasanaethau ochr yn ochr neu’n gynwysedig mewn allforion nwyddau. Er eu bod yn gyfarwydd â’r syniad o wasanaethau modd 5 pan gafodd ei esbonio iddynt mewn iaith pob dydd, roedd y rhai a gyfwelwyd o gyrff masnach ac o fusnesau’n dal i ystyried bod allforio nwyddau ac allforio gwasanaethau’n bethau ar wahân

Nid yw gwybodaeth am wasanaethau modd 5 yn cyrraedd busnesau bach Cymru

Roedd y cyrff masnach a gyfwelwyd yn dangos mwy o ymwybyddiaeth o wasanaethau modd 5 na busnesau. Roedd y rhai a gyfwelwyd yn cydnabod bod gwaith academaidd wedi ei wneud arno a bod datganiadau i’r wasg yn ymwneud ag allforio gwasanaethau modd 5 i’w cael gan gwmnïau mwy. Ond, roedd y data o gyfweliadau â’r cyrff masnach a’r busnesau’n awgrymu nad yw cyhoeddiadau sydd wedi eu bwriadu i godi ymwybyddiaeth a gwneud gwaith ymgysylltu (e.e. mewn perthynas â gwasanaethau modd 5 a’u perthnasedd cynyddol i allforion busnes) yn cyrraedd busnesau bach yng Nghymru.

O ystyried y ffaith bod gwasanaethau modd 5 yn dod yn gynyddol berthnasol, roedd y rhai a gyfwelwyd yn disgwyl y byddai gwybodaeth am y pwnc yn dod yn fwy dealladwy cyn hir. Ond, er mwyn i hyn ddigwydd, ac yn arbennig i fusnesau bach ymgysylltu â modd 5 a deall sut mae’n berthnasol iddynt hwy, teimlai’r rhai a gyfwelwyd hefyd bod angen gwneud nifer o bethau. Ymysg y rhain roedd cyfathrebu’n fwy eglur ynglŷn â beth yw gwasanaethau modd 5 ochr yn ochr â rhoi diffiniadau cryno ac enghreifftiau penodol.

Mae dymuniad am fwy o ymwybyddiaeth a chymorth

Nid oedd y rhai a gyfwelwyd o fusnesau a chyrff masnach wedi gofyn am ragor o wybodaeth neu gymorth am wasanaethau modd 5 yn y gorffennol am nad oeddent yn ymwybodol ohonynt. Ond, roedd y rhai a gyfwelwyd yn chwilfrydig i ddysgu rhagor a chanfod pa fath o gymorth allai fod ar gael i fusnesau.

Gwella’r sail dystiolaeth

Byddai unrhyw ymchwil yn y maes hwn yn y dyfodol yn gryfach os gellid casglu data gan sampl fwy o fusnesau, yn cynnwys gan fusnesau mawr y mae’n hysbys eu bod yn allforio gwasanaethau modd 5. I helpu i recriwtio pobl ar gyfer yr ymchwil yn y maes hwn gellid newid rhywfaint ar yr iaith sy’n gysylltiedig â gwasanaethau modd 5 i’w gwneud yn fwy clir a’i rhoi mewn iaith pob dydd. Gellid hefyd roi ffocws manylach ar recriwtio busnesau drwy gyrff masnach dros gyfnod hirach o waith maes.

Manylion cyswllt

Ymchwilydd: Kate Mulready
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 72/2022
ISBN digidol 978-1-80535-024-8

Image
GSR logo