Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yma yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil gydag amrywiaeth o rhanddeiliaid ynglŷn â rôl a swyddogaeth gwasanaethau nyrsio ysgol.

Prif ganfyddiadau

  • Mae’r ymchwil yn dangos gwerth gwasanaethau nyrsys ysgol yng Nghymru, er bod y gwasanaeth a ddarperir yn amrywio.
  • Mae’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol yn elfen lwyddiannus o wasanaethau nyrsys ysgol ond adroddir ei bod yn galw am lawer o amser i’w chyflawni.
  • Mae’r rhaglen sgrinio yn helpu i ddod o hyd i blant sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw yn gynnar.
  • Mae’r cymysgedd sgiliau wrth gyflwyno rhaglenni o’r fath yn amrywio, ac mae angen eglurder ynghylch pa weithgareddau y dylid (ac na ddylid) eu dirprwyo. 
  • Ceir cwestiynau ynghylch eglurder y Rhaglen Mesur Plant a’r sail resymegol ar ei chyfer.
  • Cafodd rôl y nyrs ysgol i ddiogelu plant ei chwestiynu, gan ystyried y goblygiadau o ran adnoddau a’r wybodaeth gyfyngedig ynghylch y rheini sydd ynghlwm wrth yr achosion hyn.
  • Awgrymwyd y dylai gwasanaethau nyrsys ysgol roi mwy o ffocws ar hybu iechyd, er mwyn cyflawni rôl fwy ataliol.
  • Nid oes system ar waith i dargedu ardaloedd lle ceir amddifadedd gyda gwasanaethau nyrsys ysgol mwy dwys.
  • Adroddwyd bod angen buddsoddi mewn nyrsys ysgol, gan ystyried y cynnydd mewn galw a’r ymrwymiad a amlinellir ym mholisïau Llywodraeth Cymru.

Goblygiadau ar gyfer gwasanaethau nyrsys ysgol yn y dyfodol

Mae’r mesurau allweddol i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid eu hystyried yn cynnwys:

  • ailystyried y sail resymegol ar gyfer y Rhaglen Mesur Plant
  • gweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa mor berthnasol yw rôl nyrsys ysgol mewn achosion diogelu plant a pha mor werthfawr ydyw
  • diffinio beth y byddai’n briodol ei wneud fel lleiafswm wrth baratoi rhaglen o weithgareddau hybu iechyd i’w cynnal gan wasanaethau nyrsys ysgol
  • cynnal archwiliad o dimau nyrsys ysgol i gael eglurder ynghylch faint yn union o staff, bylchau o ran adnoddau a diffygion a geir
  • diffinio strwythur staff delfrydol yn seiliedig ar gymysgedd sgiliau priodol ac egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus
  • cyflwyno system ffurfiol ar gyfer monitro a gwerthuso gwasanaethau nyrsys ysgol, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol ac ystyrlon
  • ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer sicrhau bod byrddau iechyd yn buddsoddi yn y staff a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni rhaglenni allweddol
  • ystyried cyfleoedd ar gyfer rhaglen genedlaethol sy’n darparu cymorth mwy dwys drwy wasanaethau nyrsys ysgol mewn ardaloedd lle ceir llawer o amddifadedd. 

Adroddiadau

Gwasanaethau nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru: adroddiad cwmpasu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwasanaethau nyrsio mewn Ysgolion yng Nghymru: adroddiad cwmpasu (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 779 KB

PDF
779 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tîm ymchwil iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.